Dehongliad o Hawliau’r Confensiwn: Human Rights Act 1998 a2

Mae gwaith drafftio’r Human Rights Act 1998 (HRA 1998) wedi ei ganmol, yn haeddiannol, am ei symlrwydd esthetig. Mae hyn yn cynnwys a.2(1) (dehongliad o hawliau’r confensiwn):

"A court or tribunal determining a question which has arisen in connection with a Convention right must take into account any - (a) judgment, decision, declaration or advisory opinion of the European Court of Human Rights … whenever made or given, so far as, in the opinion of the court or tribunal, it is relevant to the proceedings in which that question has arisen."

Y darpariaethau pwysig yw "take into account" ac, yn ail, "in the opinion of the court or tribunal". Siawns nad yw hierarchaeth y deunyddiau cyfreithiol ym mharagraffau (a) i (d) o adran 2(1), yn bwyntydd seneddol at ddisgresiwn barnwrol domestig sylweddol ynghylch cyfraith ryngwladol.

Mae'r gyfraith fel y nodir yn yr erthygl hon yn gywir ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

1. O ddiwedd 2000, roedd llysoedd Lloegr yn tueddu i ddilyn cyfreitheg Strasbwrg fel pe bai’n llys a oedd yn oruchaf o ran ei statws o safbwynt cyfraith hawliau dynol. Roedd yna fwmial fod egwyddorion Strasbwrg yn anodd eu deall, ond dim mwy na hynny. Yna, am amrywiol resymau (a grybwyllir isod), roedd yna chwyldro tawel ymysg barnwyr yn 2009. Mae nifer o achosion diweddar yn y Goruchaf Lys – a archwilir yn yr erthygl hon – yn arwydd o ddatblygu dehongliad statudol cadarn o a.2(1) (os yw dicta yn aeddfedu i ratio decidendi ). Yn baradocsaidd, fe allai twf o’r fath mewn awdurdod barnwrol yn y Deyrnas Unedig (DU) wanhau’r achos dros greu bil hawliau domestig. Ond yn y bôn, erys y broblem o ddeuoliaeth gyfreithiol i farnwyr ac ymarferwyr.

2. Mae’r erthygl hon: (1) yn dechrau drwy ystyried system Strasbwrg; (2) yn edrych ar y bwriad y tu ôl i a.2(1) y HRA 1998; (3) yn oedi i nodi’r cyd-destun cyfansoddiadol ehangach yn glir; (4) ac yna’n symud ymlaen i drafod tri achos y Goruchaf Lys (sy’n trafod tair awdurdodaeth y DU): R. v Horncastle (Michael Christopher) [2009] UKSC 14; [2010] 2 A.C. 373 (achos o groesholi troseddol: erthygl.6(3)(d); Reilly's Application for Judicial Review, Re [2013] UKSC 61; [2013] 3 W.L.R. 1020 (achos gwrandawiad llafar: art.5.4; a R. (on the application of Chester) v Secretary of State for Justice [2013] UKSC 63; [2013] 3 W.L.R. 1076 (achos ynglŷn â phleidleisiau carcharorion: erthygl.3/protocol 1).

3. System Strasbwrg: Fe ddechreuwn gyda Chyngor Ewrop (COE), a sefydlwyd ym 1949 (yn sgil cytundeb Llundain) – fel rhanbarth yn y drefn ryngwladol newydd wedi’r rhyfel. Roedd Cyngor Ewrop i gynnwys: cyngor o weinidogion; cynulliad ymgynghorol (seneddol yn ddiweddarach); ac ysgrifenyddiaeth yn gweithio o Strasbwrg,

4. Rydyn ni ar dir cyfraith ryngwladol, sy’n rheoli’r berthynas rhwng Gwladwriaethau … gyda’r DU yn wladwriaeth ddeuol, lle mae’n rhaid i’r senedd – yn achos cytundebau rhyngwladol – drawsnewid y cyfreithiau hyn yn rheolau cyfreithiol domestig cyn y gallan nhw ddod i rym. Nid yw hyn yn wir am gyfraith ryngwladol arferol, sef y gyfraith ar gyfer y rhan fwyaf o reolau, sydd wedi ei hymgorffori yn y gyfraith ddomestig yn awtomatig fel petai – er bod rhaid i’r rheolau hynny gael eu cydnabod: R. v Keyn (Ferdinand) (The Franconia) (1876) 2 Ex. D. 63; Trendtex Trading Corp v Central Bank of Nigeria [1977] Q.B. 529; Parlement Belge, The (1879) 4 P.D. 129.

5. Aeth Aelod-wladwriaethau’r COE ymlaen i gytuno ar y Convention for the Protection of Human Rights and Fundamental Freedoms (ECHR) ym 1950, a daeth yr offeryn Ewropeaidd hwn i rym – ymysg Aelod-wladwriaethau – ar 23 Medi 1953. Roedd yr hawliau dynol wedi eu nodi yn (erbyn hyn) erthyglau 1 i 18 a nifer o brotocolau diweddarach. Roedd yr ECHR yn ddarpariaeth unigryw bryd hynny ar gyfer llys hawliau dynol Ewropeaidd (ECtHR) a oedd i agor – yn Strasbwrg - ym 1959. Roedd yn rhaid i Aelod-wladwriaethau wedyn ddewis ymuno ai peidio, gan roi hawl i’w pobl wneud cais i’r ECtHR (a oedd hefyd yn llys rhwng gwledydd, er mai prin oedd ei ddefnydd felly), ac fe wnaeth y DU hyn - drwy ddeddf weithredol - ym 1966. Roedd cyfreitheg yr ECtHR, a ddatblygwyd o’r 1970au ymlaen, yn ymgorffori athrawiaeth sybsidiaredd o’r dechrau: roedd Strasbwrg yno i hyrwyddo hawliau dynol ym mhob un o’r Aelod-wladwriaethau, nid i fod yn llys rhyngwladol a oedd, fel y datblygodd, yn rheoli 47 system gyfiawnder – sifil yn bennaf – yn Ewrop. Yn y cyfamser, anelai’r ECtHR at gysondeb yn ei gyfraith achosion, yn ddarostyngedig i athrawiaeth y “live instrument”, ac yn sicr ar draws yr Aelod-wladwriaethau (hyd yn oed ar ôl derbyn yr elfen o wahaniaeth); ond ni fu erioed reol ynglŷn â gosod cynsail mewn cyfraith hawliau dynol rhyngwladol.

6. Yr Human Rights Act 1998: Cafodd y ddeddf Gydsyniad Brenhinol ar 19 Tachwedd 1998. Mae’n arferol, hyd yn oed ymysg barnwyr, i gyfeirio at ymgorfforiad yr ECHR yn y gyfraith ddomestig. A bod yn fanwl gywir, mae’r ECHR yn parhau i fod yn rhan o gyfraith ryngwladol, fel hawliau’r confensiwn hefyd (a bennir yn a.1 y statud) – dadl sy’n cefnogi ei chysylltu â chyfreitheg Strasbwrg. Nid yw hawliau’r confensiwn yn rheolau yng nghyfraith Lloegr (a Chymru), Yr Alban na Gogledd Iwerddon.

7. Mae teitl hir y statud yn cyfeirio at roi “further effect” i’r ECHR yn y DU. Mae hyn yn gywir, gan mai ychydig o effaith a gafodd yr ECHR cyn 2 Hydref 2000, pan ddaeth HRA 1998 i rym. Ond achos ydyw o gyfraith ryngwladol yn cael mwy o effaith ddomestig, am fod y Senedd yn caniatáu hynny.

8. Fe ragwelodd penseiri gwreiddiol HRA 1998, ynghanol gwrthwynebiad Seneddol, yn nechrau’r 1990au, ddau gam i gyfraith hawliau dynol: yn gyntaf ymgorffori (fel y’i gelwid) gonfensiwn Strasbwrg; ac yna creu bil hawliau domestig llawn yn y DU. Ym 1999, cyhoeddodd Robert Blackburn, academydd cyfreithiol yn Llundain: "Towards a Constitutional Bill of Rights for the United Kingdom". Mae’r cyflwyniad yn trafod: '"The Human Rights Act: The first step towards a constitutional Bill of Rights for the UK".

9. Ond beth am y Bil aeth drwy’r Senedd ym 1997-98? Ar 18 Tachwedd 1997, cynigiodd yr Arglwydd Kingsland, Arglwydd Ganghellor yr wrthblaid, yn aflwyddiannus, y dylid disodli’r ymadrodd "must take into account", yn y cymal gwreiddiol 2(1), gyda "shall be bound by" (House of Lords, Hansard, cyfrol. 583, colofnau 511-516. Gweler hefyd, 19 Ionawr 1998).

10. Roedd yn ceisio atal achosion rhag mynd ymlaen i Strasbwrg wedyn, er i’w wrthwynebwyr ei gyhuddo o fod yn fwy Ewropeaidd na’r Ewropeaid. Gwnaeth yr Arglwydd Lester o Herne Hill y pwynt bod y DU, dan erthygl 46(1) – o ran cyfraith ryngwladol – ddim ond yn rhwym wrth benderfyniadau oedd yn anffafriol i’r DU. Yn Nhŷ’r Cyffredin, ar 3 Mehefin 1998, cynigiodd James Clappison AS, eto’n aflwyddiannus – a chan fynd i’r cyfeiriad arall – y gallai barnwyr y DU "take into account any" ddyfarniadau ayb. (House of Commons, Hansard, cyfrol 313, colofnau 388-413).

11. Y pryder bellach oedd y posibilrwydd o gyfraith hawliau dynol yn y DU, oedd yn fwy na’r gyfraith a bennwyd gan Strasbwrg: "We want our approach to be within the general framework of the jurisprudence of the European Court, but not to be too tightly bound by it".

12. Yr Arglwydd Ganghellor yn 2003 oedd yr Arglwydd Irvine o Lairg. Ef oedd yn bennaf cyfrifol am HRA 1998, fel gweinidog, tra ei fod hefyd yn gwasanaethu fel Llefarydd Tŷ’r Cyffredin ac, yn drydydd, fel pennaeth barnwriaeth Lloegr.

13. Ac eto, nid tan 14 Rhagfyr 2011, ac mewn darlith mewn prifysgol yn Llundain, y rhoddodd yr Arglwydd Irvine lith ar beth oedd y bwriad y tu ôl i a.2(1) yn A British Interpretation of Convention Rights:

  "This Lecture … invites[s] our Supreme Court to re-assess all its previous statements about the stance it should adopt in relation to the jurisprudence of the EC[t]HR. My objectives are: (a) to ensure that the Supreme Court develops the jurisdiction under the HRA that Parliament intended; (b) that, in so doing, it should have considered and respectful regard for decisions of the EC[t]HR, but neither be bound nor hamstrung by that case-law in determining Convention rights domestically; that, ultimately, it should decide the cases before it for itself; (d) that if, in so doing, it departs from a decision or body of jurisprudence of the EC[t]HR it should do so on the basis that the resolution of the resultant conflict must take effect at State, not judicial, level; and (e) by so proceeding, enhance public respect for our British HRA and the development and protection of human rights by our own Courts in Britain [sic]."

14. Nid oedd hyn hyd yn oed yn all-farnwrol, wyth mlynedd ar ôl ymddiswyddiad yr Arglwydd Irvine, ond roedd yn mynegi’n glir – heb ryw lawer o ffanffer – yr hyn roedd uwch farnwyr wedi bod yn ei feddwl, ac wedi dechrau ei ddweud, yn fwy diweddar, yn all-farnwrol a hyd yn oed yn farnwrol. Yr allwedd i farn yr Arglwydd Irvine ydy: y byddai, o anghenraid, wahaniaethau, a hyd yn oed gwrthdaro, rhwng barnwyr y DU a Strasbwrg; ond y ffordd o ddatrys y gwrthdaro hwnnw oedd drwy gyngor gweinidogion y COE. Roedd yr Arglwydd Irvine, efallai oherwydd bod ganddo dair rôl, yn deall yn iawn y ddwy lefel o gyfraith ddomestig a rhyngwladol a’r berthynas rhyngddynt.

15. Fe gafodd darlith Irvine ei chyhoeddi wedi hynny: A British interpretation of Convention rights P.L. 2012, Ebrill, 237-252. Fe greodd fflyd o ymatebion, rhai academaidd yn bennaf. Y mwyaf diddorol oedd gan (y bellach Gwir Anrhydeddus) Syr Philip Sales: Strasbourg jurisprudence and the Human Rights Act: a response to Lord Irvine P.L. 2012, Ebrill, 253-267.

16. Cyd-destun cyfansoddiadol: Rhaid deall pedwar pwynt yn y cyfamser cyn inni  ystyried yr achosion isod o’r Goruchaf Lys.

17. I ddechrau, y syniad o wladwriaeth ddeuol, yn hytrach na gwladwriaeth fonyddol. Mae deuoliaeth yn un o reolau’r gyfraith gyffredin. Mae’n gweld cyfraith ryngwladol fel un sydd allan yna, oherwydd mai dyna gyfraith gwladwriaethau, neu genhedloedd fel yr arferent gael eu galw. Rydw i eisoes wedi dangos y gwahaniaeth rhwng ymgorffori cyfraith ryngwladol arferol, a thrawsffurfio cytundebau dwyochrog ac amlochrog i reolau cyfreithiol domestig.

18. Yn ail, mae Strasbwrg yn gweithredu ar lefel cyfraith ryngwladol. Mae hyn yn wir, mewn cyfatebiaeth, o’i ganghennau gweithredol, deddfwriaethol a barnwrol. Ond mae’r COE yn fath arbennig o sefydliad rhyngwladol:

  "The aim of the Council of Europe is to achieve a greater unity between its members for the purpose of safeguarding and realising the ideals and principles which are their common heritage and facilitating their economic and social progress."

 (Statute of the Council of Europe, erthygl 1(a))

19. Yn drydydd, mae’r gyfraith ddomestig yn golygu popeth o fewn y DU, hyd yn oed os yw’n cael ei gymhlethu gan fodolaeth cyfraith Loegr (a Chymru), cyfraith yr Alban a chyfraith Gogledd Iwerddon, gyda gwahaniaethau rhwng datganoli ac awdurdodaeth gyfreithiol, a chyfraith fwyaf diweddar y DU, a gefnogir yn y pen draw gan y Goruchaf Lys, sefydliad sy’n perthyn i’r 21ain ganrif yn y DU.

20. Ac yn bedwerydd, er bod system Strasbwrg yn gweithredu o fewn cyfraith ryngwladol, nid oes tebygrwydd gyda’r Undeb Ewropeaidd. Gyda 28 o 47 Aelod-wladwriaeth y COE, mae’r UE yn syml, yn swnio’n fwy trefnus:

  "By this Treaty, the HIGH CONTRACTING PARTIES establish among themselves a EUROPEAN UNION … on which Member States confer competences to attain objectives they have in common (TEU, article 1)."

Mae’r gwahaniaeth mawr, fodd bynnag, yng nghyfreitheg llys cyfiawnder yr UE yn Lwcsembwrg; o ddechrau’r  1960au, fe ddatblygodd y syniad o drefn gyfreithiol newydd yn Ewrop; mae European Communities Act 1972 yn cadw sofraniaeth seneddol y DU, ond mae cyfraith yr UE, gyda phob parch i’r Arglwydd Denning, yn parhau i fod yn llanw sy’n llifo i mewn i aberoedd ac i fyny afonydd Lloegr (sic) (HP Bulmer Ltd v J Bollinger SA (No.2) [1974] Ch. 401 para.418).

21. Pam yr aeth cyfraith ddomestig, oedd yn cynnwys cyfreithwyr a oedd yn deall cysondeb Strasbwrg (a’i anghysondeb!), i rigol cynsail rhyngwladol a chenedlaethol, gyda Strasbwrg yn bedwerydd lefel apelio (os yw rhywun yn dechrau ar lefel llys sirol)?

22. Mae’r ateb i’w gael mewn cyfuniad deinamig o‘r ffactorau canlynol:

  • un, rôl bargyfreithwyr sy’n crybwyll “awdurdodau” Strasbwrg – o blaid ac yn erbyn – yn y llys. (Roedd rhybudd barnwrol cynnar ynglŷn â hyn: Williams v Cowell (t/a The Stables) (No.1) [2000] 1 W.L.R. 187 (Mummery L.J. [Nourse L.J. yn cytuno].);
  • dau, y gymuned hawliau dynol, ar ffurf cwangos statudol, sefydliadau anllywodraethol ac athrawon hawliau dynol prifysgolion – pedwaredd cangen honedig o lywodraeth;
  • tri, barnwyr prysur yn defnyddio “awdurdodau” Strasbwrg yn amhriodol i gyfiawnhau penderfyniadau yng nghwrs achos neu benderfyniadau terfynol; 
  • pedwar, awdurdod sylweddol yr Arglwydd Bingham, fel uwch arglwydd y gyfraith (2000-08), pan gyflwynodd yr athrawiaeth "no more, but certainly no less" ynglŷn â sicrhau bod y llysoedd cenedlaethol yn symud gyda Strasbwrg: R. (on the application of Ullah) v Special Adjudicator [2004] UKHL 26; [2004] 2 A.C. 323, para.20; a
  • pump, cyfres bwerus o gyfraniadau all-farnwrol ar ôl yr Arglwydd Bingham, gan y barnwyr uchaf eu statws, yn aml mewn darlithoedd gwadd, lle roedd tuedd i gwestiynu Strasbwrg, i raddau mwy neu lai; mewn trefn yn ôl dyddiad, cyfeiriaf at: yr Arglwydd Hoffman, darlith flynyddol y bwrdd astudiaethau barnwrol (19 Mawrth 2009); yr Arglwydd Farnwr CJ, darlith flynyddol y bwrdd astudiaethau barnwrol (17 Mawrth 2010); yr Arglwydd Kerr, darlith Clifford Chance (25 Ionawr 2012); yr Arglwydd Sumption, Kuala Lumpur (20 Tachwedd 2013); Laws L.J., darlith ymddiriedolaeth Hamlyn (27 Tachwedd 2013); ac – i’r cyfeiriad arall – y Farwnes Hale, Prifysgol Warwick (28 Tachwedd  2013); yr Arglwydd Neuberger, darlith gyfreithiol flynyddol Cambridge Freshfields (12 Chwefror 2014); yr Arglwydd Neuberger, Supreme Court of Victoria, Awstralia (8 Awst 14).

23. Achos un: R. v Horncastle (Michael Christopher) [2009] UKSC 14; [2010] 2 A.C. 373: Os yw’r erlyniad yn dibynnu’n llwyr neu’n derfynol ar dystiolaeth tyst sydd yn absennol neu wedi marw (ar y ffurfiau hyn o dystiolaeth ail-law), a gaiff diffynnydd troseddol drechu hyn gyda’r hawl i groesholi, wedi ei warantu gan erthygl 6(3)(d).

24. Ar 20 Ionawr 2009, dywedodd Strasbwrg y caiff mewn dau achos yn y DU - Al-Khawaja v United Kingdom (26766/05) (2009) 49 E.H.R.R. 1 a Tahery. Roedd yn erbyn tystiolaeth ail-law, os oedd ar ei phen ei hun neu’n derfynol yn arwain at euogfarn. Yn sgil hynny, gwnaeth y DU gais i gyfeirio’r achos i’r siambr uwch.
25. Ar 24 Mawrth 2009, clywodd Llys Apêl arbennig, gyda phum barnwr yn eistedd, dair achos Horncastle ac eraill (fe lwyddodd un ohonynt): R. v Horncastle (Michael Christopher) [2009] UKSC 14; [2010] 2 A.C. 373. Dadleuai’r bargyfreithwyr bod yn rhaid dilyn Strasbwrg. Ni chytunai’r Llys Apêl, ar 22 Mai 2009, gyda Thomas L.J. yn rhoi’r unig ddyfarniad. Ond – gan bwysleisio’r cod statudol newydd ynglŷn â derbynioldeb tystiolaeth, yn y Criminal Justice Act 2003 – roedd yn ardystio pwyntiau cyfreithiol o bwysigrwydd cyhoeddus, gan gynnwys a yw euogfarn sydd wedi ei seilio ar dystiolaeth ail-law o’r fath o anghenraid yn anniogel.

26. Fe glywodd pwyllgor apêl arbennig Tŷ’r Arglwyddi, gyda saith barnwr yn eistedd, yr apeliadau ar 7 ac 8 Gorffennaf 2009, er mai’r Goruchaf Lys newydd a benderfynodd yr achos ar 9 Rhagfyr 2009: R. v Horncastle (Michael Christopher) [2009] UKSC 14; [2010] 2 A.C. 373. Gwnaeth yr Arglwydd Phillips yr unig ddyfarniad. Fe wnaeth y Goruchaf Lys gadarnhau dyfarniad y Llys Apêl, gan wrthod dilyn Al-Khawaja a Tahery (ac, yn fwy arwyddocaol efallai, Secretary of State for the Home Department v F [2009] UKHL 28; [2010] 2 A.C. 269, a benderfynwyd ar 10 Mehefin, a wnaeth droi, yn Strasbwrg, ar reol dystiolaethol arall am ddyfarniadau terfynol, ac unig ddyfarniadau,  mewn perthynas â deunydd caeedig mewn gwrandawiad sifil).

27. Fe wnaeth yr Arglwydd Phillips feirniadu cyfreitheg Strasbwrg ynglŷn ag achosion troseddol teg yn hallt a barnu bod y gyfraith gyffredin (yn Lloegr) yn uwch, gyda’r llysoedd yn gallu ystyried tystiolaeth ail-law ac, yn wir, rhoi euogfarn yn derfynol ac yn llwyr ar ei sail:

  "The regime enacted by Parliament contains safeguards that render the sole or decisive rule unnecessary … The continental procedure had not addressed that aspect of a fair trial that article 6(3)(d was designed to ensure … The sole or decisive rule has been introduced into Strasbourg jurisprudence without discussion of the principle underlying it or full consideration of whether there was justification for imposing the rule as an overriding principle applicable equally to the continental and common law jurisdictions."

 (para.14)

28. Cafodd Al-Kawaja a Tahery eu cyfeirio i’r siambr uwch, ar 19 Mai 2010, yn rhannol yn sgil canlyniad Horncastle. Fe ystyriodd y siambr uwch yr achos ar 9 Tachwedd 2011. Dangosai’r dyfarniad a gyhoeddwyd y mis canlynol ddibyniaeth drom ar Horncastle. Fe wnaeth yr ECtHR newid ei safbwynt ar Al-Khawaja (lle’r oedd y cwynwr mewn achos rhywiol wedi cyflawni hunanladdiad), ond cadarnhaodd y penderfyniad cynharach ynglŷn â Tahery (lle’r oedd tyst i drywanu yn honni bod ganddo ofn ymddangos yn y llys). Fe wnaeth Syr Nicholas Bratza, y barnwr o’r DU, a llywydd nesaf yr ECtHR, gan gytuno (a newid ei feddwl), drafod dyfarniad yr Arglwydd Phillips, a derbyn bod Strasbwrg wedi defnyddio ei brawf  “sole or decisive” yn anhyblyg. Derbyniodd bod hyn yn enghraifft dda o “judicial dialogue” rhwng barnwyr cenedlaethol a’r ECtHR.

29. Fe wnaeth yr Arglwydd Phillips sylw dadlennol am y ffaith fod y Goruchaf Lys wedi osgoi sylw Bingham yn achos Ullah wedi iddo ymddeol:

  "… as usual, there has been a tendency to treat the word of Lord Bingham as the last word on the topic. However, in a case called Horncastle, we declined to follow a decision of the Strasbourg court …, explaining courteously why we were doing so, and inviting Strasbourg to think again … Nicholas Bratza … commended our approach as representing a valuable dialogue between the Supreme Court and the Strasbourg Court."

(10fed darlith y Slynn Foundation, Clifford Chance, 12 Tachwedd 2012)

30. Achos dau: Reilly's Application for Judicial Review, Re [2013] UKSC 61; [2013] 3 W.L.R. 1020: Daethpwyd â thri achos troseddol unigol at ei gilydd, gan gynnwys un o Ogledd Iwerddon (“NI”). Roeddent yn ymwneud â bwrdd parôl Cymru a Lloegr. Yn y drydedd apêl, fe apeliodd James Reilly, carcharor wedi ei drosglwyddo yr oedd gwrandawiad llafar wedi ei wrthod iddo, yn llwyddiannus i Treacy J. yng Ngogledd Iwerddon (a gafodd ei wyrdroi yn y Llys Apêl yno), gan ddibynnu ar inter alia erthygl 5.4.

31. Fe ganiataodd y Goruchaf Lys y tair apêl gan y carcharorion, yn seiliedig ar y gyfraith gyffredin ac i bob pwrpas yn diraddio’r ECHR a chyfreitheg Strasbwrg.

32. Mae rhagnodyn yr WLR yn darllen (gyda chyfeiriad at baragraffau 2 a 54 i 63):

  "that the protection of human rights was not a discrete area of the law, based on the jurisprudence of the [ECtHR], but permeated the domestic legal system; that compliance with article 5.4 had, in the first place, to be compliance with the relevant substantive and procedural rules of domestic law; that in order to comply with common law standards of procedural fairness, the board was required to hold an oral hearing before determining an application for release, or transfer to open conditions, whenever fairness to the prisoner required it in the light of the facts of the case and the importance of the issues at stake; that by so doing the board would also fulfil its duty under section 6 of the Human Rights Act 1998 to act compatibly with article 5.4 and that, accordingly, the claimants' approach in focusing on the case law of the European court was erroneous."

33. I bob pwrpas fe wnaeth y Goruchaf Lys safiad yn erbyn micro reolaeth Strasbwrg o systemau cyfiawnder y DU. Fe dynnodd yr Arglwydd Reed JSC sylw, gyda’r pedwar ustus arall yn cytuno, am y tro cyntaf, ym mharagraffau 54 i 63, at y berthynas rhwng cyfraith ddomestig a rhyngwladol: "The Convention taken by itself is too inspecific to provide the guidance which is necessary in a state governed by the rule of law" (paragraffau 55-56).

34. Mewn ymadrodd bachog, dywedodd yr Arglwydd Reed am yr ECHR: "The Convention cannot … be treated as if it were Moses and the prophets" (para.56).

35. Achos tri: R. (on the application of Chester) v Secretary of State for Justice [2013] UKSC 63; [2013] 3 W.L.R. 1076: Gosodwyd y cefndir i’r achos hwn gan: Hirst v United Kingdom (74025/01) (2006) 42 E.H.R.R. 41 (a: Greens v United Kingdom (60041/08) (2011) 53 E.H.R.R. 21; Scoppola v Italy (126/05) [2013] 1 Costs L.O. 62 (gwaharddiad oes os dyfernir rhywun i bum mlynedd o garchar neu fwy, yn gyfreithlon)) – yr achos gwreiddiol ynglŷn â phleidleisiau carcharorion, lle roedd Strasbwrg wedi barnu bod gwaharddiad cyffredinol y DU ar bawb a ddedfrydwyd i garchar yn torri protocol 1/erthygl 3 ("free elections at reasonable intervals"); pleidlais rydd yn Nhŷ’r Cyffredin – nid y Senedd - ar 11 Chwefror 2011, pan wnaeth  ASau, o’r llywodraeth a’r wrthblaid, o 234 i 22, gefnogi cynnig oedd yn datgan fod "legislative decisions of this nature should be a matter for democratically elected lawmakers"; ac, yn arwyddocaol, bil drafft Voting Eligibility (Prisoners) y llywodraeth, a gyhoeddwyd ar 22 Tachwedd 2012, gyda thair opsiwn (y trydydd yn anghyfreithlon), mesur nad oedd yn mynd i unman ar frys.

36. Roedd Peter Chester ar ddedfryd oes yn y carchar am lofruddiaeth. Felly hefyd George McGeoch, ail apeliwr o’r Alban. Pe na bai yna waharddiad cyffredinol fyddai’r Senedd, bron yn sicr, heb roi’r hawl iddyn nhw bleidleisio.

37. Dyfarnodd saith barnwr y Goruchaf Lys, gan fynd ati i dorri tir newydd, yn yr achos yma bod yn rhaid dilyn Strasbwrg ynglŷn â’r gwaharddiad cyffredinol. (Cyfeiriwyd at Horncastle, ond nid  R(Osborn) – a benderfynwyd yr wythnos cynt). Golygai hyn Hirst yn 2005, a Scoppola yn 2012. Nid oedd unrhyw debygolrwydd o ddeialog ystyrlon pellach, meddai’r Arglwydd Mance (a roddodd y prif ddyfarniad), nid rhwng barnwyr y DU, ond yn syml rhwng y DU (ar lefel weithredol) a llys Strasbwrg. Yn ôl y rhagnodiad "prisoner voting did not involve some fundamental aspect of domestic law such as would justify the Supreme Court refusing to apply those decisions of the European Court". Ond mae brwydr fawr yn digwydd ym maes pleidleisiau i garcharorion.

38. Gwrthododd y Goruchaf Lys, gan weithredu ei hawl i ddisgresiwn, a gwneud datganiad ynglŷn ag anghyfatebiaeth, am y rhesymau canlynol a nodwyd yn y rhagnodiadau:

  "... in circumstances where a declaration of incompatibility had already been made in other domestic proceedings, the matter was under active consideration by Parliament and the European court would without doubt uphold a ban deprive murderers serving sentences of life imprisonment of the right to vote, it would not be appropriate for the court to exercise its discretion to grant a declaration of incompatibility."

39. Enillodd Meistri Chester a McGeoch fawr ddim o’r achos. Roedd yr Arglwydd Sumption yn ddeifiol:

  "The protection of minorities is a necessary concern of any democratic constitution … Prisoners belong to a minority only in the banal and legally irrelevant sense that most people do not do the things which warrant imprisonment by due process of law"

(para 112). Gwnaeth y Farwnes Hale bwynt ar sail rhyw: roedd Peter Chester wedi llofruddio ei nith (rhaid cymryd mai dyn oedd dioddefwr George McGeoch): ni chredai fod eu hawliau dynol hyd yn oed yn weithredol (â’r ddau apeliwr y tu hwnt i Scoppola).

40. Methodd y Cyfreithiwr Cyffredinol, Dominic Grieve QC, â pherswadio’r Goruchaf Lys i beidio â dilyn Strasbwrg. Ymddengys fod y ffaith i’r DU fethu ag ymyrryd yn Scoppola, a’r ddadl dros “no further meaningful dialogue”, arwain at y casgliad hwn. Ond does bosib fod yr Arglwydd Mance ar dir mwy simsan, pan ddaeth i’r casgliad: "While the diversity of approach in this area within Europe derives from different traditions and social attitudes, it makes it difficult to see prisoner disenfranchisement as fundamental to a stable democracy and legal system such as the United Kingdom enjoys" (para.35). Ond eto, gall materion bychan ddod yn rhai sy’n arwain at benderfyniad terfynol.

41. Aeth George McGeoch i’r afael ag un o bwyntiau cyfraith yr UE hefyd, gan ddibynnu ar y siarter hawliau sylfaenol, ond barnodd yr Arglwydd Mance nad oedd hawl pleidleisio oedd yn cyfateb i hynny yn yr ECHR.

42. Achosion Domestig Diweddar: Mae effeithiau gwaith arloesol y Goruchaf Lys i’w gweld erbyn hyn ymhellach i lawr yr hierarchaeth farnwrol. Mae dau achos o ddechrau 2014 yn awgrymu fod y llys apêl nawr yn trin Strasbwrg fel llys â llai o awdurdod.

43. Yn R. (on the application of Hicks) v Commissioner of Police of the Metropolis [2014] EWCA Civ 3; [2014] 1 W.L.R. 2152, achos yn ymwneud â chadw protestwyr gwrth-frenhiniaeth yn y ddalfa er mwyn ei hatal rhag troseddu, penderfynodd y Llys Apêl, gan ddefnyddio dau achos adnabyddus o Strasbwrg, i beidio â dilyn canlyniad trydydd achos mwy diweddar, a ffeithiol debyg, o’r Almaen. Defnyddiodd y llys hefyd gyfraith ddomestig i ddehongli darpariaethau erthygl 5(1)(c) (arestio neu garcharu cyfreithlon).

44. Efallai’n fwy arwyddocaol, yn  R. (on the application of Keyu) v Secretary of State for Foreign and Commonwealth Affairs [2014] EWCA Civ 312; [2014] 3 W.L.R. 948, fe wnaeth adran arall o’r Llys Apêl, eto gyda Maurice Kay LJ yn y gadair, helpu i wthio Strasbwrg yn ôl. Yn yr achos yma, roedd yr ymgeiswyr o Malaysia eisiau ymchwiliad statudol i farwolaeth perthnasau iddyn nhw ym 1948 dan law milwyr o Brydain. Derbyniodd y llys apêl, gan ddefnyddio hawl gweithredol erthygl 2, y byddai’r apelwyr yn debyg o lwyddo yn Strasbwrg. Ond fodd bynnag, fe ddefnyddiodd y llys HRA 1998, a chyfraith achos ddomestig i nodi fod hawl gweithdrefnol erthygl 2 ar gael o 2 Hydref 2000 yn unig. Aeth y llys ymhellach: roedd unrhyw ddyletswydd i ymchwilio, a godai o fewn cyfraith ryngwladol arferol (ac felly’r gyfraith gyffredinol), yn cael ei disodli gan gyfraith statudol ddomestig.

45. Mae un penderfyniad achos cyntaf, Kerr J. yn y Llys Gweinyddol, yn haeddu ei nodi: R (on the application of Minto Morrill Solicitors) v Lord Chancellor [2017] EWHC 612 (Admin). Roedd y ffeithiau'n ymwneud â chyfreithwyr oedd yn paratoi ceisiadau Strasbourg ac yn ceisio cael cymorth cyfreithiol o dan statudau gwahanol. Gan ddehongli darpariaethau statudol, roedd gan Kerr J. achos i feirniadu bod cyfeiriadau barnwrol at ymgorffori hawliau dynol yn anghywir: nid oedd hawliau'r confensiwn yn rhan o gyfraith Cymru a Lloegr. Wrth drafod hyn, dywedodd: "The domestic courts are not bound by decisions of the ECtHR, though they must take them into account". (para.24) Mae’n rhyfeddod iddi gymryd cyhyd!

46. Casgliad: Mae ymarferwyr sy’n dibynnu ar achosion Strasbwrg yn annhebyg o fod yn hollol foddhaus gyda Horncastle, R(Osborn) a R (Chester); a bydd hynny’n fwy gwir i fargyfreithwyr a gyfarwyddir gan awdurdodau cyhoeddus. Hefyd, mae’n rhaid bod Barnwyr yn cael y neges nad oes raid iddyn nhw ddilyn Strasbwrg, hyd yn oed os nad yw’n glir pryd mae’n ddiogel gwneud hynny.

  "Where … there is a clear and constant line of decisions whose effect is not inconsistent with some fundamental substantive or procedural aspect of our law, and whose reasoning does not appear to overlook or misunderstand some argument or point of principle, we consider that it would be wrong for this court not to follow that line."

 (Yr Arglwydd Neuberger, yn Manchester City Council v Pinnock [2011] UKSC 6; [2011] 2 W.L.R. 220, para.4).

47. Yn baradocsaidd, fe allai llacio dibyniaeth y DU ar Strasbwrg, fel mae’r Goruchaf Lys wedi ei wneud, wanhau’r grymoedd sy’n gweithio dros ddiwygio cyfansoddiadol domestig.

48. Yn y pen draw, o ran rhesymegu cyfreithiol, rhaid mynd nôl at baragraff 20 Ullah (a sylw’r Arglwydd Bingham), ac – i’r gwrthwyneb i’r frwydr sy’n parhau rhwng y Senedd a’r ECtHR ynglŷn â phleidleisiau carcharorion – edrych ar yr angen i godeiddio hawliau dynol yng nghyfraith y DU, tuag at sicrhau dyfodol y COE, gan gynnwys llys Strasbwrg, fel mudiad rhyngwladol, yn enwedig o ystyried yr ehangu sy’n digwydd yn yr UE, gyda siarter o hawliau sylfaenol sy’n gweithio’n wahanol i’r gyfraith hawliau dynol rydyn ni wedi dod i’w had.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn