Her gyfreithiol i etholiadau

A ellir herio canlyniad etholiad?

Gellir cwestiynu neu herio canlyniad etholiad mewn amgylchiadau penodol, trwy ddeiseb etholiadol.

Y fframwaith statudol

Gellir herio canlyniad etholiad llywodraeth leol o dan y Representation of the People Act 1983 (Deddf 1983). Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (Gorchymyn 2007) yn nodi y bydd rheolau tebyg yn berthnasol wrth herio canlyniad etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gyda rhai addasiadau, a nodir yn Rhan 4 o'r Gorchymyn).

Ceir crynodeb o wybodaeth am rai o'r rheolau perthnasol isod.

Pryd gellir gwneud her

Mae adran 127 o Ddeddf 1983 yn nodi y gellir cwestiynu etholiad llywodraeth leol yng Nghymru os bydd unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i'r unigolyn hwnnw y caiff ei etholiad ei gwestiynu:

(a) roedd (ar adeg yr etholiad) wedi'i anghymhwyso;
(b) ni chafodd ei ethol yn briodol; neu
(c) os dirymwyd yr etholiad gan ymarferion llwgr neu anghyfreithlon a ddarparwyd gan adran 164 neu 165 o Ddeddf 1983 (llygru cyffredinol a chyflogi asiant llwgr).

Mae'r Local Elections (Parishes and Communities) (England and Wales) Rules 2006 a'r Local Elections (Parishes and Communities ) (England and Wales) Rules 2006 hefyd yn nodi y gellir herio penderfyniad ar ffurf deiseb etholiadol pan fydd swyddog canlyniadau'n penderfynu bod papur enwebu'n annilys.

Mae erthygl 86 o Orchymyn 2007 yn nodi y gall deiseb sy'n cwyno am etholiad amhriodol neu ganlyniad amhriodol gwestiynu etholiad i’r Cynulliad a chanlyniad etholiad i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Pwy all gyflwyno deiseb?

Mae adran 128 o Ddeddf 1983 yn nodi y caiff pedwar unigolyn neu fwy a bleidleisiodd yn yr etholiad dan sylw neu a oedd â'r hawl i bleidleisio ynddo (ac eithrio pobl a oedd ar gofrestr yr etholwyr yn ddienw), neu unigolyn sy'n honni yr oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad, gyflwyno deiseb.

Mae erthygl 87 o Orchymyn 2007 yn nodi y caiff y canlynol gyflwyno deiseb etholiadol y Cynulliad:

(a)   unigolyn a bleidleisiodd fel etholwr yn yr etholiad neu a oedd â'r hawl i bleidleisio;
(b)   unigolyn sy'n honni yr oedd ganddo'r hawl i gael ei ethol yn yr etholiad;
(c)   unigolyn sy'n honni yr oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad; neu
(d)   unigolyn sy'n honni yr oedd ganddo'r hawl i gael ei ethol i sedd wag mewn rhanbarthol etholiadol.

Ffurf y ddeiseb

Mae adran 128 o Ddeddf 1983 ac erthygl 87 o Orchymyn 2007 yn nodi bod yn rhaid i'r ddeiseb fod ar y ffurf a ragnodir, wedi'i harwyddo gan y deisebydd/deisebwyr, ac wedi'i chyflwyno yn y modd a ragnodir i'r Uchel Lys.

Rhaid i'r swyddog a ragnodir anfon copi o'r ddeiseb at swyddog priodol y corff llywodraeth leol y cafodd yr etholiad ei gynnal ar ei gyfer, a rhaid i'r swyddog a ragnodir anfon copi ohoni at swyddog canlyniadau etholaeth neu ranbarth etholiadol y Cynulliad y mae'r ddeiseb yn perthyn iddi/iddo. Rhaid cyhoeddi'r copi yn ardal yr awdurdod hwnnw neu etholaeth neu ranbarth etholiadol y Cynulliad fel y bo'n briodol.

Amserlenni

Mae adran 129 o Ddeddf 1983 yn nodi bod rhaid cyflwyno deiseb sy'n cwestiynu etholiad llywodraeth leol o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cynhaliwyd yr etholiad. Yn yr un modd, mae erthygl 88 o Orchymyn 2007 yn nodi bod yn rhaid cyflwyno deiseb etholiad y Cynulliad o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cafodd enw unrhyw aelod y mae'r ddeiseb yn ymwneud â'i etholiad wedi’i ddychwelyd i'r Clerc neu, sut bynnag y bo, ei hysbysu i'r Llywydd.

Fodd bynnag, bydd gwahanol amserlenni'n berthnasol mewn amgylchiadau penodol. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft, os caiff deiseb ei chyflwyno (a) ar sail ymarfer llwgr (gweler ymhellach isod), a (b) mae’n honni'n benodol y talwyd arian neu y rhoddwyd neu addawyd gwobr arall ers yr etholiad gan ymgeisydd a etholwyd yn yr etholiad, neu ar ei gyfrif ef neu gyda'i wybodaeth ef er mwyn cyflawni neu hyrwyddo'r ymarfer llwgr hwnnw, gellir ei chyflwyno unrhyw bryd o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad y taliad neu addewid honedig.

Yn yr un modd, os caiff y ddeiseb ei chyflwyno (a) ar sail ymarfer anghyfreithlon (gweler isod), a (b) mae’n honni’n benodol y talwyd arian neu y gwnaed rhywbeth arall ers yr etholiad gan yr ymgeisydd a etholwyd yn yr etholiad, neu gan asiant yr ymgeisydd neu gyda gwybodaeth yr ymgeisydd neu ei asiant etholiadol, i gyflawni neu hyrwyddo'r ymarfer anghyfreithlon hwnnw, gellir hefyd ei chyflwyno unrhyw bryd o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad y taliad hwnnw neu'r weithred honno.

Llysoedd etholiadol

Rhoir deiseb sy'n cwestiynu etholiad llywodraeth leol neu i'r Cynulliad ar dreial gan lys etholiadol sydd â'r un pwerau, awdurdodaeth ac awdurdod â barnwr o'r Uchel Lys.  Yn gyffredinol, cynhelir y treial yn yr etholaeth, rhanbarth etholiadol neu ardal llywodraeth leol y cynhaliwyd yr etholiad ar ei chyfer, ond gellir ei symud os bydd angen.

Costau a ‘sicrwydd am gostau’

Pan gwestiynir etholiad, bydd yn rhaid talu'r ‘sicrwydd am gostau’. Ar hyn o bryd, yr uchafswm yw £2,500 ar gyfer deiseb sy'n cwestiynu etholiad llywodraeth leol a £5,000 ar gyfer deiseb sy'n ymwneud ag etholiad i’r Cynulliad.  

Fel arfer, cewch y ‘sicrwydd am gostau’ yn ôl os byddwch yn ennill yr achos ond mae'n bosibl y bydd yn rhaid ichi dalu mwy os byddwch yn colli’r achos neu os byddwch yn penderfynu rhoi'r gorau iddo.

Mae adran 133 o Ddeddf 1983 ac erthygl 92 o Orchymyn 2007 yn darparu disgresiwn i'r llys etholiadol i wneud gorchmynion penodol sy'n ymwneud â chostau.

Casgliad y llys etholiadol

Mae adran 145 o Ddeddf 1983 yn nodi bod yn rhaid i'r llys etholiadol, ar ôl treial deiseb sy'n cwestiynu etholiad llywodraeth leol, ddyfarnu a gafodd yr unigolyn y gwnaed cwyn ynglŷn â'i etholiad (neu unrhyw unigolyn arall) ei ethol yn briodol neu a oedd yr etholiad yn ddi-rym.

Yn yr un modd, mae erthygl 99 o Orchymyn 2007 yn nodi y bydd y llys etholiadol yn dyfarnu a gafodd yr Aelod Cynulliad y gwnaed cwyn ynglŷn â'i etholiad, neu unrhyw unigolyn arall, ei ethol yn briodol neu, os yw'n berthnasol, a oedd yr etholiad yn ddi-rym.

Pan fydd y llys etholiadol yn dyfarnu, ar gyfer etholiad rhanbarthol, na chafodd Aelod Cynulliad ar gyfer rhanbarth etholiadol y Cynulliad ei ethol yn briodol, bydd rhaid i'r llys yn ogystal ddyfarnu bod yr etholiad rhanbarthol yn ddi-rym.

Apeliadau

Bydd angen caniatâd arbennig yr Uchel Lys er mwyn apelio treial unrhyw ddeiseb etholiadol ar sail unrhyw elfen o’r gyfraith. Os rhoddir caniatâd i apelio, penderfyniad y Llys Apêl yn yr achos fydd y penderfyniad terfynol oll.

Rhagor o wybodaeth

Gweler gwybodaeth ymarferol bellach, gan gynnwys yr hyn i'w gynnwys yn y ddeiseb ac i ble i'w hanfon, isod:

https://www.gov.uk/challenge-election-result/how-to-challenge

Ymarfer llwgr ac anghyfreithlon

Gallai llys etholiadol ddyfarnu bod ymgeisydd neu unigolyn sy'n ymwneud â'r etholiad yn euog o ymarfer llwgr neu anghyfreithlon.

Y gwahaniaeth rhwng ymarfer “llwgr” ac “anghyfreithlon” yw difrifoldeb y ddedfryd droseddol a hyd y gwaharddiad o'r broses etholiadol sy'n dilyn yr euogfarn  (fel yr amlinellir ymhellach isod).

Enghraifft o ymarfer llwgr yw cyflawni, helpu, annog, cwnsela neu beri’r drosedd o gambersonadu . Enghraifft o ymarfer anghyfreithlon yw pleidleisio fel dirprwy ar gyfer rhywun hyd yn oed os bydd yr unigolyn hwnnw'n gwybod bod yr etholwr yn destun anallu cyfreithiol i bleidleisio .

Os caiff llys etholiadol unigolyn yn euog o ymarfer llwgr, ni all yr unigolyn wneud y canlynol am gyfnod o bum mlynedd (“y cyfnod perthnasol”) o ddyddiad yr euogfarn:

  • Cofrestru fel etholwr mewn etholiad seneddol neu etholiad llywodraeth leol ym Mhrydain Fawr
  • Pleidleisio mewn unrhyw etholiad seneddol yn y DU
  • Pleidleisio mewn unrhyw etholiad llywodraeth leol ym Mhrydain Fawr
  • Cael ei ethol i Dŷ'r Cyffredin
  • Dal unrhyw swydd etholedig arall

Os yw'r unigolyn eisoes wedi'i ethol i'r swydd etholedig, bydd yn rhaid iddo ildio ei sedd. Hefyd, ni all unigolyn ddal swydd farnwrol yn yr Alban .

Mae'r sancsiynau uchod hefyd yn berthnasol i unigolyn a gafwyd yn euog o ymarfer anghyfreithlon. Fodd bynnag, yr unig wahaniaeth yw bod y “cyfnod perthnasol” ar gyfer ymarfer anghyfreithlon wedi'i leihau i dair blynedd .

Gellir datgymhwyso'r analluoedd i ddal swydd yn achos rhai ymarferion llwgr neu anghyfreithlon .

Os bydd y llys etholiadol yn dyfarnu bod ymgeisydd yn euog o ymarferion llwgr neu anghyfreithlon, gellir dirymu etholiad yr ymgeisydd .

Ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, pan na chyhoeddir etholiad neb arall yn lle ymgeisydd llwgr neu anghyfreithlon, cynhelir etholiad newydd fel sedd sy’n digwydd dod yn wag  . Ar gyfer etholiadau i'r Cynulliad, pan fydd etholiad yn ddi-rym, gellir cynnal etholiad newydd yn dibynnu ar a yw'r sedd yn un etholaeth neu ranbarthol ac amgylchiadau'r drosedd a gyflawnwyd .

Ymarfer llwgr – erlyn

Gall y llys etholiadol hefyd gyflwyno adroddiad gerbron y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus. Yn ogystal â hynny, mae gan Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus Cymru a Lloegr ddyletswydd i ystyried gwneud ymchwiliadau a chychwyn erlyniadau pan roddir gwybodaeth iddo fod trosedd etholiadol wedi'i chyflawni .

Felly, gellir erlyn unigolyn am ymarfer llwgr neu anghyfreithlon.

Troseddau y gellir eu rhoi ar dreial “y naill ffordd neu’r llall” yw ymarferion llwgr, sy'n arwain at uchafswm dedfryd ar ôl euogfarn ar dditiad o un flwyddyn o garchar (dwy flynedd ar gyfer troseddau’n ymwneud â chambersonadu a phleidleisio drwy'r post), neu ddirwy, neu'r ddau, ac, ar ôl euogfarn ddiannod, o chwe mis o garchar, neu ddirwy nad yw'n uwch na'r uchafswm statudol, neu'r ddau.

Os bydd Llys y Goron yn ymdrin â'r achos, gallai'r troseddwr fod yn agored i gyfnod o garchar na fydd yn hwy nag un flwyddyn, dirwy, neu'r ddau. Os bydd y Llysoedd Ynadon yn ymdrin â'r achos, byddai'n agored i gyfnod o garchar na fydd yn hwy na chwe mis, dirwy, neu'r ddau .

Hefyd, ni all unigolyn a gafwyd yn euog o ymarfer llwgr gofrestru ar gyfer swyddi penodol ac yn y blaen neu gael ei ethol iddynt am bum mlynedd.


Ymarfer anghyfreithlon – erlyn

Troseddau diannod yn unig yw ymarferion anghyfreithlon. Bydd unigolyn a gafwyd yn euog o ymarfer anghyfreithlon yn agored i ddirwy anghyfyngedig .

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn