Pryd cynhelir etholiadau datganoledig?

Etholiadau llywodraeth leol

Etholiadau cyffredin

Mae adran 26  o'r Local Government Act 1972 yn nodi y dylai etholiadau cynghorwyr sir a bwrdeistref sirol  gael eu cynnal yn ystod 2017 a phob pedair blynedd ar ôl 2017. O ganlyniad, mae'r adran hon yn nodi mai cyfnod swydd cynghorwyr yw pedair blynedd. Yn yr un modd, gwneir darpariaeth o ran cynghorwyr tref a chymuned  yn adran 35 . Gelwir etholiadau a gynhelir bob pedair blynedd yn "etholiadau cyffredin".

Mae'r cyfeiriadau isod at etholiadau llywodraeth leol yn golygu etholiadau cyngor sir, bwrdeistref sirol, tref a chymuned.

Mae adran 37ZA(1)(a)  o'r Representation of the People Act 1983 yn nodi'r diwrnod arferol y bydd etholiad llywodraeth leol cyffredin yn cael ei gynnal. Noda'r adran hon y bydd etholiad cyffredin yn cael ei gynnal fel arfer ar y dydd Iau cyntaf o fis Mai.

Fodd bynnag, gosododd y Wales Act 2017 gyfyngiad newydd yn Neddf 1983. O dan adran 37ZA(2) a (3),  ni all diwrnod etholiad llywodraeth leol cyffredin yng Nghymru gael ei gynnal ar yr un diwrnod ag etholiad cyffredinol arferol y Cynulliad. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd yr etholiad llywodraeth leol cyffredin yn cael ei gynnal ar y diwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn . Cyn y gosodwyd y ddarpariaeth hon, gallai etholiadau llywodraeth leol fod wedi cael eu cynnal ar yr un diwrnod ag etholiadau'r Cynulliad.

Mae'r etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf yng Nghymru wedi'u trefnu felly ar gyfer y dydd Iau cyntaf ym mis Mai 2021. Gan fod hwn ar yr un diwrnod ag etholiad cyffredinol arferol y Cynulliad, rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno gorchymyn i symud diwrnod yr etholiadau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y dylid caniatáu i gynghorwyr llywodraeth leol a etholir ym mis Mai 2017 fod mewn swydd am bum mlynedd. Felly, bydd yr etholiad llywodraeth leol nesaf yn debygol o fod ar ddydd Iau cyntaf mis Mai 2022. Ni fydd hwn ar yr un diwrnod ag etholiad cyffredinol arferol y Cynulliad.

Mae pob cyngor sir, bwrdeistref sirol, tref a chymuned yn dilyn yr un gylchred etholiadol a dylent gynnal eu hetholiadau cyffredin nesaf ar yr un pryd . Cyfeirir at hyn yn aml fel "etholiadau cyflawn".


Newid dyddiad yr etholiad cyffredin

Mae adran 37ZA(1)(b)  o Ddeddf 1983 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn i ddiwygio diwrnod arferol etholiadau. O dan adran 37ZA(1)(b), rhaid i unrhyw orchymyn o'r fath gael ei gyflwyno cyn 1 Chwefror yn y flwyddyn cyn y flwyddyn y bydd y gorchymyn yn dod i rym. Mae'r pŵer hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i newid diwrnod etholiadau ond nid y flwyddyn.

O dan adran 87 a 106  o'r Local Government Act 2000, gall Gweinidogion Cymru, trwy orchymyn, newid y blynyddoedd y cynhelir etholiadau llywodraeth leol. Mae Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno nifer o orchmynion o dan y ddarpariaeth hon. Gwnaeth y gorchymyn cyntaf ohirio pob etholiad llywodraeth leol yng Nghymru o 2003 i 2004 . Diben hyn oedd atal etholiadau llywodraeth leol rhag cael eu cynnal ar yr un diwrnod ag etholiadau 2003 y Cynulliad. Cyflwynwyd gorchymyn arall yn 2014  i symud etholiadau llywodraeth leol o 2016 i 2017. Diben hyn oedd atal etholiadau llywodraeth leol rhag cael eu cynnal ar yr un diwrnod ag etholiadau'r Cynulliad a'r etholiadau ar gyfer y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Gwnaeth Gweinidogion Cymru hefyd ddibynnu ar y pŵer hwn i ohirio etholiadau Cyngor Sir Ynys Môn am flwyddyn  .

Is-etholiadau

Yn wahanol i etholiadau'r Cynulliad, nid oes darpariaethau ar gyfer caniatáu i gynghorau cyfan gynnal etholiadau eithriadol. Fodd bynnag, gall is-etholiadau (a elwir hefyd yn "seddau sy'n digwydd dod yn wag") gael eu cynnal pan ddaw sedd cynghorydd yn wag (adran 86, Local Government Act 1972).

Pan fydd is-etholiad, bydd y cynghorydd a etholir mewn swydd hyd y dyddiad y byddai'r cynghorydd a ddisodlwyd wedi ymddeol . Rhaid llenwi sedd sy'n digwydd dod yn wag o fewn 35 diwrnod i pan ddaw'r sedd yn wag. Fodd bynnag, os bydd etholiad cyffredin yn cael ei gynnal o fewn chwe mis i pan ddaw'r sedd yn wag, ni ddylid cynnal is-etholiad oni bai fod amgylchiadau rhagnodedig yn gymwys (adran 89, Local Government Act 1972).


Etholiadau'r Cynulliad


Etholiadau cyffredinol arferol

Oni bai y gwneir darpariaeth i'r gwrthwyneb, mae adran 3 o'r Government of Wales Act 2006 yn rhagnodi bod yn rhaid i etholiadau cyffredinol arferol i'r Cynulliad gael eu cynnal ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai, pum mlynedd ar ôl etholiadau diwethaf y Cynulliad. Gan hynny, dylai etholiad cyffredinol nesaf y Cynulliad gael ei gynnal ym mis Mai 2021.

Gelwir yr etholiadau hyn a gynhelir bob pum mlynedd yn etholiadau cyffredinol arferol y Cynulliad.


Etholiadau eithriadol

Gallai'r Cynulliad benderfynu diddymu ei hun (adran 5, Government of Wales Act 2006). Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid i'r Llywydd gynnig diwrnod i gynnal etholiad. Gelwir hwn yn etholiad eithriadol i'r Cynulliad.

Os cynhelir etholiad cyffredinol eithriadol lai na chwe mis cyn y dyddiad y byddai etholiad cyffredinol arferol fel arfer yn cael ei gynnal, ni fydd yr etholiad cyffredinol arferol hwnnw'n cael ei gynnal. Fodd bynnag, ni fyddai dyddiad etholiadau cyffredinol arferol dilynol yn cael ei effeithio, h.y. byddent yn parhau i gael eu cynnal fel arfer ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai bob pum mlynedd ar ôl y flwyddyn y dylid fod wedi cynnal yr etholiad cyffredinol arferol na chafodd ei gynnal .

Newid dyddiad etholiad

O dan adran 4 o'r Government of Wales Act 2006, gall y Llywydd gynnig newid y diwrnod y cynhelir yr etholiad cyffredinol arferol i’r Cynulliad. Gellir dod â hwn ymlaen un mis neu ei ohirio am un mis.

Pan fydd y Llywydd yn gwneud cynnig o'r fath, gall Ei Mawrhydi'r Frenhines ddiddymu'r Cynulliad a nodi’r diwrnod newydd i gynnal yr etholiad.

Is-etholiadau

Os bydd sedd Aelod o'r Cynulliad sy'n cynrychioli etholaeth yn dod yn wag, rhaid i'r Llywydd, o dan adran 10 o'r Government of Wales Act 2006, drefnu etholiad i lenwi'r sedd hon o fewn tri mis (oni bai fod etholiad cyffredinol arferol i’r Cynulliad wedi'i drefnu o fewn tri mis i'r adeg y daeth y sedd yn wag, pan fydd y sedd yn aros yn wag tan yr etholiad hwnnw). Gelwir yr etholiadau hyn yn aml yn is-etholiadau.

Mewn is-etholiad, dim ond un bleidlais a fwrir gan etholwyr am ymgeisydd a enwebwyd ar gyfer yr etholaeth (yn hytrach na'r ddwy bleidlais mewn etholiad cyffredinol, pan fydd etholwyr yn ethol aelod etholaeth ac aelodau rhanbarthol).

Os bydd sedd Aelod o'r Cynulliad sy'n cynrychioli rhanbarth yn dod  yn wag, bydd yr unigolyn nesaf ar restr ranbarthol y blaid honno yn ystod yr etholiad diwethaf yn cael ei ethol (adran 11, Government of Wales Act 2006). Os oedd yr Aelod Rhanbarthol o'r Cynulliad a etholwyd yn aelod annibynnol neu os nad oes aelodau cymwys ar ôl ar restr y blaid, bydd y sedd honno'n wag tan etholiad cyffredinol arferol neu etholiad eithriadol nesaf i’r Cynulliad. Cododd achos o'r fath yn Senedd yr Alban, sydd â system etholiadol debyg .






Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn