Pwy all sefyll mewn etholiad?

Etholiadau llywodraeth leol

Cymhwyster ar gyfer sefyll mewn etholiad

Mae Adran 79 o’r Local Government Act 2000 yn nodi’r hyn sy'n ofynnol er mwyn bod yn gymwys i sefyll mewn etholiad llywodraeth leol yng Nghymru:

  • mae'n rhaid i chi fod yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn
  • mae'n rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys y Gymanwlad neu'n ddinesydd unrhyw aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd
  • yn bodloni o leiaf un o'r gofynion canlynol:

    a. Rydych wedi eich cofrestru, a byddwch yn parhau i fod wedi eich cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal awdurdod lleol rydych yn dymuno sefyll ar ei chyfer o ddiwrnod eich enwebu ymlaen.  
    b. Rydych wedi meddiannu, fel perchennog neu denant, unrhyw dir neu safle arall yn yr ardal awdurdod lleol yn ystod y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich enwebu a diwrnod yr etholiad.
    c. Mae eich prif neu unig le gwaith yn ystod y 12 mis cyn diwrnod eich enwebu a diwrnod yr etholiad wedi bod yn yr ardal awdurdod lleol.  
    d. Rydych wedi byw yn yr ardal awdurdod lleol am y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich enwebu a diwrnod yr etholiad.
    e. Yn achos aelod o gyngor cymuned, rydych wedi byw yn y gymuned am y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich enwebu a diwrnod yr etholiad neu wedi byw o fewn tair milltir iddi.  

Anghymhwysiadau rhag sefyll mewn etholiad

Ar wahân i fodloni'r gofynion cyffredinol hyn ar gyfer sefyll mewn etholiad, ni ddylech fod wedi’ch anghymhwyso rhag sefyll ar ddiwrnod eich enwebu ac ar y diwrnod pleidleisio.

Mae Adran 80 o’r Local Government Act 2000 yn datgan na allwch fod yn ymgeisydd os yw’r canlynol yn berthnasol ar adeg eich enwebu ac ar y diwrnod pleidleisio:

a. Rydych wedi’ch cyflogi gan yr awdurdod lleol neu mae gennych swydd â thâl (yn dibynnu ar rai eithriadau megis bod yn arweinydd neu aelod gweithredol) yn yr awdurdod (gan gynnwys byrddau neu bwyllgorau ar y cyd).  
b. Rydych yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn cyfyngu methdaliad interim, neu orchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled neu orchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled interim.  
c. Rydych wedi cael eich dedfrydu i gyfnod o garchar am dri mis neu ragor (gan gynnwys dedfryd ohiriedig), heb y dewis o ddirwy, yn ystod y bum mlynedd cyn y diwrnod pleidleisio.
d. Rydych wedi cael eich anghymhwyso o dan Ran III Representation of the People Act 1983 (er enghraifft, os ydych wedi eich cael yn euog o gyflawni arferion etholiadol anghyfreithlon neu lwgr neu droseddau sy'n ymwneud â rhoddion). Am ragor o wybodaeth am arferion anghyfreithlon a llwgr, cliciwch ar y ddolen ar y dde.

Dilysrwydd y gweithredoedd a wneir pan fydd person wedi'i anghymhwyso/ddim yn gymwys i sefyll mewn etholiad

Mae Adran 82 o’r Local Government Act 1972 yn datgan na fydd unrhyw weithredoedd neu weithgareddau gan berson a etholwyd fel aelod o lywodraeth leol yn cael eu hannilysu oherwydd bod y person wedi’i anghymhwyso neu ddim yn gymwys.

Datganiadau ffug ynghylch cymhwysedd i sefyll mewn etholiad

Mae'n rhaid i chi sicrhau nad ydych wedi cael eich anghymhwyso rhag sefyll oherwydd gofynnir i chi lofnodi papurau enwebu yn cadarnhau hyn ac mae'n drosedd gwneud datganiad ffug ar eich papurau enwebu. Mae Adran 65A o’r Representation of the People Act 1983 yn datgan bod person yn euog o gyflawni arferion llwgr os bydd yn gwneud datganiad ffug, a hynny’n fwriadol, ynglŷn â'i hawl i fod yn gymwys i gael ei ethol (sy’n ymwneud â chadarnhau nad yw wedi cael ei anghymhwyso). Am ragor o wybodaeth am arferion anghyfreithlon a llwgr, cliciwch ar y ddolen ar y dde.  

Canllaw gan y Comisiwn Etholiadol

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn darparu canllaw defnyddiol mewn perthynas â'r mater hwn:

Fel y mae'r canllaw hwn yn ei nodi, mae'r maes hwn o'r gyfraith yn gymhleth a dim ond trosolwg yw'r wybodaeth a ddarperir ar y tudalennau hyn.

Etholiadau ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gofynion cyffredinol ar gyfer sefyll

Mae cyfanswm o 60 o aelodau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae 40 o'r rhain yn Aelodau Cynulliad etholaethol, ac yn cynrychioli'r un etholaethau lleol ag aelodau'r Tŷ Cyffredin tra bod yr 20 aelod arall yn Aelodau Cynulliad rhanbarthol, sy'n cynrychioli un o'r pum rhanbarth yng Nghymru.

Gallwch fod yn ymgeisydd ar gyfer etholaeth a rhanbarth, cyhyd â bod yr etholaeth o fewn y rhanbarth hwnnw. Os byddwch yn gwneud hynny, fodd bynnag, mae'n rhaid i chi sefyll ar gyfer yr un blaid yn y ddau etholiad, neu fod yn annibynnol yn y ddau. Os ydych yn cael eich ethol yn yr etholiad etholaethol, bydd eich enw'n cael ei ddiystyru wrth ddyrannu seddi rhanbarthol.

Fodd bynnag, ni allwch sefyll mewn mwy nag un etholaeth neu mewn mwy nag un rhanbarth.

Er mwyn sefyll fel ymgeisydd etholaethol neu ranbarthol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae'n rhaid i chi fodloni'r gofynion canlynol ar y diwrnod y cewch eich enwebu ac ar y diwrnod pleidleisio:  

  • bod yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn 
  • bod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys y Gymanwlad, neu, ar hyn o bryd, yn ddinesydd  unrhyw aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd.
  • Ar wahân i fodloni'r gofynion cyffredinol hyn ar gyfer sefyll mewn etholiad, ni ddylech fod wedi’ch anghymhwyso rhag sefyll ar ddiwrnod eich enwebu ac ar y diwrnod pleidleisio.

Anghymhwysiadau penodol rhag sefyll

Mae Adran 16 o’r Government of Wales Act 2006 yn datgan eich bod wedi’ch anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Cynulliad os yw’r canlynol yn berthnasol:

a. rydych yn Aelod Seneddol (ond gweler adrannau 17A ac 17B o’r Government of Wales Act 2006 am rai eithriadau cyfyngedig i hyn)

b. rydych wedi cael eich anghymhwyso rhag bod yn Aelod Seneddol o dan baragraffau (a) i (e), adran 1 (1) o’r House of Commons Disqualification Act 1975 (barnwyr, gweision sifil, aelodau o'r lluoedd arfog, aelodau'r heddlu, aelodau o'r deddfwrfeydd tramor)

c. rydych yn dal unrhyw un o'r swyddi a bennwyd gan Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor fel un a fydd yn eich anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Cynulliad

d. rydych yn dal swydd yr Archwilydd Cyffredinol

e. rydych yn cael eich cyflogi fel aelod o staff y Cynulliad  

Mae adran 16(2) hefyd yn datgan y byddwch yn cael eich anghymhwyso rhag dod yn Aelod o’r Cynulliad os byddwch hefyd wedi’ch anghymhwyso rhag bod yn aelod o Dŷ'r Cyffredin ac eithrio o dan yr House of Commons Disqualification Act 1975 (h.y. yn rhinwedd cyfraith gyffredin neu feini prawf anghymhwyso statudol eraill). Mae hyn yn cynnwys:

  • Personau o dan 18 oed sydd wedi'u hanghymhwyso yn rhinwedd adran 17(1) o’r Electoral Administration Act 2006.
  • Estroniaid sydd wedi'u hanghymhwyso o fewn cyfraith gyffredin ac yn rhinwedd yr Act of Settlement 1700, adran 3, fel y'i diwygiwyd. Nid yw dinasyddion o’r Iwerddon neu ddinasyddion cymwys o'r Gymanwlad yn cael eu hystyried fel estroniaid i'r diben hwn, na dinasyddion o'r Undeb Ewropeaidd sy'n byw yn y DU . 
  • Personau sy'n euog o arferion llwgr neu anghyfreithlon sydd wedi'u hanghymhwyso o dan Representation of the People Act 1983.
  • Personau sy'n destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn rhyddhau o ddyled o dan adran 426A o'r Insolvency Act 1986. 
  • Carcharorion wedi'u collfarnu sydd â dedfryd sy'n fwy nag un flwyddyn o garchar (neu ddedfryd amhenodol) yn y DU neu Iwerddon, sydd wedi'u hanghymhwyso o dan adran 1(1) o’r Representation of the People Act 1981. Mae Adran 16(3) o'r Government of Wales Act 2006 yn estyn yr anghymhwysiad hwn i garcharorion sydd â dedfryd sy'n fwy nag un flwyddyn o garchar mewn unrhyw aelod-wladwriaeth o’r UE.

Mae Adran 16(4) o'r Government of Wales Act 2006 hefyd yn datgan bod unrhyw un sy'n dal swydd fel Arglwydd Raglaw, Raglaw neu Uchel Siryf mewn unrhyw ardal yng Nghymru yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Cynulliad, ond dim ond ar gyfer unrhyw etholaeth neu ranbarth etholiadol a gynhwysir yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn yr ardal honno.  

Datganiadau ffug ynghylch cymhwysedd i sefyll mewn etholiad

Mae'n rhaid i chi sicrhau nad ydych wedi eich anghymhwyso rhag sefyll oherwydd gofynnir i chi lofnodi papurau enwebu yn cadarnhau hyn ac mae'n drosedd gwneud datganiad ffug ar eich papurau enwebu.

Canllaw gan y Comisiwn Etholiadol

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn darparu canllaw defnyddiol mewn perthynas â'r mater hwn:

Fel y mae'r canllaw hwn yn ei nodi, mae'r maes hwn o'r gyfraith yn gymhleth a dim ond trosolwg yw'r wybodaeth a ddarperir ar y tudalennau hyn.  

Diwygio arfaethedig yn y dyfodol yn y maes hwn

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi cyflwyno Bil gerbron y Cynulliad sydd, ymysg pethau eraill, yn ceisio gwneud newidiadau penodol i'r rheolau sy'n datgan pwy all sefyll mewn etholiad i’r Cynulliad Cenedlaethol a'r amseroedd mewn perthynas ag anghymhwysiad o’r fath (gweler Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) - Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) | Cynulliad Cenedlaethol Cymru).

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn