Yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau

Cymhwysedd i bleidleisio yn etholiadau llywodraeth leol Cymru

Mae'r etholfraint yn llywodraethu'r hawl i bleidleisio mewn etholiadau. Mae adran 2 o’r Representation of the People Act 1983 (Deddf  1983) yn nodi'r etholfraint sylfaenol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.

Mae hawl gan unigolyn i bleidleisio fel etholwr mewn etholiad llywodraeth leol mewn unrhyw ardal etholiadol ar ddyddiad y bleidlais:

  • os bydd ar gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal honno
  • os na fydd yn destun unrhyw anallu cyfreithiol i bleidleisio (ac eithrio oedran)
  • os bydd yn ddinesydd o'r Gymanwlad, yn ddinesydd o Weriniaeth Iwerddon neu'n ddinesydd perthnasol o'r Undeb
  • os bydd yn ddigon hen i bleidleisio (hynny yw, yn 18 mlwydd oed neu'n hŷn, ac eithrio yn yr Alban)

Mae'r unigolyn wedi'i gofrestru

Nodir yr hawl i gofrestru fel etholwr llywodraeth leol yn adran 4(3) o Ddeddf 1983 . Mae'n mynnu bod gan unigolyn hawl i fod ar gofrestr yr etholwyr llywodraeth leol os, ar y dyddiad perthnasol:

  • bydd yr unigolyn hwnnw'n breswylydd yn yr ardal honno
  • na fydd yn destun unrhyw anallu cyfreithiol i bleidleisio (ac eithrio oedran)
  • bydd yn ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad, yn ddinesydd o Weriniaeth Iwerddon neu'n ddinesydd perthnasol o'r Undeb 
  • bydd yn ddigon hen i bleidleisio.

Mae adran 4(5) yn ymdrin â sefyllfa pan ellir rhoi unigolyn ar y gofrestr nad yw’n ddigon hen i bleidleisio pan fydd yn cofrestru (gelwir y rhain yn aml yn “gyrhaeddwyr”).

I gael rhagor o wybodaeth am gofrestru, cliciwch ar y testun cofrestru ar yr ochr dde .

Nid yw'r unigolyn yn destun unrhyw anallu cyfreithiol i bleidleisio

Mae adran 3 ac adran 3A o Ddeddf  1983 yn nodi rhai categorïau o unigolion nad oes ganddynt hawl i bleidleisio yn sgil anallu cyfreithiol. Mae'r adrannau hyn yn difreinio carcharorion presennol o etholiadau seneddol a llywodraeth leol (adran 3). Maent hefyd yn difreinio troseddwyr dan gadwad (neu droseddwyr a fyddai dan gadwad pe na fyddent yn rhydd yn anghyfreithlon) mewn ysbytai am driniaeth ar gyfer anhwylder seiciatrig o dan ddeddfiadau a restrir yn yr adran, megis y Mental Health Act 1983 neu o dan y Criminal Procedure (Insanity) Act 1964.

Ni all unigolion sy'n euog o ymarferion llwgr neu anghyfreithlon o dan Ddeddf 1983 gael eu cofrestru i bleidleisio (ac felly nid ydynt yn gymwys i bleidleisio).

Mae'r unigolyn yn ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad, yn ddinesydd o Weriniaeth Iwerddon neu'n ddinesydd perthnasol o'r Undeb

Mae adran 202 o RPA 83 yn diffinio “dinesydd o'r Undeb”.

At ddibenion ychwanegu unigolyn at y gofrestr, mae adran 4(6) o RPA 83 yn diffinio “dinesydd cymwys o'r Gymanwlad”.

Oedran pleidleisio

Ar hyn o bryd, yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol Cymru yw 18. Mae'r Alban wedi lleihau'r oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yr Alban ac etholiadau i Senedd yr Alban i 16 blwydd oed (gweler y Scottish Elections (Reduction of Voting Age) Act 2015).

Etholfreintiau sy'n gysylltiedig â'r etholfraint llywodraeth leol

Mae etholfreintiau eraill hefyd ynghlwm wrth yr etholfraint llywodraeth leol.

Meiri etholedig ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru

Mae'r Local Government Act 2000 yn cyflwyno trefn ar gyfer awdurdodau lleol Cymru i weithredu o dan drefniadau gweithredol. Pan fydd awdurdod lleol yn ceisio mabwysiadu model gweithredol maer a chabinet, gyda maer etholedig, bydd angen refferendwm ar gyfer cynigion o'r fath (gweler adran 27 o'r Local Government Act 2000).

Ar ddiwrnod y refferendwm, bydd unigolyn sydd â'r hawl i bleidleisio mewn refferendwm o etholwyr lleol i benderfynu a ddylid bod maer etholedig yn unigolyn:

  • sydd â'r hawl i bleidleisio fel etholwr mewn etholiad o gynghorwyr ar gyfer ardal etholiadol o fewn ardal yr awdurdod, ac
  • sydd ar y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol gyda chyfeiriad sydd o fewn ardal yr awdurdod (gweler adran 45 o'r Local Government Act 2000).

Cymhwysedd i bleidleisio yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae unigolyn yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler adran 12 o'r Government of Wales Act 2006 ) pe byddai hawl ganddo i bleidleisio fel etholwr llywodraeth leol ac os yw ar y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol gyda chyfeiriad o fewn etholaeth y Cynulliad.

Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007  yn nodi amgylchiadau pellach lle na fydd unigolyn yn gallu cofrestru, megis pobl a wyddys eu bod yn euog o ymarferion llwgr neu anghyfreithlon – gweler erthygl 110 o'r Gorchymyn.

Am fanylion pwy sydd â'r hawl i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, cliciwch ar ddolen etholiadau llywodraeth leol ar yr ochr dde.

Cynigion i newid etholfraint Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi cyflwyno Bil gerbron y Cynulliad sydd, ymysg pethau eraill, yn ceisio estyn etholfraint y Cynulliad i bobl 16 ac 17 blwydd oed (gweler y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) – y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) | Cynulliad Cenedlaethol Cymru).




Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn