Cofrestru

Mae hawl gan unigolyn i gofrestru i fod ar gofrestr yr etholwyr llywodraeth leol  os bydd yr unigolyn hwnnw, ar ddiwrnod y cais i gofrestru, yn breswylydd yn yr ardal honno, os na fydd yn destun unrhyw anallu cyfreithiol i bleidleisio (ac eithrio oedran), os bydd yn bodloni'r anghenion o ran dinasyddiaeth, ac os bydd yn ddigon hen i bleidleisio .

Y gofrestr llywodraeth leol yw'r gofrestr etholiadol a ddefnyddir yn etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau'r Cynulliad. Defnyddir cofrestr etholiadol wahanol yn etholiadau seneddol ac yn etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu – fe'i gelwir y gofrestr seneddol.

Mae dyletswydd ar y Swyddog Cofrestru Etholiadol (SCE)  ar gyfer yr ardal i gynnal a chadw'r cofrestrau etholiadol, gan gynnwys cofrestr o etholwyr llywodraeth leol .

Rhaid i'r gofrestr ei hun gynnwys :

  • enwau'r unigolion sy'n ymddangos i'r SCE fod ganddynt hawl i fod ar y gofrestr ac y gwnaed cais llwyddiannus i gofrestru ar eu cyfer;
  • cyfeiriadau cymhwysol (yn ddibynnol ar unrhyw eithriadau a ragnodir); ac
  • o ran pob unigolyn o'r fath, rhif etholiadol yr unigolyn hwnnw (a gaiff ei ddyrannu gan yr SCE).

Cofrestru – y broses

Mae'n ofynnol i bob SCE gymryd yr holl gamau angenrheidiol at ddibenion cydymffurfio â'r ddyletswydd o gynnal y cofrestrau o dan adran 9 o'r Representation of the People Act 1983, ac at ddibenion sicrhau bod unigolion sydd â'r hawl i fod ar gofrestr wedi'u cofrestru arni, cyn belled â'i bod yn rhesymol ymarferol .

Y cam cyntaf yw ymgymryd â chanfasiad (a elwir yn ganfasiad blynyddol). Mae Adran 9D o'r Representation of the People Act 1983 yn mynnu bod rhaid i'r SCE gynnal canfasiad blynyddol yn yr ardal y mae'r swyddog yn gweithredu ar ei chyfer.  Ymholiad yw'r canfasiad i bwy sy'n preswylio mewn cartref.  Mae dychwelyd ffurflen ganfasiad yn rhoi'r wybodaeth honno i'r SCE ac nid yw'n gais i gofrestru unrhyw un o'r preswylwyr ynddo.  Ceir rhagor o wybodaeth am sut y dylid cynnal y canfasiad blynyddol yn rheoliad 32ZA o'r Representation of the People (England and Wales) Regulations 2001. Fel arfer, mae'r canfasiad blynyddol yn digwydd rhwng mis Gorffennaf a 1 Rhagfyr.

Yna, rhaid i'r SCE ddarparu gwahoddiad i gofrestru fel etholwr i'r unigolion perthnasol a nodwyd yn y canfasiad. Mae adran 9E(7) o'r Representation of the People Act 1983 yn mynnu y caiff SCE roi cosb sifil ar unigolyn sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad a fynnir gan SCE.

Caiff y gofrestr ei diweddaru bob mis a chaiff etholwyr gofrestru eu hunain yn ystod y flwyddyn (gelwir hyn yn gofrestriad treigl) os bydd eu manylion yn newid, trwy gwblhau a dychwelyd ffurflen gofrestru pleidleiswyr i'r SCE.  


Cofrestru – cofrestru'n ddienw

Mae adran 9B o'r Representation of the People Act 1983 yn darparu ar gyfer pleidleiswyr dienw ar y gofrestr. Gallai unigolyn gofrestru'n ddienw pe bai'n pryderu am ei ddiogelwch neu ddiogelwch unigolyn arall yn ei gartref. Ni fydd manylion pleidleiswyr dienw'n ymddangos ar y gofrestr lawn neu’r gofrestr a olygwyd.

Rhaid gwneud cais i fod yn bleidleisiwr dienw yn unol â'r gofynion a ragnodir.

Y cofrestrau

Ceir dwy fersiwn o gofrestr etholiadol llywodraeth leol:

Y gofrestr lawn

Mae hon yn cynnwys enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi'u cofrestru. Defnyddir y gofrestr lawn ar gyfer:

  • etholiadau
  • atal a chanfod trosedd
  • gwirio ceisiadau am fenthyciadau neu gredyd
  • gwysio rheithgor

Dogfen gyhoeddus ydyw y gellir ei chyhoeddi i unrhyw aelodau o'r cyhoedd sy'n dymuno ymgynghori â hi.  

Y gofrestr a olygwyd (cyfeirir ati hefyd fel y gofrestr “agored”)

Darn o'r gofrestr etholiadol lawn yw hon.  Ni chaiff ei defnyddio at ddibenion gweinyddu etholiadau a gall unigolyn, cwmni neu sefydliad ei phrynu.  

Mae enw a chyfeiriad etholwr wedi'u cynnwys ar y gofrestr a olygwyd / y gofrestr agored oni fydd yr etholwr yn gofyn i beidio cael ei gynnwys ynddi (bydd unigolion yn gwneud hyn trwy'r ffurflen canfasiad cartref yn gyffredinol).  Nid yw peidio â chael ei gynnwys ar y gofrestr a olygwyd / y gofrestr agored yn effeithio ar hawl unigolyn i bleidleisio.    


Hawl i fod ar y gofrestr

Nodir yr hawl i gofrestru fel etholwr llywodraeth leol yn adran 4(3) o Ddeddf 1983 .  Mae'n mynnu bod gan unigolyn hawl i fod ar gofrestr yr etholwyr llywodraeth leol os, ar y dyddiad perthnasol:

  • bydd yr unigolyn hwnnw'n breswylydd yn yr ardal honno
  • na fydd yn destun unrhyw anallu cyfreithiol i bleidleisio (ac eithrio oedran)
  • bydd yn ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad, yn ddinesydd o Weriniaeth Iwerddon neu'n ddinesydd perthnasol o'r Undeb
  • bydd yn ddigon hen i bleidleisio.

Mae adran 4(5) yn ymdrin â sefyllfa pan ellir rhoi unigolyn ar y gofrestr nad yw’n ddigon hen i bleidleisio pan fydd yn cofrestru (gelwir y rhain yn aml yn “gyrhaeddwyr”). Ceir cofrestru unigolyn fel cyrhaeddwr os bydd yn cyrraedd yr oedran pleidleisio (18) yn ystod cylch bywyd y gofrestr etholiadol bresennol (sydd fel arfer yn dechrau ac yn gorffen ar 1 Rhagfyr) . Felly, caiff pob unigolyn 17 oed fod yn gyrhaeddwr a chaiff rhai unigolion 16 oed fod yn gyrhaeddwyr hefyd (yn dibynnu ar ddyddiad eu pen-blwydd).

Yn 2019, cyflwynodd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) i'r Cynulliad, y byddai'n cyflwyno diwygiadau penodol os bydd y Cynulliad yn ei basio, gan gynnwys lleihau'r oedran pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad i 16. Os caiff ei basio, bydd hyn yn caniatáu i rai unigolion 14 a 15 oed fod yn gyrhaeddwyr ar y gofrestr llywodraeth leol at ddibenion etholiadau'r Cynulliad.  

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn