Cynnal etholiadau

Etholiadau llywodraeth leol

Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) ("Rheolau 2006") yn rheoli'r ffordd y cynhelir etholiadau i gynghorau sir a bwrdeistrefi sirol yng Nghymru. Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006 ("Rheolau’r Cymunedau") yn rheoli'r ffordd y cynhelir etholiadau i gynghorau cymuned a thref yng Nghymru.

Mae Rheolau 2006 a Rheolau’r Cymunedau yn pennu sut y mae'n rhaid cynnal etholiad. Fodd bynnag, er mwyn llwyr ddeall sut mae etholiad llywodraeth leol yn gweithredu, mae angen bod yn ymwybodol o ddarpariaethau perthnasol yn y Local Government Act 1972 a'r Representation of the People Act 1983. Mae'r Deddfau hyn, a'r is-ddeddfwriaeth a lunnir yn sgil y rhain, yn rheoli pryd y mae'n rhaid cynnal etholiad, pwy sy'n gallu pleidleisio yn yr etholiad yn ogystal â phwy sy'n gallu bod yn ymgeiswyr yn yr etholiadau hynny.

Mae'r cyfeiriadau isod at etholiadau llywodraeth leol yn golygu etholiadau cyngor sir, bwrdeistref sirol, tref a chymuned.

Llunio'r Rheolau

Mae gan Reolau 2006 a Rheolau’r Cymunedau ddwy set o reolau oddi mewn iddynt. Mae pa reolau y dibynnir arnynt yn dibynnu ar a yw'r etholiad llywodraeth leol perthnasol yn cael ei gynnal ar wahân i etholiad arall neu gydag etholiad perthnasol arall. Gelwir achos lle y cynhelir dau etholiad ar yr un pryd yn "etholiadau cyfunol".

Mae'r Rheolau yn Atodlen 2 i Reolau 2006 a Rheolau’r Cymunedau yn gymwys pan nad yw etholiadau llywodraeth leol yn cael eu cyfuno ag etholiad perthnasol arall. Pan fydd yr etholiad llywodraeth leol yn cael ei gyfuno ag etholiad perthnasol arall, y rheolau cymwys yw'r rhai hynny yn Atodlen 3 i Reolau 2006 a Rheolau’r Cymunedau - mae'r rhain yn cymhwyso'r rheolau yn Atodlen 2 yn gyffredinol, yn unol ag addasiadau.

Cynnwys y rheolau

Mae'r cyfeiriadau at Reolau isod yn ymwneud ag Atodlen 2 i Reolau 2006. Bydd yr un cyfeiriadau hefyd yn gymwys i Reolau’r Cymunedau.

Amserlen

Mae Rheol 1 yn amlinellu amserlen yr etholiad .

Y ffurflenni enwebu

Mae Rheol 4 yn amlinellu sut gall unigolyn gael ei enwebu a chynnwys y papurau enwebu. Mae’n ofynnol i ymgeisydd nodi ei gyfeiriad gartref ar ei bapur enwebu. Caiff ei gyfeiriad cartref ei gyhoeddi wedyn i'r cyhoedd yn y datganiad o unigolion a enwebwyd a'r papur pleidleisio .

Dylid nodi bod Rheol  4 o Reolau 2006 yn amrywio rhwng etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr. Yng Nghymru, rhaid i ymgeiswyr barhau i gyhoeddi eu cyfeiriad cartref. Yn Lloegr, gall ymgeiswyr gyhoeddi eu cyfeiriad cartref neu'r ward y maent yn byw ynddi. Mae'r sefyllfa yn Lloegr yn adlewyrchu'r sefyllfa ar gyfer etholiadau seneddol. Oherwydd pryderon ynghylch diogelwch ymgeiswyr , pasiwyd Deddf Pleidiau Gwleidyddol ac Etholiadau 2009 i dynnu'r gofyniad am 'gyfeiriad yr ymgeisydd' o'r rheolau seneddol. Cafodd yr un peth ei nodi yn Rheolau 2006 mewn perthynas ag etholiadau llywodraeth leol yn Lloegr yn unig.

Mae Rheol 5 yn galluogi ymgeisydd i roi "disgrifiad" ar ei ffurflenni enwebu. Mae hwn wedyn yn ymddangos ar bwys ei enw ar y papur pleidleisio. Gall disgrifiad dim ond bod yn rhywbeth a awdurdodwyd neu'r gair "Annibynnol". Golyga hyn mai dim ond plaid wleidyddol gofrestredig gellir ei nodi fel "disgrifiad" neu "ddisgrifiad" cofrestredig o'r blaid wleidyddol. Rhaid i unrhyw ddefnydd o'r rhain gael eu hardystio gan y blaid wleidyddol gofrestredig.

Y broses enwebu

Mae Rheolau 6 i 13 yn rhagnodi'r broses enwebu. Amlinella'r rhain fod yn rhaid i ddau etholwr gynnig ac eilio enwebiad ymgeisydd. Rhaid i'r ymgeisydd wedyn gydsynio â'r enwebiad. Gellir dod o hyd i'r ffurflenni enwebu a'r ffurflen cydsyniad enwebu yn Rhan 7 o’r Atodlen. Mae dweud celwydd ar ffurflenni enwebu neu ar y ffurflen  cydsyniad enwebu yn drosedd.  Yn ogystal, os yw ffurflenni enwebu neu ffurflen cydsyniad enwebu ymgeisydd llwyddiannus yn annilys, gellir codi cwestiynau ynghylch yr etholiad a'i ail-gynnal .

O dan Reol 9, rhaid i'r swyddog canlyniadau gyhoeddi datganiad o unigolion a enwebwyd . Gall unrhyw unigolyn archwilio ffurflenni enwebu a ffurflen cydsynio enwebiad ymgeiswyr. Mae Rheol 13 yn galluogi ymgeisydd i dynnu ei enwebiad yn ôl.

Etholiadau Un Ymgeisydd

Ar rai adegau, ni fydd nifer yr ymgeiswyr ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yn fwy na nifer y seddi gwag ar y cyngor. Mewn achosion o'r fath, ni fydd etholiad yn cael ei gynnal a datgenir fod yr ymgeisydd wedi ei ethol yn unol â Rhan 4 y Rheolau (Rheol 14). Mae'r datganiad canlyniadau yn debyg ar gyfer etholiadau a ymleddir ac etholiadau un ymgeisydd. Cliciwch yma .

Etholiadau a ymleddir

Pan fydd nifer yr ymgeiswyr yn fwy na nifer y seddi gwag ar y cyngor, rhaid cynnal etholiad yn unol â Rhan 3 y Rheolau (Rheol 14).

Mae Rheolau 15 i 29 yn amlinellu'r gwaith paratoadol cyn cynnal etholiad, ac mae'r Rheolau hyn yn amlinellu:

  • cynnwys papurau pleidleisio (Rheolau 16 i 18) a'r weithred o anfon papurau pleidleisio allan drwy'r post (Rheol 22) 
  • y gall swyddogion canlyniadau ddefnyddio ysgol a gynhelir gan lywodraeth leol am ddim fel gorsaf bleidleisio neu gyfri a gwneud darpariaeth ar gyfer gorsafoedd o'r fath (Rheolau 20, 23 a 26)
  • cynnwys hysbysiad  o bleidleisio (Rheol 21) a chyhoeddi cardiau pleidleisio (Rheol 25) 
  • sut i benodi'r llywydd, y clercod pleidleisio a'r asiantau pleidleisio (Rheol 24 a 27) Mae un swyddog canlyniadau ar gyfer pob etholiad llywodraeth leol. Fodd bynnag, gellir cael nifer o lywyddion (un ar gyfer pob gorsaf bleidleisio). Gellir hefyd penodi clercod pleidleisio i fynychu gorsafoedd pleidleisio  

Rheolau 30 i 43 sy'n rheoli'r bleidlais ei hun. Mae'r Rheolau hyn yn rheoli'r canlynol:

  • pwy all fynd i mewn i orsaf bleidleisio (Rheol 30)
  • sut caiff bocsys pleidleisiau eu selio (Rheol 32) 
  • cwestiynau y gall clercod pleidleisio ofyn i bleidleiswyr (Rheol 33) 
  • sut i bleidleisio (Rheol 35)
  • darpariaethau ar gyfer pleidleiswyr anabl neu ddall (Rheolau 36 a 37)
  • beth sy'n digwydd os yw unigolyn wedi pleidleisio eisoes (e.e. trwy ddirprwy) ond yn dymuno pleidleisio eto (Rheolau 38 a 39)
  • y gweithdrefnau llym y mae'n rhaid eu dilyn pan fydd y bleidlais yn cau (Rheol 43)

Mae Rheolau 44 i 49 yn rheoli'r cyfrif.  

Caiff darpariaeth arbennig ei gwneud i ganiatáu i bleidlais gael ei chanslo:

  • gall y bleidlais gael ei gohirio os bydd terfysg neu drais agored yn yr orsaf bleidleisio (Rheol 42). Mae hwn yn benderfyniad y gall y llywydd ei wneud. Pan fydd etholiad yn cael ei ohirio, rhaid ei gynnal y diwrnod wedyn.
  • pan fydd ymgeisydd yn marw cyn i ganlyniad yr etholiad gael ei gyhoeddi, caiff yr etholiad ei ddiddymu (Rheol 55)
  • pan fydd ymgeisydd yn marw cyn i ganlyniad yr etholiad gael ei gyhoeddi a phan fydd y pleidleisio'n parhau i fod ar droed, rhaid rhoi'r gorau i'r etholiad. Rhaid cael gwared ar unrhyw bapurau pleidleisio (Rheol 55) 
  • os rhoddwyd y gorau i bleidlais neu os cafodd ei diddymu, rhaid i'r swyddog canlyniadau orchymyn etholiad i lenwi unrhyw seddi gwag o fewn 35 diwrnod i ddyddiad yr etholiad cychwynnol

Mae Rheol 50 yn amlinellu sut y mae'n rhaid i swyddogion canlyniadau gyhoeddi pwy yw'r ymgeisydd etholedig a sut caiff hysbysiadau eu cyhoeddi .

Mae Rheolau 51 i 54 yn rheoli'r hyn sy'n digwydd i'r dogfennau amrywiol a ddefnyddiwyd yn yr etholiad. Er enghraifft, rhaid selio a storio papurau pleidleisio.  

Mae Rhan 7 o'r Rheolau yn cynnwys atodiad o ffurflenni a ddefnyddir mewn etholiadau. Mae fersiynau Cymraeg o'r ffurflenni hyn wedi eu cyhoeddi o dan adran 26 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. I weld y fersiynau Cymraeg o'r ffurflenni a ddefnyddir mewn etholiadau cyngor sir a bwrdeistref sirol, gweler Gorchymyn Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Ffurflenni Cymraeg) 2007. I weld y fersiynau Cymraeg o'r ffurflenni a ddefnyddir mewn etholiadau cyngor tref a chymuned, gweler Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Ffurflenni Cymraeg) 2007.

Etholiadau'r Cynulliad

Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (Gorchymyn 2007) yn gosod darpariaeth ar gyfer cynnal etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad

Gellir gweld y rheolau sy'n ymwneud â phleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad, gan gynnwys pleidleisiau absennol, pleidleisio trwy ddirprwy a dyletswyddau'r swyddogion canlyniadau yn Rhan 2 y Gorchymyn hwn. Mae Atodlen 1 yn gosod darpariaeth fanwl ar gyfer ceisiadau am bleidleisiau absennol a sut y cedwir cofnodion mewn cyswllt â cheisiadau o'r fath. Mae Atodlen 3 yn gosod darpariaeth ar gyfer y ffurflen ddatganiad ar gyfer pleidleisio drwy'r post a sut i gyhoeddi a derbyn papurau pleidleisio drwy'r post.

Rheolau etholiadol

Mae Atodlen 5 i Orchymyn 2007 yn cynnwys y rheolau ar gyfer cynnal etholiadau'r Cynulliad a dychweliad aelodau o'r Cynulliad.

Yr ymgyrch etholiadol

Gellir gweld y rheolau ar gyfer yr ymgyrch etholiadol sy'n ymwneud ag etholaethau a rhanbarthau etholiadol (gan gynnwys y troseddau sy'n ymwneud â'r rhain) yn Rhan 3.

Rhoddion a threuliau

Mae Atodlen 6 i Orchymyn 2007 yn gosod darpariaeth ar gyfer rheoli rhoddion a gyflwynir i ymgeiswyr etholaethau ac ymgeiswyr unigol mewn rhanbarthau etholiadol. Mae pleidiau gwleidyddol cofrestredig a'r ymgeiswyr ar y rhestri y maent yn eu cyflwyno ar gyfer etholiadau rhanbarthol y Cynulliad yn cael eu rheoleiddio o dan ddarpariaeth ar wahân yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 .  

Mae Atodlen 7 i Orchymyn 2007 yn gosod darpariaeth mewn cyswllt â threuliau etholiadol.

Cyfuno etholiadau

Gellir cyfuno etholiadau o bryd i'w gilydd. Er enghraifft, pleidleisiau mewn etholiad cyffredinol i'r Cynulliad ac etholiad cyffredin Comisiynwyr Heddlu a Throseddu.  Pan gyfunir pleidleisiau penodol, mae adrannau 16 ac 16A ac Atodlen 4 i Orchymyn 2007 yn ymdrin â'r rheolau sy'n berthnasol pan fydd cyfuniad o bleidleisiau.

Atodiad o ffurflenni

Gellir gweld y ffurflenni y mae Gorchymyn 2007 yn ei ragnodi i'w defnyddio (megis y ffurflen ddatganiad ar gyfer pleidleisio drwy'r post a phapurau'r ffurflen enwebu) yn Atodlen 10 i Orchymyn 2007.

Cwestiynu neu herio etholiad i'r Cynulliad

Gosodir darpariaeth ar gyfer sut i gwestiynu etholiad i'r Cynulliad neu ddychweliad mewn etholiad i'r Cynulliad yn Rhan 4, sy'n darparu ar gyfer cynnal achosion cyfreithiol sy'n codi o'r ymgyrch etholiadol a'r cosbau ar gyfer cyflawni troseddau.


Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn