Cyfraith yr UE a ddargedwir

Retained EU law is the new constitutional framework for former EU law to continue to apply in the UK legal system after the UK leaves the EU.  It is established by the EU (Withdrawal) Act 2018.

Cyfraith yr UE a ddargedwir yw'r fframwaith cyfansoddiadol newydd er mwyn i hen gyfraith yr UE barhau i fod yn gymwys yn system gyfreithiol y DU ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. 

Os bydd y DU yn ymadael â’r UE heb fargen (o dan 'senario dim bargen'), yna bydd y fframwaith hwn ar gyfer cyfraith yr UE a ddargedwir yn gymwys ar unwaith.

Os bydd y DU yn ymadael â'r UE gyda bargen wedi ei tharo, mae'r cytundeb ymadael a gwblhawyd ym mis Tachwedd 2018 yn darparu ar gyfer cyfnod pontio ac, yn ystod y cyfnod hwn, byddai'r rhan fwyaf o gyfraith yr UE yn parhau i fod yn gymwys.  Dyma fyddai'r achos hyd at ddiwedd 2020, oni bai y bydd y cyfnod pontio'n cael ei ehangu.  O ddiwedd y cyfnod pontio, pan na fydd cyfraith yr UE yn gymwys bellach, byddai'r fframwaith ar gyfer cyfraith yr UE a ddargedwir yn gymwys wedyn (gweler "Cyfraith yr UE ar ddiwedd y cyfnod pontio" isod).

Mae Adran Gyfreithiol Llywodraeth y DU wedi cynhyrchu fideos ar gyfraith yr UE a ddargedwir.  Gellir hefyd cael trawsgrifiadau o'r fideos hyn.

Mae Brexit: an introduction to retained EU law yn rhoi trosolwg o beth yw cyfraith yr UE a ddargedwir a'r rhan y bydd yn ei chwarae yn fframwaith deddfwriaethol y DU ar ôl Brexit.  Mae'r fideo hwn wedi ei drefnu o dan y penawdau canlynol:

  • Beth yw cyfraith yr UE a ddargedwir?
  • Categorïau cyfraith yr UE a ddargedwir.
  • Goblygiadau ar gyfer cyfraith achosion yr UE.
  • Goruchafiaeth cyfraith yr UE a ddargedwir.
  • Pwysigrwydd parhaus cyfraith yr UE.

Mae  Brexit: how retained EU law works yn edrych ar sut mae cyfraith yr UE a ddargedwir yn wahanol i'r gyfraith gan yr UE sydd wedi bod yn berthnasol i system gyfreithiol y DU yn y gorffennol, cyn Brexit. Mae'r fideo hwn wedi ei drefnu o dan y penawdau canlynol:

  • Sut mae cyfraith yr UE a ddargedwir yn wahanol i gyfraith yr UE cyn Brexit.
  • Goblygiadau ar gyfer cyfraith achosion yr UE.
  • Gorfodi cyfraith yr UE a ddargedwir.
  • Siarter Hawliau Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd. 
  • Cyfyngiadau ar effaith uniongyrchol cyfarwyddebau.

Caiff cyfraith yr UE a ddargedwir ei hegluro fel a ganlyn: 

Retained EU law is the new constitutional framework for former EU law to continue to apply in the UK legal system after the UK leaves the EU.  It is established by the EU (Withdrawal) Act 2018. What that Act does is take a snapshot of EU law as it applies in the UK at the point that we leave. That snapshot is then cut and pasted into our national legal system so that it continues to apply. What the EU (Withdrawal) Act is trying to do here is to provide some continuity and to avoid a situation where that body of EU law which has applied for many years in our national legal system does not just vanish, leaving a hole overnight. Over time that body of retained EU law may be gradually amended and replaced by domestic legislation that is passed in the usual way.”

Caiff tri chategori o gyfraith yr UE a ddargedwir eu hegluro fel a ganlyn:

“Retained EU law consists of almost all EU law as it applies in the UK at the point of exit. The EU (Withdrawal) Act breaks that down into three categories in sections 2, 3 and 4. The first is domestic legislation which implements EU law. For example, that would be something like the UK Working Time Regulations, which implement the EU Working Time Directive. The second is EU legislation which is directly applicable in the UK. An example of that would be something like the EU General Data Protection Regulation. The third category is directly effective EU rights and an example of that would be the right to equal pay for men and women, which is set out in Article 157 of the Treaty on the Functioning of the European Union (TFEU).”

Adran 1

Pwerau i gywiro 'diffygion' yng nghyfraith yr UE a ddargedwir

Mae rhai o ddarpariaethau'r Ddeddf wedi'u rhoi ar rym eisoes, gan gynnwys pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru i gywiro 'diffygion' yng nghyfraith yr UE a ddargedwir.  

Mae'r pwerau hyn dim ond ar gael am hyd at ddwy flynedd ar ôl y diwrnod ymadael.

Mae adran 8(1) yn rhoi'r pŵer i Weinidog y Goron lunio deddfwriaethau eilaidd i ymdrin â diffygion a fyddai'n codi yng nghyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl ymadael. Mae hyn yn cynnwys y gyfraith a gedwir ac a drosir gan adrannau 2, 3 a 4 (h.y. cyfraith ddomestig a chyfraith yr UE sy'n gymwys yn uniongyrchol). Rhaid i'r problemau, neu'r diffygion hyn, godi yn sgil ymadawiad y DU o'r UE (sy'n cynnwys y canlyniad na fydd y DU yn cymryd rhan bellach yng Nghytundeb yr AEE).

Mae Adran 8(2) yn egluro'r mathau o ddiffygion y gall y pŵer ymdrin â nhw. Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • darpariaethau na fydd o unrhyw ddefnydd ymarferol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE; 
  • darpariaethau ar gyfer swyddogaethau sy'n cael eu cyflawni yn yr UE ar ran y DU ar hyn o bryd – er enghraifft, gan asiantaeth yr UE; 
  • darpariaethau ar gyfer trefniadau neu hawliau cyfatebol rhwng y DU ac aelod-wladwriaethau eraill o'r UE nad ydynt ar waith mwyach neu nad ydynt yn briodol mwyach;  
  • unrhyw drefniadau neu hawliau eraill, gan gynnwys trwy gytuniadau'r UE, nad ydynt ar waith mwyach neu nad ydynt yn briodol mwyach; 
  • cyfeiriadau at yr UE nad ydynt yn briodol mwyach.

Caiff pwerau cyfatebol eu rhoi i'r awdurdodau datganoledig (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) gan Ran 1 o Atodlen 2, ond mae cyfyngiadau penodol ar ddefnyddio'r pwerau hyn. Yn benodol, nid oes pŵer i wneud darpariaethau y tu allan i gymhwysedd sydd wedi ei ddatganoli.  Mae paragraff 9 o Atodlen 2 yn nodi'r amgylchiadau lle mae darpariaeth o fewn cymhwysedd sydd wedi ei ddatganoli Gweinidogion Cymru at ddibenion Rhan 1 o Atodlen 2.

Adran 2

Defnyddiau posibl o'r pŵer i gywiro diffygion sy'n codi yn sgil ymadael

Mae nodiadau esboniadol i EUWA 2018 yn rhoi enghreifftiau o sut y gellid defnyddio'r pwerau hyn:

Throughout the statute book, there are references which will no longer be accurate once the UK leaves the EU, such as references to "member states other than the United Kingdom", to "EU law", or to providing for the UK’s "EU obligations". Such references will need to be repealed or amended to ensure the UK has a functioning statute book post-exit. 

For example, the Town and Country Planning (Environmental Impact Assessment) Regulations 2017 require an environmental impact assessment of certain applications for planning permission. They refer to "other EEA States" in a number of places, mainly in the context of development likely to have significant transboundary environmental effects. A correction amending the references to "other EEA States" to "EEA States", would allow the requirement on transboundary consultation to continue to function on exit as it does now, reflecting the fact that the UK will have left the EEA. This would enable an important piece of environmental protection law to continue to operate effectively. 

In addition to this, there will be law which will, upon leaving the EU, no longer works properly and which will need to be corrected to continue to work; for example, where law requires the UK to obtain an opinion from the European Commission on a given issue. Upon exit, the Commission will no longer provide such opinions to the UK. Such requirements in existing law would prevent certain projects from taking place unless corrective action was taken. In this instance the power to correct the law would allow the Government to amend UK domestic legislation to either replace the reference to the Commission with a UK body or remove this requirement completely. 

There are many important functions carried out at EU level, such as the evaluation and authorisation of chemicals, air safety regulation and genetically modified food and feed regulation. Depending on what is agreed with the EU, many functions may need to be transferred to appropriate bodies in the UK for them to continue and the power to deal with deficiencies would enable this.

Once the UK leaves the EU, there will also be areas of law where policy no longer operates as intended. One element of EU law is the reciprocal arrangements between states including reciprocal rights of citizens. As a matter of international law, those obligations will fall away at the point where the UK leaves the EU. At the same point, EU states’ obligations under EU law to the UK and its citizens will also fall away. Any such obligations beyond that time will only exist if they are covered in the withdrawal agreement. However, without a correction, the UK’s law would still include recognition of EU citizens’ rights.The power to deal with deficiencies can therefore modify, limit or remove the rights which domestic law presently grants to EU nationals, in circumstances where there has been no agreement and EU member states are providing no such rights to UK nationals.

Mae swm sylweddol o ddeddfwriaethau eilaidd wedi'u llunio gan Lywodraeth y DU a Gweinidogion Cymru o dan y pwerau 'diffygion' hyn.   Yn gyffredinol, mae Gweinidogion Cymru wedi defnyddio'u pwerau i wneud cywiriadau i ddeddfwriaethau a wnaed yng Nghymru (Deddfau a Mesurau gan y Cynulliad ac offerynnau statudol a wnaed yng Nghymru).  Yn unol â pharagraff 8 o'r Memorandwm i'r Intergovernmental Agreement on the European Union (Withdrawal) Bill and the Establishment of Common Frameworks (yr IGA), mae Gweinidogion Cymru wedi caniatáu i Lywodraeth y DU wneud cywiriadau i Ddeddfau Seneddol y DU ac offerynnau statudol y DU mewn meysydd sydd wedi'u datganoli.  

Mae paragraff 8 o'r Memorandwm yn nodi'r canlynol: “The UK Government will be able to use powers under clauses 7, 8 and 9 [adrannau 8 a 9 o’r Ddeddf bellach] to amend domestic legislation in devolved areas but, as part of this agreement, reiterates the commitment it has previously given that it will not normally do so without the agreement of the devolved administrations.”

Yn unol â pharagraff 9 o'r Memorandwm i'r IGA, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi caniatâd hefyd i Lywodraeth y DU wneud cywiriadau i gyfraith yr UE a ddargedwir sy'n gymwys yn uniongyrchol (yr ail a'r trydydd categori o gyfraith yr UE a ddargedwir, fel y disgrifiwyd uchod).

Mae paragraff 9 o'r Memorandwm yn nodi'r canlynol:

“The UK Government will bring forward amendments to Schedule 2 to the Withdrawal Bill to enable the devolved administrations to amend retained directly applicable EU law which relates to areas that are otherwise devolved except where clause 11 regulations [rheoliadau adran 12 bellach] have been made. While the UK Government will also be able to use the powers in clause 7, 8 and 9 [adrannau 8 a 9 bellach] to amend this retained directly applicable EU law, as part of this agreement it commits it will not normally do so without the agreement of the devolved administrations. Where the UK Government is proposing to amend retained directly applicable EU law which relates to areas that are otherwise devolved, but which cannot be amended by the devolved administrations because clause 11 regulations [rheoliadau adran 12 bellach] have been made, the UK Government commits that it will first consult the relevant devolved administration(s).”

Enghraifft o offeryn statudol ymadael â'r UE gan Lywodraeth y DU a wnaed o dan adran 8 o'r EU (Withdrawal) Act sy'n gwneud diwygiadau i offerynnau statudol y DU a deddfwriaeth UE uniongyrchol a ddargedwir mewn maes sydd wedi ei ddatganoli yw Ozone-Depleting Substances and Fluorinated Greenhouse Gases (Amendment etc.) (EU Exit) Regulations 2019.  Gwnaed yr offeryn hwn er mwyn mynd i'r afael â'r diffygion yng nghyfraith yr UE a ddargedwir sy'n ymwneud â chyfyngiadau ar ddefnyddio sylweddau sy'n teneuo’r osôn a nwyon tŷ gwydr wedi’u fflworeiddio, er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn parhau i weithredu'n effeithiol pan fydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, os na cheir cytundeb ymadael.  Mae'r offeryn yn trosglwyddo pwerau a swyddogaethau o Sefydliadau Ewropeaidd (gan gynnwys y Comisiwn Ewropeaidd ac Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop) i'r Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion datganoledig a chyrff rheoleiddio priodol yn y DU (gan gynnwys Corff Adnoddau Naturiol Cymru, sef y rheoleiddiwr priodol mewn perthynas â Chymru), fel y gall gofynion y rheoliadau UE ar gyfer sylweddau sy'n teneuo'r osôn a nwyon tŷ gwydr wedi'u fflworeiddio barhau i weithredu yn y DU ar ôl ymadael â'r UE os na cheir cytundeb ymadael. Mae angen y mân newidiadau technegol a wneir gan yr offeryn hwn, er mwyn  sicrhau bod y deddfwriaeth deillio o’r UE ddomestig yma a wnaed yn Nhgymru yn gorfodi deddfwriaeth yr UE uniongyrchol wrth gefn yn parhau i weithredu'n effeithiol. Mae'r newidiadau a wnaed i sicrhau eu bod yn gweithredu'n effeithiol yn cynnwys cael gwared ar gyfeiriadau at "aelod-wladwriaeth", cyfraith/rhwymedigaethau’r UE, a diffiniadau o "Gytundeb yr AEE", "Gwladwriaeth yr AEE" a "cylchrediad rhydd mewn aelod-wladwriaethau". Bydd hefyd yn unioni

Mae'r newidiadau a wnaed i sicrhau eu bod yn gweithredu'n effeithiol yn cynnwys cael gwared ar gyfeiriadau at "aelod-wladwriaeth", cyfraith/rhwymedigaethau’r UE, a diffiniadau o "Gytundeb yr AEE", "Gwladwriaeth yr AEE" a "cylchrediad rhydd mewn aelod-wladwriaethau". Bydd hefyd yn unioni cyfeiriadau at Gyfarwyddebau'r UE lle y bo angen ac yn disodli cyfeiriadau at gyrff yr UE ag enwau awdurdodau cymwys yn y DU.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn