Sut mae llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru yn cael ei hariannu?

Mae gan lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru bedair prif ffynhonnell o gyllid:

  • arian a ddyrennir gan Lywodraeth y DU
  • arian a godir yng Nghymru drwy gyfrwng trethi a thaliadau eraill
  • benthyciadau
  • arian oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd

Arian a ddyrennir gan Lywodraeth y DU

Mae Trysorlys Ei Mawrhydi yn rheoli lefel gyffredinol gwariant cyhoeddus yn y DU bob blwyddyn. Mae cyfran o gyfanswm yr arian a godir drwy'r DU ac a glustnodir ar gyfer gwariant cyhoeddus yn cael ei ddyrannu i Gymru a’r gyfran hon, a elwir yn 'grant bloc', yw sail cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru.

Mae swm y grant bloc yn cael ei bennu fel rhan o Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant Llywodraeth y DU, yn unol â'r polisïau a nodir yn 'Datganiad o Bolisi Ariannu' Trysorlys EM ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig.

Mae addasiadau i'r grant bloc yn cael eu penderfynu gan ddefnyddio Fformiwla Barnett. Mae'r fformiwla yn cael ei defnyddio i gyfrifo faint y bydd y grant bloc yn newid yn sgil cynnydd neu ostyngiad yng nghyllideb y DU gyfan ar gyfer gwariant cyhoeddus. Mae’r fformiwla yn ystyried y boblogaeth yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr (fel arfer), ac i ba raddau y mae newidiadau i gyllideb y DU yn cael eu gwneud mewn meysydd lle mae darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn debyg i Loegr (fel arfer).

Mae'r grant bloc yn cael ei dalu yn y lle cyntaf i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sy'n cadw’r arian sydd ei angen i redeg Swyddfa Cymru ac yn trosglwyddo'r gweddill i Lywodraeth Cymru. Mae'r arian yn cael ei roi yng Nghronfa Gyfunol Cymru (cyfrif banc Cymru yn y bôn) ac yna rhaid i Lywodraeth Cymru baratoi ei chyllideb ddrafft yn nodi sut y bydd yn defnyddio'r arian. Yna mae Pwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol a phartïon eraill sydd â diddordeb yn craffu ar y gyllideb ddrafft ac yn gwneud sylwadau arni cyn iddi gael ei therfynoli a’i chymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y cynnig Cyllidebol blynyddol. Gellir amrywio’r Gyllideb drwy gynnig Cyllidebol atodol wedi’i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Llywodraeth Cymru, Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn derbyn dyraniadau o Gyllideb Cymru. Mae cyfran sylweddol o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i'r cyrff cyhoeddus a noddir ac a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys awdurdodau lleol, y GIG yng Nghymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Dyma'r arian a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol am y modd y mae’n cymhwyso ac yn rheoli'r Gyllideb. Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru gynhyrchu cyfrifon yn cofnodi materion ariannol Llywodraeth Cymru a thaliadau i mewn ac allan o Gronfa Gyfunol Cymru. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn adrodd ar y cyfrifon hynny, ac mae ganddo rôl o ran gwirio bod gwariant wedi ei wneud yn unol â’r gyfraith, gan wirio os yw cyllid wedi ei neilltuo at bwrpas penodol ei fod mewn gwirionedd wedi’i ddefnyddio at y diben hwnnw.

Am ragor o wybodaeth ynghylch cyllideb Llywodraeth Cymru, gweler adrannau 117 i 145 o'r Government of Wales Act 2006.

Arian a godir yng Nghymru drwy gyfrwng trethi

Rhoddodd y Wales Act 2014  bŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud deddfwriaeth sylfaenol gan gyflwyno trethi penodol yng Nghymru. Roedd y Ddeddf hefyd yn estyn pwerau benthyca Llywodraeth Cymru. Roedd y ddau ddatblygiad hyn yn gweithredu argymhellion Rhan I Adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk).

Rhoddodd rhan 2 o WA 2014 bŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu ar drethi datganoledig. Yn wreiddiol, bwriad y ddeddfwriaeth oedd creu system ar gyfer casglu a gweinyddu trethi datganoledig Cymru yn ogystal â chreu dwy dreth ddatganoledig. Treth Gymreig ar drafodiadau oedd y rhain a oedd yn cynnwys buddiannau mewn tir (a ddisodlodd treth dir y dreth stamp yng Nghymru) a threth Gymreig ar brosesau tirlenwi (a ddisodlodd y dreth dirlenwi yng Nghymru). Daeth y ddwy i rym ar 1 Ebrill 2018. Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol ar drethi a basiwyd hyd yn hyn fel a ganlyn:

  • Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Sefydlodd Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). Mae ACC yn gyfrifol am gasglu a rheoli trethi datganoledig. Mae'r Ddeddf wedi rhoi ar waith y fframwaith cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol. Mae'n cyflwyno pwerau a dyletswyddau priodol ar ACC er mwyn galluogi ACC i bennu a chasglu'r swm priodol o drethi datganoledig sydd i'w talu gan drethdalwyr. 

  • Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

O 1 Ebrill 2018, mae'r Dreth Trafodiadau Tir yn berthnasol i drafodiadau tir yng Nghymru. Ni fydd trafodiadau tir yng Nghymru bellach yn destun Treth Dir y Dreth Stamp ond bydd yn destun y Dreth Trafodiadau Tir fel y'i nodir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Yn y bôn, treth trafodiadau yw'r dreth ddatganoledig hon sy'n berthnasol i brosesau caffael buddiannau mewn tir yng Nghymru.   Caiff y dreth ei gweithredu gan Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). 

  • Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 

O 1 Ebrill 2018, daeth treth Gymreig ar waredu tirlenwi i rym. Creodd Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 dreth newydd ar warediadau tirlenwi. Codir y dreth ar warediadau trethadwy, a ddiffiniwyd ym Mhennod 2 yn Rhan 2 o Ddeddf 2017. Mae Deddf 2017 hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwarediadau a eithriwyd rhag y dreth. Mae ACC yn gyfrifol am gasglu a rheoli'r dreth.

Treth Incwm 

Ers 6 Ebrill 2019, mae pobl sydd â'u prif breswylfa yng Nghymru ac sy'n talu Treth Incwm wedi bod yn talu cyfraddau Cymru o'r Dreth Incwm a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i amrywio'r gyfradd a delir gan drethdalwyr sy'n preswylio yng Nghymru. Ar gyfer y flwyddyn dreth rhwng 2019 a 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfraddau Cymru ar yr un lefel â'r rheini yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon. 

Treth Gyngor
Caiff y dreth gyngor hefyd ei chodi gan awdurdodau lleol. Felly, mae derbyniadau’r dreth gyngor yn ffynhonnell bwysig o refeniw ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a chyrff eraill yng Nghymru megis yr heddlu. Mae awdurdodau lleol yn derbyn cyllid pellach o ganlyniad i ailddosbarthu ardrethi annomestig (ardrethi busnes) sy’n cael eu casglu a'u talu i mewn i Gronfa Ardrethi Annomestig Llywodraeth Cymru.

Benthyca

Mae pwerau benthyca cyfredol Gweinidogion Cymru wedi'u nodi yn adran 121 o’r Government of Wales Act 2006 wedi'i diwygio gan y Wales Act 2014.  Cânt fenthyca arian gan Lywodraeth y DU at ddibenion diwallu symiau dros ben dros dro a delir o Gronfa Gyfunol Cymru dros symiau a delir i mewn i'r gronfa honno, unrhyw symiau sy'n ymddangos iddynt fod eu hangen ganddynt at ddibenion darparu cydbwysedd gweithio yng Nghronfa Gyfunol Cymru ac unrhyw symiau sydd eu hangen ar Weinidogion Cymru, yn unol â'r rheolau a bennwyd gan y Trysorlys, i dalu gwariant cyfredol yn sgil diffyg taliadau trethi datganoledig, neu gan y dreth incwm a godir yn rhinwedd cydraniad cyfradd Cymru yn erbyn derbyniadau a ragwelwyd. 

Yn ogystal â hynny, mae pŵer, a ychwanegir gan y Wales Act 2014, i fenthyca arian gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwariant cyfalaf. Ni chaniateir benthyca mwy na £1 biliwn ond caiff yr Ysgrifennydd Gwladol gynyddu'r swm hwn (ond nid ei leihau).

Rhaid ad-dalu unrhyw symiau a fenthycwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol ar yr adegau a thrwy'r dulliau y caiff y Trysorlys eu pennu. Rhaid hefyd talu unrhyw log ar symiau o'r fath i'r Ysgrifennydd Gwladol ar yr adegau ac yn ôl y cyfraddau y caiff y Trysorlys eu pennu. 

Mae arian y mae awdurdodau lleol yn ei fenthyg hefyd yn ffynhonnell bwysig o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu arian i awdurdodau lleol o’r grant bloc, ond caniateir iddynt fenthyg mwy o arian, yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau a osodir gan Lywodraeth Cymru. Rhaid i awdurdodau lleol ddilyn y rheolau ar 'fenthyca darbodus', sy'n golygu cydymffurfio â'r Cod Materion Ariannol sydd (ymhlith pethau eraill) yn mynnu bod benthyca yn fforddiadwy ac yn ddarbodus.

Cyllid gan yr UE

Un o brif amcanion yr Undeb Ewropeaidd yw cynorthwyo Aelod-wladwriaethau llai llewyrchus, ac ardaloedd llai llewyrchus o fewn Aelod-wladwriaethau, i weithio tuag at gydgyfeirio safonau byw rhwng rhanbarthau mwyaf ffyniannus a lleiaf ffyniannus yr UE.  Mae ardal sylweddol o Gymru, sy’n cwmpasu Gorllewin Cymru a Chymoedd De Cymru, yn un o’r 'parthau cydgyfeirio' sy'n elwa o swm cymharol uchel o gyllid Ewropeaidd oherwydd ei fod yn is na chyfartaledd yr UE o ran ei ffyniant.
Mae Cymru, felly, yn derbyn symiau sylweddol o arian o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (h.y. Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop). Mae'r cyllid hwn yn cael ei weinyddu a'i ddosbarthu gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO). Mae WEFO yn rhan o Lywodraeth Cymru, ac mae'n cymhwyso’r cyllid yn unol â Rhaglen Weithredol y cytunwyd arni gyda'r Comisiwn Ewropeaidd. Yn y modd hwn, gwneir buddsoddiad o bron i £2 biliwn  gan yr UE i Gymru ar gyfer 2014-2020, ac fe’i defnyddir i gefnogi twf economaidd a swyddi drwy ymchwil ac arloesi, cyllid busnes, cysylltiadau technoleg gwybodaeth a thrafnidiaeth, ynni, a thrwy helpu pobl i gael gwaith a hyfforddiant.
Ceir rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae Cronfeydd Strwythurol yr UE o fudd i Gymru ar wefan  Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn