Llywodraeth leol

Mae craidd y gyfraith ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru i’w gael mewn deddfwriaeth sylfaenol (neu 'statudau') a wnaed naill ai gan Senedd y DU neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y prif statudau sy’n nodi strwythur a phrif swyddogaethau llywodraeth leol yng Nghymru o dan 'ddeddfwriaeth allweddol'.

Mewn deddfwriaeth yn ymwneud â Chymru, gall y term ‘awdurdod lleol‘ golygu cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned. Diffinnir y term yn wahanol weithiau, a gall gynnwys awdurdodau megis Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub. Gall hefyd gynnwys Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ar gyfer rhanbarthau’r heddluoedd yng Nghymru. Felly, mae’n bwysig sefydlu ystyr y term yn ôl ei berthnasedd i ddarpariaeth benodol.

Y fframwaith ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yw’r Local Government Act 1972 (LGA 1972). Mae'r ddeddf hon wedi’i diwygio’n helaeth ers ei deddfu, ac yn sylweddol felly yn sgil y Local Government (Wales) Act 1994 a sefydlodd trefn bresennol y prif awdurdodau lleol. Bellach, mae Gweinidogion Cymru’n gweithredu mwyafrif llethol y swyddogaethau gweithredu o dan LGA 1972 mewn perthynas â Chymru.

Mae dwy haen o lywodraeth leol yng Nghymru. Mae 22 o 'brif' ardaloedd llywodraeth leol a chan bob un gyngor a etholwyd yn lleol sydd â phwerau a dyletswyddau a drosglwyddwyd iddynt neu a orfodwyd arnynt o dan amrywiol statudau. Rhennir y 22 ardal ymhellach yn ardaloedd cymuned sydd â chyngor cymuned o bosibl. Ar hyn o bryd mae 735 o gynghorau cymuned yng Nghymru.

Mae cynghorau ar gyfer prif ardaloedd yn darparu gwasanaethau megis addysg, gofal cymdeithasol, tai, cynllunio, sbwriel ac ailgylchu, gosod a chasglu’r dreth gyngor a threthi annomestig. Mae prif gynghorau hefyd yn gweithredu yn eu rôl fel awdurdod addysg lleol, awdurdod gwasanaethau cymdeithasol, awdurdod trwyddedu ac awdurdod cynllunio.

Mae swyddogaethau cynghorau cymuned wedi’u nodi yn LGA 1972 ac mewn deddfwriaeth arall.

Mae aelodau prif gynghorau a chynghorau cymuned yn ddarostyngedig i safonau ymddygiad y darperir ar eu cyfer yn y Local Government Act 2000 (darpariaethau sydd yn berthnasol hefyd i aelodau Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru).

Rhaid i awdurdod lleol weithredu mewn modd sy’n gydnaws â hawliau a warentir trwy’r Confensiwn er Gwarchod Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol a’u hymgorffori i gyfraith y DU trwy'r Human Rights Act 1998. Mae penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol wrth weithredu eu swyddogaethau cyhoeddus yn atebol i adolygiad barnwrol er bod rhai achosion lle mae mecanwaith apêl penodol wedi’i ddarparu ar ei gyfer mewn statud.

Er nad yw trefniadaeth llywodraeth leol wedi’i heffeithio’n uniongyrchol gan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd, gall cyfraith yr UE cael effaith ar y ffordd y mae awdurdodau lleol yn gweithredu eu swyddogaethau mewn meysydd penodol megis caffael cyhoeddus, cynllunio a chyflogaeth.

Mae gan Weinidogion Cymru rôl oruchwyliol gyffredinol mewn perthynas â llywodraeth leol yng Nghymru ac maent yn pennu ac yn ariannu’r rhan fwyaf o’r refeniw blynyddol a setliadau cyfalaf ar gyfer llywodraeth leol. O dan GOWA 2006, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru wneud cynllun yn nodi sut maent yn bwriadu, wrth weithredu eu swyddogaethau, 'cynnal a hyrwyddo llywodraeth leol yng Nghymru'.

Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd sefydlu a chynnal corff o’r enw Cyngor Partneriaeth Cymru y bydd yr aelodau’n cynnwys Gweinidogion Cymru ac aelodau awdurdodau lleol. Gall y Cyngor Partneriaeth gynghori a chyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ar faterion yn ymwneud â llywodraeth leol a rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y sylwadau a’r cyngor wrth baratoi eu cynllun llywodraeth leol.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru  yw’r corff sy’n adolygu’n barhaus holl feysydd llywodraeth leol yng Nghymru.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn