Cyrff llywodraeth leol yng Nghymru

Awdurdodau unedol Cymru

Mae 22 o awdurdodau unedol Cymru (cynghorau sir a bwrdeistrefi sirol – gelwir hefyd yn ‘brif gynghorau’) yn cyflenwi amrywiaeth eang o wasanaethau. Rhaid i rai ohonynt, er enghraifft addysg, gael eu gwneud dan gyfraith Cymru a’r DU; ac eraill yn ôl disgresiwn yr awdurdodau unigol. Mae rhestr nodweddiadol o wasanaethau awdurdod lleol yn cynnwys:

  • cynllunio a rheoli adeiladu
  • addysg
  • safonau masnach
  • trwyddedu alcohol, adloniant a hapchwarae
  • iechyd a diogelwch
  • llyfrgelloedd, hamdden a thwristiaeth
  • iechyd yr amgylchedd, sbwriel ac ailgylchu
  • trafnidiaeth a’r priffyrdd
  • tai
  • gwasanaethau cymdeithasol.

Er bod hanes llywodraeth leol Cymru yn ymestyn yn ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg o leiaf, mae’r 22 o awdurdodau unedol un haen yn dyddio o 1996 ar ôl cael eu sefydlu gan Local Government (Wales) Act 2004. Nid ydynt wedi’u rhannu’n gynghorau sir a dosbarth, fel llawer o awdurdodau lleol Lloegr. Ar lefel mwy lleol, mae cynghorau tref a chymuned yn darparu gwasanaethau yn eu cynefin.

Mae pob awdurdod lleol yn ddemocrataidd atebol trwy etholiadau a gynhelir bob 4 blynedd. Mae gan awdurdodau lleol bwyllgor cabinet gyda’r brif blaid wleidyddol neu’r glymblaid yn gwneud penderfyniadau dan oruchwyliaeth y cyngor cyfan. Maen nhw’n cyflogi nifer fawr o staff dan arweiniad prif weithredwr, sy’n gweithio gydag uwch-swyddogion eraill ar faterion a phenderfyniadau bob dydd.

Dyma awdurdodau unedol Cymru:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Blaenau Gwent County Borough Council)

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Bridgend County Borough Council )

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (Caerphilly County Borough Council)

  • Cyngor Caerdydd (Cardiff Council)

  • Cyngor Sir Gaerfyrddin (Carmarthenshire County Council)

  • Cyngor Sir Ceredigion (Ceredigion County Council)

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Conwy County Borough Council)

  • Cyngor Sir Ddinbych (Denbighshire County Council)

  • Cyngor Sir y Fflint (Flintshire County Council)

  • Cyngor Sir Gwynedd (Gwynedd Council)

  • Cyngor Sir Ynys Môn (Isle of Anglesey County Council)

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (Merthyr Tydfil County Borough Council)

  • Cyngor Sir Fynwy (Monmouthshire County Council)

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Neath Port Talbot County Borough Council)

  • Cyngor Dinas Casnewydd (Newport City Council)

  • Cyngor Sir Penfro (Pembrokeshire County Council)

  • Cyngor Sir Powys (Powys County Council)

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Rhondda Cynon Taf County Borough Council)

  • Cyngor Sir a Dinas Abertawe (City and County of Swansea)

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (The Vale of Glamorgan County Borough Council)

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (Torfaen County Borough Council)

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Wrexham County Borough Council)

Mae holl awdurdodau lleol Cymru yn aelodau o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Mae’r Gymdeithas yn cynrychioli eu safbwyntiau a’u cyd-fuddiannau ac yn cynghori a chefnogi awdurdodau unigol.

Cynghorau tref a chymuned yng Nghymru

Mae cynghorau tref a chymuned yn llywodraethu ar lawr gwlad. Mae dros 730 o’r cynghorau hyn ledled Cymru, rhai’n cynrychioli poblogaeth o lai na 200, eraill dros 45,000 o bobl. Eu nod yw gwella ansawdd bywyd a’r amgylchedd i ddinasyddion eu hardaloedd.

Mae cynghorau cymuned a thref yn atebol i bobl leol ac mae ganddynt ddyletswydd i gynrychioli buddiannau rhannau gwahanol o’r gymuned yn gyfartal.

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru

Y tri  Awdurdod yw:

  • Parc Cenedlaethol Eryri
  • Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
  • Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Mae dibenion, swyddogaethau a dyletswyddau statudol y Parciau Cenedlaethol wedi’u nodi yn Rhan 3 o Deddf yr Amgylchedd 1995.

Eu dibenion statudol yw:

  • gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol
  • hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd fwynhau a deall nodweddion arbennig y Parc Cenedlaethol

Eu dyletswydd statudol yw meithrin lles economaidd a chymdeithasol y cymunedau hynny sy’n byw o fewn y Parc Cenedlaethol.

Mae’r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth â Pharciau Cenedlaethol Cymru. Mae Parciau Cenedlaethol Cymru yn rhoi cyfle i’r Awdurdodau Parc Cenedlaethol drafod materion o ddiddordeb cyffredin rhyngddynt a chytuno ar ganlyniadau. Mae gwybodaeth a phrofiadau’n cael eu rhannu rhwng cydweithwyr, llunwyr polisïau, cymunedau lleol o fewn y Parciau Cenedlaethol ac ymwelwyr â’r ardaloedd gwarchodedig hyn.

Awdurdodau Tân ac Achub Cymru

Y tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru yw:

  • Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru
  • Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Awdurdod Tân ac Achub De Cymru

Mae eu cyfrifoldebau a’u dyletswyddau’n cael eu llywodraethu’n bennaf gan y Fire and Rescue Services Act 2004. Mae’r Ddeddf hon yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r holl awdurdodau tân wneud darpariaeth at ddibenion diffodd tân, sydd nid yn unig yn golygu diffodd tân ond hefyd diogelu bywyd ac eiddo rhag tân. Mae hefyd yn darparu ar gyfer mynychu damweiniau ffyrdd ac achosion brys eraill yn ogystal â sylfaen statudol ar gyfer cynnal gweithgareddau diogelwch cymunedol. Hefyd, mae’r Regulatory Reform (Fire Safety) Order 2005 yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r holl awdurdodau tân orfodi safonau diogelwch tân mewn amryw o adeiladau masnachol gan gynnwys swyddfeydd, siopau, ysgolion, ffatrïoedd, ysbytai ac ati.

Cafodd y cyfrifoldeb dros y tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru ei ddatganoli yn 2004. Yn unol â gofynion trosglwyddo cyfrifoldebau mae Llywodraeth Cymru yn creu Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru sy’n cyflwyno’r blaenoriaethau a’r amcanion ar gyfer tân ac achub yng Nghymru.

Mae mwy o wybodaeth am Awdurdodau Tân ac Achub i'w gweld yma.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn