Cyflwyniad i gyfraith hawliau dynol

‘Hawliau dynol’ yw’r term a ddefnyddir i gyfeirio at hawliau a rhyddid penodol sydd mor bwysig fel eu bod wedi’u diogelu’n arbennig dan y gyfraith.  Y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol (ECHR) yw’r cytuniad rhyngwladol sy’n gwarchod hawliau dynol yn Ewrop.  Roedd y Deyrnas Unedig gyda’r cyntaf i ymuno â’r Confensiwn pan ddaeth i rym ym 1953. Roedd unrhyw un a deimlai bod eraill wedi torri eu hawliau dynol dan y Confensiwn yn gallu gwneud cais i Lys Hawliau Dynol Ewrop gynnal y gyfraith.

Cafodd yr hawliau dynol hynny eu hymgorffori’n uniongyrchol i gyfraith y DU gan yr Human Rights Act 1998 (HRA 1998). Mae hyn yn golygu bod pobl yn gallu mynnu eu hawliau dynol yn llysoedd y DU, yn hytrach na gorfod mynd gerbron Llys Hawliau Dynol Ewrop.

Mae’r DU wedi cytuno i’r rhan fwyaf, ond nid y cyfan, o’r hawliau dynol sydd wedi’u diogelu dan y Comisiwn. Roedd yr Human Rights Act 1988 yn ymgorffori’r hawliau hynny yr oedd y DU wedi cytuno iddynt, yng nghyfraith y DU. Gelwir yr hawliau hyn yn ‘hawliau’r Confensiwn’ - a chyfeirir atynt yn gyffredinol trwy gyfeirio at Erthygl berthnasol y Confensiwn dan sylw, sef:

  • Yr hawl i fywyd (Erthygl 2)
  • Yr hawl i fod yn rhydd rhag artaith neu driniaeth neu gosb annynol neu ddiraddiol (Erthygl 3)
  • Yr hawl i fod yn rhydd rhag caethwasanaeth neu gaethiwed, neu’n gorfod cyflawni llafur dan orfod neu’n orfodol (Erthygl 4)
  • Yr hawl i ryddid a diogelwch (Erthygl 5)
  • Yr hawl i gael treial teg, a chael eich tybio’n ddieuog hyd oni phrofir chi’n euog (Erthygl 6)
  • Yr hawl i beidio â chael eich cosbi ac eithrio dan gyfraith troseddol (Erthygl 7)
  • Yr hawl i barch i fywyd preifat a theuluol (Erthygl 8)
  • Yr hawl i ryddid mynegiant, cydwybod a chrefydd (Erthygl 9)
  • Yr hawl i ryddid mynegiant (Erthygl 10)
  • Yr hawl i ymgynnull ac ymgysylltu’n rhydd ag eraill (Erthygl 11)
  • Yr hawl i briodi a sefydlu teulu (Erthygl 12)
  • Yr hawl i fod yn rhydd rhag gwahaniaethu ar unrhyw sail, gan gynnwys rhyw, hil, lliw, iaith, crefydd, gwleidyddiaeth neu farn arall, tras genedlaethol neu gymdeithasol, cysylltiad â lleiafrif cenedlaethol, eiddo, genedigaeth neu statws arall (Erthygl 14)
  • Yr hawl i fwynhau meddiannaeth yn heddychlon (Erthygl 1, Protocol 1)
  • Yr hawl i addysg (Erthygl 2, Protocol 1)
  • Yr hawl i etholiadau rhydd (Erthygl 3, Protocol 1)
  • Yr hawl i beidio â chael y gosb eithaf (Erthygl 1, Protocol 13)

Mae’r Ddeddf yn gweithio trwy ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys y llywodraeth) barchu a diogelu’r hawliau hyn ym mhopeth a wnânt. Os byddant yn methu â gwneud hynny, gallant gael eu herio gan y llysoedd.

Mae’r rhan fwyaf o hawliau’r Confensiwn, o’u natur, yn perthyn i bobl yn unig. Ond nid yw hyn yn wir am bob un, mae’r hawl i fwynhau meddiannaeth yn berthnasol i bersonau naturiol (bodau dynol) a phersonau cyfreithiol (fel cwmnïau).

Mae rhai o hawliau’r Confensiwn yn absoliwt (cysegredig) – fel yr hawl i beidio â chael y gosb eithaf.  Gall hawliau eraill y Confensiwn gael eu gwrthwneud dan amgylchiadau penodol – er enghraifft, sicrhau nad yw’r hawl i ryddid a diogelwch yn cael ei dorri pan fo rhywun wedi’i garcharu’n anghyfreithlon am gyflawni trosedd, a gallai’r hawl i ryddid mynegiant fod yn destun cyfyngiadau er budd diogelwch gwladol neu ddiogelwch y cyhoedd.

Gall y DU ‘ymeithrio’ o (datgymhwyso mewn amgylchiadau penodol) rai (ond nid y cyfan) o hawliau’r Confensiwn adeg rhyfel neu argyfwng cyhoeddus arall.  Nid oes ymeithriadau mewn grym ar hyn o bryd, ond mae’r DU wedi defnyddio’r dull hwn yn y gorffennol er mwyn gallu creu pwerau uwch o arestio a chadw rhai sydd dan amheuaeth o fod yn derfysgwyr (mewn ymateb i stad o argyfwng wedi ymosodiad terfysgol 9/11 yn Efrog Newydd).

Mae HRA 1998 yn sicrhau bod hawliau’r Confensiwn yn berthnasol ac yn orfodol yn DU fel a ganlyn:

  • Rhaid i lys neu dribiwnlys sy’n penderfynu ar gwestiwn am hawliau’r Confensiwn ystyried unrhyw benderfyniadau perthnasol gan Lys Hawliau Dynol Ewrop.
  • Cyhyd ag y bo modd, rhaid i ddeddfwriaeth y DU gael ei darllen a’i chymhwyso mewn ffordd sy’n gydnaws â hawliau’r Confensiwn. Os nad yw hyn yn bosibl, gall llys wneud datganiad anghydnawsedd. Pan wneir datganiad anghydnawsedd, gall unrhyw Weinidog y Goron wneud gorchymyn sy’n diwygio’r ddeddfwriaeth fel ei bod yn gydnaws â hawliau’r Confensiwn os yw ef neu hi’n ystyried bod rhesymau grymus dros wneud hynny.
  • Mae’n anghyfreithlon i awdurdod cyhoeddus weithredu mewn ffordd sy’n anghydnaws â hawliau’r Confensiwn (oni bai bod geiriad y ddeddfwriaeth sylfaenol yn golygu na allai weithredu’n wahanol, ac oni bai ei fod yn gweithredu yn y modd hwnnw er mwyn rhoi deddfwriaeth anghydnaws mewn grym).
Adran 1

Hawliau dynol yn y Gymru ôl-ddatganoledig

 Mae unrhyw ddarpariaeth yn Neddf y Cynulliad (neu Fesur Cynulliad) sy’n anghydnaws â hawliau’r Confensiwn y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu y byddai darpariaeth o’r fath yn annilys a heb rym (gweler adran 108(2) a'r cyfyngiad yn 108A(2)(e) o’r Government of Wales Act 2006).

Nid oes gan Weinidogion Cymru rym i wneud, cadarnhau neu gymeradwyo unrhyw is-ddeddfwriaeth, neu unrhyw ddeddf arall, cyhyd ag y bo’r ddeddfwriaeth neu’r ddeddf yn gydnaws ag unrhyw un o hawliau’r Confensiwn (gweler adran 81 o’r Government of Wales Act 2006). Ni ddylai Gweinidogion Cymru, felly, dorri hawliau’r Confensiwn wrth arfer unrhyw un o’u swyddogaethau.

Adran 2

Offerynnau Hawliau Dynol Rhyngwladol Eraill

Mae’r Deyrnas Unedig hefyd wedi cadarnhau nifer o offerynnau hawliau dynol rhyngwladol eraill. Maent yn cynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Artaith a Thriniaeth neu Gosb Greulon, Annynol neu Ddiraddiol arall a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (yr 'UNCRC').

Yng Nghymru, cafodd yr UNCRC ei gynnwys fel rhan annatod o gyfraith ddatganoledig Cymru trwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae’r Mesur hwn yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru, wrth weithredu eu swyddogaethau, roi sylw dyledus i ofynion Rhan 1 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, erthyglau 1 i 7 o’r Protocol Opsiynol i’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ar gynnwys plant mewn brwydrau arfog, ac eithrio erthygl 6(2), ac erthyglau 1 i 10 o’r  Protocol Opsiynol i’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ar werthu plant, puteinio plant a phornograffi plant. Ymhlith pethau eraill, mae hyn yn golygu y dylai Gweinidogion Cymru roi sylw i’r hawliau hyn wrth lunio’r Biliau y maent yn eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wrth lunio is-ddeddfwriaeth.

 

Mwy o erthyglau ynghylch Cyflwyniad i gyfraith hawliau dynol