Hanes integreiddio Ewropeaidd

Dechreuodd integreiddio Ewropeaidd gyda Chytuniad Paris 1952 a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd Glo a Dur. Gwnaeth hyn sefydlu marchnad gyffredin ar gyfer glo a dur yng Ngwlad Belg, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Lwcsembwrg a’r Iseldiroedd. Datblygiad wedi’i ysgogi’n rhannol gan yr angen i greu buddiannau economaidd cyffredin yn Ewrop oedd hwn, yn y gobaith y byddai’n osgoi rhyfel ar y cyfandir am y trydydd tro.

Bu ysgogiad gwleidyddol i integreiddio pellach yn sgil hyn, gan arwain at Gytuniadau yn sefydlu’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE) a Chymuned Ewropeaidd Ynni Atomig (Euratom) ym 1958.  Roedd y cydsyniad o farchnad gyffredin wrth wraidd cytuniad y CEE, gan gwmpasu diddymu tolldaliadau rhwng Aelod Wladwriaethau a symudiad rhydd nwyddau, gwasanaethau, pobl a chyfalaf o fewn y CEE. Arweiniodd hyn at gytuno ar nifer o bolisïau economaidd ar gyfer y CEE, gan gynnwys y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’r Polisi Trafnidiaeth Cyffredin.

Ymunodd y DU â’r CEE ym 1973. Ers hynny, mae cytuniadau sylfaenol yr undeb wedi newid yn aruthrol ac aelodaeth o’r UE wedi cynyddu. Arweiniodd Single European Act 1986 at gamau pellach tuag at ‘gwblhau’r farchnad fewnol’ (h.y. sicrhau mwy o integreiddio economaidd a chystadleuol rhwng yr Aelod Wladwriaethau) a chyflwyno meysydd newydd (fel polisi cymdeithasol a diogelu amgylcheddol) i gylch gwaith y Cymunedau Ewropeaidd.

Daeth rhagor o newidiadau yn sgil Cytuniad Maastricht 1991, gan gynnwys enw newydd yr Undeb Ewropeaidd, fframwaith cyfreithiol a gwleidyddol newydd a chyflwyno nifer o feysydd polisi newydd. Cafodd y cytuniadau blaenorol eu disodli gan Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd a oedd, ymhlith pethau eraill, yn darparu ar gyfer gweithredu Ewropeaidd ym meysydd polisi tramor a diogelwch, a chyfiawnder a materion cartref (plismona). Braenarodd y tir ar gyfer undeb ariannol Ewropeaidd hefyd, sefydlu Banc Canolog Ewrop a chreu’r Ewro fel arian cyfred Ewropeaidd sengl. Er i’r DU gadarnhau cytuniad Maastricht, penderfynodd optio allan o’r darpariaethau ar yr arian Ewropeaidd sengl a’r polisi cymdeithasol cyffredin.

Bu sawl rownd bellach o ddiwygiadau cytuniad ers Cytuniad Maastricht.  Cyflwynwyd newidiadau i strwythur a phrosesau sefydliadol yr UE ac mae meysydd polisi newydd wedi’u hychwanegu. Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi ehangu’n sylweddol, trwy nifer mwy o Aelod Wladwriaethau newydd. Daeth y newid mawr diwethaf i sail gyfansoddiadol yr UE, sef Cytuniad Lisbon, i rym yn 2009.

Mae dau brif gytuniad ar hyn o bryd (wedi’u diwygio gan Gytuniad Lisbon): Cytuniad yr Undeb Ewropeaidd (a lofnodwyd yn wreiddiol ym Maastricht ym 1992) a’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (llofnodwyd yn wreiddiol ym 1958 fel Cytuniad Sefydlu’r CEE).

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn