Natur cyfraith yr Undeb Ewropeaidd

Fel system gyfreithiol y DU, mae gan system gyfreithiol yr UE haenau gwahanol o ddeddfau.  Cytuniadau’r UE (a’r protocolau cysylltiedig) yw ei deddfwriaeth sylfaenol.  Mae’r cytuniadau a’r protocolau hynny y mae Aelod Wladwriaeth wedi ymrwymo iddynt yn uniongyrchol yn gymwys (nid i’w gymysgu ag ‘effaith uniongyrchol’ – gweler isod) fel cyfreithiau’r Aelod Wladwriaeth hwnnw. 

Mae’r cytuniadau yn creu pwerau i sefydliadau penodol yr UE wneud is-ddeddfwriaeth, ar ffurf Rheoliadau, Cyfarwyddebau a Phenderfyniadau. Mae Rheoliadau’r UE yn uniongyrchol gymwys fel cyfreithiau Aelod Wladwriaeth. Nid yw Cyfarwyddebau’r UE, ar y llaw arall, yn rhan awtomatig o gyfraith Aelod Wladwriaeth (nid ydynt yn uniongyrchol gymwys), ond mae’n rhaid ymrwymo iddynt o ran cyflawni'r canlyniad gofynnol.  Aelod Wladwriaethau sy'n penderfynu sut dylid gweithredu Cyfarwyddebau o fewn cyfraith ddomestig. Mae Penderfyniadau’r UE yn gyfreithiol rwymol, ond dim ond i’r partïon y maent wedi’u cyfeirio atynt.

Hyd yn oed os yw cyfraith yr UE yn uniongyrchol gymwys mewn Aelod Wladwriaeth, nid yw hynny’n golygu o reidrwydd bod ganddi effaith uniongyrchol (h.y. ni fydd o reidrwydd yn creu hawliau y gellir eu gorfodi’n uniongyrchol gan ddinasyddion unigol – gweler yma). 

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn