Y tensiwn rhwng goruchafiaeth cyfraith yr UE a sofraniaeth barhaus senedd San Steffan

Mae'r cysyniad o sofraniaeth Seneddol wedi bod yn bwnc llosg cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn sgil refferendwm 2016 ar ymadael â'r UE a'r digwyddiadau dilynol.  

Mae ychydig o densiwn wedi bodoli erioed rhwng cysoni sofraniaeth Seneddol a goruchafiaeth cyfraith yr UE.  

Mae adran 2(1) o European Communities Act 1972 yn nodi ar hyn o bryd y dylai cyfreithiau’r UE gael effaith gyfreithiol yn y DU. Law yn llaw ag adran 2(4), mae hyn yn golygu bod dyletswydd ar Senedd y DU i beidio â deddfu mewn modd sy’n groes i gyfraith yr UE.

Mae athrawiaeth goruchafiaeth cyfraith yr UE yn golygu mai cyfraith yr UE sy’n cael y flaenoriaeth dros ddarpariaeth sy’n gwrthdaro mewn cyfraith genedlaethol (waeth pa gyfraith gafodd ei phasio’n gyntaf).  Felly, yn achos pwysig Simmenthal, dywedodd y Llys:

“…every national court must, in a case within its jurisdiction, apply [Union] law in its entirety and protect rights which the latter confers on individuals and must accordingly set aside any provision of national law which may conflict with it, whether prior or subsequent to the [Union] rule.” (Achos 106/77 Simmenthal II [1978] ECR 629, paragraff 21)


Cadarnhawyd yr egwyddor hon yn llysoedd y DU gan achos R v Secretary of State for Transport, ex parte Factortame (No. 2) [1990] 3 WLR 818 lle barnwyd:

“If the supremacy within the European Community of Community Law over the national law of member states was not always inherent in the EEC Treaty it was certainly well established in the jurisprudence of the Court of Justice long before the United Kingdom joined the Community. Thus, whatever limitation of its sovereignty Parliament accepted when it enacted the European Communities Act 1972 was entirely voluntary. Under the terms of the 1972 Act it has always been clear that it was the duty of a United Kingdom court, when delivering final judgment, to override any rule of national law found to be in conflict with any directly enforceable rule of Community law.”


Mae llysoedd y DU, felly, yn gorfod datgymhwyso cyfraith y DU os yw’n anghyson â chyfraith yr UE.

Yng nghyfraith achosion y mater hwn, un ymresymiad a fabwysiadwyd gan Lys Cyfiawnder Ewrop yw bod Aelod Wladwriaethau, wrth ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, wedi trosglwyddo rhai o’u hawliau a’u pwerau sofran i sefydliadau’r UE, gan roi’r gallu i’r sefydliadau hynny greu cyfraith sy’n rhwymo’r unigolion a’r Aelod Wladwriaethau fel ei gilydd.

Mae’n amlwg bod yna densiwn rhwng athrawiaeth goruchafiaeth cyfraith yr UE ar un llaw ac athrawiaeth sofraniaeth Seneddol ar y llaw arall.  Cred rhai sylwebyddion fod Senedd San Steffan i bob pwrpas wedi ildio rhai o’i phwerau sofran yn barhaol i Ewrop ers i’r DU ymuno â’r UE. Yn nhermau cyfansoddiadol, fodd bynnag, y Senedd sy'n parhau i fod yn sofran oherwydd gallai ddiddymu adran 2 o European Communities Act 1972, fel y mae wedi ei wneud yn adran 1 o'r European Union (Withdrawal) Act, a bydd effaith hwnnw'n dod i rym ar y "diwrnod ymadael". Yn y Ddeddf honno, diffinnir "diwrnod ymadael" fel y diwrnod pan na fydd cytuniadau'r UE yn gymwys i'r DU mwyach (gweler yma am ragor o wybodaeth).  Bydd cyfraith yr UE yn parhau i gael effaith yn y DU hyd oni y bydd y diddymiad hwnnw'n dod i rym, fel y disgrifir ar y dudalen hon.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn