Sut y defnyddir pŵer yn y DU

Y man cychwyn ar gyfer deall trefniadau cyfansoddiadol Cymru yw deall sut mae pŵer yn cael ei wahanu a'i rannu yn y DU. Yn hanesyddol roedd pob pŵer o eiddo’r wladwriaeth wedi’i freinio yn y Goron, yr athrawiaeth o hawl ddwyfol brenhinoedd gan ddarparu cyfreithlondeb brenhinol a gwleidyddol i reoli’n uniongyrchol trwy ewyllys Duw - y brenin yn sofran a chanddo awdurdod goruchaf a diderfyn.  Dros y canrifoedd, fodd bynnag, mae pŵer y brenin wedi’i wahanu, ei rannu, a’ i gyfyngu mewn nifer o ffyrdd.

Dechreuodd y broses hon yn fwyaf nodedig (mewn perthynas â Lloegr) gyda'r Magna Carta yn y 13eg ganrif oedd yn cyfyngu pŵer y brenin, a'r Bill of Rights yn 1688 a sefydlodd rai hawliau i Senedd Lloegr. Datblygiad y cysyniad o 'sofraniaeth Seneddol' oedd y mwyaf arwyddocaol.  Yn syml mae hyn yn golygu:

  • bod modd i Senedd y DU basio deddfau ynghylch unrhyw fater, 
  • na all unrhyw Senedd rwymo Senedd yn y dyfodol (mewn geiriau eraill, gall Senedd yn y dyfodol newid y gyfraith bob amser), ac
  • na all deddf a basiwyd gan Senedd y DU gael ei diddymu gan y llysoedd (gan nad oes cyfraith gyfansoddiadol 'uwch' y gellir barnu Deddf Seneddol yn ei herbyn).

Mae absenoldeb cyfansoddiad ysgrifenedig yn golygu hefyd nad oes unrhyw gyfyngiadau ar bŵer y Senedd nac unrhyw ofynion iddi weithredu mewn ffordd benodol. 

Mae Senedd y DU yn gwneud cyfreithiau drwy basio Deddfau Seneddol (a elwir hefyd yn ddeddfwriaeth sylfaenol). Yn ogystal â newid y ddeddf drwy’r Ddeddf ei hun, gall Deddf Seneddol roi pŵer i bobl eraill greu cyfraith neu newid y gyfraith.   Mae hyn yn cynnwys rhoi’r pŵer i'r deddfwrfeydd datganoledig (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon) i greu eu ffurf ei hunain o ddeddfwriaeth sylfaenol, a rhoi pŵer mwy cyfyngedig i Weinidogion wneud 'is-ddeddfwriaeth', gan amlaf trwy gyfrwng 'offeryn statudol'.

Er bod y cysyniad o sofraniaeth Seneddol yn berthnasol o hyd, mae llawer yn ystyried bod goruchafiaeth Senedd y DU naill ai’n gyfreithiol neu’n ymarferol wedi ei chyfyngu yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'r cyfyngiadau’n codi yn sgil ymrwymo i rwymedigaethau rhyngwladol (aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd a chydymffurfio â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol) a thrwy gydnabod ewyllys pobl cenhedloedd hanesyddol y DU (datganoli pŵer i ddeddfwrfeydd newydd).

Mae rhannu pŵer rhwng deddfwrfeydd yn y DU a rhoi pwerau gwneud deddfau a phwerau eraill i Weinidogion wedi arwain at ddatblygu mwy o rôl i'r llysoedd hefyd, sydd yn amlach bellach yn chwarae rhan yn y gwaith o ddyfarnu gan bwy y mae pŵer ac a yw'r pŵer wedi cael ei ddefnyddio'n gywir.  

Datganoli pŵer i Gymru

Sefydlodd y Government of Wales Act 2006 (GOWA 2006) Gynulliad Cenedlaethol cyfansoddiadol newydd i Gymru fel deddfwrfa gyflawn, a chorff gweithredol ar wahân a enwyd i ddechrau yn 'Llywodraeth Cynulliad Cymru' ac a newidiwyd yn ddiweddarach yn syml i 'Llywodraeth Cymru'. Yn arwyddocaol, rhoddodd y GOWA 2006 bŵer i’r Cynulliad Cenedlaethol basio ei ddeddfwriaeth sylfaenol ei hun – yn y lle cyntaf trwy 'Fesur y Cynulliad’ o dan system lle y rhoddwyd cymhwysedd cyfyngedig (naill ai drwy Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol neu drwy Ddeddf Seneddol) fesul Mesur – ac yn dilyn y refferendwm ar bwerau deddfu pellach yn 2011 trwy 'Ddeddfau'r Cynulliad' ar unrhyw fater arall a roddwyd gan Atodlen 7 y Ddeddf. 

Ers i Ddeddf Cymru 2017 ddod i rym, mae graddau cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu wedi’i ddiffinio yn adrannau 108A a 109 o GOWA 2006, ac yn Atodlenni 7A a 7B iddi, sydd, gyda’i gilydd, yn gosod paramedrau'r cymhwysedd deddfwriaethol drwy gyfeirio at yr hyn na all y Cynulliad Cenedlaethol ei wneud, h.y. drwy restru materion sydd wedi’u cadw yn ôl ar gyfer Senedd y DU.  Er bod athrawiaeth sofraniaeth Seneddol yn golygu y gall Senedd y DU hefyd ddeddfu ar faterion nad ydynt wedi’u cadw yn ôl ar ei gyfer (yn ogystal ag ar unrhyw beth arall), yn ôl confensiwn (y cyfeirir ato'n aml fel 'Confensiwn Sewel') ni fydd yn gwneud hynny fel arfer ac eithrio gyda chytundeb y Cynulliad Cenedlaethol. Cyflwynodd Deddf yr Alban 2016 a Deddf Cymru 2017 ddarpariaeth a oedd yn adlewyrchu'r confensiwn hwn yn y gyfraith, gan gyflwyno'r syniad o barhauster Senedd yr Alban a Llywodraeth yr Alban, a'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, yn ôl eu trefn. Er bod hyn yn awgrymu fod sofraniaeth Seneddol Senedd y DU wedi'i chyfyngu o ganlyniad i ddatganoli, cadarnhaodd y Goruchaf Lys yn achos Miller, nad oedd darpariaethau Sewel yn draddodadwy, ond bod darpariaethau Sewel, serch hyn, yn gonfensiwn cyfansoddiadol pwysig, sy'n chwarae "rhan sylfaenol yng ngweithrediad ein cyfansoddiad".
Yn debyg i Ddeddfau Seneddol, yn aml bydd Deddfau'r Cynulliad yn rhoi pwerau i Weinidogion i greu is-ddeddfwriaeth, gan amlaf drwy offeryn statudol. Yn aml mae Deddfau'r Cynulliad yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru (neu gyrff eraill) hefyd i gyhoeddi canllawiau neu godau ymarfer.  Nid yw 'cyfraith feddal' o'r fath yn rhwymo mewn cyfraith ond mae’n ofynnol i’r rhai y mae wedi ei chyfeirio atynt roi ystyriaeth iddi. 

Cyfraith Ewrop 

Mae Cyfraith Ewrop yn cael effaith ar bŵer y Senedd hefyd, yn ogystal ag ar bwerau Gweinidogion a'r deddfwrfeydd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.  Mae’r Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd (UE) ac mae cyfreithiau'r UE wedi’u hymgorffori yng nghyfraith y DU (gweler adran 2 yr European Communities Act 1972). 

Mae cyfraith achosion Llys Cyfiawnder Ewrop wedi sefydlu bod aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd yn golygu, lle ceir gwrthdaro rhwng cyfraith Ewrop a deddfau domestig a wneir yn y DU, cyfraith Ewrop sydd â’r gair olaf. Cafodd yr egwyddor hon ei chadarnhau gan lysoedd y DU  yn achos R v Secretary of State for Transport, ex parte Factortame (No. 2) [1990] 3 WLR 818, lle y dyfarnwyd:

“If the supremacy within the European Community of Community Law over the national law of member states was not always inherent in the EEC Treaty it was certainly well established in the jurisprudence of the Court of Justice long before the United Kingdom joined the Community. Thus, whatever limitation of its sovereignty Parliament accepted when it enacted the European Communities Act 1972 was entirely voluntary. Under the terms of the 1972 Act it has always been clear that it was the duty of a United Kingdom court, when delivering final judgment, to override any rule of national law found to be in conflict with any directly enforceable rule of Community law.”

Dim ond ar y meysydd hynny y mae'r gwahanol Aelod-wladwriaethau wedi cytuno eu bod yn dod o fewn cylch gwaith yr UE y gall sefydliadau’r UE (y Comisiwn Ewropeaidd, Cyngor Ewrop a Senedd Ewrop) ddeddfu. Felly, oni chyfeirir at faes polisi yn y Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd neu yn un o gytundebau amrywiol eraill yr UE, ni all yr UE ddeddfu arno.  Serch hynny, mae cwmpas  deddfau'r UE yn eang, yn cwmpasu meysydd fel materion economaidd, amaethyddiaeth, yr amgylchedd, ynni, cyflogaeth a chystadleuaeth. Mae rhai o gyfreithiau Ewrop yn berthnasol i’r DU yn awtomatig, gan gynnwys darpariaethau cytuniadau a Rheoliadau'r UE.

Nid yw cyfreithiau Ewropeaidd eraill (megis Cyfarwyddebau'r UE) yn gymwys yn awtomatig, ond mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar y DU i’w gweithredu arnynt mewn cyfraith ddomestig.

Yn rhinwedd adrannau 80 a 108A o'r Government of Wales Act 2006 rhaid i gyfreithiau a wneir yng Nghymru gydymffurfio â chyfraith Ewrop.

Ceir mwy o fanylion yma ar effaith Cyfraith Ewrop ar ein system cyfreithiol.

Hawliau dynol 

Rhoddodd yr Human Rights Act 1998 “further effect to rights and freedoms guaranteed under the European Convention on Human Rights” ac mae wedi cael dylanwad sylweddol ar gynnwys cyfraith y DU a’r dehongliad ohoni. Er nad oes gofyn i Senedd y DU ei hun wneud deddfau yn unol â hawliau’r confensiwn, mae’n rhaid i unrhyw Aelod Seneddol sy’n hyrwyddo mesur nad yw’n cydymffurfio wneud datganiad i'r perwyl hwnnw (sydd yn gyfyngiad ymarferol sylweddol ar ryddid y Senedd i ddeddfu fel y myn).

Yn rhinwedd adrannau 81 a 108a y Government of Wales Act 2006 rhaid i gyfreithiau a wneir yng Nghymru gydymffurfio â hawliau’r confensiwn.

Ceir mwy o wybodaeth am yr effaith y mae'r Human Rights Act 1998 yn ei gael ar ein system gyfreithiol yma.

Y llysoedd, y gyfraith gyffredin a chyfreithiau ecwiti

Mae gan y DU system gyfreithiol cyfraith gyffredin. Mae hyn yn golygu bod ganddi, yn ogystal â chyfraith statud (cyfreithiau a wnaed gan Seneddau a Chynulliadau'r DU), gorff o gyfraith sy'n esblygu dros amser wrth iddi gael ei ‘datgan’ gan farnwyr pan fyddant yn penderfynu achosion cyfreithiol yn y llysoedd.  Er mwyn darganfod beth yw'r gyfraith gyffredin ar fater, mae angen astudio’r dyfarniadau a wneir yn y llysoedd (y cyfeirir atynt gan amlaf fel cyfraith achosion).

Mae athrawiaeth cynsail yn helpu i gadw cyfraith gyffredin yn gymharol resymegol a rhagweladwy. O dan athrawiaeth cynsail, rhaid i farnwr ddilyn dyfarniadau cynharach ar yr un mater cyfreithiol gan amlaf. Ar ben hynny, mae gofyn i farnwr ddilyn dyfarniad cynharach a wnaed gan lys uwch na'r llys lle y mae ef neu hi yn eistedd.

Yn hanesyddol roedd edefyn ar wahân o gyfraith 'a wnaed gan farnwr', a elwir yn gyfraith ecwiti, a ddatblygwyd drwy gyfraith achosion hefyd. Fodd bynnag, nid yw'r gwahaniaeth rhwng cyfraith gyffredin a chyfreithiau ecwiti o arwyddocâd ymarferol heddiw yn aml, ac mae'r ddwy set o gyfreithiau yn cael eu gweinyddu ochr yn ochr â'i gilydd ac yn cael eu hystyried gyda’i gilydd fel cyfraith gyffredin y DU.

Nid oes llinell glir rhwng cyfraith gyffredin a chyfraith statud bob amser. Gall cyfraith statud fod yn ymwneud â mater lle nad oes cyfraith gyffredin. Ar y llaw arall, gall statud ddisodli'r gyfraith gyffredin mewn maes neu ategu neu amrywio'r gyfraith gyffredin (mewn geiriau eraill gall cyfraith statud a chyfraith gyffredin fod yn berthnasol mewn sefyllfa benodol).

Mae deddfwriaeth a wneir yng Nghymru naill ai'n ddeddfwriaeth sylfaenol neu’n is-ddeddfwriaeth. Nid oes corff unigryw o gyfraith gyffredin yng Nghymru. Mae hyn oherwydd bod Cymru a Lloegr yn un awdurdodaeth gyfreithiol, a phan fydd barnwyr yn datgan pwyntiau o gyfraith gyffredin, maent yn pennu’r gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn