Adeiladau Rhestredig

Mae adeiladau unigol o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn cael gwarchodaeth arbennig dan y Planning (Listed Buildings and Conservation Areas) Act 1990. Mae canllawiau yng Nghylchlythyrau’r Swyddfa Gymreig 61/96 a 1/98 yn ategol at y Ddeddf.

Mae adran 1 o Ddeddf 1990 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio rhestr o adeiladau sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Gwaith Arolygwyr adeiladau hanesyddol Cadw yw asesu strwythurau ar gyfer eu rhestru. Caiff eiddo ei restru mewn tri chategori: mae’r mwyafrif, o ddiddordeb arbennig, yng Ngradd II. Mae nifer llai o lawer o adeiladau arbennig o bwysig yn cael eu rhestru dan Radd II*. Mae adeiladau o ddiddordeb eithriadol (2 y cant o’r cyfanswm) yn y Gradd I uchaf.

Mae pob adeilad a godwyd cyn 1700, ac sy’n goroesi mewn cyflwr tebyg i’w gyflwr gwreiddiol, yn gymwys i’w restru, fel y mae’r rhan fwyaf o adeiladau sydd wedi’u dyddio rhwng 1700 a 1840. Rhwng 1840 a 1914, dim ond adeiladau o ansawdd a chymeriad pendant sy’n gymwys (yn enwedig rhai sy’n weithiau nodedig gan benseiri blaenllaw). Mae rhai adeiladau o rhwng 1914 a 1939, a nifer fechan o adeiladau o’r cyfnod wedi'r rhyfel, hefyd wedi eu rhestru. Mae adeilad o haeddiant, beth bynnag ei oedran, yn gymwys i’w ystyried ar gyfer ei warchod drwy ei restru.

Caiff adeiladau eu hasesu ar sail y meini prawf a osodir yng Nghylchlythyrau 61/96 a 1/98.  Cafodd yr egwyddorion sy’n sail i’r dewis eu llunio yn wreiddiol gan bwyllgor arbenigol o benseiri, hynafiaethwyr a haneswyr ac maent yn dal i gael eu dilyn heddiw, er bod y meini prawf yn cael eu hadolygu o bryd i’w gilydd. Dyma’r prif feini prawf:

  • Diddordeb pensaernïol: adeiladau sy’n bwysig i’r genedl oherwydd diddordeb eu cynllun pensaernïol, eu gwaith addurn a’u crefftwaith; hefyd enghreifftiau pwysig o fathau arbennig o adeiladau neu dechnegau adeiladu (er enghraifft, adeiladau sy’n dangos arloesedd neu ragoriaeth dechnolegol) a ffurfiau cynllun nodedig;
  • Diddordeb hanesyddol: adeiladau sy’n dangos agweddau pwysig ar hanes cymdeithasol, economaidd, diwylliannol neu filwrol y genedl;
  • Cysylltiadau hanesyddol gyda phobl neu ddigwyddiadau sy’n bwysig i Gymru;
  • Gwerth grŵp: yn enwedig pan mae’r adeiladau yn cynnwys undod pensaernïol neu hanesyddol pwysig neu’n enghraifft wych o gynllunio (er enghraifft, sgwâr, teras neu bentrefi model).

Awdurdodau cynllunio lleol sydd â chyfrifoldeb dros warchod adeiladau rhestredig yn y lle cyntaf. Fodd bynnag mae Cadw yn eu cefnogi wrth iddyn nhw gyflawni’r rôl honno, ac, mewn rhai achosion, yn gallu gweithredu i sicrhau bod adeiladau yn cael eu gwarchod.

Mae'r Listed Buildings Act 1990 yn gwahardd gwneud unrhyw waith (i’r tu allan na'r tu mewn) a fyddai’n effeithio ar gymeriad adeilad unwaith mae wedi ei restru os nad oes caniatâd adeilad rhestredig wedi ei gael gan yr awdurdod cynllunio priodol. Mae gwaith cynnal a chadw arferol neu atgyweirio tebyg am debyg fel arfer wedi ei eithrio rhag rheolaeth adeiladau rhestredig. Bydd yr awdurdod cynllunio perthnasol yn rhoi canllawiau ar gyfer unrhyw achos penodol os ymgynghorir â nhw cyn i unrhyw waith ddechrau.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn