Parciau a gerddi hanesyddol

 

Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 wedi diwygio’r Ancient Monuments and Archaeological Areas Act 1979 i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gasglu, cynnal a chyhoeddi 'cofrestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol'. Bydd tiroedd yn y categorïau canlynol yn gymwys i'w cynnwys os bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod o ddiddordeb hanesyddol arbennig:


a. parciau,
b. gerddi,
c. tirweddau addurnol a ddyluniwyd,
d. mannau hamdden, neu
e. diroedd eraill a ddyluniwyd.

Pan ddaw'r gofrestr statudol i rym yn 2019, bydd yn disodli'r gofrestr anstatudol bresennol, sef y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn gyntaf mewn chwe chyfrol sirol rhwng 1994 a 2002. Cyhoeddwyd cyfrol atodol yn 2007 ac mae bron i 400 o safleoedd wedi cael eu gosod ar y gofrestr anstatudol.

Gellir dod o hyd i'r meini prawf ar gyfer cofrestru parciau a gerddi hanesyddol yn Atodiad C i Nodyn Cyngor Technegol 24:Yr Amgylchedd Hanesyddol. Mae safleoedd cofrestredig yn dyddio o'r Oesoedd Canol i ddiwedd yr ugeinfed ganrif ac mae gan lawer nodweddion cyfnodau ac arddulliau gwahanol. Maent yn cael eu graddio fel adeiladau rhestredig:


Gradd I — parciau a gerddi o ansawdd eithriadol
Gradd II* — parciau a gerddi o ansawdd ardderchog
Gradd II — parciau a gerddi o ddiddordeb arbennig

Ni ddaw unrhyw gyfundrefn cydsyniad newydd gyda'r cofrestriad statudol. Bydd parciau a gerddi cofrestredig yn parhau i dderbyn diogelwch drwy'r system gynllunio fel y nodir yn y ddogfen Polisi Cynllunio Cymru.

Ar ôl i'r gofrestr statudol ddod i rym, bydd pob cofnod cofrestr — yn cynnwys map o'r safle a disgrifiad byr — yn cael ei gyhoeddi ar Cof Cymru, sef adnodd ar-lein Cadw ar gyfer asedau hanesyddol cenedlaethol.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn