Skip to main content

Rheoli cymorthdaliadau

Mae'r adran isod yn rhoi cefndir i'r gyfundrefn rheoli cymhorthdal a ddisodlodd drefn Cymorth Gwladwriaethol yr UE yn y DU ar 1 Ionawr 2021. Ar ôl i'r DU dynnu'n ôl o'r UE ar 31 Ionawr 2020, aeth y DU i gyfnod gweithredu, lle parhaodd rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE i fod yn gymwys. Ar 1 Ionawr 2021, dirymwyd rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE yn y DU. Mae'r DU bellach wedi'i rhwymo gan y rheolau rheoli cymhorthdal, y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng yr UE a'r DU (TCA), Protocol Gogledd Iwerddon a Chytundebau Masnach Rydd eraill sydd wedi'u gwneud rhwng gwledydd y DU a gwledydd y tu allan i'r UE.

Fel gyda rheolau cymorth gwladwriaethol blaenorol yr UE, bwriad y gyfundrefn rheoli cymhorthdal newydd yw rheoleiddio cymorthdaliadau ac atal awdurdodau cyhoeddus rhag ystumio'r marchnadoedd, drwy ffafrio busnesau penodol yn ddetholus, neu sectorau neu ardaloedd penodol.

Er bod gwaharddiad sylfaenol ar ddarparu cymhorthdal gan awdurdodau cyhoeddus, yn ymarferol, gellir rhoi cymorthdaliadau ar gyfer nifer eang o weithgareddau, er enghraifft:

  • cymorth i greu swyddi a buddsoddi cyfalaf;
  • cymorth i fusnesau bach a chanolig;
  • cymorth ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi;
  • cymorth hyfforddi; a
  • cymorth i ddiogelu'r amgylchedd.

Er y gallai awdurdodau cyhoeddus, o'r blaen, ofyn am arweiniad ar gyfreithlondeb cymorth gan y Comisiwn Ewropeaidd, nid yw hyn yn bosibl mwyach. Erbyn hyn, mae'n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus hunanasesu cydymffurfiaeth â rheolau rheoli cymorthdaliadau, ond gallai hyn fod yn agored i'w herio.

Nid yw'r rheolau rheoli cymhorthdal yn gwahardd awdurdodau cyhoeddus rhag buddsoddi arian cyhoeddus ar delerau a fyddai'n dderbyniol i fuddsoddwr marchnad (yr enwau o'r blaen Egwyddor Gweithredwyr Economi'r Farchnad).

Ar 12 Chwefror 2021, lansiodd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) ymgynghoriad ar ei chynigion ar gyfer cyfundrefn rheoli cymhorthdal bwrpasol ledled y DU, gan gynnwys sefydlu corff annibynnol i oruchwylio'r gyfundrefn. Bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth bellach yn y maes hwn gan fod rheolaeth cymhorthdal bellach wedi'i chadw i Senedd y DU.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
18 Mehefin 2021