Datblygu economaidd

Mae gan Weinidogion Cymru amrediad o swyddogaethau a phwerau sy'n eu galluogi i hyrwyddo a datblygu gwaith datblygu economaidd yng Nghymru, gan gynnwys y gallu i hyrwyddo cystadleurwydd Cymru ar lwyfan y byd.

Yn yr un modd â llawer o feysydd eraill y gyfraith, caiff datblygu economaidd ei lywodraethu'n rhannol gan gyfraith yr UE, er enghraifft drwy’r rheolau yn ymwneud â chymorth gwladwriaethol a chaffael. Mae gwaith sylweddol wedi'i wneud i sicrhau bod yna lyfr statud cwbl weithredol ar gael ar ôl i'r DU ymadael â'r UE os na chaiff bargen ei tharo. 

O ran yr hyn y bydd yn ei olygu i’r rheolau cymorth gwladwriaethol a chaffael, tra bo’r DU yn parhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys yn ystod unrhyw gyfnod pontio os bydd bargen yn cael ei tharo, rhaid i Weinidogion Cymru ddefnyddio eu pwerau i gynnal busnes neu i gynorthwyo busnesau mewn modd sy'n cydymffurfio â chyfraith yr Undeb Ewropeaidd (yn rhinwedd adran 80 o Government of Wales Act 2006).  Pan fydd y DU yn ymadael â’r UE, naill ai heb fargen neu, os bydd bargen yn cael ei tharo, ar ôl unrhyw gyfnod gweithredu cytunedig, bydd y prif reolau yn ymwneud â chymorth gwladwriaethol a chaffael yn debygol o aros yr un peth, felly bydd angen cydymffurfio â nhw o hyd.

Mae llawer o Gymru, yn bennaf yr ardal a gaiff ei hadnabod fel 'Gorllewin Cymru a'r Cymoedd', yn 'ardal a gynorthwyir'. Mae hyn yn golygu ei bod yn is na chyfartaledd yr UE o ran ei heconomi a'i ffyniant. O ganlyniad, mae Cymru yn derbyn cyllid hael gan Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd. Caiff y cyllid hwn ei ddosbarthu gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ("WEFO"), braich o Lywodraeth Cymru, drwy amrywiaeth o raglenni gweithredol. Bydd prosiectau yng Nghymru sydd wedi cael cadarnhad o gyllid drwy Gronfeydd Strwythurol yr UE yn ystod y rhaglen gyfredol ar gyfer 2014–2020 yn parhau i gael eu hariannu dros gyfnod y rhaglen honno, naill ai drwy'r Cronfeydd Strwythurol hynny neu gan Lywodraeth y DU (mae'r olaf wedi'i warantu  hyd yn oed os na fydd bargen yn cael ei tharo). 

Mae nifer o feysydd o fewn datblygu economaidd sydd wedi eu cadw yn ôl o hyd ac felly mae'r rhain yn faterion nad oes gan y Cynulliad Cenedlaethol bŵer i ddeddfu arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys polisïau cyllidol ac ariannol (ac eithrio trethi datganoledig), ansolfedd, arferion gwrth-gystadleuol a diogelu defnyddwyr.

Gwnaeth Wales Act 2014 a Wales Act 2017 ddatganoli rhai pwerau trethu a benthyca i Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, yn galluogi cyflwyno Treth Gwarediadau Tirlenwi a Treth Trafodiadau Tir.  Yn ogystal, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i gynnig cyfraddau treth incwm Cymru, a rhaid i'r rhain gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad cyn eu rhoi ar waith. 

O dan y pwerau benthyca sydd wedi'u cynnwys yn adran 121 o GOWA 2006, gall Gweinidogion Cymru fenthyg y canlynol gan yr Ysgrifennydd Gwladol:


(a) unrhyw symiau y maent yn credu sydd eu hangen arnynt at ddibenion talu gormodedd dros dro o symiau a dalwyd allan o Gronfa Gyfunol Cymru dros y symiau a dalwyd i mewn i'r Gronfa honno, 

(b) unrhyw symiau y maent yn credu sydd eu hangen arnynt at ddibenion darparu cydbwysedd gweithio yng Nghronfa Gyfunol Cymru, ac 

(c) unrhyw symiau sydd, yn unol â rheolau a bennir gan y Trysorlys, eu hangen gan Weinidogion Cymru i dalu'r gwariant cyfredol oherwydd diffyg taliadau trethi datganoledig, neu ddiffyg taliadau treth incwm a godwyd yn rhinwedd cynnig a basiwyd gan y Cynulliad ar gyfer cyfraddau Cymru, yn erbyn y taliadau a ragwelwyd.

Yn ogystal, gall Gweinidogion Cymru, gyda chymeradwyaeth y Trysorlys, fenthyg unrhyw symiau y maent yn credu sydd eu hangen arnynt at ddibenion talu gwariant cyfalaf ar ffurf benthyciad neu fondiau.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn