Rheolau ynghylch cymorth gwladwriaethol

Mae'r adran isod yn darparu'r cefndir ar gyfer y rheolau ar gyfer cymorth gwladwriaethol ac yn egluro sut mae'r rheolau'n berthnasol tra bo’r DU yn parhau i fod yn aelod o'r UE. Fodd bynnag, os bydd y DU yn ymadael â'r UE heb fargen, bydd rhai newidiadau'n cael eu gwneud i'r rheolau i adlewyrchu hyn. Caiff hyn ei egluro'n fanwl isod.

Mae’r rheolau ar gyfer cymorth gwladwriaethol yn rhan hanfodol o'r cyfreithiau sy'n hwyluso'r gwaith o greu a datblygu marchnad fewnol ('sengl') yr UE. Mae Erthygl 107(1) o'r Treaty on the Functioning of the European Union (TFEU) yn nodi'r canlynol:

"Save as otherwise provided in this Treaty, any aid granted by a Member State or through State resources in any form whatsoever which distorts or threatens to distort competition by favouring certain undertakings or the production of certain goods shall, insofar as it affects trade between Member States, be incompatible with the common market."

Nod y rheolau ar gyfer cymorth gwladwriaethol yw rheoleiddio cymorthdaliadau ac atal awdurdodau cyhoeddus rhag gwyrdroi'r marchnadoedd, drwy ddewis busnesau penodol, neu sectorau neu feysydd penodol, a ffafrir. Er y gosodir gwaharddiad sylfaenol ar awdurdodau cyhoeddus rhag darparu cymorth gwladwriaethol, cred y Comisiwn Ewropeaidd y gellir caniatáu mathau penodol o gymorth gan eu bod yn cyd-fynd â'r farchnad gyffredin. Mae gan y Comisiwn hefyd ddisgresiwn eang (o dan Erthygl 107(3) o’r TFEU) i gymeradwyo cymorth gwladwriaethol mewn amgylchiadau penodol (er enghraifft, i hyrwyddo datblygiad economaidd ardaloedd penodol neu i hwyluso datblygiad gweithgareddau economaidd penodol neu ardaloedd economaidd penodol, lle y ceir ychydig iawn o effaith ar fasnach o fewn yr UE). Nid yw’r rheolau ar gyfer cymorth gwladwriaethol yn gwahardd awdurdodau cyhoeddus rhag buddsoddi arian cyhoeddus ar delerau a fyddai'n dderbyniol i fuddsoddwr yn y farchnad (yr hyn a elwir yn Egwyddor Gweithredwr Economi'r Farchnad). Mae gwybodaeth helaeth am y rheolau ar gyfer cymorth gwladwriaethol ar wefan  y Comisiwn Ewropeaidd.


Yn ymarferol, gellir cynnig cymorth gwladwriaethol ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau, er enghraifft:

  • cymorth i greu swyddi a buddsoddiadau cyfalaf; 
  • cymorth i fusnesau bach a chanolig;
  • cymorth ar gyfer gwaith ymchwil, datblygiad ac arloesedd; 
  • cymorth ar gyfer hyfforddiant; a
  • chymorth i warchod yr amgylchedd.


Os bydd y Comisiwn yn credu bod unrhyw gymorth gwladwriaethol wedi'i roi yn anghyfreithlon, gall orchymyn i'r cyllid gael ei ad-dalu gydag adlog. 


Y rheolau ar gyfer cymorth gwladwriaethol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE 


Tra bo’r DU yn parhau i fod yn aelod o'r UE, mae Gweinidogion Cymru yn parhau i fod yn rhwymedig i’r rheolau ar gyfer cymorth gwladwriaethol yn rhinwedd adran 80 o Government of Wales Act 2006.

Os ceir "Brexit heb fargen", bydd European Union (Withdrawal) Act 2018  yn cadw’r rheolau presennol ar gyfer Cymorth Gwladwriaethol Ewropeaidd, ac yn eu gwneud yn rhan o ddeddfwriaeth ddomestig. Yn ogystal, bydd State Aid (EU Exit) Regulations 2019  (a fydd yn dod i rym ar y diwrnod ymadael) yn unioni unrhyw ddiffygion a ddaw yn sgil cyflwyno trefn yr UE i gyfraith ddomestig. Yn fyr, mae hyn yn golygu, er na fydd prif reolau'r drefn yn newid, y bydd y rheoliadau yn gwneud cywiriadau i'r rheolau er mwyn sicrhau bod y darpariaethau'n parhau i fod mewn grym ar ôl y diwrnod ymadael. Y newid mwyaf fydd yn cael ei effeithio gan y Rheoliadau fydd trosglwyddo swyddogaethau o'r Comisiwn Ewropeaidd, fel rheoleiddiwr y rheolau ar gyfer cymorth gwladwriaethol, i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (yr CMA). Bydd y sefydliad hwn yn cymryd swyddogaethau'r Comisiwn Ewropeaidd drosodd, gan gynnwys y gwaith o dderbyn, archwilio a chymeradwyo hysbysiadau cymorth, ymchwilio i gymorth anghyfreithlon posibl, a monitro'r cymorth a roddir gan awdurdodau cyhoeddus yn y DU. 

Os bydd bargen yn cael ei tharo rhwng y DU a'r UE, cymerir yn ganiataol y bydd cyfnod gweithredu ac, yn ystod y cyfnod hwn, y bydd y rheolau ar gyfer cymorth gwladwriaethol fel y maent yn gweithredu ar hyn o bryd, gyda'r Comisiwn Ewropeaidd fel rheoleiddiwr, yn parhau. Yn dilyn y cyfnod gweithredu hwn, er mai’r tebygrwydd yw y bydd trefn cymorth gwladwriaethol ddomestig ar waith, ni wyddys ar hyn o bryd sut olwg fydd ar hon. 

4. Caffael 

Mae caffael yn ymwneud â phrynu nwyddau a gwasanaethau gan y llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill. Nod y rheolau caffael yw sicrhau bod marchnad gaffael gyhoeddus yr UE yn agored ac yn gystadleuol a bod cyflenwyr yn cael eu trin yn gyfartal a theg. Yng Nghymru a Lloegr, daw'r rheolau caffael o Gyfarwyddebau'r UE sydd wedi'u gweithredu drwy reoliadau, yn nodedig Public Contracts Regulations 2015 . Mae gan yr Alban ei threfniadau a rheoliadau ei hun, sef Public Contracts (Scotland) Regulations 2015. Mae'r Rheoliadau yn nodi'r fframwaith deddfwriaethol sy'n rheoli sut caiff nwyddau a gwasanaethau eu prynu gan gyrff cyhoeddus, a elwir yn awdurdodau contractio (“Contracting Authorities”) yn y Rheoliadau. 

Mae Llywodraeth y DU wedi llunio rheoliadau  (sy'n dod i rym ar y diwrnod ymadael), gan ddefnyddio pwerau o dan European Union (Withdrawal) Act 2018, sy'n cywiro diffygion er mwyn sicrhau y bydd Public Contracts Regulations 2015 yn parhau i weithredu'n effeithiol pan fydd y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Felly, bydd y fframwaith a'r egwyddorion sydd wrth wraidd y drefn gaffael yn parhau i fod yr un fath ar y cyfan. Mae'r newidiadau yn gyfyngedig i'r rhai hynny sy'n briodol i adlewyrchu statws newydd y DU y tu allan i'r UE. Bydd y rhain yn dod i rym ar unwaith os na chaiff bargen ei tharo.
Os bydd bargen yn cael ei tharo rhwng y DU a'r UE, cymerir yn ganiataol y bydd cyfnod gweithredu ac, yn ystod y cyfnod hwn, y bydd y rheolau caffael fel y maent yn gweithredu ar hyn o bryd yn parhau. Yn dilyn y cyfnod gweithredu hwn, er y bydd rheolau caffael yn debygol o fod ar waith, ni wyddys ar hyn o bryd sut olwg fydd ar y rhain. 

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn