Beth sydd wedi ei ddatganoli?

Mae Atodlen 7A i’r Government of Wales Act 2006 yn amlinellu'r materion y gall dim ond Senedd y DU ddeddfu arnynt. Mae deddfwriaeth sy'n ymwneud ag unrhyw fater na chedwir yn ôl gan Atodlen 7A yn cael ei datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dyma'r prif gymalau cadw a amlinellir yn Atodlen 7A sy'n ymwneud â chynllunio :-

  • pwnc Rhannau 2 ac 8 o'r Planning Act 2008 mewn perthynas â dosbarthiadau penodol o ddatblygu, llinellau uwchben a rheilffyrdd penodol;  
  • iawndal ar gyfer prynu tir yn orfodol; 
  • rheoleiddio’r gwaith o gynllunio a chodi adeiladau mewn perthynas â gwaith gan y Goron ac ymgymerwyr statudol.


 

Adran 1

Craidd deddfwriaeth sylfaenol sy'n ymwneud â chyfraith cynllunio yng Nghymru

Mae craidd deddfwriaeth sylfaenol sy'n ymwneud â chyfraith cynllunio yng Nghymru i'w weld yn y Deddfau canlynol gan Senedd y DU:

Town and Country Planning Act 1990 (TCPA 1990)

Ers 1 Gorffennaf 1948, yn gyffredinol bu angen caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu a newidiadau sylweddol i ddefnydd tir. TCPA 1990 yw'r trydydd cydgrynhoad o ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chaniatâd cynllunio ers y dyddiad hwnnw.

Mae'r TCPA 1990 yn gwneud darpariaethau, ymysg pethau eraill, ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol; rheoli gwaith datblygu yn cynnwys apeliadau a "galw i mewn" ceisiadau a wnaed i awdurdodau cynllunio lleol i'w pennu gan Weinidogion Cymru; gorfodi; rheolaethau arbennig mewn perthynas â choed ac arddangos hysbysebion; caffael tir at ddibenion cynllunio; ac mewn perthynas â phriffyrdd.

Planning (Listed Buildings and Conservation Areas) Act 1990

Cydgrynhodd The Planning (Listed Buildings and Conservation Areas) Act 1990 ddarpariaethau yn y Town and Country Planning Act 1971 mewn perthynas ag adeiladau rhestredig ac ardaloedd cadwraeth ac mae'n darparu cod annibynnol ar gyfer gwarchod y dreftadaeth bensaernïol. Mae'n clymu'n agos â'r TCPA 1990 ac mae rhai o'i darpariaethau fel y maent yn ymwneud ag adeiladau rhestredig.

Mae Rhan 1 yn ymwneud â'r broses o restru adeiladau; cael caniatâd adeilad rhestredig; hawliau perchnogion i gael iawndal ac i gyflwyno hysbysiadau pwrcasu; gorfodi rheolaeth adeiladau rhestredig ac atal dirywiad a difrod i adeiladau rhestredig.

Mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud hi'n drosedd i “execute or cause to be executed any works for the demolition of a listed building or for its alteration or extension in any manner which would affect its character as a building of special architectural or historic interest, unless the works are authorised”. Awdurdodi gwaith yw 'caniatâd adeilad rhestredig'.

Mae Rhan 2 yn ymwneud ag ardaloedd cadwraeth, yn cynnwys eu dynodi a'u heffaith, a rheoli dymchwel a datblygu yn yr ardaloedd hynny.

Mae darpariaethau ar gyfer ceisiadau, apeliadau a galw i mewn, yn debyg i'r rhai yn y TCPA 1990.

Planning (Hazardous Substances) Act 1990

Mae'r Planning (Hazardous Substances) Act 1990 yn darparu bod presenoldeb unrhyw sylweddau peryglus ar, dros neu o dan dir, a hynny'n uwch na meintiau rheoledig, yn ei gwneud yn ofynnol i gael caniatâd gan yr awdurdod sylweddau peryglus perthnasol. Mae'r drefn ar wahân ar gyfer rheoli sylweddau peryglus yn seiliedig ar weithdrefnau cynllunio sydd yn TCPA 1990 a chaiff ei gweinyddu gan awdurdodau cynllunio lleol.

Mae darpariaethau ar gyfer ceisiadau, apeliadau a galw i mewn, yn debyg i'r rhai yn y TCPA 1990.

Planning and Compulsory Purchase Act 2004

Torrodd y Planning and Compulsory Purchase Act 2004 dir newydd drwy gynnwys Rhan sy'n berthnasol i Gymru yn unig. Mae Rhan 6 yn darparu ar gyfer Cynllun Gofodol Cymru a chynlluniau datblygu lleol ac mae'n sail i'r hyn a ddisgrifir fel y system sy'n dilyn y cynllun yng Nghymru. Nid yw mewn grym yn llawn mewn perthynas â Chymru.

Planning Act 2008

Mae'r Planning Act 2008 yn ymwneud yn bennaf â chaniatâd datblygu ar gyfer prosiectau isadeiledd sy'n arwyddocaol yn genedlaethol ac mae ganddi gymhwysiad mwy cyfyngedig yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr ardoll seilwaith cymunedol sy'n berthnasol yng Nghymru ac yn Lloegr.  Yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n ymarfer swyddogaethau mewn perthynas â'r ardoll seilwaith cymunedol.

Mae gan Weinidogion Cymru y grym i wneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru yn gyfwerth â gwahanol ddarpariaethau i Loegr yn unig. Mae hyn yn ymarferadwy drwy orchymyn.

Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn cryfhau’r dull gweithredu ‘trwy arweiniad cynllun’ o ran cynllunio yng Nghymru.

Mae Rhan 3 yn diwygio'r Planning and Compulsory Purchase Act 2004 a'i gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol i Gymru. Mae'n gwneud darpariaethau yn ymwneud ag ardaloedd cynllunio strategol a phaneli cynllunio strategol ac yn gosod gofyniad ar baneli cynllunio strategol i baratoi Cynlluniau Datblygu Strategol. Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn disodli Cynllun Gofodol Cymru.  

Mae Rhan 4 yn diwygio'r TCPA 1990 i gyflwyno proses ymgynghori cyn gwneud cais ar gyfer mathau penodol o geisiadau ac yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n gofyn i awdurdodau cynllunio lleol ddarparu gwasanaethau cyn gwneud cais.

Mae Rhan 5 yn diwygio'r TCPA 1990 i gyflwyno gofyniad bod ceisiadau am Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i Weinidogion Cymru yn hytrach na'r awdurdod cynllunio lleol ac mae'n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud penderfyniadau ynghylch cydsyniadau eilaidd sy'n gysylltiedig â chais am DNS yn hytrach na'r person a fyddai'n gwneud y penderfyniad hwnnw fel arall.

Mae Rhan 6 yn diwygio'r TCPA 1990 i roi pŵer i awdurdodau cynllunio lleol i'w gwneud yn ofynnol i gyflwyno cais cynllunio ôl-weithredol. Rhoddir pŵer i awdurdodau cynllunio lleol gyflwyno hysbysiad gorfodi a gwrthod penderfynu ar gais cynllunio ôl-weithredol lle mae'r datblygiad yn destun hysbysiad gorfodi.

Mae Rhan 8 yn diwygio'r Commons Act 2006 i gyflwyno “digwyddiadau sbarduno” sy'n atal cofrestru Meysydd Tref a Phentref oni bai, a hyd nes i ddigwyddiad terfynu ddigwydd. Mae'r prif ddigwyddiadau sbarduno yn cynnwys lle y rhoddir caniatâd cynllunio ar gyfer cais a lle y mae tir wedi cael ei ddyrannu ar gyfer ei ddatblygu mewn cynllun datblygu. Yn ogystal, mae gan berchnogion tir bwerau i wneud datganiad yn terfynu defnyddio ‘hawl’ dros dir.

Adran 2

Prif is-ddeddfwriaeth

Yn ogystal â'r ddeddfwriaeth sylfaenol s'yn ymdrin â chynllunio mae is-ddeddfwriaeth helaeth wedi'i gwneud dan y Deddfau hynny. Cyn datganoli grym i'r Cynulliad Cenedlaethol ym 1999, roedd llawer o'r is-ddeddfwriaeth hon yn cael ei gwneud ar sail Cymru a Lloegr. Mae rhai o'r offerynnau cyn-datganoli hyn mewn grym o hyd.

Mae'r Deddfau Cynllunio'n darparu ar gyfer cynnwys materion amrywiol neu ddarparu ar eu cyfer mewn gorchmynion datblygu.

Dyma'r prif orchmynion datblygu at ddibenion y TCPA 1990:

The Town and Country Planning (Use Classes) Order 1987 (SI 1987/764)

Mae'r Town and Country Planning (Use Classes) Order 1987 yn pennu nifer o ddosbarthiadau defnyddio tir ar lefel gymharol uchel. Nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd o fewn yr un dosbarth. Nid yw'r Gorchymyn yn holl-gynhwysol ac nid yw pob defnydd yn dod o fewn dosbarth penodol.  Mae defnydd sy'n cynnwys sylweddau peryglus wedi'i eithrio.

The Town and Country Planning (General Permitted Development) Order 1995 (SI1995/418)

Mae'r Town and Country Planning (General Permitted Development) Order 1995 yn caniatáu cynllunio datblygiadau a ddisgrifir yn benodol. Rhoddir caniatâd ar gyfer y datblygiad a ddisgrifir ym mhob dosbarth yn amodol ar eithriadau ac amodau.

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (SI 2012/801) (W.110)

Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 yn pennu’r gweithdrefnau a'r manylion technegol ar gyfer gweinyddu'r system gynllunio, yn cynnwys gwneud a phenderfynu ar geisiadau cynllunio; ymgynghori; apeliadau; gorchmynion datblygu lleol; tystysgrifau defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon; a chynnal cofrestri o geisiadau cynllunio.


Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 (SI 2016/53) (W.23)

Mae Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 yn gosod y meini prawf ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol (DNS). Dylid cyflwyno ceisiadau am ganiatâd cynllunio ar gyfer DNS i Weinidogion Cymru. Mae'r rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth i ganiatâd gael ei ystyried gan Weinidogion Cymru ochr yn ochr â chais a wnaed i Weinidogion Cymru am ganiatâd cynllunio ar gyfer DNS.

Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2016 (SI 2016/54) (W.24)

Mae'r Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2016 yn rhagnodi'r adrannau perthnasol o TCPA 1990 sy'n berthnasol i'r broses DNS.

Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 (SI 2016/55) (W.25)

Mae'r Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y dull y dylai Gweinidogion Cymru ymdrin â chaniatâd cynllunio ar gyfer DNS.

Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 (SI 2016/56) (W.26)

  • Mae Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016  yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau cyn gwneud cais gan awdurdodau cynllunio lleol a Gweinidogion Cymru; rhagnodi swyddogaethau mewn perthynas â cheisiadau a chydsyniadau eilaidd o'r fath sy'n cael eu cyflawni gan berson penodedig ar ran Gweinidogion Cymru; gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn i'w dilyn wrth archwilio ceisiadau ar gyfer DNS; ac yn amlinellu sut yr ymdrinnir â cheisiadau am gydsyniadau eilaidd gan Weinidogion Cymru.

Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016 (SI 2016/57) (W.27)

Mae Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016 yn gwneud darpariaeth ynghylch talu ffioedd am wasanaethau cyn gwneud cais a ddarperir gan Weinidogion Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol ac amgylchiadau ble y caiff ffioedd eu had-dalu i ymgeiswyr. 

Adran 3

Datganoli grym gweithredol

Darparodd The Government of Wales Act 1998 ar gyfer trosglwyddo gwahanol swyddogaethau oddi wrth weinidogion llywodraeth y DU i’r Cynulliad Cenedlaethol (fel yr oedd wedi'i gyfansoddi ar y pryd).

Cafodd y rhan fwyaf o swyddogaethau'r TCPA 1990, ond nid y cyfan, eu trosglwyddo gan y National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999 (SI 1999/672). 

Cafodd y swyddogaethau hynny eu trosglwyddo'n ddiweddarach oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol i Weinidogion Cymru gan y Government of Wales Act (GOWA 2006). Gweinidogion Cymru sydd bellach yn ymarfer y mwyafrif o bwerau gweithredol ac is-ddeddfwriaethol mewn perthynas â chynllunio gwlad a thref yng Nghymru.

Trosglwyddwyd swyddogaethau pellach o dan TCPA 1990 a'r Planning Act 2008 i Weinidogion Cymru gan Welsh Ministers (Transfer of Functions) Order 2018 (SI 2018/644). 

O ganlyniad i drosglwyddo swyddogaethau, dylai statudau a ddeddfwyd cyn GOWA 2006 ddod i rym (ym mis Mai 2007) gael eu darllen gyda gofal. Bydd cyfeiriadau at yr 'Ysgrifennydd Gwladol' bellach yn golygu 'Gweinidogion Cymru' yn y rhan fwyaf o achosion, ond nid ym mhob un, yn eu cymhwysiad mewn perthynas â Chymru. Lle cafodd swyddogaethau eu trosglwyddo'n benodol i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn Deddfau gan Senedd y DU a basiwyd rhwng 1999 a 2007, dylai'r pwerau gael eu hystyried fel rhai sy'n ymarferadwy gan 'Weinidogion Cymru' i raddau helaeth.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn