Tir Comin

Tir Comin

Mae adran 22 (1) o’r Commons Registration Act 1965 yn diffinio “Common land” (tir comin) fel a ganlyn: land subject to rights of common, whether exercisable at all times or only during limited periods, and waste land of a manor not subject to rights of common, but does not include a town or village green or any land forming part of a highway.

Tir sy'n eiddo i un grŵp y mae gan grŵp arall hawliau penodol drosto, er enghraifft yr hawl i bori gwartheg yw tir comin Nid yw tir comin yn eiddo i'r cyhoedd, fodd bynnag gall fod â hawl tramwy gyhoeddus neu gall y cyhoedd ei ddefnyddio.

Mae’r Countryside and Rights of Way Act 2000 yn estyn hawliau tramwy cyhoeddus i'r holl dir comin cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i grwydro ac yn caniatáu ar gyfer gweithgareddau megis cerdded, ymweld, gwylio adar a dringo. Nid yw'n caniatáu ar gyfer beicio neu farchogaeth ceffylau, gyrru cerbydau, gwersylla a nifer o weithgareddau eraill a allai ddifrodi'r tir comin a'i lystyfiant neu amharu ar dda byw neu fywyd gwyllt. Mewn rhai amgylchiadau, gall pobl y mae'n rhaid iddynt yrru dros dir comin i gyrraedd eu heiddo fod â'r hawl i wneud hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori bod tirfeddianwyr yn gwirio pa hawliau tramwy cyhoeddus sy'n berthnasol i'w tir comin.


Tir Comin yng Nghymru

Mae oddeutu 8.5% o dir Cymru yn dir comin cofrestredig, gan wneud cyfanswm o oddeutu 175,000 hectar. Mae sawl ardal fach o dir comin yn ffinio ar ei gilydd, gan greu ardaloedd mawr o dir comin ledled Cymru. Mae’n bosib bod gan y tiroedd comin bychain hyn berchnogion gwahanol a deiliaid hawliau gwahanol.

Mae llawer o’r tiroedd comin hyn yn bwysig ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru, gan ddarparu tir pori ar gyfer defaid a gwartheg. Hefyd, mae llawer o’r tiroedd comin yn bwysig oherwydd eu hatyniadau hamdden ac amgylcheddol. Mae rhai ohonynt mewn Parciau Cenedlaethol neu mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen arnynt.

Mae'r gyfraith mewn perthynas â thir comin yn cael ei llywodraethu'n bennaf gan y  Commons Act 2006.

The Commons Act 2006

Mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am weithredu Deddf 2006 yng Nghymru. Er nad yw Deddf 2006 yn cynnwys unrhyw ddarpariaethau ‘Cymru yn unig’ mae’n caniatáu i Weinidogion Cymru weithredu fel yr ‘awdurdod cenedlaethol priodol’ yng Nghymru.

Mae Deddf 2006 yn gwneud darpariaeth ynghylch cofrestru hawliau comin i gynnwys dadgofrestru a chyfnewid tir comin, sefydlu cynghorau tiroedd comin yn ogystal â darpariaethau eraill, gan gynnwys diwygiadau i’r Commons Act 1889. Yn bennaf, nid yw’r darpariaethau hyn eto mewn grym yng Nghymru.
Mae Deddf 2006 hefyd yn ymdrin ag ymgymryd â gwaith cyfyngedig ar dir comin. Yng Nghymru, heb gydsyniad Gweinidogion Cymru, rhaid i berson beidio â gwneud gwaith cyfyngedig penodol ar dir sy’n cael ei ddiffinio yn adran 38 (5) Deddf 2006. Mae Deddf 2006 yn nodi’r materion y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatâd ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer pwerau gorfodi lle y gwneir gwaith heb ganiatâd.

Awdurdodau Cofrestru Tir Comin

Roedd y Commons Registration Act 1965 yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor sir sefydlu Cofrestr o Dir Comin. Roedd hefyd yn ofynnol iddynt weinyddu’r broses o gofrestru’r tir comin a meysydd trefi a phentrefi a oedd yn ofynnol o dan Ddeddf 1965.

Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol presennol yng Nghymru yn Awdurdod Cofrestru Tir Comin, ac maent yn cadw’r Cofrestri a sefydlwyd o dan Ddeddf 1965. Maent yn cynnig cymorth a chyngor ar faterion sy’n gysylltiedig â thiroedd comin, a hwy yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y rhan fwyaf o ymholiadau ynghylch tir comin.

Ymhlith prif swyddogaethau’r Awdurdodau Cofrestru Tir Comin heddiw mae cofrestru meysydd trefi a phentrefi newydd; dileu tir comin o gofrestrau; cynnal chwiliadau o'r gofrestr; ymdrin â cheisiadau ar gyfer diwygio a chynnal a chadw'r cofrestrau i'w harchwilio gan y cyhoedd.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn