Parciau Cenedlaethol

Mae’r gyfraith ynghylch Parciau Cenedlaethol yn statudol a domestig; does dim cyfraith gan yr UE yn ymwneud â pharciau cenedlaethol fel y cyfryw, ond defnyddir cyfundrefn y parciau cenedlaethol i gyflawni amcanion yr UE mewn sawl maes amgylcheddol. Am drafodaeth ynghylch hanes a statws Parciau Cenedlaethol gweler  R. (on the application of Harris) v Broads Authority [2016] EWHC 799 (Admin); Times, May 9, 2016.

1. O dan yr Environment Act 1995 s.63, gall Gweinidogion Cymru sefydlu Awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol cyfredol neu newydd.

2. Mae’r egwyddorion i’w defnyddio wrth ddynodi ardaloedd o’r fath yn cael eu trafod yn Meyrick Estate Management Ltd v Secretary of State for the Environment, Food and Rural Affairs [2007] EWCA Civ 53; [2007] Env. L.R. 26.

3. Mae’r National Parks and Access to the Countryside Act 1949 yn rheoleiddio darpariaeth a dibenion Parciau Cenedlaethol.

4. Mae adran 4A  o’r National Parks and Access to the Countryside Act 1949  (fel y mewnosodwyd gan yr Environmental Protection Act 1990 Sch.8 para.1(4) a’i diwygio gan Natural Environment and Rural Communities Act 2006 a Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013/755 yn darparu ar gyfer Rhan II o Ddeddf 1949 i fod yn berthnasol i dir yng Nghymru fel y maent i dir yn Lloegr, ond gyda swyddogaethau wedi’u rhoi i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru (sef Cyfoeth Naturiol Cymru) yn hytrach na Natural England.

5. Mae adran 5 o Ddeddf 1949 yn dweud mai dibenion darpariaethau’r Parciau Cenedlaethol yw: "(a) of conserving and enhancing the natural beauty, wildlife and cultural heritage of the areas specified in the next following subsection; and (b) of promoting opportunities for the understanding and enjoyment of the special qualities of those areas by the public."

6. Mae adran 11A o Ddeddf 1949 a fewnosodwyd gan yr Environment Act 1995 s.62 yn ei gwneud hi’n ofynnol i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol "seek to foster the economic and social well-being of local communities within the National Park, but without incurring significant expenditure in doing so, and [to] co-operate with local authorities and public bodies whose functions include the promotion of economic or social development within the area of the National Park"; ac "if it appears that there is a conflict between those purposes, [to] attach greater weight to the purpose of conserving and enhancing the natural beauty, wildlife and cultural heritage of the area comprised in the National Park."

7. Ar hyn o bryd, mae yna dri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru – Eryri, Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog – a gyda’i gilydd, maen nhw’n cwmpasu 20 y cant o dir Cymru ac yn cynnwys tirweddau a chynefinoedd, pentrefi a safleoedd treftadaeth.

8. Cymdeithas o gadeiryddion a chynullyddion Awdurdodau Parciau Cenedlaethol y DU yw
National Parks UK. O fewn y system gyffredinol honno, mae Parciau Cenedlaethol Cymru yn ymdrin â materion penodol i Gymru. Mae’r aelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.

9. Mae gan awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol gyfres o bwerau a dyletswyddau cyffredinol sy’n ymwneud â rheoli eu hardaloedd hwy - Environment Act 1995 adrannau 65, 70 ac Atodlenni 8 and 9.

10. Disgwylir i awdurdod pob Parc Cenedlaethol baratoi Cynllun Rheoli bob pum mlynedd ar gyfer y Parc sy’n ffurfio’r polisi ar gyfer rheoli’r Parc perthnasol ac am gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â’r Parc hwnnw - adran 66.

11. Mae gan awdurdodau cynllunio lleol y grym i wneud is-ddeddfau mewn perthynas â thir Parc Cenedlaethol "for the preservation of order, for the prevention of damage to the land or waterway or anything thereon or therein, and for securing that persons resorting thereto will so behave themselves as to avoid undue interference with the enjoyment of the land or waterway by other persons" - adran 90 o Ddeddf 1949; am drafodaeth am hyd a lled y pŵer, gweler R. v Dyfed CC Ex p. Manson [1995] Env. L.R. 83.

Rheoli Parciau Cenedlaethol

Mae gan awdurdodau cynllunio lleol bŵer statudol mewn perthynas â Pharciau Cenedlaethol i wneud trefniadau er mwyn sicrhau bod cyfleusterau llety, bwyd a diod, gwersylla a pharcio ar gael - adran 12.

12. Hefyd, mae yna bŵer statudol arbennig yn ymwneud â gwella dyfrffyrdd at ddibenion hamdden - adran 13.

13. Mae llawer o dir Parciau Cenedlaethol yn eiddo i dirfeddianwyr preifat, gan gynnwys trigolion, ffermwyr ac ymddiriedolaethau elusennol (gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol). Gall Awdurdodau Parciau Cenedlaethol fod yn berchen ar rywfaint o’r tir yn eu Parciau. Mae gan Lywodraeth Cymru’r pŵer statudol i gaffael tir (anorfodol) mewn Parciau Cenedlaethol - adran 14. Yn gyffredinol, bydd y tir a gafaelwyd yn cael ei drosglwyddo wedyn i ymddiriedolaeth neu gorff arall i’w gynnal a’i gadw. Mae dyletswydd ar awdurdod Parc Cenedlaethol i hysbysu Asiantaeth yr Amgylchedd am unrhyw safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn eu hardal - Environment Act 1995 s.8.

Arian

Mae gan awdurdodau Parc Cenedlaethol bwerau i godi arian sy’n golygu y gallant godi ardoll ar awdurdodau lleol perthnasol. Mae National Park Authorities (Levies) (Wales) Regulations 1995/3019 yn darparu ar gyfer cyflwyno ardollau i awdurdodau bilio gan awdurdodau Parc Cenedlaethol ar gyfer Parciau Cenedlaethol yng Nghymru a sefydlwyd gan Ran 3 o National Park Authorities (Wales) Order 1995/2803, dan yr Environment Act 1995 s.71.

14. Mae Parciau Cenedlaethol yn gallu derbyn grantiau gan lywodraeth ganolog hefyd - Environment Act 1995 s.72. Gall yr Ysgrifennydd Gwladol roi grantiau i awdurdod Parc Cenedlaethol, ond cyn penderfynu ar symiau a dibenion y grantiau i awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru hawl statudol i fod yn ymgynghorai.

Cynllunio a’r Parciau Cenedlaethol

Awdurdod Parc Cenedlaethol yw’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer ei holl ardal - Planning and Compulsory Purchase Act 2004 s.37(5), Environment Act 1995 ss.68, 69, a’r Town and Country Planning Act 1990 s.4A. Ceir trafodaeth am effaith adran 4A yn R. v Northumberland National Park Authority Ex p. Secretary of State for Defence (1999) 77 P. & C.R. 120.

15. Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yw’r awdurdodau lleol at ddibenion amryw o ddarpariaethau statudol sy’n ymwneud â chynllunio - er enghraifft, mewn perthynas â gorchmynion caniatáu datblygiadau, gweler y Planning Act 2008 s.43(3)(g).

16. Mae tir Parc Cenedlaethol yn cael ei drin yn arbennig oherwydd nifer o faterion cynllunio dibenion cysylltiedig eraill – gweler, er enghraifft, y Town and Country Planning Act 1990 s.87(1)(a) lle nad yw tir Parc Cenedlaethol o bosib wedi’i gynnwys mewn ardal gynllunio symlach o reidrwydd; neu adran 147A sy’n darparu ar gyfer gweithredu Rhan VI, Pennod I o’r Ddeddf (hawliau perchnogion i brynu buddiannau – buddiannau a effeithir gan benderfyniadau cynllunio) mewn perthynas â Pharciau Cenedlaethol; neu adran 244A sy’n rhoi pwerau i awdurdodau Parciau Cenedlaethol gaffael tir yn orfodol gyda chaniatâd Gweinidogol.

17. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru hawl statudol i fod yn ymgynghorai mewn perthynas â chynlluniau i baratoi cynlluniau datblygu ar gyfer ardal sy’n cynnwys Parc Cenedlaethol neu ran ohono - National Parks and Access to the Countryside Act 1949 s.9.

18. Am benderfyniadau dangosol ar bolisïau cynllunio mewn Parc Cenedlaethol, gweler R. (on the application of Dixon) v Secretary of State for Communities and Local Government [2008] EWHC 573 (Admin); R. (on the Application of Mills-Owens) v First Secretary of State [2006] EWHC 252 (Admin); and Council for National Parks Ltd v Pembrokeshire Coast National Park Authority [2005] EWCA Civ 888; [2006] J.P.L. 415.

19. Rhaid i benderfyniadau cynllunio unigol sy’n ymwneud â Pharciau Cenedlaethol ystyried eu diben a’u natur, ond yn hytrach na dilyn unrhyw bolisi neu gynllun penodol yn gibddall, rhaid gwneud penderfyniad sy’n briodol i amgylchiadau pob achos, hyd yn oed os yw hynny’n golygu gwyro oddi wrth bolisi cyhoeddedig a heb ystyried a allai’r penderfyniad gael ei weld fel un sy’n creu cynsail - Dartmoor National Park Authority v Secretary of State for Transport, Local Government and the Regions [2003] EWHC 236 (Admin); [2003] 6 E.G. 145 (C.S.).

20. Am drafodaethau dangosol am oblygiadau cynllunio, gweler Baker v South Downs National Park Authority [2013] P.A.D. 3 a Searle v Secretary of State for Communities and Local Government [2012] EWHC 2269 (Admin); [2013] P.T.S.R. D4. Yn sicr, mae datblygiad yn bosibl mewn, neu yng nghyffiniau, Parc Cenedlaethol os nad yw’n cael effaith niweidiol: felly, er enghraifft, am ganiatâd cynllunio i godi tyrbin gwynt unigol ar dir amaethyddol ger Parc Cenedlaethol, gweler R. (on the application of Lancashire) v Northumberland CC [2013] EWHC 3850 (Admin).

 

 

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn