Allyriadau nwyon tŷ gwydr

Mae nwy tŷ gwydr yn nwy atmosfferig sy'n amsugno gwres ac sy'n cynhesu'r blaned. Y prif nwyon yw anwedd dŵr (H₂O), carbon deuocsid (CO2), methan (CH4), ocsid nitraidd (NO2), osôn (O3), clorofflworocarbonau a hydrofflworocarbonau. Carbon deuocsid yw nwy tŷ gwydr mwyaf cyffredin sy'n cael ei allyrru o ganlyniad i weithgarwch dynol. Gall nwyon tŷ gwydr gyda'i gilydd gael eu mynegi fel rhif unigol wrth ddefnyddio'r term “carbon deuocsid a'i gyfatebol” (CO2e).

Y Deyrnas Unedig

Mae'r DU, fel llofnodwr Protocol Kyoto, wedi derbyn targedau i leihau ei allyriadau nwyon tŷ gwydr. Gosododd Climate Change Act 2008 darged i leihau "cyfrif carbon net y DU" o 80% (o'i gymharu â llinell sylfaen lefelau'r 1990au) erbyn 2050. Mae'r cyfrif carbon net yn gweithredu fel cyfrif banc: allyriadau net y DU ydyw o nwyon tŷ gwydr sydd wedi'u targedu (ac eithrio allyriadau o hedfan a morgludiant rhyngwladol) gydag a heb unrhyw unedau carbon.

Mae gan unedau carbon nifer o ffurfiau gwahanol. Maent fel a ganlyn:

• Unedau swm a neilltuwyd (AAU) – mae'r rhain yn lwfansau o dan Brotocol Kyoto i allyrru nwyon tŷ gwydr. Gall unedau swm a neilltuwyd gael eu masnachu rhwng gweithredwyr rhyngwladol o dan Erthygl 17 o'r Protocol, fel bod gwlad sydd wedi mynd y tu hwnt i'w thargedau yn gallu prynu capasiti o wlad nad yw'n defnyddio ei swm llawn.  Y farchnad garbon berthnasol i'r DU yw Cynllun Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd.
• Unedau lleihau allyriadau ardystiedig (CER) – gellir cael y rhain o dan Erthygl 12 o'r Protocol, trwy noddi prosiect lleihau allyriadau mewn gwlad sy'n datblygu. Yn adnabyddus fel y Mecanwaith Datblygu Glân neu CDM, mae hwn yn gredyd y gellir ei gyfrif tuag at gwrdd â thargedau'r wlad ei hun. Yn ogystal, gellir ei fasnachu ar y farchnad garbon ryngwladol.
• Unedau lleihau allyriadau (ERU) – gellir cael y rhain o dan Erthygl 6 o'r Protocol, trwy gymryd rhan neu fuddsoddi mewn prosiect lleihau allyriadau mewn gwlad ddatblygedig. Yn adnabyddus fel Gweithredu ar y Cyd neu JI, mae hwn yn gredyd y gellir ei gyfrif tuag at gyflawni targedau'r wlad ei hun. Gellir ei fasnachu ar y farchnad garbon ryngwladol yn ogystal.
• Unedau dileu (RMU) – gellir cael gafael ar y rhain ar gyfer gweithgareddau defnydd tir, newid defnydd tir a choedwigaeth sy'n amsugno carbon deuocsid, fel ailgoedwigo. Gellir eu masnachu ar y farchnad garbon ryngwladol hefyd.

Mae rhoi terfyn ar swm allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cael ei adnabod fel gosod cyllideb garbon, ac fe'i gweithredir ar ran y DU bob pum mlynedd. Mae'r gyllideb garbon gyfredol, sy'n cwmpasu 2018–2022, wedi'i nodi yn Carbon Budgets Order 2009. Rhaid gosod amrediad targed datgarboneiddio (amrediad targed ar gyfer lefel y dwysedd carbon, h.y. swm y nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir fesul uned o'r trydan a gynhyrchir yn y DU) ochr yn ochr â'r gyllideb garbon ar gyfer 2028–2032.

Cymru

O dan Climate Change Act 2008, rhaid i Weinidogion Cymru adrodd ynghylch amcanion, gweithrediadau a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol Llywodraeth Cymru o ran effeithiau y newid yn yr hinsawdd.

Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 darged i leihau "cyfrif allyriadau net Cymru" o 80% (o'i gymharu â llinell sylfaen lefelau 1990 neu 1995) erbyn 2050. Mae'r Ddeddf hon hefyd yn gofyn bod targedau allyriadau interim yn cael eu gosod ar gyfer 2020, 2030 a 2040. Y targed lleihau interim arfaethedig ar gyfer 2020 yw 27%.

Mae cyfrif allyriadau net Cymru yn gweithredu yn yr un modd yn union â chyfrif carbon net y DU, ar wahân ei fod ond yn disgrifio allyriadau nwyon tŷ gwydr o ffynonellau oddi fewn Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys allyriadau o hedfan rhyngwladol neu forgludiant rhyngwladol y gellir eu priodoli i Gymru.

Mae cyfrif allyriadau net Cymru yn gweithredu'n wahanol i gyfrif carbon net y DU, o ran bod Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018 ond yn delio â chredydu unedau carbon i'r cyfrif. Mae debydu unedau carbon yn gweithredu ar sail masnachu, y mae'r DU ar y cyfan yn cymryd rhan ynddo o dan Gynllun Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd. Nid oes gan Gymru gynllun masnachu ar wahân. Mae cyfrif allyriadau Cymru yn disgrifio allyriadau nwyon tŷ gwydr o ffynonellau yng Nghymru yn unig, gan gynnwys allyriadau o hedfan rhyngwladol neu forgludiant rhyngwladol y gellir eu priodoli i Gymru. At ddibenion cyfrif allyriadau Cymru, diffinnir uned garbon fel uned lleihau allyriadau ardystiedig neu CER (a gafwyd o dan Erthygl 12 o Brotocol Kyoto).

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol bod cyllideb garbon ar gyfer Cymru yn cael ei gosod bob pum mlynedd. Mae cyllideb 2016–2020 wedi'i gosod ar gyfradd sydd 23% yn is na'r llinell sylfaen, ac mae cyllideb 2021–2025 ar gyfradd sydd 33% yn is na'r llinell sylfaen.

Deddfwriaeth allweddol

Deddfwriaeth sylfaenol allweddol y DU

• Climate Change Act 2008
• Energy Act 2013
• Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Deddfwriaeth sylfaenol allweddol Cymru

• Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Is-ddeddfwriaeth allweddol y DU

• Carbon Accounting Regulations 2009 (SI 2009/1257)
• Climate Change Act 2008 (2020 Target, Credit Limit and Definitions) Order 2009 (SI 2009/1258)
• Carbon Budgets Order 2009 (SI 2009/1259)
• Climate Change Act 2008 (Credit Limit) Order 2011 (SI 2011/1602)
• Carbon Budget Order 2011 (SI 2011/1603)
• Carbon Budget Order 2016 (SI 2016/785)
• Climate Change Act 2008 (Credit Limit) Order 2016 (SI 2016/786)
• Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1301)
• Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1303)

Is-ddeddfwriaeth allweddol Cymru

• Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1301)
• Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1303)
• Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2018  (O.S. 2018/1305)
• Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018  (O.S. 2018/1304)
• Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Morgludiant Rhyngwladol) (Cymru) 2018  (O.S. 2018/1302)

Deddfwriaeth allweddol yr UE

• Decision 406/2009 on the effort of Member States to reduce their greenhouse gas emissions to meet the Community's greenhouse gas emission reduction commitments up to 2020
• Directive 2009/30 as regards the specification of petrol, diesel and gas-oil and introducing a mechanism to monitor and reduce greenhouse gas emissions
• Regulation 2018/842 – Binding annual greenhouse gas emission reductions by Member States from 2021 to 2030 contributing to climate action to meet commitments under the Paris Agreement

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn