Beth sydd wedi ei ddatganoli?

Yn gyffredinol, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymhwysedd deddfwriaethol i basio deddfau mewn perthynas â physgodfeydd a physgota (yn unol ag adran 108 o, a pharagraff 1 o Atodlen 7 i'r, Government of Wales Act 2006 (GOWA 2006)).

Fodd bynnag, ni all ddeddfu mewn perthynas â'r meysydd canlynol a gedwir yn ôl, fel y nodir yn Atodlen 7A i’r Government of Wales Act 2006:

  • gweithdrefnau ar anifeiliaid byw at ddibenion gwyddonol neu addysgol;
  • cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol, gan gynnwys gweithgynhyrchu, awdurdodiadau i'w defnyddio a rheoleiddio prisiau;
  • gwahardd a rheoleiddio mewnforion ac allforion, ar wahân i'r canlynol—
    • gwahardd a rheoleiddio bwyd, planhigion ac anifeiliaid sy'n cael eu mewnforio a'u hallforio o Gymru yn ogystal â phethau cysylltiedig at y dibenion canlynol—
      e) gwarchod iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion, lles anifeiliaid neu'r amgylchedd, neu
      f) arsylwi neu weithredu rhwymedigaethau o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin, 
    • gwahardd a rheoleiddio bwydydd anifeiliaid, gwrteithiau neu blaladdwyr (neu bethau a gaiff eu trin yn rhinwedd deddfiad fel plaladdwyr) sy'n cael eu mewnforio a'u hallforio o Gymru at ddibenion gwarchod iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion neu'r amgylchedd.

(ni eithrir gwahardd a rheoleiddio at ddibenion gwarchod rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl, ac felly fe'u cedwir yn ôl.)

Adran 1

Pwerau gweithredol

Gall Gweinidogion Cymru arfer ystod eang o swyddogaethau mewn perthynas â physgodfeydd mewn perthynas â Chymru a pharth Cymru (gweler isod), gan gynnwys swyddogaethau sy’n eu galluogi i wneud is-ddeddfwriaeth.

Mae gan Weinidogion Cymru nifer fawr o swyddogaethau hefyd o dan yr is-ddeddfwriaeth sylweddol a wnaed o dan y Deddfau hynny (gan gynnwys gorchmynion, rheoliadau ac is-ddeddfau).

Ers 1 Ebrill 2010 mae Gweinidogion Cymru yn arfer swyddogaethau hefyd yn unol ag is-ddeddfau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru a Phwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru (i’r graddau yr oedd ei ranbarth o fewn Cymru). Cafodd yr is-ddeddfau a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgorau hynny (yn unol â’r pwerau a nodir yn y Sea Fisheries Regulation Act 1966 sydd wedi’i dirymu erbyn hyn) eu cadw ac erbyn hyn maent yn cael effaith fel pe baent wedi’u gwneud gan Weinidogion Cymru mewn offeryn statudol yn rhinwedd Erthygl 13 o, ac Atodlenni 3 a 4 i’r, Marine and Coastal Access Act 2009 (Commencement No. 1, Consequential, Transitional and Savings Provisions) (England and Wales) Order 2010 (SI 2010/630).

Mae gan Weinidogion Cymru swyddogaethau cymeradwyo hefyd mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth pysgodfeydd (megis is-ddeddfau, a wnaed yn unol â’r Water Resources Act 1991, a’r Net Limitation Orders, a wnaed yn unol ag adran 26 o’r Salmon and Freshwater Fisheries Act 1975) a wnaed gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae arfer swyddogaethau pysgodfeydd gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru’n cynnwys ystyried rhwymedigaethau amgylcheddol Gweinidogion Cymru yn aml hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys rhwymedigaethau’n unol â’r Wildlife and Countryside Act 1981, y Gyfarwyddeb Cynefinoedd (Cyfarwyddeb y Cyngor (92/43/EEC)) a’r Conservation of Habitats and Species Regulations 2010.

Trosglwyddo swyddogaethau

Cyn datganoli grym ym 1999, cafodd llawer o’r is-ddeddfwriaeth yn ymwneud â physgodfeydd yng Nghymru a pharth Cymru ei gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (neu ei ragflaenwyr). Mae rhywfaint o’r ddeddfwriaeth honno yn parhau i fod mewn grym. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol (yn unol â’r Deddfau a’r is-ddeddfwriaeth sylfaenol) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y cyfansoddwyd o dan y Government of Wales Act 1998) ym 1999. Y Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau cychwynnol (a mwyaf) oedd y National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999 (SI 1999/672), er bod nifer o drosglwyddiadau pellach (a llai) wedi bod ers hynny.

Roedd y trosglwyddiad gwreiddiol hwn yn cynnwys y rhan fwyaf o swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o ran gwneud is-ddeddfwriaeth o dan y ddeddfwriaeth allweddol ar bysgodfeydd a oedd yn bodoli ar y pryd ac, o ganlyniad, ers 1999 mae corff sylweddol o is-ddeddfwriaeth pysgodfeydd wedi’i wneud mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y’i cyfansoddwyd o dan Ddeddf 1998) ac, ers y Government of Wales Act 2006, gan Weinidogion Cymru.

Adran 2

Gweithredu cyfraith yr UE

Mewn perthynas â gweithredu gofynion pysgodfeydd Ewropeaidd, mae Gweinidogion Cymru wedi’u dynodi hefyd o dan adran 2(2) o’r European Communities Act 1972 i wneud is-ddeddfwriaeth er mwyn gweithredu rhwymedigaethau amrywiol gan yr UE yn ymwneud â’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (sy’n rhan o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin). Mae dynodiad cyfredol Gweinidogion Cymru mewn perthynas â’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (sy’n cynnwys y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin) wedi’i gynnwys yn yr European Communities (Designation) (No. 5) Order 2010 (SI 2010/2690). Mae nifer o gyfyngiadau pwysig yn berthnasol i’r dynodiad hwnnw, fodd bynnag, anaml y maent yn berthnasol i faterion pysgodfeydd. At ddibenion pysgodfeydd, mae dynodiad Gweinidogion Cymru yn berthnasol i Gymru a pharth Cymru (gweler isod).

Ers i’r Wales Act 2017 ddod i rym, mae gan Weinidogion Cymru ddynodiad cyffredinol o dan adran 58B o’r Government of Wales Act 2006. Effaith hyn yw bod Gweinidogion Cymru yn gyffredinol yn cael eu trin fel petaent wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o'r European Communities Act 1972, ar gyfer meysydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Mae sawl darn o is-ddeddfwriaeth sy’n gweithredu gofynion pysgodfeydd Ewropeaidd mewn perthynas â Chymru a pharth Cymru wedi’i wneud gan Weinidogion Cymru (yn unol â’r pwerau a ddisgrifir uchod) ac, yn bennaf mewn perthynas ag offerynnau a wnaed cyn 1999, gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â’i ddynodiad at ddibenion adran 2(2) o’r European Communities Act 1972 (a nodir yn yr European Communities (Designation) Order 1972 (SI 1972/1811)). Nodir y gall yr Ysgrifennydd Gwladol barhau i wneud deddfwriaeth yn unol â’i ddynodiad Polisi Amaethyddol Cyffredin mewn perthynas â Chymru a pharth Cymru gan nad yw dynodiad yr Ysgrifennydd yn gyfyngedig yn diriogaethol.

Nodir hefyd fod gan Weinidogion Cymru’r pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer gorfodi cyfyngiadau a rhwymedigaethau’r UE yn unol ag adran 30 o'r Fisheries Act 1981.

Adran 3

Parth Cymru

Pysgodfeydd yw un o’r ychydig feysydd lle gall Gweinidogion Cymru arfer pwerau y tu hwnt i ddyluniad daearyddol deddfwriaethol arferol yng Nghymru.  Mae’r diffiniad o 'Gymru' a gyflwynwyd gan y Government of Wales Act 1998 ac a ailadroddwyd yn y Government of Wales Act 2006 yn cynnwys ehangdir Cymru a’r 12 milltir forol gyntaf o fôr (sef y môr tiriogaethol). Fodd bynnag, mae terfynau pysgodfeydd Prydain (at ddibenion cyfredol) yn ymestyn at y llinell ganol yn y Môr Celtaidd a Môr Iwerddon. O ganlyniad i hyn daeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (a’i ragflaenwyr) yn gyfrifol am swyddogaethau pysgodfeydd mewn llain eang o ddŵr oddi ar arfordir Gorllewin Cymru, y tu hwnt i 12 milltir forol ond o fewn hanner Cymru o Fôr Iwerddon a’r Môr Celtaidd.

Er mwyn rheoli adnoddau pysgodfeydd yn well, gwnaeth adran 42 o’r Marine and Coastal Access Act 2009 nifer o ddiwygiadau i’r Government of Wales Act 2006 er mwyn cyflwyno’r cysyniad o 'barth Cymru' a sefydlodd y Welsh Zone (Boundaries and Transfer of Functions) Order 2010 (SI 2010/760) ffiniau 'parth Cymru' gan ddarparu ers mis Mawrth 2010 bod modd i Weinidogion Cymru gyflawni rhai swyddogaethau penodol sy’n gysylltiedig â physgota, pysgodfeydd ac iechyd pysgod mewn perthynas â’r parth. Mae parth Cymru’n cynnwys yr holl ardal o fôr o fewn Terfynau Pysgodfeydd Prydain a’r ffiniau a nodir yn y Gorchymyn hwnnw.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn