Ffioedd ar gyfer cyrsiau

Gellir ystyried mai Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 yw'r brif sail ar gyfer ‘rheoleiddio’ darpariaeth addysg uwch mewn perthynas â Chymru. Sefydlodd y Ddeddf honno fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer darparwyr addysg uwch yng Nghymru sydd â chynllun ffioedd a mynediad ar waith a gymeradwywyd gan CCAUC (‘sefydliadau a reoleiddir’). Ar hyn o bryd, mae adran 4(1) a (2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 yn darparu bod rhaid i gynllun ffioedd a mynediad nodi cyfnod y mae'n rhaid iddo fod mewn grym ynddo ac ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn hwy na dwy flynedd. Nid yw'r fframwaith rheoleiddio hwn yn dibynnu ar CCAUC yn darparu cymorth ariannol i'r darparwyr hynny o dan Ran 2 o Further and Higher Education Act 1992 neu Ran 3 o Education Act 2005.

Gall sefydliadau a reoleiddir osod eu ffioedd eu hunain, hyd at uchafswm a nodir yn y rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf 2015. Yn gyffredinol, ni fydd yr uchafswm ffi ond yn berthnasol i gyrsiau gradd gyntaf neu gyrsiau cywerth. Mae Rhan 2 o Ddeddf 2015 yn galluogi CCAUC i orfodi cydymffurfiaeth â'r ffioedd hynny. Mae Rhan 3 o Ddeddf 2015 hefyd yn galluogi CCAUC i asesu ansawdd yr addysg a ddarperir yng Nghymru gan sefydliadau a reoleiddir ac ar eu rhan, ac mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer cod rheoli ariannol a fydd yn berthnasol i'r sefydliadau hynny.

Ar hyn o bryd, mae'r rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Teaching and Higher Education Act 1998 yn mynnu bod cyrsiau addysg uwch a gynigir gan sefydliadau a reoleiddir yn cael eu dynodi'n awtomatig at ddibenion cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â ffioedd dysgu a chymorth cynhaliaeth.

Yn ogystal â hynny, mewn perthynas â dynodi cyrsiau addysg uwch at ddibenion ffioedd dysgu a chymorth cynhaliaeth, mae Rhan 2 o Teaching and Higher Education Act 1998 yn ymdrin â darpariaethau ariannol ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach. Yn benodol, mae adran 22 o Ddeddf 1998 yn rhoi swyddogaethau ar Weinidogion Cymru mewn perthynas â rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau addysg bellach a/neu addysg uwch.

Ar hyn o bryd, mae O.S. 2018/191 (Cy.42) a rheoliadau eraill a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i nodi y dylid trin cwrs addysg uwch fel cwrs dynodedig er gwaethaf y ffaith na fyddai'n gwrs dynodedig fel arall.

Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1496) yn rhagnodi'r uchafswm y gall sefydliad sydd â chynllun ffioedd a mynediad cymeradwy ar waith ei godi trwy ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau israddedig amser llawn. Yn gyffredinol, yr uchafswm a ragnodir at ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015 yw £9,000. Mae amrywiaethau yn y ffigur hwn ar gyfer cyrsiau penodol megis cyrsiau rhyngosod a chyrsiau hyfforddi athrawon cychwynnol.

Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1484) yn rhagnodi'r cyrsiau cymhwysol a'r bobl gymhwysol at ddibenion adran 5 o Ddeddf 2015, sy'n datgan bod rhaid i gynlluniau ffioedd a mynediad nodi terfynau ffioedd (neu ddarparu ar gyfer penderfynu arnynt) mewn perthynas â chyrsiau cymhwysol bob blwyddyn academaidd. Terfynau ffioedd yw'r uchafswm y bydd yn rhaid i unigolyn cymhwysol ei dalu i sefydliad er mwyn dilyn cwrs cymhwysol. Mae rhestr o ‘bersonau cymhwysol’ ar gael yn yr Atodlen i Reoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015. Yn fras iawn, ymhlith y categorïau o fyfyrwyr sy’n gallu manteisio ar ffioedd a reoleiddir yw pobl sydd wedi ymgartrefu yn y DU; ffoaduriaid; pobl y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel pobl ddiwladwriaeth i ddod i mewn neu i adael; gweithwyr yr European Economic Act (EEA); pobl sydd wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi ymarfer hawl i breswylio yn rhywle arall; a gwladolion yr UE. Nid yw pobl nad ydynt yn perthyn i’r categorïau hyn, er enghraifft myfyrwyr o’r tu allan i’r EEA, yn bersonau cymhwysol, felly ni allant fanteisio ar y darpariaethau ar gyfer terfynau ffioedd.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn