Addysg ôl 16 ac addysg bellach

Yn yr un modd â meysydd addysg eraill, mae cyfrifoldeb am gynllunio a darparu addysg bellach yng Nghymru wedi’i ddatganoli i raddau helaeth bellach. Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau eang i basio deddfwriaeth sylfaenol mewn perthynas ag addysg bellach o dan adran 108 o, ac Atodlen 7 i'r, Government of Wales Act 2006. Yn ogystal, mae’r rhan fwyaf o’r swyddogaethau gweithredol (llywodraethu) wedi’u trosglwyddo bellach i Weinidogion Cymru o ddwylo’r Ysgrifennydd Gwladol.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Weinidogion Cymru sy’n gwneud llawer o’r ddeddfwriaeth a wneir yn awr mewn perthynas ag addysg bellach yng Nghymru, ond mae llawer iawn o ddeddfwriaeth (Senedd y DU) sy’n bodoli eisoes (deddfwriaeth sylfaenol yn arbennig) sy’n berthnasol i Gymru a Lloegr . Mae rhannau o’r ddeddfwriaeth hon yn berthnasol mewn ffyrdd gwahanol yng Nghymru, ac o’r herwydd dylid eu darllen yn ofalus, yn enwedig lle mae pwerau gweithredol yn cael eu crybwyll. Mae’r rhan fwyaf o bwerau gweithredol yn ymwneud â Chymru wedi’u trosglwyddo i Weinidogion Cymru, ond gall fod cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol ar wyneb y ddeddfwriaeth o hyd.

Mae addysg ôl-16 neu addysg 'bellach' yn cwmpasu gwahanol fathau o addysg a hyfforddiant sy’n addas i bobl sydd dros oedran ysgol gorfodol. Canolbwyntir yn bennaf ar y rhai 16 i 18 oed ond gall unrhyw un dros oedran ysgol gorfodol fanteisio ar addysg bellach. Mewn rhai ffyrdd gellir ystyried bod addysg bellach yn llenwi’r bwlch rhwng addysg uwchradd (ysgol fel arfer) ac addysg uwch (prifysgol fel arfer) a gall helpu myfyrwyr sy’n symud o un i’r llall. Fodd bynnag, mae addysg yn cynnwys addysg a hyfforddiant galwedigaethol hefyd sy’n addas i’r rhai sy’n 16 oed neu’n hŷn ac felly gall gwmpasu amrywiaeth eang o gyrsiau.

Mae Rhan II o’r Learning and Skills Act 2000 (LSA 2000) yn gwneud darpariaeth benodol ar gyfer addysg bellach yng Nghymru ac yn egluro pwerau a dyletswyddau Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag addysg bellach. Nid oes rhaid i unigolion dros oedran ysgol gorfodol yng Nghymru ddilyn addysg neu hyfforddiant, ond mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ar gyfer addysg a hyfforddiant o’r fath ac i annog pobl i fanteisio arno.

Mae Gweinidogion Cymru (gyda chymorth awdurdodau lleol a sefydliadau llywodraethu ysgolion a sefydliadau addysg bellach) yn gyfrifol am ddyfeisio cwricwla lleol ar gyfer addysg bellach pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed. Gall gwahanol gwricwla gael eu dyfeisio ar gyfer gwahanol ardaloedd lleol ond mae’n rhaid i’r cyrsiau sy’n rhan o’r cwricwla berthyn i’r categorïau a restrir yn adran 33A o LSA 2000.

Gall addysg ôl-16 gael ei darparu mewn chweched dosbarth yn yr ysgol, ac os felly bydd yn perthyn i’r categori addysg uwchradd (ysgol) yn hytrach nag addysg bellach. Fodd bynnag, darperir addysg bellach yng Nghymru fel arfer mewn sefydliadau addysg bellach sydd naill ai’n gorfforaethau addysg bellach neu’n sefydliadau addysgol sy’n bodoli eisoes sydd wedi cael eu dynodi gan Weinidogion Cymru i ddod yn rhan o’r sector addysg bellach o dan y Further and Higher Education Act 1992 sy’n nodi’r darpariaethau sy’n ymwneud â sefydlu, diddymu, pwerau a chyfrifoldebau sefydliadau addysg bellach.

Nid yw’r gwahaniaeth rhwng addysg bellach ac addysg uwch yn gwbl glir bob amser gan y gall sefydliadau addysg bellach ddarparu addysg uwch a gall sefydliadau addysg uwch ddarparu addysg bellach.

Mewn perthynas â myfyrwyr o dan 19 oed, mae’n rhaid i sefydliadau addysg bellach weithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol yn eu hardal i wneud y defnydd mwyaf effeithiol posibl o adnoddau cyhoeddus wrth ddarparu addysg a hyfforddiant i’r myfyrwyr hynny, yn unol â Rhan I o Fesur Addysg (Cymru) 2011. Gall hyn olygu cydweithio â sefydliadau eraill i ddarparu cyrsiau ar ran ei gilydd neu weithio ar y cyd er mwyn sicrhau darpariaeth o gyrsiau.

Daw’r ddarpariaeth ariannol ar gyfer addysg ôl-16 yn uniongyrchol gan Weinidogion Cymru i sefydliadau a gall y cyllid hwn fod yn amodol ar delerau ac amodau a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 35 o LSA 2000. Er enghraifft, gall Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr addysg bellach godi ffioedd arm y cyrsiau a gynigir ganddynt.

Lle codir ffioedd ar gyfer addysg bellach efallai y bydd rhywfaint o gymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru. Darperir hyn ar sail weinyddol bellach yn hytrach na bod yn seiliedig ar gynllun statudol (fel yn flaenorol). Gellir darparu cyllid ar gyfer addysg bellach hefyd o dan adran 14 o’r Education Act 2002 (EA 2002) gyda thelerau ac amodau gan Weinidogion Cymru fel y gwelant yn briodol. Mae Adran 16 o EA 2002 yn arbennig yn caniatáu ar gyfer amodau lle mae angen ad-dalu cyllid neu i gymorth ariannol gael ei drosglwyddo i bobl eraill.

Mae darparwyr addysg bellach yn cael eu harolygu gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn), a benodir gan, ac sy’n atebol i Weinidogion Cymru. Cynhelir arolygiadau’n rheolaidd ac mae’n ofynnol i sefydliadau gydweithredu ag arolygiadau ac i weithredu ynghylch unrhyw faterion a godir gan yr arolygiad. Mae Rhan IV o LSA 2000 yn pennu’r fframwaith statudol ar gyfer arolygu addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru.

Caiff safon ac ansawdd addysg bellach ei fonitro’n ofalus gan Weinidogion Cymru. Fel cyllidwyr uniongyrchol addysg bellach, mae gan Weinidogion Cymru nifer o bwerau goruchwylio ac ymyrryd. Mae ganddynt bwerau i asesu’r ddarpariaeth addysg ôl-16 ac i fynnu bod sefydliadau addysg bellach yn cyhoeddi data sy’n ymwneud â’u perfformiad. O dan adran 57 o’r Further and Higher Education Act 1992, os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod sefydliad addysg bellach yn methu â chyflawni ei swyddogaethau yn briodol neu’n cael ei gamreoli, yna gallant ymyrryd i gael gwared ar aelodau o’r corff llywodraethu'r sefydliad a’u disodli neu, mewn achosion difrifol, ei gwneud yn ofynnol i’r sefydliad gael ei diddymu.

Gweler y prif statudau sy’n cynnwys darpariaethau sy’n berthnasol i addysg bellach yng Nghymru o dan 'ddeddfwriaeth allweddol'.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn