Sicrhau darpariaeth addysg ôl 16

Addysg ôl-16 neu addysg bellach yw:

“(a) full-time and part-time education suitable to the requirements of persons who are over compulsory school age, and
(b) organised leisure-time occupation provided in connection with the provision of such education, except that it does not include secondary education or …higher education.”
(Adran 2(3) yr Education Act 1996).

"Addysg uwchradd" (yn syml) yw addysg amser llawn addas i ofynion disgyblion rhwng 11 a 16 oed, neu addysg amser llawn addas i ofynion rhai 16 i 19 oed a ddarperir mewn ysgol.

Mae adran 8(3) o'r Education Act 1996 yn pennu bod rhywun yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol:

“at the end of the day which is the school leaving date for any calendar year—
(a) if he [or she] attains the age of 16 after that day but before the beginning of the school year next following,
(b) if he [or she] attains that age on that day, or
(c) (unless paragraph (a) applies) if that day is the school leaving date next following his [or her] attaining that age.”

Yn syml, felly, mae addysg bellach yn addysg amser llawn neu ran-amser addas i ofynion y rhai dros 16 oed nad yw’n cael ei darparu mewn ysgol ac nad yw’n gyfwerth ag addysg uwch (a ddarperir mewn prifysgolion).

Adran 1

Pwerau a dyletswyddau Gweinidogion Cymru

Yn adrannau 31 a 32 o'r Learning and Skills Act 2000 (LSA 2000) ceir darpariaeth bod  gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i sicrhau y darperir cyfleusterau priodol ar gyfer addysg a hyfforddiant myfyrwyr 16 i 18 oed, a dyletswydd i sicrhau cyfleusterau rhesymol ar gyfer addysg a hyfforddiant personau sy'n 19 oed neu'n hŷn. Nid yw addysg yn y cyd-destun hwn yn cynnwys addysg uwch ond mae’n cynnwys addysg amser llawn a rhan-amser. Gall hyfforddiant gynnwys hyfforddiant galwedigaethol, cymdeithasol, corfforol a hamdden.

Yn ychwanegol at eu dyletswydd i ddarparu cyfleusterau, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd annog unigolion i ddilyn addysg neu hyfforddiant ôl-16, ac mae'n rhaid iddynt annog cyflogwyr i gymryd rhan yn narpariaeth addysg a hyfforddiant ôl-16 ac i gyfrannu at gostau hynny.

Yn ogystal â’u cyfrifoldeb cyffredinol i ddarparu addysg ôl-16, gall Gweinidogion Cymru o dan adran 52 o'r Further and Higher Education Act 1992 ofyn i sefydliad addysg bellach ddarparu addysg i unigolion penodol a enwir.

Mae gan Weinidogion Cymru'r pŵer i ariannu addysg ôl-16 yng Nghymru o dan adran 34 o LSA 2000.  Yn y gorffennol defnyddiwyd y pwer hwn i benodi corff arall i ddarparu adnoddau, ond erbyn hyn mae Gweinidogion Cymru yn ariannu sefydliadau addysg bellach yn uniongyrchol. Yn adran 35 o LSA 2000 ceir darpariaeth sy’n golygu os yw Gweinidogion Cymru yn darparu adnoddau ariannol eu hunain mae modd iddyn nhw osod amodau. Gall y rhain gynnwys gofyniad i ganiatáu i Weinidogion Cymru gael mynediad at gyfrifon, dogfennau a chyfrifiaduron y darparwr a gall alluogi Gweinidogion Cymru i fynnu ad-daliad o’r symiau a dalwyd ganddynt i ddarparwyr addysg ôl-16. Gall yr amodau sy'n gysylltiedig â chyllid fynnu bod darparwyr addysg a hyfforddiant yn codi ffioedd neu’n adennill costau.

Er mwyn hyrwyddo eu dyletswydd i sicrhau darpariaeth addysg a hyfforddiant ôl-16,  gall Gweinidogion Cymru, o dan adran 36 o LSA 2000, roi grant i awdurdod lleol i ariannu dosbarthiadau chwech mewn ysgolion.

Mae gan Weinidogion Cymru hefyd bŵer cyffredinol i roi cymorth ariannol i berson mewn cysylltiad â darparu addysg yng Nghymru o dan adrannau 14 i 17 o'r Education Act 2002 (EA 2002). Gall y cymorth gael ei ddarparu’n uniongyrchol gan Weinidogion Cymru neu gan berson a ddirprwywyd i'r diben hwn gan Weinidogion Cymru o dan adran 17. Yn benodol, mae'r swyddogaeth yn cynnwys pŵer i ddarparu cymorth ariannol er mwyn galluogi person i ymgymryd â chwrs addysg a ddarperir gan sefydliad yn y sector addysg bellach. Gall y cymorth ariannol hwn gael ei roi ar ffurf grant, benthyciad, gwarant neu drwy daliad er budd y sawl a gynorthwyir a gall fod ar ba bynnag delerau ac amodau y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol. Gall yr amodau gynnwys gofyniad i ad-dalu’r cymorth, neu iddo gael ei drosglwyddo i bobl eraill.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan adran 123 o LSA 2000 ac adran 40 o'r Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 i gyfarwyddo awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu sefydliadau addysg bellach i ddarparu neu sicrhau y darperir gwasanaethau a fydd yn annog, yn galluogi neu'n cynorthwyo pobl ifanc (y rhai rhwng 11 a 25 oed) i gymryd rhan yn effeithiol mewn addysg neu hyfforddiant, manteisio ar gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth, neu gymryd rhan yn effeithiol ac yn gyfrifol ym mywyd eu cymunedau.

Gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan adran 136 o'r Education Act 2002 i wahardd person nad yw'n dal cymhwyster penodol neu wedi bodloni meini prawf penodol rhag darparu addysg mewn sefydliad addysg bellach. Y rheoliadau perthnasol cyfredol ar hyn o bryd yw'r Rheoliadau Personau sy'n Darparu Addysg mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru (Amodau) 2007 (O.S. 2007/2220).

Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn gosod dyletswydd benodol ar awdurdodau lleol i asesu anghenion teithio dysgwyr yn eu hardal, gan gynnwys myfyrwyr o dan 19 oed sy'n derbyn addysg bellach a ariennir yn gyhoeddus. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer o dan adran 7 o'r Mesur i osod rheoliadau sy’n gwneud darparu trefniadau teithio yn ofynnol (h.y. trefniadau i ddarparu cludiant i fyfyrwyr rhwng eu cartrefi a’u mannau astudio) ar gyfer myfyrwyr rhwng 16 a 18 oed, ond nid yw’r pŵer hwn wedi ei roi ar waith hyd yn hyn.

Adran 2

Pwerau awdurdodau lleol

Mae adrannau 15A a 15B o'r Education Act 1996 (EA 1996) yn nodi pŵer awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau y darperir ar gyfer eu hardal addysg amser llawn neu ran-amser addas i ofynion personau dros oedran ysgol gorfodol, gan gynnwys rhai 19 oed neu'n hŷn, ond heb gynnwys addysg uwch.

Mae hyn yn cynnwys y pŵer i sicrhau y darperir hyfforddiant, gan gynnwys hyfforddiant galwedigaethol, cymdeithasol, corfforol a hamdden yn ogystal â gweithgaredd amser hamdden wedi'i threfnu mewn cysylltiad â darpariaeth addysg neu hyfforddiant.

Wrth arfer y pŵer hwn rhaid i awdurdod lleol roi sylw yn benodol i anghenion pobl ag anawsterau dysgu.

Mae adran 508 o EA 1996 yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru ddarparu cyfleusterau ar gyfer hamdden a hyfforddiant cymdeithasol a chorfforol fel rhan o'r cyfleusterau ar gyfer addysg bellach a ddarperir yn eu hardal.  Er enghraifft, gall awdurdodau lleol sefydlu, cynnal a rheoli neu gynorthwyo i sefydlu, cynnal a rheoli gwersylloedd, dosbarthiadau gwyliau, caeau chwarae, canolfannau chwarae, meysydd chwarae, campfeydd a phyllau nofio.

Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 123 o'r Learning and Skills Act 2000 i ddarparu neu sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu a fydd yn annog, yn galluogi neu'n cynorthwyo pobl ifanc (y rhai 11 i 25 oed) i gymryd rhan yn effeithiol mewn addysg neu hyfforddiant, manteisio ar gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth, neu gymryd rhan yn effeithiol ac yn gyfrifol ym mywyd eu cymunedau.

Cyn cymryd camau i gydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 123, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â’r personau neu’r sefydliadau hynny y maent yn eu hystyried yn briodol, gan gynnwys y rhai a restrir yn adran 125 o LSA 2000.

Adran 3

Datblygu'r cwricwla

Mae adrannau 33A i 33Q o'r Learning and Skills Act 2000 (LSA 2000) (fel y'i diwygiwyd gan Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009) ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ffurfio ar gyfer pob ardal ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru un neu fwy o gwricwla lleol ar gyfer y rhai 16 i 18 oed. Rhaid i Awdurdodau Lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach yn ardal yr awdurdod lleol gynorthwyo Gweinidogion Cymru i gynllunio'r cwricwla lleol a fydd ar waith ganddynt.

Rhaid i bob cwricwlwm lleol gynnwys cyrsiau astudio y mae pob un ohonynt yn perthyn i un o’r categorïau a restrir yn adran 33A o LSA 2000 sef:

(a) mathemateg, gwyddoniaeth a thechnoleg;
(b) busnes, gweinyddu a'r gyfraith;
(c) gwasanaethau ar gyfer pobl;
(d) y celfyddydau, y cyfryngau, diwylliant ac ieithoedd;
(e) y dyniaethau, gwyddorau cymdeithasol a pharatoi ar gyfer bywyd a gwaith.

Wrth arfer eu swyddogaethau i lunio cwricwla lleol, mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd o dan adran 33B i hysbysu darpar fyfyrwyr bod cyrsiau astudio a ddysgir trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael a hyrwyddo mynediad iddynt.

Mae gan fyfyrwyr yr hawl i ddilyn cwrs astudio a gynhwysir yn y cwricwlwm sy’n berthnasol iddyn nhw ac mae’n rhaid i gorff llywodraethu'r ysgol neu’r sefydliad addysg bellach dan sylw sicrhau bod y cwrs ar gael i'r myfyrwyr. Rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a sefydliadau sicrhau bod y nifer mwyaf o gyrsiau ar gael yn y cwricwlwm lleol perthnasol a gallant weithio gyda'i gilydd a gwneud trefniadau gyda thrydydd parti er mwyn cyflawni hyn.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn