Cwricwlwm

Y cwricwlwm yw’r rhaglen astudio ar gyfer plant a phobl ifanc 3 i 19 oed mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
Dyletswydd gyffredinol

Mae’n ofynnol i’r cwricwlwm ar gyfer ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir fod yn gwricwlwm cytbwys ac eang sy’n:

• hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol disgyblion a chymdeithas; ac
• pharatoi’r disgyblion at gyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau yn ddiweddarach yn eu bywydau (adran 99 o'r Education Act 2002).

Disgwylir i Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol yng Nghymru, cyrff llywodraethu a phenaethiaid ysgolion a gynhelir neu ysgolion meithrin a gynhelir gyflawni eu swyddogaethau gyda’r nod o sicrhau bod pawb yn bodloni gofynion y cwricwlwm (adran 100 o'r Education Act 2002).

Swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran y cwricwlwm

Yn gyffredinol, dyma swyddogaethau Llywodraeth Cymru o ran y cwricwlwm:

• adolygu pob agwedd ar addysg ar gyfer ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir a phob agwedd ar arholiadau ac asesiadau ysgolion;
• cyhoeddi a lledaenu gwybodaeth am y cwricwlwm ar gyfer yr ysgolion hynny ac ar arholiadau ac asesiadau ysgolion; ac
• gwneud trefniadau gyda chyrff priodol i archwilio ansawdd asesiadau.

(Gweler adran 29(2) o'r Education Act 1997 – dylid cymryd 'Yr Ysgrifennydd Gwladol' i olygu 'Gweinidogion Cymru' yma.)
Hefyd, mae gan Weinidogion Cymru bwerau i wneud gorchmynion er mwyn dynodi am ba hyd y bydd y cyfnod sylfaen (gweler isod) yn berthnasol i ddisgyblion (adran 102 o'r Education Act 2002).

Y cwricwlwm sylfaenol

Mae’n ofynnol i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru fabwysiadu cwricwlwm sylfaenol. Mae Adran 101 o'r Education Act 2002 (EA 2002) yn darparu bod y cwricwlwm hwn yn gorfod cynnwys:

• addysg grefyddol (yn unol ag atodlen 19 o'r School Standards and Framework Act 1998) (ond nid ar gyfer dosbarthiadau meithrin mewn ysgolion cynradd, nag ysgolion arbennig a gynhelir).
• y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru, sef cwricwlwm ar gyfer disgyblion 3-16 oed;
• addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol;
• addysg gysylltiedig â gwaith ar gyfer disgyblion yn ystod cyfnodau allweddol tri a phedwar (14 i 16 oed);
• addysg ryw ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd neu arbennig sy’n derbyn addysg uwchradd;
• hawl i astudio cyrsiau penodol yng nghyfnod allweddol 4 ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd (adran 116E o EA 2002).

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i wneud gorchymyn sy’n ychwanegu gofynion pellach at gwricwlwm sylfaenol ysgolion a gynhelir, a newid oedran derbyn y Cwricwlwm Cenedlaethol neu newid yr oedran ysgol gorfodol o bosibl. Fodd bynnag, nid oes ganddynt ganiatâd i ychwanegu at ofynion addysg grefyddol neu addysg ryw (adran 101(3) o EA 2002).

Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru

Nodweddion allweddol y Cwricwlwm Cenedlaethol

Mae’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnwys ‘y Cyfnod Sylfaen’ yn ogystal â’r ‘Cyfnodau Allweddol’ (mae’r cyfnod sylfaen yn disodli cyfnod allweddol 1). Ar ôl cwblhau’r cyfnod sylfaen, mae’r disgyblion yn dilyn ‘rhaglenni astudio’ er mwyn bodloni ‘targedau cyrhaeddiad’ ar ddiwedd pob un o’r tri ‘Chyfnod Allweddol’, sy’n destun ‘trefniadau asesu’ (adrannau 101, 102, 103 o EA 2002). Dyma ystod oedran y tri chyfnod gwahanol yn fras:

• 3-7 oed – Cyfnod Sylfaen
• 7-11 oed – Cyfnod Allweddol 2
• 11-14 oed – Cyfnod Allweddol 3
• 14-16 oed – Cyfnod Allweddol 4

Y cyfnod sylfaen a’r cyfnodau allweddol

Mae’r Cyfnod Sylfaen yn berthnasol i blant mewn addysg feithrin a ariennir, o dair oed tan eu pen-blwydd yn saith oed (Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1996). Mae dogfen “Cwricwlwm Cymru: Fframwaith y Cyfnod Sylfaen”, a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Awst 2015, yn nodi’r pynciau y mae’n rhaid eu haddysgu iddynt a'r canlyniadau i'w cyflawni. Mae’n cynnwys pedwar cyfnod – cyfnod sylfaen, a Chyfnodau Allweddol 2, 3 a 4, sydd wedi’u diffinio mewn cysylltiad â phob disgybl trwy gyfeirio at oedran y rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth ar ddiwedd y flwyddyn ysgol (adran 103(1) o EA 2002).

Fodd bynnag, mae gan y pennaeth yr hawl i nodi, yn achos disgybl penodol a phwnc penodol, mai oedran y disgybl yn ystod y flwyddyn ysgol yn hytrach nag oedran mwyafrif y disgyblion yn y dosbarth, yw’r ffactor dylanwadol (adran 103(2) o EA 2002). Os nad oes unrhyw grŵp oedran ymhlith y mwyafrif, yna oedran pob disgybl fydd y ffactor dylanwadol (adran 103(3) o EA 2002).

Rhaid i gwricwlwm y cyfnod sylfaen nodi’r meysydd dysgu penodol (gweler y tabl isod) a gall ddynodi:

• y wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth y disgwylir i ddisgyblion o alluoedd ac aeddfedrwydd gwahanol eu cael erbyn diwedd y Cyfnod Sylfaen ('canlyniadau dymunol');
• y materion, y sgiliau a’r prosesau sy’n ofynnol eu haddysgu i ddisgyblion o alluoedd ac aeddfedrwydd gwahanol yn ystod y Cyfnod Sylfaen ('rhaglenni addysgol'); ac
• trefniadau asesu
• (adran 104 o EA 2002).

Rhaid i’r cwricwlwm ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3 gynnwys y pynciau craidd a phynciau sylfaenol eraill a nodwyd yn adran 105 o EA 2002 a dynodi targedau cyrhaeddiad, rhaglenni astudio a threfniadau asesu pob pwnc ym mhob cyfnod. Rhaid i’r cwricwlwm ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 gynnwys y pynciau craidd a sylfaenol, a nodi’r targedau, y rhaglenni astudio a’r trefniadau asesu sy’n ymwneud â phob un ohonynt (adran 106 o EA 2002).

Cyfnod Oedran Meysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen neu / pynciau craidd y Cyfnodau Allweddol Pynciau sylfaenol eraill
Cyfnod Sylfaen 3-7 datblygiad personol a chymdeithasol;
lles ac amrywiaeth ddiwylliannol; sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu; datblygiad mathemategol; datblygu’r Gymraeg; gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd; datblygiad corfforol; datblygiad creadigol (“Cwricwlwm Cymru: Fframwaith y Cyfnod Sylfaen”, Awst 2015, Gweinidogion Cymru). Amherthnasol
Cyfnod Allweddol 2 7-11 mathemateg; Saesneg; gwyddoniaeth; mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg; Cymraeg dylunio a thechnoleg; technoleg gwybodaeth a chyfathrebu; addysg gorfforol; hanes; daearyddiaeth; celf a dylunio; cerddoriaeth; Cymraeg os nad yw’n ysgol cyfrwng Cymraeg (adrannau 105(2)-(4) o EA 2002)
Cyfnod Allweddol 3 11-14 mathemateg; Saesneg; gwyddoniaeth; mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg; Cymraeg dylunio a thechnoleg; technoleg gwybodaeth a chyfathrebu; addysg gorfforol; hanes; daearyddiaeth; celf a dylunio; cerddoriaeth; Cymraeg os nad yw’n ysgol cyfrwng Cymraeg; iaith dramor fodern (adrannau 105(2)-(4) o EA 2002)
Cyfnod Allweddol 4 14-16 mathemateg; Saesneg; gwyddoniaeth; mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, Cymraeg Addysg gorfforol; Cymraeg, os nad yw’r ysgol yn un cyfrwng Cymraeg (adran 106 o EA 2002)

Sefydlu a gweithredu Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru

Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am sefydlu a chynnal Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru, ac mae ganddynt ddyletswydd hefyd i ddiwygio’r cwricwlwm os ystyrir bod hynny’n beth doeth i’w wneud (adran 108 o EA 2002). Mae Gweinidogion Cymru yn pennu targedau cyrhaeddiad, rhaglenni astudio a threfniadau asesu ar gyfer pob pwnc ym mhob Cyfnod Allweddol. Fodd bynnag, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a phenaethiaid sy’n gyfrifol am weithredu’r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn ysgolion. Mae’n ofynnol i’r Pennaeth sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei weithredu, tra bod disgwyl i’r awdurdod lleol a’r corff llywodraethu arfer eu swyddogaethau o ran sicrhau ei fod yn cael ei roi ar waith (adran 109 o EA 2002). Mae gofynion tebyg mewn grym ar gyfer addysg mewn ysgolion meithrin a gynhelir (adran 110 o EA 2002).

Eithriad o'r Cwricwlwm Cenedlaethol

Caniateir datgymhwyso neu addasu Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru:

• at ddibenion cynnal gwaith datblygu neu arbrofion, ac mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu na ddylid cyflwyno’r cwricwlwm neu y dylid ei addasu (adran 111 o EA 2002);
• os mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud rheoliadau am y sefyllfa dan adran 112 o EA 2002;
• os mae gan ddisgybl ddatganiad anghenion addysg arbennig (AAA) (adran 113 o EA 2002);
• os mae eithriad dros dro ar gyfer disgyblion unigol (adran 114(1) o EA 2002).

Hefyd, nid oes rhaid i rieni sy’n addysgu eu plentyn gartref ddilyn Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru. Mae gofyniad cyfreithiol arnynt, fodd bynnag, i sicrhau bod eu plentyn yn derbyn addysg llawn amser ddigonol sy’n addas i’w hoedran, eu gallu a’u doniau (adran 7 o EA 2002).

Cwricwlwm lleol

Mae dyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i ffurfio un neu fwy o gwricwla lleol ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 (adran 116A(1) o EA 2002). Rhaid i’r cwricwla lleol hyn gynnwys cyrsiau astudio addas y gellir eu galw’n 'feysydd dysgu' (adran 116A(2) o EA 2002). Y meysydd dysgu yw mathemateg, gwyddoniaeth a thechnoleg; busnes, gweinyddiaeth a’r gyfraith; gwasanaethau ar gyfer pobl; y celfyddydau, cyfryngau, diwylliant ac ieithoedd; y dyniaethau, gwyddorau cymdeithasol a pharatoi ar gyfer bywyd a gwaith (adran 116A (3) o EA 2002).

Mae gan Weinidogion Cymru'r pŵer, trwy orchymyn, i ddiwygio’r meysydd dysgu hyn (adran 116L o EA 2002).
Rhaid i awdurdodau lleol, wrth weithredu eu swyddogaethau mewn perthynas â’r cwricwlwm lleol, hyrwyddo’r cyfleoedd a’r cyrsiau sydd ar gael i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, a rhaid ystyried unrhyw ganllawiau a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i wneud hynny (adran 116B(1) a (2) o EA 2002). Mae gan ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir hawl i astudio cyrsiau cwricwlwm lleol yng Nghyfnod Allweddol 4, yn amodol ar reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru er mwyn dynodi uchafswm y cyrsiau astudio, lefel y pwyntiau a ddyfernir ac a ganiateir, a’r cyfnod lle gellir dewis gwneud y cyrsiau hyn (adran 116D o EA 2002). Fodd bynnag, yr ysgol sydd i benderfynu a ddylid cofrestru cwrs o’r fath neu caiff y pennaeth benderfynu a ddylid caniatáu i’r disgybl ddilyn y cwrs ai peidio (adran 116E(1) o EA 2002).

*Sylwch fod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori'n ddiweddar ar Bapur Gwyn  sy'n cynnwys eu cynigion mewn perthynas â chwricwlwm newydd y bydd angen deddfwriaeth sylfaenol newydd ar ei gyfer.

Adran 1

Y cwricwlwm sylfaenol

Mae’n ofynnol i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru fabwysiadu cwricwlwm sylfaenol. Mae Adran 101 o'r Education Act 2002 (EA 2002) yn darparu bod y cwricwlwm hwn yn gorfod cynnwys:

  • addysg grefyddol (yn unol âg atodlen 19 o'r School Standards and Framework Act 1998) (ond nid ar gyfer dosbarthiadau meithrin mewn ysgolion cynradd, nag ysgolion arbennig a gynhelir).
  • y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru, sef cwricwlwm ar gyfer disgyblion 3-16 oed;
  • addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol;
  • addysg gysylltiedig â gwaith ar gyfer disgyblion yn ystod cyfnodau allweddol tri a phedwar (14  i 16 oed);
  • addysg ryw ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd neu arbennig sy’n derbyn addysg uwchradd;
  • hawl i astudio cyrsiau penodol yng nghyfnod allweddol 4 ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd (adran 116E o EA 2002).

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i wneud gorchymyn sy’n ychwanegu gofynion pellach at gwricwlwm ysgolion a gynhelir, a newid oedran derbyn y Cwricwlwm Cenedlaethol neu newid yr oedran ysgol gorfodol o bosibl. Fodd bynnag, nid oes ganddynt ganiatâd i ychwanegu at ofynion addysg grefyddol neu addysg ryw (gadran 101(3) o EA 2002).

Adran 2

Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru

Nodweddion allweddol y Cwricwlwm Cenedlaethol

Mae’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnwys ‘y Cyfnod Sylfaen’ yn ogystal â’r ‘Cyfnodau Allweddol’ (mae’r cyfnod sylfaen yn disodli cyfnod allweddol 1). Ar ôl cwblhau’r cyfnod sylfaen, mae’r disgyblion yn dilyn ‘rhaglenni astudio’ er mwyn bodloni ‘targedau cyrhaeddiad’ ar ddiwedd pob un o’r tri ‘Chyfnod Allweddol’, sy’n destun ‘trefniadau asesu’ (adrannau 101, 102, 103 o EA 2002). Dyma ystod oedran y tri chyfnod gwahanol yn fras:

  • 3-7 oed – Cyfnod Sylfaen
  • 7-11 oed – Cyfnod Allweddol 2
  • 11-14 oed – Cyfnod Allweddol 3
  • 14-16 oed – Cyfnod Allweddol 4

Y cyfnod sylfaen a’r cyfnodau allweddol

Mae’r Cyfnod Sylfaen yn berthnasol i blant mewn addysg feithrin  a ariennir, o dair oed tan eu pen-blwydd yn saith oed (Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1996). Mae dogfen “Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru” a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2008 yn nodi’r meysydd sy’n rhaid eu haddysgu. Mae’n cynnwys pedwar cyfnod – cyfnod sylfaen, a Chyfnodau Allweddol 2, 3 a 4, sydd wedi’u diffinio mewn cysylltiad â phob disgybl trwy gyfeirio at oedran y rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth ar ddiwedd y flwyddyn ysgol (adran 103(1) o EA 2002).

Fodd bynnag, mae gan y pennaeth yr hawl i nodi, yn achos disgybl penodol a phwnc penodol, mai oedran y disgybl yn ystod y flwyddyn ysgol yn hytrach nag oedran mwyafrif y disgyblion yn y dosbarth, yw’r ffactor dylanwadol (adran 103(2) o EA 2002). Os nad oes unrhyw grŵp oedran ymhlith y mwyafrif, yna oedran pob disgybl fydd y ffactor dylanwadol (adran 103(3) o EA 2002).

Rhaid i gwricwlwm y cyfnod sylfaen nodi’r meysydd dysgu penodol (gweler y tabl isod) a gall  ddynodi:

  • y wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth y disgwylir i ddisgyblion o alluoedd ac aeddfedrwydd gwahanol eu cael erbyn diwedd y Cyfnod Sylfaen ('canlyniadau dymunol');
  • y materion, y sgiliau a’r prosesau sy’n ofynnol eu haddysgu i ddisgyblion o alluoedd ac aeddfedrwydd gwahanol yn ystod y Cyfnod Sylfaen ('rhaglenni addysgol'); 
  • trefniadau asesu
  • (adran 104 o EA 2002).

Rhaid i’r cwricwlwm ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3 gynnwys y pynciau craidd a phynciau sylfaenol eraill a nodwyd yn adran 105 o EA 2002 a dynodi targedau cyrhaeddiad, rhaglenni astudio a threfniadau asesu pob pwnc ym mhob cyfnod. Rhaid i’r cwricwlwm ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 gynnwys y pynciau craidd a sylfaenol, a nodi’r targedau, y rhaglenni astudio a’r trefniadau asesu sy’n ymwneud â phob un ohonynt (adran 106 o EA 2002).

 Cyfnod

 Oedran

Meysydd dysgu’r Cyfnod Sylfaen neu / pynciau craidd y Cyfnodau Allweddol

 Pynciau sylfaenol eraill 

 Cyfnod Sylfaen

 3-7

datblygiad personol a chymdeithasol;
lles ac amrywiaeth ddiwylliannol; sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu; datblygiad mathemategol; datblygu’r Gymraeg; gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd; datblygiad corfforol; datblygiad creadigol (Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru, Ionawr 2008, Gweinidogion Cymru).

Amherthnasol

 Cyfnod Allweddol 2

 7-11

mathemateg; Saesneg; gwyddoniaeth; mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, Cymraeg

dylunio a thechnoleg; technoleg gwybodaeth a chyfathrebu; addysg gorfforol; hanes; daearyddiaeth; celf a dylunio; cerddoriaeth; Cymraeg os nad yw’n ysgol cyfrwng Cymraeg (adrannau 105(2)-(4) o EA 2002)

 Cyfnod Allweddol 3

 11-14

mathemateg; Saesneg; gwyddoniaeth; mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg; Cymraeg

dylunio a thechnoleg; technoleg gwybodaeth a chyfathrebu; addysg gorfforol; hanes; daearyddiaeth; celf a dylunio; cerddoriaeth; Cymraeg os nad yw’n ysgol cyfrwng Cymraeg; iaith dramor fodern (adrannau 105(2)-(4) o EA 2002) 

 Cyfnod Allweddol 4

 14-16

mathemateg; Saesneg; gwyddoniaeth; mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, Cymraeg

Addysg gorfforol; Cymraeg, os nad yw’r ysgol yn un cyfrwng Cymraeg (adran 106 o EA 2002)

Sefydlu a gweithredu Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru

Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am sefydlu a chynnal Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru, ac mae ganddynt ddyletswydd hefyd i ddiwygio’r cwricwlwm os ystyrir bod hynny’n beth doeth i’w wneud (adran 108 o EA 2002). Mae Gweinidogion Cymru yn pennu targedau cyrhaeddiad, rhaglenni astudio a threfniadau asesu ar gyfer pob pwnc ym mhob Cyfnod Allweddol. Fodd bynnag, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a phenaethiaid sy’n gyfrifol am weithredu’r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn ysgolion. Mae’n ofynnol i’r Pennaeth sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei weithredu, tra bod disgwyl i’r awdurdod lleol a’r corff llywodraethu arfer eu swyddogaethau o ran sicrhau ei fod yn cael ei roi ar waith (adran 109 o EA 2002). Mae gofynion tebyg mewn grym ar gyfer addysg mewn ysgolion meithrin  a gynhelir (adran 110 o EA 2002).

Adran 3

Eithriad o'r Cwricwlwm Cenedlaethol

Caniateir datgymhwyso neu addasu Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru:

  • at ddibenion cynnal gwaith datblygu neu arbrofion, ac mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu na ddylid cyflwyno’r cwricwlwm neu y dylid ei addasu (adran 111 o EA 2002);
  • os mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud rheoliadau am y sefyllfa dan adran 112 o EA 2002;
  • os mae gan ddisgybl ddatganiad anghenion addysg arbennig (AAA) (adran 113 o EA 2002);
  • os mae eithriad dros dro ar gyfer disgyblion unigol (adran 114(1) o EA 2002).

Hefyd, nid oes rhaid i rieni sy’n addysgu eu plentyn gartref ddilyn Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru. Mae gofyniad cyfreithiol arnynt, fodd bynnag, i sicrhau bod eu plentyn yn derbyn addysg llawn amser ddigonol sy’n addas i’w hoedran, eu gallu a’u doniau (adran 7 o'r Education Act 1996).

Adran 4

Cwricwlwm lleol

Mae dyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i ffurfio un neu fwy o gwricwla lleol ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 (adran 116A(1) o EA 2002). Rhaid i’r cwricwla lleol hyn gynnwys cyrsiau astudio addas y gellir eu galw’n 'feysydd dysgu' (adran 116A(2) o EA 2002). Y meysdd dysgu yw mathemateg, gwyddoniaeth a thechnoleg; busnes, gweinyddiaeth a’r gyfraith; gwasanaethau ar gyfer pobl; y celfyddydau, cyfryngau, diwylliant ac ieithoedd; y dyniaethau, gwyddorau cymdeithasol a pharatoi ar gyfer bywyd a gwaith (adran 116A (3) o EA 2002).

Mae gan Weinidogion Cymru'r pŵer, trwy orchymyn, i ddiwygio’r meysydd dysgu hyn (adran 116L o EA 2002).

Rhaid i awdurdodau lleol, wrth weithredu eu swyddogaethau mewn perthynas â’r cwricwlwm lleol, hyrwyddo’r cyfleoedd a’r cyrsiau sydd ar gael i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, a rhaid ystyried unrhyw ganllawiau a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i wneud hynny (adran 116B(1) a (2) o EA 2002). Mae gan ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir hawl i astudio cyrsiau cwricwlwm lleol yng Nghyfnod Allweddol 4, yn amodol ar reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru er mwyn dynodi uchafswm y cyrsiau astudio, lefel y pwyntiau a ddyfernir ac a ganiateir, a’r cyfnod lle gellir dewis gwneud y cyrsiau hyn (adran 116D o EA 2002). Fodd bynnag, yr ysgol sydd i benderfynu a ddylid cofrestru cwrs o’r fath neu caiff y pennaeth benderfynu a ddylid caniatáu i’r disgybl ddilyn y cwrs ai peidio (adran 116E(1) o EA 2002).

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn