Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru

Sefydlwyd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr ar 5 Gorffennaf, 1948 wrth i’r National Health Service Act 1946 (NHSA 1946) ddod i rym. Mae elfennau o drefniadau sefydliadol gwreiddiol y GIG a ddarparwyd gan NHSA 1946 i’w gweld yn strwythurau llywodraethu’r GIG heddiw. Mae darpariaethau mwyaf perthnasol NHSA 1946 wedi’u nodi isod ac wedi'u cynnwys fel gwybodaeth gefndirol yn unig.  

Yr hanes a National Health Service Act 1946

Cyflwynwyd NHSA 1946 er mwyn unioni diffygion canfyddedig yn y gwasanaethau gofal iechyd a oedd ar gael ar y pryd. Câi’r ddarpariaeth a fodolai ar y pryd ei darparu gan gyfuniad o ysbytai awdurdodau lleol, a elwid yn ysbytai gwirfoddol (a gynhelid drwy gefnogaeth ddyngarol neu elusennol fel arfer), ac ysbytai wedi eu datblygu a’u cynnal ar y cyd ag addysg feddygol prifysgol. Câi’r ddarpariaeth ei beirniadu am fod yn anghyson, gan amrywio o un ardal awdurdod lleol i’r llall, ac am fod yn rhannol ddibynnol ar gyfraniadau yswiriant iechyd gwladol gweithiwr.

Ceisiodd NHSA 1946 fynd i’r afael â’r problemau canfyddedig drwy osod dyletswydd, ymhlith pethau eraill, yn adran 1(1) NHSA 1946, ar y Gweinidog Iechyd ‘to promote the establishment of a comprehensive health service designed to secure improvement in the physical and mental health of the people of England and Wales and the prevention, diagnosis and treatment of illness, and for that purpose to provide or secure the effective provision of services’ yn unol â darpariaethau NHSA 1946. Roedd adran 3(1) yn darparu ymhellach mai ‘the duty of the Minister to provide throughout England and Wales, to such extent as he considers necessary to meet all reasonable requirements, accommodation and services of the following descriptions, that is to say:-


"(a) hospital accommodation;
(b) medical, nursing and other services required at or for the purposes of hospitals;
(c) the services of specialists, whether at a hospital, a health centre provided under Part III of this Act or a clinic or, if necessary on medical grounds, at the home of the patient."

Roedd adran 6 NHSA 1946 yn gwneud darpariaeth bellach fod pob ysbyty a gynhelid yn wirfoddol neu gan awdurdod lleol, a’r holl gyfarpar a dodrefn cysylltiedig, i’w trosglwyddo a’u breinio i’r Gweinidog ar 5 Gorffennaf, 1948. Roedd adran 8 yn darparu ar gyfer eithriad lle y byddai eiddo a ddelid gan ysgolion meddygol neu ddeintyddol a oedd yn gysylltiedig ag ysbyty a drosglwyddid i’r Gweinidog yn cael eu trosglwyddo i Fwrdd Llywodraethwyr yr ysgol honno yn hytrach nag i’r Gweinidog.

Roedd adran 11 NHSA 1946 yn darparu y dylai gweinyddiaeth yr ysbytai gael ei breinio yn awr i’r Gweinidog ac roedd y gwasanaethau arbenigol i’w cyflawni gan y Byrddau Ysbyty Rhanbarthol a oedd newydd eu sefydlu. Yn eu tro, roedd y Byrddau hynny i benodi Pwyllgorau Rheoli Ysbytai er mwyn rheoli ysbytai unigol neu grwpiau o ysbytai. Roedd ysbytai addysgu i gael eu rheoli gan eu Byrddau Llywodraethwyr.

Adran 1

Datganoli swyddogaethau iechyd i Gymru

Yn wreiddiol, swyddogaeth oruchwylio anffurfiol dros iechyd yng Nghymru oedd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru pan sefydlwyd y swydd ym mis Hydref 1964. Roedd cymhwyso polisïau cenedlaethol yng Nghymru yn parhau’n fater i Weinidog Iechyd y DU neu’r Ysgrifennydd Gwladol dros  Wasanaethau Cymdeithasol, gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yng Nghymru, yn goruchwylio gweithrediad y polisi cenedlaethol a grëwyd ac a gymhwyswyd gan y Weinyddiaeth Iechyd. 

Datblygwyd y swyddogaeth oruchwylio anffurfiol hon ymhellach ym 1969 pan ddaeth Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) 1969 (O.S. 1969/388) i rym. Roedd erthygl 2(1) y Gorchymyn yn darparu fel a ganlyn:

"it shall be for the Secretary of State for Wales, instead of the Secretary of State for Social Services, to discharge in matters only affecting Wales the general duties of the Secretary of State under section 2 of the Ministry of Health Act 1919 and section 1 of the National Health Service Act 1946, and the functions of the Secretary of State under the National Health Service Acts 1946 to 1968 in relation to the provision of hospital and specialist services and other services".

Roedd erthygl 2(3) y Gorchymyn yn darparu ymhellach y dylid trosglwyddo’r holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yr oedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol â hawl drostynt wrth i’r Gorchymyn ddod i rym yng nghyswllt darparu gwasanaethau ysbyty a gwasanaethau arbenigol yn unig ar gyfer Cymru i Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Parhaodd y sefyllfa hon o 1 Ebrill 1969 hyd nes y daeth Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672) i rym ar 1 Gorffennaf 1999, pan drosglwyddwyd y rhan fwyaf o swyddogaethau cysylltiedig ag iechyd yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adran 2

The National Health Service Act 1977

Cyn i Ddeddfau’r GIG 2006 ddod i rym (gweler isod), y prif statud ar y GIG yng Nghymru a Lloegr oedd National Health Service Act 1977 (NHSA 1977). Daeth i rym ar 29 Awst 1977 ac roedd yn cydgrynhoi ac yn diddymu nifer o Ddeddfau Iechyd a ddeddfwyd rhwng 1946 a 1976, gan gynnwys National Health Service Act 1946.

Roedd NHSA 1977 yn nodi pwerau a dyletswyddau’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr a chyflwynodd strwythur llywodraethu diwygiedig ar gyfer y GIG. Yn benodol, roedd adran 8 o Ddeddf 1977 yn darparu ar gyfer sefydlu Awdurdodau Iechyd Ardal yng Nghymru ac Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol ac Awdurdodau Iechyd Ardal yn Lloegr. Rhoddwyd pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol i gyfarwyddo Awdurdodau Iechyd Ardal a Rhanbarthol i arfer pwerau a dyletswyddau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan NHSA 1977.

Roedd adran 11 NHSA 1977 yn rhoi pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol sefydlu awdurdodau iechyd ‘arbennig’ at ddiben cyflawni unrhyw swyddogaethau y cawsant eu cyfarwyddo i’w cyflawni, ac roedd adran 20 yn gosod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned.

Roedd NHSA 1977 yn gosod dyletswyddau ar Awdurdodau Iechyd Ardal (yn hytrach nag awdurdodau iechyd lleol o dan Ddeddf 1946) i drefnu ar gyfer darparu’r canlynol yn eu hardaloedd:

  • gwasanaethau meddygol personol, a elwid yn ‘wasanaethau meddygol cyffredinol’;
  • gwasanaethau deintyddol cyffredinol;
  • profion llygaid a chyflenwad o offer optegol, a elwid yn ‘wasanaethau offthalmig cyffredinol’;
  • cyflenwad o gyffuriau a meddyginiaethau priodol a digonol a elwid yn ‘wasanaethau fferyllol’.

Mewn perthynas â phob un o'r gwasanaethau uchod - meddygol, deintyddol, offthalmig a fferyllol – rhoddodd NHSA 1977 bŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud is-ddeddfwriaeth i'w gwneud yn ofynnol i berson gael ei gofrestru ar 'restr cyflawnwyr' cyn y gallai’r person hwnnw ddarparu'r cyfryw wasanaeth. Heblaw am y rhestrau cyflawnwyr, roedd y broses o reoleiddio'r proffesiynau iechyd a ddarparai'r gwasanaethau hyn yn parhau y tu allan i gylch gorchwyl NHSA 1977.

Roedd adrannau 77-79 NHSA 1977 fel y’u deddfwyd yn wreiddiol yn rhoi pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud is-ddeddfwriaeth i’w gwneud yn ofynnol codi tâl am ddarparu gwasanaethau fferyllol, gwasanaethau deintyddol a gwasanaethau offthalmig mewn amgylchiadau penodol.

Roedd paragraff 10 o atodlen 5 NHSA 1977 fel y’i deddfwyd yn wreiddiol yn darparu y gallai awdurdod, gan gynnwys Awdurdod Iechyd Ardal, gyflogi swyddogion ar delerau a bennid ganddo, yn unol â rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Roedd darpariaethau NHSA 1977 yn ddarostyngedig i ddiwygiadau niferus cyn i’r Ddeddf gael ei disodli yn y pen draw gan National Health Service (Consequential Provisions) Act 2006. Yn fwyaf perthnasol i strwythur sefydliadol y GIG (gweler Cyrff y Gwasanaeth Iechyd), gwnaed diwygiadau niferus i gyfundrefn yr Awdurdodau Iechyd Ardal/Rhanbarthol fel y’u sefydlwyd yn wreiddiol gan Ddeddf 1977.

Yn wreiddiol, diwygiwyd y cyfeiriad at Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol ac Ardal yn adran 8 NHSA 1977 drwy ddeddfiad adran 1 o Health Services Act 1980. Roedd adran 8 NHSA 1977 fel y’i diwygiwyd gan adran 1 Health Services Act 1980, yn darparu ar gyfer Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol, Ardal a Dosbarth yn Lloegr, ac ar gyfer Awdurdodau Iechyd Ardal a Dosbarth yng Nghymru. Yn wreiddiol, sefydlodd National Health Service (Determination of Districts) Order 1981 saith Awdurdod Iechyd Dosbarth yng Nghymru, yn cyfateb i ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru ar y pryd, gan gynyddu i naw dosbarth drwy National Health Service (District Health Authorities) Order 1990.

Diddymwyd y cyfeiriad at Awdurdodau Iechyd Ardal yn adran 8 NHSA 1977 ar ôl hynny drwy ddeddfiad National Health Service and Community Care Act 1990.

Diwygiwyd adran 8 NHSA 1977 ymhellach gan Health Authorities Act 1995 i osod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i sefydlu Awdurdodau Iechyd ar gyfer ardaloedd o Gymru a Lloegr, Mewn perthynas â Chymru, arferodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei bŵer i gyflwyno Health Authorities (Wales) Establishment Order 1996 (OS 1996/146) a sefydlodd bum Awdurdod Iechyd Cymru – Bro Taf, Dyfed Powys, Gwent, Morgannwg a Gogledd Cymru.  Disodlodd yr Awdurdodau Iechyd newydd yr Awdurdodau Iechyd Dosbarth a fu’n weithredol yng Nghymru ers 1982. Parhaodd yr Awdurdodau Iechyd yn weithredol yng Nghymru hyd nes eu diddymu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2003.  Yn sgil eu diddymu, trosglwyddwyd swyddogaethau a staff yr Awdurdodau Iechyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a throsglwyddwyd y rhan fwyaf o’u heiddo, eu hawliau a’u rhwymedigaethau ac yn y blaen i’r 22 o Fyrddau Iechyd Lleol a oedd newydd eu sefydlu (gweler isod).

Gwnaeth y National Health Service Reform and Health Care Professions Act 2002 welliannau pellach i ddarpariaethau NHSA 1977. Yn arbennig o berthnasol i strwythur sefydliadol presennol y GIG yng Nghymru, mewnosododd adran 6 o Ddeddf 2002 adran newydd (16BA) i mewn i NHSA 1977, a oedd yn golygu y gallai Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud is-ddeddfwriaeth i sefydlu cyrff, a elwir yn Fyrddau Iechyd Lleol (‘BILlau’), ac y gallai fod wedi trosglwyddo iddynt unrhyw swyddogaethau a oedd wedi’u harfer yn flaenorol gan bum Awdurdod Iechyd Cymru, ynghyd â swyddogaethau iechyd eraill y Cynulliad Cenedlaethol. Fel y nodir uchod, cafodd pŵer y Cynulliad Cenedlaethol o dan yr adran 16BA newydd ei arfer (trwy Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003) i greu 22 o BILlau, gyda phob un yn cyfateb i ardal awdurdod lleol yng Nghymru. I gael mwy o fanylion am drefniant presennol BILlau Cymru, ewch i dudalen Cyrff y Gwasanaeth Iechyd.

Adran 3

National Health Service Acts 2006

Erbyn hyn, mae fframwaith deddfwriaethol y GIG yng Nghymru wedi’i amlinellu’n bennaf yn y National Health Service (Wales) Act 2006 (NHSWA 2006) a’r National Health Service Act 2006 (NHSA 2006). Mae’r ddwy Ddeddf hon yn statud yn Senedd y DU, gyda swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan NHSWA 2006 ond yn berthnasol mewn perthynas â Chymru (trwy adran 202(1) o NHSA 2006), a’r rhan fwyaf o swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan NHSA 2006 ond yn berthnasol mewn perthynas â Lloegr (trwy adran 271(1) o NHSA 2006).

Mae adran 271(3) o NHSA 2006 yn nodi mai’r unig swyddogaethau iechyd y gall yr Ysgrifennydd Gwladol eu harfer mewn perthynas â Chymru o dan y Ddeddf honno yw’r rhai o dan y rhannau a’r adrannau canlynol o’r Ddeddf:

  • Adran 8(1) – pwerau i gyfarwyddo cyrff y gwasanaeth iechyd mewn perthynas â materion yn ymwneud â senotrawsblaniad, benthyg croth, embryoleg neu eneteg ddynol;
  • Pennod 5 o Ran 1 ar ymddiriedolaethau sefydledig y GIG. Nid oes unrhyw ymddiriedolaethau sefydledig y GIG yng Nghymru;
  • Adran 235 – mewn perthynas â blwydd-daliadau swyddogion ysbytai penodol
  • Adran 247B – mewn perthynas â chydweithredu mewn perthynas â swyddogaethau iechyd cyhoeddus;
  • Adran 251 – mewn perthynas â rheoli gwybodaeth am gleifion;
  • Atodlen 21 – gwahardd gwerthu practisau meddygol;
  • Adran 260 – rheoli pris uchaf cyflenwadau meddygol heblaw meddyginiaethau’r gwasanaeth iechyd;
  • Adrannau 261 i 266 – rheoli prisiau meddyginiaethau ac elw.

Aeth un o Ddeddfau eraill Senedd y DU, sef y National Health Service (Consequential Provisions) Act 2006, ati i ddiddymu’r National Health Service Act 1977 o 1 Mawrth 2007 ymlaen.

Deddf y gwasanaeth iechyd gwladol (cymru) 2006

Mae strwythur sefydliadol a llywodraethol GIG Cymru wedi’i amlinellu’n bennaf yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Aeth y Ddeddf ati i gydgrynhoi darpariaethau’r National Health Service 1977 Act a deddfwriaeth gysylltiedig ac, mewn un statud, amlinellodd strwythur unigryw GIG Cymru. Mae yna lawer o wahaniaethau rhwng strwythurau a dulliau llywodraethu’r GIG yng Nghymru a Lloegr, yn enwedig mewn perthynas â chyrff y gwasanaeth iechyd sydd ar waith yng Nghymru.

Swyddogaethau cyffredinol Gweinidogion Cymru – Rhan 1 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006

Mewn sawl ystyr, mae Rhan 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (NHSWA 2006) yn ailddeddfu’r prif swyddogaethau a drosglwyddwyd neu a osodwyd ar Weinidogion Cymru (a’r Ysgrifennydd Gwladol) o dan rannau cyfwerth y National Health Service Act 1977, ac mae modd eu holrhain i sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym 1948. Gellir crynhoi swyddogaethau cyffredinol Gweinidogion Cymru fel a ganlyn:

O dan adran 1 rhaid i Weinidogion Cymru barhau i hyrwyddo gwasanaeth iechyd cynhwysfawr sy’n ceisio gwella iechyd corfforol a meddyliol pobl Cymru ac atal, diagnosio a thrin salwch. At y diben hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu neu sicrhau darpariaeth gwasanaethau yn unol â NHSWA 2006.

Mae adran 1(3) yn nodi bod rhaid i’r gwasanaethau a ddarperir fod am ddim, oni bai y cânt eu darparu ar gyfer codi neu adennill ffioedd o dan unrhyw ddeddfiad, pryd bynnag y caiff ei basio. Gwneir darpariaeth benodol yn NHSWA 2006, er enghraifft, mewn perthynas â chodi ffioedd am wasanaethau deintyddol, fferyllol ac offthalmig.  

Mae dyletswydd adran 1 yn cynnwys dyletswydd i ddarparu lle mewn ysbyty a gwasanaethau i bobl sy’n debygol o gael eu cadw o dan y Mental Health Act 1983 ac sydd, yn ôl Gweinidogion Cymru, angen triniaeth dra diogel oherwydd tueddiadau peryglus, treisgar neu droseddol. Bydd triniaeth o’r fath ond yn cael ei darparu mewn ysbyty lle mae gwasanaethau’n cael eu darparu ar gyfer y cyfryw bobl yn unig (gweler adran 4 o NHSWA 2006). 

Mewn perthynas â’r ddyletswydd i barhau i hyrwyddo gwasanaeth iechyd ‘cynhwysfawr’, cyn 2006 mae cyfraith achosion yn nodi na fydd her adolygiad barnwrol a gyflwynir ar y sail na ellir ystyried gwasanaeth penodol yn ‘gynhwysfawr’ yn llwyddiannus yn awtomatig, cyn belled â bod yr awdurdod perthnasol yn rhoi sylw priodol i’r ddyletswydd honno.  

O dan adran 2 gall Weinidogion Cymru ddarparu gwasanaethau a ystyrir yn briodol at ddiben cyflawni unrhyw ddyletswydd a osodwyd arnynt gan NHSWA 2006 a gallant wneud unrhyw beth arall i hwyluso’r gwaith o gyflawni dyletswyddau o’r fath.

O dan adran 3 rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu’r canlynol ledled Cymru, i’r graddau yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i fodloni gofynion rhesymol:

  • lle mewn ysbyty;
  • llety arall at ddiben unrhyw wasanaeth a ddarperir o dan NHSWA 2006;
  • gwasanaethau meddygol, deintyddol, offthalmig, nyrsio ac ambiwlans;
  • gwasanaethau neu gyfleusterau eraill yr ystyrir eu bod yn briodol i atal salwch, i ofalu am bobl sy’n dioddef o salwch ac i ddarparu ôl-ofal i’r bobl hynny;
  • gwasanaethau neu gyfleusterau eraill sy’n ofynnol er mwyn diagnosio a thrin salwch.

Mae adran 5 yn cyflwyno'r darpariaethau yn Atodlen 1 i’r Ddeddf ar y ddyletswydd i ddarparu ar gyfer cynnal archwiliad meddygol o ddisgyblion, y pŵer i fesur a phwyso plant, y ddyletswydd i drefnu i ddarparu gwasanaethau atal cenhedlu i fodloni’r holl ofynion rhesymol, y pŵer i ddarparu cerbydau ar gyfer pobl anabl, y pŵer i ddarparu gwasanaeth microbiolegol a’r pŵer i gynnal neu helpu i gynnal ymchwil feddygol.

Mae adran 10 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud trefniadau gydag unrhyw unigolyn neu gorff, gan gynnwys sefydliadau gwirfoddol, i ddarparu neu helpu i ddarparu unrhyw wasanaeth o dan NHSWA 2006. Os byddant yn gwneud trefniadau o’r fath, gall Gweinidogion Cymru sicrhau bod unrhyw gyfleusterau a ddarperir ganddynt ar gael ar gyfer unrhyw wasanaeth o dan NHSWA 2006, gan gynnwys gwasanaethau unrhyw unigolyn a gyflogir gan Weinidogion Cymru, Awdurdod Iechyd Arbennig neu Fwrdd Iechyd Lleol.

Mae adrannau 11-25 yn gwneud darpariaeth ar gyfer Cyrff y Gwasanaeth Iechyd, a cheir mwy o fanylion amdanynt yma. Ymysg pethau eraill, mae’r adrannau’n nodi bod gan Weinidogion Cymru y pŵer i roi cyfarwyddiadau i Fyrddau Iechyd Lleol (adran 12), Ymddiriedolaethau’r GIG (adran 19) ac Awdurdodau Iechyd Arbennig (adran 23) mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau’r cyrff hynny. Mewn perthynas â BILlau, mae adran 12 yn nodi y gall Gweinidogion Cymru gyfarwyddo BILlau i gyflawni swyddogaethau Gweinidogion Cymru. Mae adran 31(2) yn nodi na ddylai unrhyw gyfarwyddiadau gan Weinidogion Cymru eu hatal rhag gallu cyflawni’r swyddogaeth eu hunain.

O dan adran 26, os bydd Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw un o gyrff y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys unrhyw BILl, Ymddiriedolaeth y GIG neu Fwrdd Iechyd Arbennig,  yn cyflawni ei swyddogaethau yn ddigonol, neu fod diffygion difrifol yn y ffordd mae’r corff yn cael ei reoli, a bod Gweinidogion Cymru yn fodlon ei bod hi’n briodol iddynt ymyrryd, gallant wneud gorchymyn ymyrryd mewn perthynas â’r corff. Gall y gorchymyn ymyrryd wneud unrhyw un o’r pethau a restrir yn adran 27.

O dan dran 28, os bydd Gweinidogion Cymru o’r farn bod un o gyrff y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys unrhyw BILl, Ymddiriedolaeth y GIG neu Fwrdd Iechyd Arbennig, wedi methu â chyflawni swyddogaethau a osodwyd arno trwy NHSWA 2006, neu ei fod wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw reoliadau neu gyfarwyddiadau perthnasol wrth gyflawni’r swyddogaethau hynny, gallant fynd ati, ar ôl cynnal ymchwiliad priodol, i wneud gorchymyn yn datgan bod y corff yn ddiffygiol. Ar ôl i orchymyn o’r fath gael ei wneud, rhaid i aelodau’r corff fynd ati’n syth i adael eu swyddfa, a rhaid i’r gorchymyn ddarparu ar gyfer penodi aelodau newydd a gall wneud darpariaeth y bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn gyfleus i awdurdodi unrhyw unigolyn i weithredu ar ran y corff tra bod aelodau newydd yn cael eu penodi.

Mae adran 191 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phwerau argyfwng Gweinidogion Cymru. Gall Gweinidogion Cymru osod cyfarwyddiadau ysgrifenedig (gweler adran 204(3) o NHSWA 2006) os byddant o’r farn bod angen gwneud hynny, o ganlyniad i argyfwng, er mwyn sicrhau bod gwasanaeth sydd i’w ddarparu o dan y Ddeddf yn cael ei ddarparu mewn gwirionedd.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn