Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig

Cofrestru

Mae Rhan 1 o'r Housing Act 1996 (HA 1996) yn darparu ar gyfer cofrestru landlordiaid cymdeithasol (ac eithrio landlordiaid sy'n awdurdodau lleol) gan Weinidogion Cymru yn landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Yn Lloegr, mewn cyferbyniad, gelwir cyrff sy'n darparu tai cymdeithasol ac sydd wedi cofrestru gyda'r Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau o dan Ran 2 o'r Housing and Regeneration Act 2008 yn ddarparwyr tai cymdeithasol preifat cofrestredig. Ceir gofynion statudol a meini prawf a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru sy'n berthnasol wrth gofrestru fel landlord cymdeithasol cofrestredig.

Mae adrannau 1A a 2 o HA 1996 yn nodi'r gofynion cymhwystra ar gyfer cofrestru. Mae adran 2(1) yn darparu bod 'corff Cymreig' yn gymwys i gofrestru fel landlord cymdeithasol os yw'n:

Diffinnir 'corff yng Nghymru' yn adran 1A o HA 1996 fel elusen gofrestredig sydd â chyfeiriad cofrestredig yng Nghymru; cymdeithas cofrestredig sydd â swyddfa gofrestredig yng Nghymru; neu gwmni sydd â swyddfa gofrestredig yng Nghymru.

Yr amodau i gymdeithas gofrestredig neu gwmni yn adran 2(2) yw:

  • bod yn rhaid i'r corff ymwneud yn bennaf â thai yng Nghymru (h.y. yn berchen ar dai yng Nghymru yn unig neu’n bennaf, neu fod ei weithgareddau’n cael eu cyflawni’n bennaf mewn perthynas â Chymru)
  • bod yn rhaid i'r corff fod yn ddielw
  • bod yn rhaid i'r corff fod yn darparu neu reoli tai i gael eu cadw ar gael i'w gosod, tai ar gyfer eu meddiannu gan aelodau o'r corff, neu hostelau, a bod unrhyw ddibenion neu amcanion ychwanegol wedi eu nodi yn adran 2(4).   

Y dibenion neu’r amcanion eraill a ganiateir gan adran 2(4) yw:

  • darparu tir, amwynderau neu wasanaethau, neu ddarparu, neu wella adeiladau, ar gyfer ei breswylwyr;
  • caffael, neu gwella, neu addasu tai ar les neu gydberchnogaeth;
  • adeiladu tai ar gyfer cydberchnogaeth;
  • rheoli tai eraill a ddelir ar les neu flociau o fflatiau;
  • darparu gwasanaethau i berchnogion neu feddianwyr tai; 
  • darparu cyngor a gwasanaethau mewn perthynas â chymdeithasau tai. 

Hefyd, ceir nifer o Orchmynion, a wnaed o dan adran 2 o HA 1996, sy'n nodi dibenion neu amcanion ychwanegol a ganiateir, fel a ganlyn:

Mae adran 5 o HA 1996 yn darparu y dylai Gweinidogion Cymru osod (ac amrywio o bryd i'w gilydd) y meini prawf y dylai corff sy’n ymgeisio i gael ei gofrestru fel landlord cymdeithasol eu bodloni, ac wrth benderfynu a ddylid cofrestru’r corff mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ystyried a yw'r meini prawf hynny'n cael eu bodloni. Hefyd, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru bennu meini prawf ar gyfer diddymu cyrff oddi ar y gofrestr. Cyn gosod neu amrywio'r meini prawf mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â chyrff sy'n cynrychioli landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a chyrff sy'n cynrychioli awdurdodau lleol, fel y gwelant yn briodol. Mae'n rhaid i unrhyw feini prawf o'r fath gael eu cyhoeddi.

Cyllid

Gan y gall landlordiaid cymdeithasol cofrestredig fod yn elusennau, yn gwmnïau neu'n gymdeithasau cofrestredig (yn ystyr y Co-operative and Community Benefit Societies Act 2014), bydd ffynonellau cyllid yn wahanol i wahanol sefydliadau, er enghraifft efallai y bydd elusennau yn derbyn rhoddion elusennol. Fodd bynnag, gall landlordiaid cymdeithasol cofrestredig dderbyn grant tai cymdeithasol hefyd mewn perthynas â’u gweithgareddau ym maes tai. Mae adran 18 o HA 1996 yn ymwneud â'r grantiau hyn a gall Gweinidogion Cymru atodi amodau at unrhyw grant tai cymdeithasol. Gall awdurdodau lleol hefyd roi cymorth i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig drwy grant (arall), drwy fenthyciad neu drwy warant (mewn amgylchiadau penodol) o dan adran 22(3) o HA 1996.

Rheoleiddio

Yn Gyffredinol

Mae adran 7 o, ac Atodlen 1 i'r, Housing Act 1996 (HA 1996) yn ymdrin â chyfyngiadau ar wneud taliadau neu roi buddion eraill i aelodau corff sy’n landlord cymdeithasol cofrestredig (Rhan 1 o Atodlen 1), materion cyfansoddiadol (Rhan 2 o Atodlen 1), arolygu (Rhan 3A o Atodlen 1), cyfrifon ac archwilio (Rhan 4 o Atodlen 1) a phwerau cynnal ymchwiliad i faterion landlord cymdeithasol cofrestredig (Rhan 5 o Atodlen 1). Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod camymddwyn neu gamreoli wedi bod a bod ymchwiliad yn cael ei gynnal, gall hyn arwain at Weinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r landlord cymdeithasol cofrestredig drosglwyddo ei dir i landlord arall, lle y bo’n briodol (gweler paragraffau 20-24 a 27 o Ran 5 o Atodlen 1).

Diwygiwyd Atodlen 1 Housing Act 1996 gan Ddeddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018, ac effaith hynny yw’n bellach yn ofynnol i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn gwneud newidiadau cyfansoddiadol, uno neu unrhyw newidiadau strwythurol eraill, ond mae'n rhaid iddynt hysbysu Gweinidogion Cymru o newidiadau o'r fath yn lle.

Mae effeithiau ychwanegol y diwygiadau a wnaed yn golygu pwerau gorfodi gwell i Weinidogion Cymru a llai o ddylanwad ar fyrddau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gan yr awdurdodau lleol

Safonau

Cyflwynodd Mesur Tai (Cymru) 2011 bŵer i Weinidogion Cymru osod safonau perfformiad ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gryfhau pwerau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â pherfformiad landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Diwygiodd y Mesur HA 1996 drwy fewnosod adrannau newydd.

Mae adran 33A o HA 1996 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru osod safonau perfformiad ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Gall y safonau hyn ymwneud â swyddogaethau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mewn perthynas â darparu tai neu â llywodraethiant a rheolaeth ariannol landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Wrth osod safonau, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ystyried i ba raddau y maent yn dymuno rhoi rhyddid i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ddewis sut i ddarparu gwasanaethau a rhedeg busnes.

Mae adran 33B o HA 1996 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau mewn perthynas â mater y ceir safon ar ei gyfer. Cyhoeddwyd y Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai sydd wedi'u Cofrestru yng Nghymru gan Weinidogion Cymru ac mae’n nodi'r safonau hyn, a elwir yn 'ganlyniadau cyflawni' yn y canllawiau. Mae’r Fframwaith Rheoleiddiol i’w weld yma.

Mae adran 33B hefyd yn darparu y dylai Gweinidogion Cymru roi sylw i’r canllawiau wrth ystyried a yw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cyrraedd y safonau. Mae'n rhaid i Weinidogion Cymru wneud trefniadau ar gyfer dwyn y canllawiau i sylw'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Mae adran 33C o HA 1996 yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag un neu fwy o'r cyrff yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, un neu fwy o gyrff yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau tenantiaid, ac un neu fwy o gyrff yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau awdurdodau tai lleol cyn cyhoeddi canllawiau o dan adran 33B.

Gorfodi

Mae adrannau 50A i 50V o HA 1996 yn nodi pwerau gorfodi Gweinidogion Cymru os na fydd safonau rheoli neu safonau ariannol wedi eu cyrraedd. Os nad yw'r safonau hynny wedi eu cyrraedd gall Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad gorfodi i landlord cymdeithasol cofrestredig yn gofyn iddo roi camau ar waith i unioni ei ddiffygion. Mae gan y landlord cymdeithasol cofrestredig hawl i apelio i'r Uchel Lys. Gall Gweinidogion Cymru gosbi'r landlord cymdeithasol cofrestredig os nad ydynt yn fodlon fod amodau penodol wedi eu bodloni, neu ofyn i'r landlord cymdeithasol cofrestredig dalu iawndal. Hefyd, mewn achosion o gamreoli difrifol mae gan Weinidogion Cymru bŵer i ofyn i landlord cymdeithasol cofrestredig drosglwyddo ei swyddogaethau rheoli (gweler paragraffau 15B i 15G o Atodlen 1 HA 1996).

Ansolfedd

Mae gan Weinidogion Cymru swyddogaethau a phwerau penodol os yw landlord cymdeithasol cofrestredig yn wynebu ansolfedd. Mae adrannau 39 i 50 o HA 1996 yn berthnasol yn hyn o beth. Cyn rhoi camau penodol ar waith mewn perthynas ag ansolfedd mae'n rhaid i landlord cymdeithasol cofrestredig roi hysbysiad i Weinidogion Cymru o'r camau hynny. Yn ogystal, mae'n rhaid rhoi hysbysiad i Weinidogion Cymru mor fuan â phosib ar ôl rhoi camau penodol ar waith. Ar ôl rhoi camau penodol ar waith ceir moratoriwm rhag gwaredu tir gan y landlord cymdeithasol cofrestredig. Bydd y moratoriwm yn para 28 diwrnod o'r dyddiad y bydd Gweinidogion Cymru yn derbyn yr hysbysiad. Gellir ymestyn y moratoriwm drwy gytundeb yr holl gredydwyr sicredig. Gall Gweinidogion Cymru hefyd roi caniatâd mewn perthynas â gwaredu tir.

Gall Gweinidogion Cymru wneud cynigion ynglŷn â sut y caiff y landlord cymdeithasol cofrestredig ei reoli, a fydd, ar ôl sicrhau cytundeb y credydwyr sicredig, yn rhwymo Gweinidogion Cymru, y landlord, holl gredydwyr y landlord cymdeithasol cofrestredig ac unrhyw ddiddymwr neu weinyddwyr, neu rywun cyfatebol. Gall Gweinidogion Cymru benodi rheolwr interim, hyd nes y cytunir ar unrhyw gynigion, a phenodi rheolwr i gyflawni’r cyfryw gynigion ar ôl cytuno arnynt. Yn ogystal, gall Gweinidogion Cymru ddarparu cymorth ariannol fel y gwelant yn briodol.

Caniatâd i waredu tir

Mae'n ofynnol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gael caniatâd Gweinidogion Cymru i waredu tir o dan amgylchiadau penodol. Nodir pŵer landlord cymdeithasol cofrestredig i waredu tir yn adran 8 o HA 1996. Mae caniatâd Gweinidogion Cymru yn ofynnol ar gyfer rhai mathau o waredu tir o dan adran 9 y ddeddf honno, a gall Gweinidogion Cymru roi caniatâd cyffredinol sy'n gymwys o dan amgylchiadau penodol. Mae Gorchymyn Caniatadau Cyffredinol (Cymru) 2009 dan ba amgylchiadau y rhoddwyd caniatâd gan Weinidogion Cymru, ac atodwyd hwn at gylchlythyr RSL 29/09. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau eraill bydd angen caniatâd Gweinidogion Cymru ar sail achosion unigol. Mae adran 11 o HA 1996 yn nodi lle nad oes angen caniatâd Gweinidogion Cymru.

Heriau cyfraith gyhoeddus

Gall penderfyniadau cyrff cyhoeddus fod yn ddarostyngedig i heriau cyfraith gyhoeddus drwy adolygiadau barnwrol. Er bod awdurdodau lleol yn gyrff cyhoeddus a felly yn ddarostyngedig i adolygiadau barnwrol, nid yw statws landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yr un mor eglur. Yn achos R (On the application of Weaver) v London & Quadrant Housing Trust [2009] EXCA Civ 587, ystyriodd y Llys Apêl a oedd penderfyniad landlord cymdeithasol cofrestredig i ddirwyn tenantiaeth i ben yn weithred gyhoeddus a fyddai'n golygu bod y landlord cymdeithasol cofrestredig yn awdurdod cyhoeddus, ac o'r herwydd yn agored i adolygiad barnwrol. Addefwyd bod rhai o swyddogaethau'r landlord yn swyddogaethau cyhoeddus, a phenderfynwyd yn sgil hynny fod y weithred o ddirwyn y denantiaeth i ben o fewn cylch gorchwyl adran 6(5) o'r Human Rights Act 1998. Roedd y penderfyniad yn agored i adolygiad barnwrol. Fodd bynnag, dylid nodi bod y Llys wedi datgan na fyddai pob landlord cymdeithasol cofrestredig yn cael ei ystyried yn awdurdod cyhoeddus; byddai'n dibynnu ar ffeithiau pob achos unigol.

Dylid nodi hefyd fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystyried cwynion ynghylch awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Nid oes unrhyw erthyglau am y pwnc hwn