Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Mae Rhan I o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (‘Deddf 2016’) yn sefydlu system newydd ar gyfer rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru, sy'n disodli'r system a grëwyd o dan Care Standards Act 2000.

Cyfeirir at berson a gofrestrwyd fel darparwr gwasanaethau a reoleiddir fel ‘darparwr gwasanaeth’ ac mae rheoliadau o dan adran 27 a 28 o Ddeddf 2016 yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaeth mewn perthynas â'r gwasanaethau a reoleiddir a ddarperir ganddynt.

Ymhlith y rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf mae:

  • Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017
  • Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017
  • Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau) (Cymru) 2017
  • Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017
  • Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2017
  • Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019
  • Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019
  • Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019
  • Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Mae gan Weinidogion Cymru'r swyddogaeth o reoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru. Mae swyddogaethau Gweinidogion Cymru yn cael eu harfer gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Adran 1

Mathau o wasanaethau a reoleiddir

Cyfeirir at y gwasanaethau gofal a chymorth canlynol fel ‘gwasanaethau a reoleiddir’:

  • gwasanaeth cartref gofal
  • gwasanaeth llety diogel 
  • gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd
  • gwasanaeth mabwysiadu
  • gwasanaeth maethu
  • gwasanaeth lleoli oedolion
  • gwasanaeth eirioli
  • gwasanaeth cymorth cartref 
  • unrhyw wasanaeth gofal a chymorth arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau

Diffinnir gwasanaethau a reoleiddir yn Atodlen 1 i Ddeddf 2016.

Mae Deddf 2016 a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (fel y'u diwygiwyd) yn eithrio rhai pethau, a ddeuai fel arall o fewn y diffiniad o un o'r gwasanaethau a reoleiddir, o gael eu trin fel un.

Gwasanaeth cartref gofal

Gwasanaeth cartref gofal yw'r ddarpariaeth llety, ynghyd â nyrsio neu ofal, mewn lle yng Nghymru, i bersonau yn sgil eu bregusrwydd neu angen.

Eithrir y canlynol rhag bod yn wasanaeth cartref gofal:

  • ysbyty;
  • ysgol, oni fydd yn darparu neu'n bwriadu darparu llety a gofal ar gyfer o leiaf un plentyn am fwy na 295 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis a ddaw o fewn y 24 mis blaenorol; 
  • canolfan breswyl i deuluoedd;
  • canolfan llety diogel;
  • canolfan lleoli oedolion; 
  • mannau lle y gofalir am blentyn gan riant, perthynas neu riant maeth; 
  • mannau lle y gofalir am oedolyn: 
    • yn ystod perthynas teuluol neu bersonol ac ar gyfer dim ystyriaeth fasnachol,
    • am gyfnod o lai na 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis neu am nifer o gyfnodau sy'n dod i gyfanswm o lai na 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis
  • mannau a freiniwyd yng Ngweinidogion Cymru, ymddiriedolaeth y GIG neu Fwrdd Iechyd Lleol;
  • mannau a ddarperir gan sefydliad addysg bellach neu brifysgol oni fydd nifer y personau y darperir llety ar eu cyfer yn fwy nag un rhan o ddeg o nifer y myfyrwyr y mae'n darparu addysg a llety ar eu cyfer;
  • gwarchod plant, o fewn ystyr adran 19(2), neu ofal dydd i blant, o fewn ystyr adran 19(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, oni fydd 28 neu fwy o adegau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis pan ddarperir gofal i unrhyw un plentyn am fwy na 15 awr yn ystod cyfnod o 24 awr, neu pan ddarperir y llety yn llwyr i blant anabl neu yn bennaf iddynt;
  • mannau a ddarperir i blant 16 oed neu hŷn i alluogi'r plant i ymgymryd â hyfforddiant neu brentisiaeth, ond nid yw'r eithriad hwn yn berthnasol os darperir y llety yn llwyr i blant anabl neu yn bennaf iddynt;
  • mannau a ddarperir i blant mewn hostel fechnïaeth cymeradwy neu hostel prawf cymeradwy;
  • sefydliad i droseddwyr ifanc a ddarperir o dan adran 43(1) o Prison Act 1952 neu yn ei rhinwedd;
  • mannau a ddarperir i blant yn sgil eu bregusrwydd neu eu hangen at ddibenion gwyliau neu weithgaredd hamdden, chwaraeon, diwylliannol neu addysgol. Ond nid yw'r eithriad hwn yn berthnasol os darperir y llety: 
    • yn llwyr i blant anabl neu yn bennaf iddynt ac os yw'r darparwr gwasanaeth wedi hysbysu AGC am y drefn yn gyntaf, neu 
    • i unrhyw un plentyn am fwy na 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis oni ddarperir y llety dim ond i blant sy'n hŷn nag 16 oed.
  • mannau a ddarperir i blentyn sengl neu i grŵp o frodyr neu chwiorydd yng nghartref y person hwnnw a lle na ddarperir gofal a llety gan y person hwnnw am fwy na 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

Gwasanaeth llety diogel

Gwasanaeth llety diogel yw'r ddarpariaeth llety at ddibenion cyfyngu rhyddid plant mewn mangreoedd preswyl yng Nghymru lle darperir gofal a chymorth i'r plant hynny.

Gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd

Gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd yw'r ddarpariaeth llety i blant a'u rhieni mewn man yng Nghymru lle caiff gallu'r rhieni i ymateb i anghenion y plant ac i ddiogelu eu llesiant ei fonitro neu ei asesu a rhoddir gofal a chymorth i'r rhieni.

Eithrir y canlynol rhag bod yn wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd:

  • ysbyty;
  • hostel neu loches rhag trais domestig;
  • mannau lle prif ddiben y llety a'r gofal yw mewn perthynas ag oedolion a gaiff ddod â'u plant.


Gwasanaeth mabwysiadu

Darperir gwasanaeth mabwysiadu yng Nghymru gan gymdeithas fabwysiadu o fewn ystyr Adoption and Children Act 2002, sef sefydliad gwirfoddol o fewn ystyr y Ddeddf honno neu asiantaeth cymorth mabwysiadu o fewn yr ystyr a roddir gan adran 8 o'r Ddeddf honno.

Gwasanaeth maethu

Mae gwasanaeth maethu yn golygu unrhyw wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan berson ac eithrio awdurdod lleol sy'n cynnwys lleoli plant â rhieni maeth awdurdod lleol, neu'n ymarfer swyddogaethau mewn perthynas â'r cyfryw leoliad.

Gwasanaeth lleoli oedolion

Mae gwasanaeth lleoli oedolion yn golygu gwasanaeth a gynhelir (er elw ai peidio) gan awdurdod lleol neu berson arall at ddibenion lleoli oedolion ag unigolyn yng Nghymru o dan gytundeb gofalwr (a chan gynnwys unrhyw drefniadau ar gyfer recriwtio, hyfforddi a goruchwylio'r cyfryw unigolion). Mae ‘cytundeb gofalwr’ yn golygu cytundeb ar gyfer y ddarpariaeth gan unigolyn o lety yng nghartref yr unigolyn ynghyd â gofal a chymorth ar gyfer hyd at dri oedolyn.

Gwasanaeth eirioli

At ddibenion paragraff 7(1) o Atodlen 1 i Ddeddf 2016, gwasanaeth yw gwasanaeth eirioli a nodir mewn rheoliadau ( ) fel gwasanaeth a gynhelir i ddarparu eiriolaeth ar gyfer:

  • plant sy'n cyflwyno sylwadau, neu sy'n bwriadu cyflwyno sylwadau (gan gynnwys cwynion) i awdurdod lleol ynglŷn â swyddogaethau ei wasanaethau cymdeithasol, neu
  • bersonau sy'n cyflwyno sylwadau, neu sy'n bwriadu cyflwyno sylwadau (gan gynnwys cwynion) i awdurdod lleol ynglŷn â chyflawni ei swyddogaethau o dan Rannau 3 i 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014,

lle mai diben eiriolaeth yw cynrychioli barn y plant neu bersonau neu roi cymorth iddynt gynrychioli eu barn mewn perthynas â'u hanghenion gofal a chymorth.

Eithrir gwasanaeth rhag bod yn wasanaeth eirioli os caiff ei ddarparu gan y canlynol:

  • person yn ystod gweithgaredd cyfreithiol o fewn ystyr Legal Services Act 2007 gan berson sy'n berson awdurdodedig at ddibenion y Ddeddf honno, neu gyfreithiwr Ewropeaidd;
  • swyddog achosion teuluol Cymru wrth gyflawni swyddogaethau mewn perthynas ag achosion teuluol;
  • Comisiynydd Plant Cymru neu gan aelod o staff Comisiynydd Plant Cymru;
  • person nad yw wedi darparu eiriolaeth ac nad yw'n bwriadu darparu eiriolaeth i fwy na phedwar person o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis;
  • perthynas neu ffrind y person y cyflwynir sylwadau neu y bwriedir cyflwyno sylwadau ar ei ran.

Gwasanaeth cymorth cartref

Darpariaeth gofal a chymorth yw gwasanaeth cymorth cartref i berson na all ei ddarparu ar ei gyfer yn sgil bregusrwydd neu angen (ac eithrio bregusrwydd neu angen a godir dim ond yn sgil oedran ifanc y person) ac fe'i darperir yn y fan yng Nghymru lle mae'r person yn byw (gan gynnwys gwneud trefniadau ar gyfer gwasanaethau neu ddarparu gwasanaethau mewn perthynas â'r cyfryw ddarpariaeth).

Eithrir y canlynol rhag bod yn wasanaeth cymorth cartref:

  • cynorthwywyr personol sy'n darparu gofal a chymorth heb asiantaeth cyflogaeth neu fusnes cyflogaeth ac sy'n gweithio'n llwyr o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y person sy'n derbyn y gofal a'r cymorth;
  • gofal a chymorth a ddarperir yn y mannau canlynol:
    •  man lle darperir gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel, gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd neu lety a drefnir fel rhan o wasanaeth lleoli oedolion, neu
    • ysbyty;
  •  asiantaethau cynorthwyo personol sy'n cyflwyno unigolion sy'n darparu gwasanaeth cymorth cartref i unigolion sy'n dymuno ei dderbyn ond nad oes ganddynt rôl barhaus yng nghyfarwyddyd neu reolaeth y gofal a'r cymorth a ddarperir;
  • y ddarpariaeth o gymorth yn unig; 
  • y ddarpariaeth o ofal a chymorth i bedwar unigolyn neu lai ar unrhyw adeg;
  • gofal a chymorth i oedolyn yn ystod perthynas teuluol neu bersonol ac ar gyfer dim ystyriaeth fasnachol;
  • gofal a chymorth ar gyfer plentyn gan riant, perthynas neu riant maeth;
  • trefniadau ar gyfer cyflenwi gofalwyr i ddarparwr gwasanaeth trwy fenter sy’n gweithredu fel asiant cyflogaeth neu fusnes cyflogaeth;
  • pan ddarperir gofal a chymorth gan berson sy'n rheoli carchardy neu sefydliad carcharu tebyg.
Adran 2

Cofrestru

Mae Deddf 2016 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cofrestru a'r weithdrefn gofrestru. Rhaid i unrhyw berson sy'n darparu gwasanaeth a reoleiddir fod wedi cofrestru. Mae darparu gwasanaeth a reoleiddir heb gofrestru yn ei gylch yn drosedd (adran 5 o Ddeddf 2016).

Mae’n rhaid i berson sydd am gael ei gofrestru o dan Ran I o Ddeddf 2016 gyflwyno cais i gofrestru’n unol ag adran 6 o Ddeddf 2016 a'r rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno. Mae'n ofynnol bod gan wasanaeth a reoleiddir berchennog cofrestredig. Mae’r mathau o bobl sy'n gallu gwneud cais i ddarparu gwasanaeth a reoleiddir i’w gweld yn adran 9 o Ddeddf 2016.

Fel rhan o'r cais, rhaid i'r ymgeisydd ddynodi person fel yr ‘unigolyn cyfrifol’ (‘UC’) mewn perthynas â phob man y darperir gwasanaeth a reoleiddir ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef. Mae rheoliadau o dan adran 28 o Ddeddf 2016 yn gosod gofynion ar yr UC mewn perthynas â'r gwasanaethau a reoleiddir y mae'n gyfrifol amdanynt.

Mae AGC wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer darparwyr mewn perthynas â chofrestru gwasanaethau o dan y Ddeddf.

Mae adran 7 o Ddeddf 2016 yn nodi'r prawf ar gyfer cymeradwyo neu wrthod cais. Os yw AGC yn fodlon bod y gofynion yn adran 7 wedi'u bodloni (sy'n cynnwys y gofynion bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol, ac y cydymffurfir â rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf 2016 ac unrhyw ddeddfiadau perthnasol eraill), yna mae’n rhaid caniatáu’r cais, neu mae’n rhaid iddo ei wrthod fel arall. Gall cofrestriad gael ei ganiatáu naill ai'n ddiamod neu gydag amodau, fel y gwêl AGC yn dda.

Os yw AGC yn bwriadu gwrthod y cais i gofrestru, mae’n rhaid iddo roi hysbysiad o gynnig i wrthod y cais. Mae gan yr ymgeisydd yr hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod i ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad. Ar ôl derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan y darparwr gwasanaeth cofrestredig na chyflwynir unrhyw sylwadau, neu ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno'r hysbysiad, os bydd AGC yn dal i fwriadu mabwysiadu'r cynnig, rhaid iddi gyhoeddi hysbysiad ysgrifenedig o'i phenderfyniad. Mae adran 26 o'r Ddeddf yn darparu'r hawl i ymgeisydd apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan AGC.

Yn ogystal â meddu ar bwerau i wrthod neu gymeradwyo ceisiadau, gall AGC amrywio, dileu neu osod unrhyw amod ar gofrestriad person ar unrhyw adeg ar ôl cofrestriad cyntaf. Yn yr un modd gall person cofrestredig gymryd camau mewn perthynas â'u cofrestriad eu hunain a gallant wneud cais i amrywio neu ddileu unrhyw amodau sydd mewn grym mewn perthynas â'u cofrestriad neu ddiddymu eu cofrestriad yn wirfoddol.

Swyddogaethau arolygu mewn perthynas â gwasanaethau a reoleiddir

Mae Pennod 3 yn Rhan 1 o Ddeddf 2016 yn nodi pwerau AGC mewn perthynas â gwybodaeth ac arolygiadau. Mae'n cynnwys y pŵer i wneud y canlynol: gorfodi person i ddarparu AGC â gwybodaeth y mae'n ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn ymarfer ei swyddogaethau; cael mynediad i fangreoedd a'u harolygu; ymafael mewn dogfennau a deunydd y mae gan AGC reswm i gredu y gallent fod yn dystiolaeth o fethu â chydymffurfio â'r amodau neu ofynion a osodwyd ar y person cofrestredig a’u symud.

Adran 3

Gorfodi

Mae gan Weinidogion Cymru nifer o bwerau gorfodi sifil y gellir eu crynhoi fel a ganlyn: -

  • Amrywio, dileu neu osod amodau – a.13
  • Canslo Cofrestriad - a.15
  • Diddymu Cofrestriad fel mater brys neu amrywio gwasanaethau neu lefydd – a.23
  • Amrywio cofrestriad fel mater brys: amodau eraill – a.25
  • Ar gyfer unrhyw gamau gorfodi sifil a gymerir, mae gweithdrefnau statudol sydd yn darparu hawl i ddarparwr gwasanaeth cofrestredig herio penderfyniadau a wneir gan AGC.

Ar gyfer unrhyw gamau gorfodi nad ydynt yn rhai brys, mae'r broses sydd i'w dilyn i’w gweld yn adrannau 16–20 o Ddeddf 2016. O dan yr adran berthnasol, rhaid i AGC gyflwyno'r canlynol i'r darparwr cofrestredig:

  • Hysbysiad o Gynnig lle y mae'n ceisio amrywio neu osod amodau ar gofrestriad y darparwr (adran 18), 
  • Hysbysiad o Welliant lle y mae'n ceisio diddymu cofrestriad y darparwr gwasanaeth neu amrywio cofrestriad y darparwr trwy ddileu gwasanaeth a reoleiddir neu fan y darperir gwasanaeth a reoleiddir ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef (adran 16).

Pan gyflwynwyd Hysbysiad o Gynnig, mae gan y darparwr gwasanaeth yr hawl i gyflwyno sylwadau o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno'r hysbysiad. Ar ôl derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan y darparwr cofrestredig na fydd unrhyw sylwadau’n cael eu cyflwyno, neu os oes cyfnod o 28 diwrnod wedi mynd heibio ers cyflwyno'r hysbysiad, os bydd AGC yn bwriadu mabwysiadu'r cynnig, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig yn nodi’r penderfyniad. Mae adran 26 o Ddeddf 2016 yn darparu'r hawl i ddarparwr cofrestredig apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan AGC.

Pan fydd Hysbysiad o Welliant wedi'i gyflwyno, mae gan y darparwr gwasanaeth yr hawl i gyflwyno sylwadau cyn diwedd y cyfyngiad amser a nodir yn yr hysbysiad. Os na fydd AGC yn fodlon â'r canlynol:

  • bod y cam a nodir yn yr Hysbysiad o Welliant wedi'i gymryd o fewn y cyfyngiad amser a nodir yn yr hysbysiad – gallai gyflwyno Hysbysiad o Benderfyniad i ddileu neu amrywio cofrestriad y darparwr ar sail yr hyn a nodir yn yr Hysbysiad o Welliant, 
  • na ddarparwyd yr wybodaeth yn yr Hysbysiad o Welliant o fewn y cyfyngiad amser a nodir yn yr hysbysiad – rhaid iddo gyflwyno Hysbysiad o Benderfyniad i ddileu neu amrywio cofrestriad y darparwr ar sail yr hyn a nodir yn yr Hysbysiad o Welliant.

Mae adran 26 o Ddeddf 2016 yn darparu'r hawl i ddarparwr gwasanaeth apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan AGC.

Ar gyfer unrhyw gamau gorfodi brys, mae'r broses sydd i'w dilyn i’w gweld yn adrannau 23–26 o Ddeddf 2016. O dan adran 23 o Ddeddf 2016, rhaid gwneud cais i ynad heddwch i ddileu cofrestriad y darparwr fel mater o frys neu amrywio cofrestriad y darparwr trwy ddileu gwasanaeth a reoleiddir neu fan y darperir gwasanaeth a reoleiddir ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef. Os gwneir gorchymyn, daw i rym ar unwaith (oni fydd y gorchymyn yn nodi fel arall) ac mae'n rhaid i’r gwasanaeth y canslwyd neu yr amrywiwyd ei gofrestriad roi'r gorau i weithredu. Mae’r hawl i apelio yn adran 24 o Ddeddf 2016 yn berthnasol i benderfyniadau o'r fath.

Mae adran 25 o Ddeddf 2016 yn galluogi AGC i amrywio neu osod amod ar gofrestriad fel mater o frys. Y broses ar gyfer gwneud hyn yw cyhoeddi Hysbysiad o Benderfyniad, a ddaw i rym ar unwaith. Mae’r hawl i apelio yn adran 26 o Ddeddf 2016 yn berthnasol i benderfyniadau o'r fath.

Adran 4

Troseddau

Mae gan AGC y pŵer i erlyn person sy'n cyflawni trosedd o dan Ddeddf 2016 a/neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno.

Troseddau mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth o wasanaethau a reoleiddir o dan Ddeddf 2016:

  • Darparu gwasanaeth a reoleiddir heb gofrestru i wneud hynny (adran 5)
  • Peidio â chydymffurfio â'r amodau cofrestru sydd mewn grym am y tro (adran 43)
  • Bwriadu twyllo rhywun arall trwy esgus bod yn ddarparwr gwasanaeth, esgus bod man yn darparu gwasanaeth ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef, neu esgus bod yn unigolyn cyfrifol (adran 44) 
  • Gwneud datganiad y mae'r person yn gwybod ei fod yn anwir neu'n gamarweiniol i raddau mawr mewn cais i gofrestru, cais i amrywio neu ddileu cofrestriad, datganiad blynyddol, neu wrth ymateb i ofyniad am wybodaeth a osodir gan AGC o dan adran 32(1) (adran 47) 
  • Peidio â chyflwyno datganiad blynyddol i AGC o fewn 56 o ddiwrnodau ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol dan sylw (adran 48) 
  • Peidio â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth i AGC o dan adran 32(1) (adran 49) Rhwystro pŵer arolygydd i arfer unrhyw swyddogaethau o dan Bennod 3 neu beidio heb esgus rhesymol â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd gan arolygydd sy'n arfer swyddogaethau o'r fath (adran 50).

Mae troseddau o dan Ddeddf 2016 yn droseddau y naill ffordd neu'r llall oni nodir fel arall. Mae person sy'n euog o drosedd ar euogfarn ddiannod yn agored i ddirwy neu i garchar am gyfnod nad yw'n hwy na chwe mis, neu i'r ddau; ar euogfarn ar dditiad, mae'n agored i ddirwy neu i garchar am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu i'r ddau.

Mae'r rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf 2016 hefyd yn darparu ar gyfer cyfres o droseddau.

Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i gyflwyno hysbysiad cosb i berson yn hytrach na chychwyn achosion os cyflawnir y drosedd o dan adrannau 47, 48 neu 49 o Ddeddf 2016 neu os fe'i rhagnodir mewn rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf 2016.

Adran 5

Gwasanaethau Mabwysiadu a Maethu Awdurdodau Lleol

Mae gwasanaethau mabwysiadu a maethu awdurdodau lleol yn cael eu harolygu gan yr awdurdod cofrestru, AGC, ond nid yw'n ofynnol iddynt fod wedi’u cofrestru, gan fod awdurdodau lleol yn cyflawni'r swyddogaethau hyn yn unol â dyletswyddau statudol o dan Adoption and Children Act 2002 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Rhaid i awdurdodau lleol, wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â gwasanaethau mabwysiadu, weithredu yn unol â'r gofynion yn Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2019 (O.S. 2019/291) a rhoi sylw i'r canllawiau a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol sydd i'w gweld yma:

Wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â gwasanaethau maethu, rhaid i awdurdodau lleol weithredu yn unol â'r gofynion yn Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1339) a rhoi sylw i'r canllawiau a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol.

Adran 6

Gwasanaethau mabwysiadu


Gwnaed Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/762) o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a gosodir ynddynt y gofynion rheoliadol a'r darpariaethau cysylltiedig ar gyfer darparwyr gwasanaethau mabwysiadu a reoleiddir ac ar gyfer y personau hynny a ddynodir fel yr unigolyn cyfrifol ar gyfer y cyfryw wasanaethau.

Mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol i asiantaethau gwirfoddol a gwasanaethau cymorth mabwysiadu, ac maent yn disodli Voluntary Adoption Agencies and the Adoption Agencies (Miscellaneous Amendments) Regulations 2003 (sydd bellach dim ond yn berthnasol i Loegr) a Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005, sydd wedi'u dirymu.

Pan ddarperir gwasanaeth mabwysiadu yng Nghymru, bydd rhaid i ddarparwr y gwasanaeth gofrestru gydag AGC. Mae'r model rheoleiddio gwasanaethau newydd yng Nghymru yn golygu os bydd asiantaeth mabwysiadu gwirfoddol neu asiantaeth cymorth mabwysiadu'n darparu gwasanaeth mabwysiadu yng Nghymru, ni waeth ble mae unrhyw un o'i changhennau na ble mae'r pencadlys (boed yng Nghymru neu yn Lloegr), rhaid iddi gofrestru gyda Gweinidogion Cymru (AGC) a bydd yn ddarostyngedig i'r drefn honno mewn perthynas â'r gwasanaeth a ddarperir yng Nghymru. Nid yn unig y bydd yn rhaid i asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol / asiantaethau cymorth mabwysiadu y mae ganddynt bencadlys yn Lloegr a changhennau yng Nghymru gofrestru ar wahân ar gyfer Cymru, ond bydd yn rhaid i'r rheiny, y mae eu swyddfeydd a'u canghennau oll yn Lloegr ond sy'n cynnal gweithgareddau yng Nghymru, gofrestru hefyd yng Nghymru gan eu bod yn darparu gwasanaeth a reoleiddir “mewn perthynas â” lle yng Nghymru.  

Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1313) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag asiantaethau mabwysiadu (awdurdodau lleol a gwasanaethau mabwysiadu a reoleiddir) yn arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â mabwysiadu o dan Ddeddf 2002. Pan fydd y swyddogaethau hynny'n cynnwys darparu cymorth – er enghraifft, cwnsela, darparu gwybodaeth a pharatoi ar gyfer mabwysiadu i ddarpar fabwysiadwyr – rheoleiddir yr agweddau hynny ar y gwasanaeth yn unol â'r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig.

Pan fydd gwasanaeth mabwysiadu'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, bydd yn rhaid i ddarparwr y gwasanaeth mabwysiadu gofrestru gydag AGC oni fydd eithriad yn y Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig yn berthnasol. Mae adran 2(6) o Adoption and Children Act 2002 yn darparu mai gwasanaethau cymorth mabwysiadu yw cwnsela, cyngor a gwybodaeth, ac unrhyw wasanaethau eraill a ragnodir gan y rheoliadau mewn perthynas â mabwysiadu. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2019 (O.S. 2019/286) yn gosod y gwasanaethau eraill hynny sy'n wasanaethau cymorth mabwysiadu.

Ynghyd â'r rheoliadau hyn y mae canllawiau statudol, sydd i'w gweld yma:

Mwy o erthyglau ynghylch Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016