Skip to main content

Datganoli 'deddfwriaethol' (2007 - presennol)

Yn dilyn gweithrediad Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (GoWA 1998), datblygodd consensws barn fod pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhy gyfyngedig a bod ei statws fel un corff corfforaethol. Roedd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (GoWA 2006) yn sefydlu Cynulliad Cenedlaethol a gyfansoddwyd o’r newydd fel deddfwrfa gyflawn, a gweithrediaeth ar wahân o’r enw ‘Llywodraeth Cynulliad Cymru’ a ailenwyd yn ddiweddarach yn ‘Llywodraeth Cymru’.

Yn fwy arwyddocaol, roedd GoWA 2006 yn rhoi’r grym i’r Cynulliad Cenedlaethol basio ei deddfwriaeth sylfaenol ei hun – ‘Mesur y Cynulliad’ dan system lle’r oedd cymhwysedd cyfyngedig yn cael ei drosglwyddo (naill ai gan Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol neu Ddeddf Seneddol) ar sail dameidiog – ac ers y refferendwm ar bwerau pellach yn 2011 ymlaen, ‘Deddf y Cynulliad’.

O dan yr hen fodel rhoi pwerau, roedd rhychwant cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu'n gyfyngedig i ddau ddeg un o feysydd pwnc a roddwyd gan adran 108 o GoWA 2006, ac Atodlen 7 ohoni, er bod eithriadau i'r rhain.

Yn dilyn hynny, mae Deddf Cymru 2014 wedi ehangu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol ar rai materion trethu. Y pynciau a roddwyd oedd:

  • Amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth a datblygiad gwledig
  • Henebion ac adeiladau hanesyddol
  • Diwylliant
  • Trethi datganoledig
  • Datblygiad economaidd
  • Addysg a hyfforddiant
  • Yr amgylchedd
  • Tân a gwasanaethau achub a hyrwyddo diogelwch tân
  • Bwyd
  • Iechyd a gwasanaethau iechyd
  • Priffyrdd a thrafnidiaeth
  • Tai
  • Llywodraeth leol
  • Gweinyddiaeth cyhoeddus
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Lles cymdeithasol
  • Chwaraeon a hamdden
  • Twristiaeth
  • Cynllunio gwlad a thref
  • Dŵr a amddiffyn rhag llifogydd
  • Yr Iaith Gymraeg

Newidiodd Ddeddf Cymru 2017 y system ar gyfer pennu pwerau  Senedd Cymru o fodel ‘rhoi pwerau’ i fodel ‘cadw pwerau’, sy'n cyd-fynd â'r modelau a fabwysiadwyd ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mewn model cadw pwerau, nid oes rhestr benodol o bynciau datganoledig. Mae'r model yn gweithredu ar y sail bod popeth wedi'i ddatganoli oni fydd wedi'i gadw i Senedd y DU. Nodir rhychwant cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru yn adran 108A ac yn atodlenni 7A a 7B i GoWA 2006 wedi'i diwygio gan Ddeddf Cymru 2017.

Nodir manylion pellach y model cadw pwerau isod, er yn ymarferol, gwnaed ond ychydig o newidiadau gan y Deddf Cymru 2017 i'r pynciau y caiff Senedd Cymru ddeddfu arnynt.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
18 Mehefin 2021