Deddf Cymru 2014
Am y tro cyntaf, datdanolodd y Ddeddf Cymru 2014 (WA 2014) y pŵer i wneud deddfwriaeth sylfaenol i gyflwyno trethi i Gymru .Roedd y Ddeddf hefyd yn estyn pwerau benthyca Llywodraeth Cymru. Mae’r ddau ddatblygiad hyn yn gweithredu argymhellion Rhan 1 Adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk). Mae WA 2014 yn cynnwys ychydig o ddarpariaethau amrywiol eraill, a amlinellir isod.
Trethi datganoledig newydd
Galluogodd WA 2014 y Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a elwir bellach yn Senedd Cymru) i ddeddfu ar drethi datganoledig. Mae'r darpariaethau o ran treth wedi cael eu cynnwys yn Rhan 4A o GOWA 2006. Yn wreiddiol, bwriad y ddeddfwriaeth oedd creu system ar gyfer casglu a gweinyddu trethi datganoledig Cymru yn ogystal â chreu dwy dreth ddatganoledig. Roedd y rhain yn cynnwys treth Gymreig ar drafodiadau a oedd yn cynnwys buddiannau mewn tir (a ddisodlodd treth dir y dreth stamp yng Nghymru) a threth Gymreig ar brosesau tirlenwi (a ddisodlodd y dreth dirlenwi yng Nghymru). Daeth y ddwy i rym ar 1 Ebrill 2018. Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol ar drethi a basiwyd hyd yn hyn fel a ganlyn:
Sefydlodd Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). Mae ACC yn gyfrifol am gasglu a rheoli trethi datganoledig. Mae'r Ddeddf wedi rhoi ar waith y fframwaith cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol. Mae'n cyflwyno pwerau a dyletswyddau priodol ar ACC er mwyn galluogi ACC i bennu a chasglu'r swm priodol o drethi datganoledig sydd i'w talu gan drethdalwyr. Gweler rhagor o wybodaeth ynglŷn ag ACC ac ynglŷn â threthi datganoledig Cymreig yn fwy cyffredinol yma.
O 1 Ebrill 2018, mae'r Dreth Trafodiadau Tir yn berthnasol i drafodiadau tir yng Nghymru. Ni fydd trafodiadau tir yng Nghymru bellach yn destun Treth Dir y Dreth Stamp ond bydd yn destun y Dreth Trafodiadau Tir fel y'i cyflwynir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Yn y bôn, treth trafodiadau yw'r dreth ddatganoledig hon sy'n berthnasol i brosesau caffael buddiannau mewn tir yng Nghymru. Caiff y dreth ei gweithredu gan ACC.
Sefydlodd Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 dreth newydd ar warediadau tirlenwi. O 1 Ebrill 2018 codwyd treth ar warediadau trethadwy, a ddiffinnir ym Mhennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2017. Mae'r Ddeddf hefyd yn gwneud darpariaethau ar gyfer gwarediadau a eithriwyd rhag y dreth. ACC sy'n gyfrifol am gasglu a rheoli'r dreth.
Y gallu i bennu cyfraddau treth incwm ar gyfer Cymru
Mae WA 2014 hefyd yn rhoi’r pŵer Senedd Cymru bennu cyfraddau treth incwm ar gyfer trethdalwyr Cymreig. Nid yw'r pŵer hwn yn cynnwys creu treth incwm Gymreig newydd, ond yn hytrach mae'n newid cyfraddau treth incwm y DU y mae trethdalwyr Cymreig yn eu talu. Pan gafodd WA 2014 ei chyflwyno, roedd cyflwyno cyfraddau'r dreth incwm Gymreig yn ddibynnol ar bleidlais “o blaid” mewn refferendwm. Cafodd yr angen am fath refferendwm ei ddileu gan Deddf Cymru 2017 ac o 6 Ebrill 2019 mae cyfraddau'r Dreth Incwm Gymreig, fel y'u nodir gan Lywodraeth Cymru, yn berthnasol i drethdalwyr Cymreig.
Mae rheolau manwl wedi’u hychwanegu gan adran 116E o GOWA 2006 er mwyn penderfynu a yw unigolyn yn ‘drethdalwr Cymreig’ a ddylai dalu cyfraddau treth incwm Cymru.
Pwerau benthyca Gweinidogion Cymru
Hefyd, mae darpariaethau yn WA 2014 sy'n estyn pwerau benthyca Gweinidogion Cymru. I ddechrau, mi roeadd pŵer newydd i fenthyca arian ar gyfer gwariant cyfredol, lle bo angen hyn yn sgil diffyg mewn derbyniadau o drethi datganoledig neu yn sgil cyfradd treth incwm Cymru o gymharu â’r derbyniadau a oedd wedi eu rhagweld.
Yn ail, mi roeadd pŵer i fenthyca i ariannu gwariant cyfalaf, ond dim ond gyda chaniatâd y Trysorlys. Cynyddodd WA 2017 yr uchafswm y gellir ei fenthyca o £500 miliwn i £1 biliwn.
Darpariaethau amrywiol
Hefyd mae WA 2014 yn:
- cynyddu hyd tymor Senedd Cymru (h.y. yr amser rhwng etholiadau cyffredinol Aelodau’r Senedd) o bedair blynedd i bump.
- dileu’r cyfyngiad ar unigolyn i sefyll fel aelod etholaeth ac aelod rhanbarthol.
- atal unigolyn rhag bod yn Aelod Seneddol ac yn Aelod Cynulliad.
- ail enwi Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ‘Llywodraeth Cymru’.
- Ychwangu ddarpareth i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i alluogi’r Trysorlys i osod terfynau ar y swm cyfanredol o ddyledion tai y gall awdurdodau tai lleol yng Nghymru sy’n cadw Cyfrif Refeniw Tai fynd iddo.
- datgan yn benodol mai cyfrifoldeb Comisiwn y Gyfraith yw darparu cyngor a chymorth i Weinidogion Cymru. Mae yna rwymedigaeth newydd ar Weinidogion Cymru i adrodd sut mae argymhellion Comisiwn y Gyfraith wedi’u rhoi ar waith yng Nghymru hefyd. Dysgwch fwy am Gomisiwn y Gyfraith mewn perthynas â Chymru.