Deddf Cymru 2017
Mae Deddf Cymru 2017 (WA 2017) yn diogelu Senedd Cymru, Llywodraeth Cymru a'r deddfau a wnânt fel rhan barhaol o drefniadau cyfansoddiadol y DU. Ni ellir diddymu Senedd Cymru na Llywodraeth Cymru heb fod pobl Cymru yn cytuno â hynny.
Yr ail newid sylweddol a gyflwynwyd gan WA 2017 oedd y symudiad o fodel ‘rhoi pwerau’ o bennu'r hyn sydd wedi'i ddatganoli i ‘fodel cadw pwerau’. Dyma'r model hefyd sy'n tanategu'r setliad datganoli yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon.
Y model cadw pwerau
O dan fodel cadw pwerau, gall deddfwrfa ddeddfu ar unrhyw fater oni fydd wedi'i hatal yn arbennig rhag gwneud hynny. Yng nghyd-destun Cymru, mae hyn yn golygu bod Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (GOWA 2006) bellach yn cynnwys rhestr o bynciau na ellir deddfu arnynt (gan eu bod wedi'u cadw i Senedd y DU) yn hytrach na rhestr o bynciau y gall ddeddfu arnynt. Er bod hyn yn golygu bod rhagdybiaeth o blaid bod rhywbeth wedi'i ddatganoli, yn ymarferol nid yw'n cynnwys newid sylweddol gan fod y rhestr o bynciau sydd bellach wedi'u cadw yn debyg iawn i'r rhestr o bynciau a roddwyd yn flaenorol.
Adran 108A o GOWA 2006
Gall Senedd Cymru ond wneud deddfau sydd o fewn ei gymhwysedd deddfwriaethol. Nodir y prawf ar gyfer cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru yn adran 108A o GOWA 2006. Mae'r adran newydd hon yn nodi rhychwant cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Gall Senedd Cymru wneud unrhyw ddeddf nad yw'n:
- ymestyn y tu hwnt i Gymru a Lloegr (felly ni all Senedd Cymru wneud deddfau i'w gorfodi y tu hwnt i gyd-awdurdodaeth Cymru a Lloegr);
- gweithredu neu greu, newid neu ddileu swyddogaethau ymarferadwy ac eithrio o ran Cymru;
- ymwneud ag unrhyw un o'r materion a gedwir a restrir yn Atodlen 7A i GOWA 2006
- mynd yn groes i unrhyw un o'r cyfyngiadau yn Atodlen 7B i GOWA 2006; neu’n
- mynd yn groes i gyfraith yr UE neu hawliau Confensiwn (dynol)
Rhaid bodloni pob elfen o'r prawf a nodir yn Adran 108A o GOWA 2006 ar gyfer darpariaethau o fewn cymhwysedd deddfwriaethol. Os na fydd unrhyw un o'r profion uchod wedi'u bodloni, bydd y darpariaethau hynny y tu hwnt i'r cymhwysedd ac ni all Senedd Cymru ddeddfu arnynt.
Atodlen 7A
Nodir y materion y cyfeirir atynt yn adran 108A(2)(c) y’u cedwir i Senedd y DU ac na all Senedd Cymru ddeddfu arnynt yn Atodlen 7A i GOWA 2006. Mae'r cymalau cadw wedi'u rhannu'n ddau gategori, sef cymalau materion a gadwyd cyffredinol a materion a gadwyd penodol.
Rhestrir y cymalau cadw cyffredinol o dan yr is-benawdau canlynol:
- Y Cyfansoddiad
- Gwasanaethau cyhoeddus
- Pleidiau gwleidyddol
- Awdurdodaeth gyfreithiol unigol Cymru a Lloegr
- Tribiwnlysoedd
- Materion tramor ac ati
- Amddiffyn
Rhestrir y cymalau cadw penodol o dan yr is-benawdau canlynol:
- Materion Ariannol ac Economaidd
- Materion cartref
- Masnach a Diwydiant
- Ynni
- Trafnidiaeth
- Nawdd Cymdeithasol, Cynnal Plant, Pensiynau ac Iawndal
- Proffesiynau
- Cyflogaeth
- Iechyd, Diogelwch a Meddyginiaethau
- Y Cyfryngau, Diwylliant a Chwaraeon
- Cyfiawnder
- Tir ac Asedau Amaethyddol
- Amrywiol
Os bydd darpariaethau Deddf Senedd Cymru yn ymwneud ag unrhyw un o'r materion a restrwyd yn Atodlen 7A, byddant y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Pan na fydd darpariaethau Deddf Senedd Cymru yn ymwneud ag unrhyw un o'r materion a gedwir yn ôl a nodir yn Atodlen 7A i GOWA 2006, gallai fod y tu hwnt i'w gymhwysedd o hyd os torrir unrhyw un o'r profion cymhwysedd eraill yn adran 108A.
Atodlen 7B
Mae Atodlen 7B yn cynnwys nifer o gyfyngiadau sy'n berthnasol hyd yn oed pan na fydd y darpariaethau'n ymwneud â materion a gedwir yn ôl. Roedd rhai o'r cyfyngiadau hyn eisoes yn berthnasol ond mae llawer ohonynt yn newydd.
Mae Atodlen 7B wedi'i gosod mewn dwy ran, mae Rhan 1 yn nodi'r cyfyngiadau cyffredinol ar gymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru ac mae Rhan 2 yn darparu eithriadau cyffredinol rhag Rhan 1.
Mae'r cyfyngiadau yn Atodlen 7B yn cynnwys cyfyngiadau ar ddarpariaethau Deddf gan Senedd Cymru sy'n addasu'r gyfraith ar faterion a gedwir yn ôl, cyfraith breifat, cyfraith droseddol a deddfu penodol megis Deddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004. Hefyd, mae darpariaethau sy'n ymwneud â'r amgylchiadau lle bydd darpariaethau Deddf gan Senedd Cymru sy'n ymwneud â materion na chedwir yn ôl dim ond o fewn y cymhwysedd os rhoddir cydsyniad gan weinidogion y DU.
Mae'r eithriadau cyffredinol yn Atodlen 7B yn cynnwys eithriad lle bydd darpariaethau Deddf gan Senedd Cymru yn ailddatgan y gyfraith (mewn geiriau eraill, ei hail-wneud heb newid parhaol).
Darpariaethau datganoledig eraill
Hefyd, cafodd pwerau gweithredol pellach eu datganoli i Senedd Cymru ac i Weinidogion Cymru gan WA 2017. Mae'r rhain yn cynnwys:
- datganoli mwy o gyfrifoldeb i Senedd Cymru i gynnal ei waith ei hun, gan gynnwys penderfynu ar ei enw;
- trosglwyddo cyfrifoldeb i Weinidogion Cymru dros bolisi porthladdoedd, cyfyngiadau cyflymder, cofrestru bysiau, rheoliadau tacsis, etholiadau llywodraeth leol, carthffosiaeth a chaniatâd ar gyfer datblygiadau ynni hyd at 350 MW;
- trosglwyddo cyfrifoldeb i Weinidogion Cymru am drwyddedau morol, cadwraeth a chaniatâd ar gyfer datblygiadau ynni yn y rhanbarthau morol yng Nghymru. Ynghyd ag estyn y cyfrifoldeb dros reoliadau adeiladau i gynnwys adeiladau ynni a eithrir;
- datganoli pŵer dros etholiadau Senedd Cymru;
- datganoli pwerau dros drwyddedu gwaith mwyngloddio olew a nwy ar y tir;
- alinio'r ffin datganoli ar gyfer y gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr; a
- chreu rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru i oruchwylio'r tribiwnlysoedd datganoledig a chaniatáu traws-leoli deiliaid swyddi barnwrol.
Swyddogaethau gweinidogol gweithredol
Mae WA 2017 hefyd yn rhoi pwerau ‘tebyg i gyfraith gyffredin’ i Weinidogion Cymru, a ddisgrifir fel swyddogaethau gweinidogol gweithredol. Mae swyddogaethau gweinidogol gweithredol yn golygu swyddogaeth Ei Fawrhydi y gall Gweinidog y Goron ei hymarfer ar ei rhan. Ymhlith y rhain mae swyddogaethau sy'n cynnwys gwariant, ond nid swyddogaethau sy'n ymwneud â'r uchelfraint nac unrhyw swyddogaethau a weithredir gan ddeddfwriaeth. Mae'r pwerau cyfraith gyffredin a drosglwyddwyd o dan adran 58A yn nodi gallu'r Goron i wneud pethau y gall unigolyn naturiol ei wneud. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, y pŵer i fynd i wariant, ymrwymo i gytundebau a rhannu gwybodaeth.
Gellir ymarfer y swyddogaethau gweinidogol gweithredol hyn, o ran swyddogaethau datganoledig ac yn ategol i swyddogaethau gweithredol a roddwyd i Weinidogion Cymru ar feysydd a gedwir yn ôl.