Skip to main content

Y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru

Mae'r rhan hon o'r safle yn cael ei hadolygu a bydd deunydd pellach ar gael cyn hir.

Sefydlwyd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (cyfeirir ato yn aml fel 'Comisiwn Silk', ar ôl ei gadeirydd, Paul Silk KCB) o ganlyniad i ymrwymiad a wnaed yng Nghytundeb Clymblaid Llywodraeth y DU.

Lansiwyd y Comisiwn ar 11 Hydref 2011 gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a’r tair gwrthblaid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (cynt). Gofynnwyd iddo ystyried sut y gellid newid cwmpas datganoli er mwyn gwasanaethu pobl Cymru yn well.

Ym mis Hydref 2011, sefydlodd y Llywodraeth Comisiwn Silk i adolygu'r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol yng Nghymru. Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad cyntaf, ‘Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru’ ym mis Tachwedd 2012, gan wneud 33 o argymhellion i wella atebolrwydd ariannol y Cynulliad a Llywodraeth Cymru. Ymatebodd y Llywodraeth yn ffurfiol ym mis Tachwedd 2013, gan dderbyn y rhan fwyaf o argymhellion y Comisiwn. 

Choeddodd y Comisiwn ei ail adroddiad, ‘Datganoli, Democratiaeth a Chyflawni: pwerau i wireddu ein dyheadau ar gyfer Cymru’ ym mis Mawrth 2014 a wnaeth 61 o argymhellion. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb ar 1 Gorffennaf 2014 lle nododd ei hachos am bwerau ehangach ar y model cadw pwerau. 

Nododd Llywodraeth glymblaid y DU gyfres o gynigion mewn ymateb i ail adroddiad y Comisiwn.Enw hyn yw proses Dydd Gŵyl Dewi. Roedd y cynigion yn cynnwys mabwysiadu model o ddatganoli sy’n seiliedig ar gadw pwerau yng Nghymru, datganoli mwy o bwerau i Gymru, ac ymrwymiad sy'n ymwneud â chynnal cyllid Cymru uwchben lefel benodol (cyllid gwaelodol). 

Mae llawer o'r cynigion a wnaed yn adroddiad cyntaf ac ail adroddiad Comisiwn Silk wedi cael eu gweithredu gan y Deddf Cymru 2014 a’r Deddf Cymru 2017

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
20 Rhagfyr 2023