Cyfri a phennu'r canlyniad
Mae peth o'r cynnwys ar y tudalennau hyn yn cael ei adolygu a byddant yn cael eu diweddaru cyn bo hir.
Etholiadau llywodraeth leol
Mae'r Local Elections (Principal Areas) (England and Wales) Rules 2006 ("Rheolau 2006") yn rheoli'r ffordd y cynhelir etholiadau i gynghorau sir a bwrdeistref sirol yng Nghymru. Mae'r Local Elections (Parishes and Communities) (England and Wales) Rules 2006 ("y Rheolau Cymunedau") yn rheoli'r ffordd y cynhelir etholiadau i gynghorau cymuned a thref yng Nghymru. Mae'r rhain hefyd yn cynnwys sut bydd y cyfri'n cael ei gyflawni a sut mae'n rhaid cyhoeddi etholiadau.
Mae'r cyfeiriadau isod at etholiadau llywodraeth leol yn golygu etholiadau cyngor sir, bwrdeistref sirol, tref a chymuned.
Mae'r cyfeiriadau at Reolau isod yn ymwneud ag Atodlen 2 i Reolau 2006. Bydd yr un cyfeiriadau hefyd yn gymwys i'r Rheolau Cymunedau.
Etholiadau un ymgeisydd
Etholiadau a ymleddir
Pan fydd nifer yr ymgeiswyr yn fwy na nifer y seddi gwag, rhaid cynnal etholiad. Pan fydd yr etholiad yn cau (o dan Reol 43), rhaid cyfri'r pleidleisiau.
Mae Rheol 44 yn amlinellu pwy all fod yn bresennol wrth gyfri'r pleidleisiau.
Mae Rheol 45 yn amlinellu sut dylid agor y bocsys pleidleisio, pwy all fod yn bresennol pan fydd y bocsys yn cael eu hagor, a bod yn rhaid i'r cardiau pleidleisio fod yn gymysg â'r pleidleisiau drwy'r post. Mae'r rheol hon hefyd yn amlinellu'r broses ddilysu cyn dechrau cyfri. Mae'r rheol yn galluogi'r swyddog canlyniadau i ohirio'r weithred o gyfri'r pleidleisiau dros dro ac yn amlinellu sut mae'n rhaid selio dogfennau a bocsys pan fydd gohiriad dros dro.
Mae Rheol 46 yn rhagnodi'r amgylchiadau lle gellir cyhoeddi ailgyfrif. Gall y swyddog canlyniadau wrthod ailgyfri'r pleidleisiau os credir bod hyn yn afresymol.
Mae Rheolau 47 a 48 yn amlinellu pryd gellir dirymu neu wrthod pleidlais. Amlinella'r darpariaethau mai'r swyddog canlyniadau sydd â'r penderfyniad olaf, ond gall hyn fod yn unol â deiseb etholiadau.
Mae Rheol 49 yn amlinellu y bydd ymgeisydd/ymgeiswyr yn cael ei/eu (d)dewis ar hap pan fydd y canlyniad yn 'gyfartal'.
Etholiadau a ymleddir – y system etholiadol
Mae'r system etholiadol a ddefnyddir mewn etholiadau llywodraeth leol yn gweithredu ar ddull y cyntaf i'r felin. Golyga hyn fod gan bob etholaeth un bleidlais ar gyfer pob sedd wag ar y cyngor .
Mewn etholiadau gydag un sedd wag, y sawl a gaiff ei ethol fydd y sawl â'r nifer fwyaf o bleidleisiau.
Mae gan rai cynghorau 'wardiau aml-aelod’. Golyga hyn fod gan y ward honno fwy nag un cynghorydd (h.y. mwy nag un sedd wag mewn etholiad). Pan fydd etholiadau i'r wardiau hyn, bydd gan etholwyr un bleidlais ar gyfer pob sedd wag. Caiff yr unigolion â'r nifer fwyaf o bleidleisiau eu hethol.
Etholiadau un ymgeisydd ac etholiadau a ymleddir: cyhoeddi'r canlyniadau
Mae Rheol 50 yn amlinellu sut y mae'n rhaid i'r swyddogion canlyniadau gyhoeddi pwy yw'r ymgeisydd etholedig a sut caiff hysbysiadau eu cyhoeddi.
Ar gyfer etholiadau a ymleddir, rhaid cyhoeddi'r canlyniad cyn gynted â phosibl. Rhaid i'r swyddog canlyniadau gyhoeddi'r ymgeisydd/ymgeiswyr etholedig, hysbysu'r cyngor perthnasol fod yr ymgeisydd wedi'i ethol, a rhoi hysbysiad cyhoeddus o'r canlyniad.
Ar gyfer etholiadau un ymgeisydd, rhaid i'r swyddog canlyniadau gyhoeddi enw(au) yr unigolyn/unigolion a enwebwyd yn ddilys cyn gynted ag y bo'n ymarferol a hysbysu'r cyngor perthnasol a'r cyhoedd o bwy sydd wedi ei ethol.
Derbyn swydd
Bydd yr ymgeisydd a etholir mewn etholiad arferol yn dod yn gynghorydd ar y pedwerydd dydd ar ôl yr etholiad. Bydd pob cynghorydd yn aros mewn swydd tan y pedwerydd dydd ar ôl yr etholiad arferol nesaf.
Mae gan ymgeisydd a etholir mewn etholiad cyngor sir neu fwrdeistref sirol ddau fis o ddiwrnod y canlyniadau i ddatgan ei fod yn derbyn swydd cynghorydd . Rhaid i unrhyw ddatganiad derbyn gael ei wneud ar ffurf a ragnodir gan Weinidogion Cymru.
Rhaid i ymgeisydd etholedig ar gyfer cyngor tref neu gymuned ddatgan ei fod yn derbyn swydd cynghorydd yng nghyfarfod cyntaf y cyngor tref neu gymuned neu cyn hynny. Gall yr ymgeisydd etholedig hefyd ddatgan ei fod yn derbyn y swydd yn ddiweddarach os caniateir hyn gan y cyngor tref neu gymuned. Rhaid i unrhyw ddatganiad derbyn gael ei wneud ar ffurf a ragnodir gan Weinidogion Cymru .
Gall methu â chyflwyno datganiad sbarduno is-etholiad.
Etholiadau'r Senedd
Sut caiff Aelodau Seneddol eu hethol
Mae 60 o Aelodau Seneddol (AS) ar hyn o bryd. Mae pump o'r rhain yn cynrychioli pob pleidleisiwr – mae un AS yn cynrychioli eich etholaeth Senedd a'r pedwar arall yn cynrychioli eich rhanbarth.
Felly, bydd gennych ddwy bleidlais pan fyddwch yn pleidleisio mewn etholiad i Senedd Cymru – un i ethol AS eich etholaeth ac un i ethol eich AS rhanbarthol.
Bydd AS ar gyfer etholaeth leol yn cael ei ddewis (ar gyfer pob un o'r 40 o etholaethau yng Nghymru) ar sail 'y cyntaf i'r felin', lle bydd yr ymgeisydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau'n ennill.
Bydd yr ail bleidlais a fwrir gennych ar gyfer ethol AS rhanbarthol pan fyddwch yn dewis o restr o ymgeiswyr o bleidiau neu rai annibynnol. Mae gan Gymru bum rhanbarth etholaethol: Gogledd Cymru, barth a Gorllewin Cymru, De-ddwyrain Cymru, De-orllewin Cymru a Chanol De Cymru, a phedwar AS ar gyfer pob un o'r pum rhanbarth a etholir drwy'r System Aelodau Ychwanegol, gyda'r nod o sicrhau bod nifer cyffredinol y seddi sydd gan bob plaid wleidyddol yn adlewyrchu cyfran y pleidleisiau a dderbynnir gan y blaid. Mae'r system yn defnyddio fformiwla a elwir yn 'fformiwla d'Hondt'.
Cyflwyniad: rheolau'r etholiad
Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (Gorchymyn 2007) yn gosod darpariaeth ar gyfer cynnal etholiadau ac ethol aelodau i Senedd Cymru.
Mae erthygl 17 o hwn yn darparu bod yn rhaid i weithrediadau etholiadau'r Senedd gael eu cynnal yn unol â'r rheolau ar gyfer etholiadau a nodwyd yn Atodlen 5 i Orchymyn 2007.
Y cyfrif
Mae Rheol 54 yn gosod darpariaeth ar gyfer pryd dylid cyfri pleidleisiau mewn etholiad Senedd a phwy ddylai fod yn bresennol.
Mae Rheol 55 yn amlinellu sut dylid agor y bocsys pleidleisio, pwy all fod yn bresennol pan fydd y bocsys yn cael eu hagor, a bod yn rhaid i'r cardiau pleidleisio fod yn gymysg â'r pleidleisiau drwy'r post. Mae'r rheol hon hefyd yn amlinellu'r broses ddilysu cyn dechrau cyfri. Mae'r rheol yn galluogi'r swyddog canlyniadau i ohirio'r weithred o gyfri'r pleidleisiau dros dro ac yn amlinellu sut mae'n rhaid selio dogfennau a bocsys pan fydd gohiriad dros dro.
Mae Rheolau 56 a 57 yn darparu ar gyfer amgylchiadau lle gellir cynnal ailgyfrif. Gall y swyddog canlyniadau wrthod ailgyfri'r pleidleisiau os credir bod hyn yn afresymol.
Mae Rheolau 58 a 59 yn amlinellu pryd gellir dirymu neu wrthod pleidlais ac mai'r swyddog canlyniadau sydd â'r penderfyniad olaf yn hyn o beth, ond gall hyn fod yn unol â deiseb etholiadau.
Mae Rheol 60 yn amlinellu y bydd ymgeisydd/ymgeiswyr yn cael ei/eu (d)dewis ar hap pan fydd canlyniad etholiad etholaeth Senedd yn 'gyfartal'.
Cyhoeddi'r canlyniadau
Mae Rheol 61 yn amlinellu sut y mae'n rhaid i swyddogion canlyniadau gyhoeddi pwy yw'r ymgeisydd etholedig a sut caiff hysbysiadau eu cyhoeddi mewn etholiad rhanbarthol.
Mae Rheol 62 yn gwneud yr un fath o ran etholiadau etholaethau.
Derbyn swydd
Unwaith y bydd cadarnhad wedi'i dderbyn gan y swyddog canlyniadau fod ymgeisydd wedi'i ethol, a chyn y gall unigolyn sefyll a phleidleisio yn Senedd Cymru, rhaid iddo gymryd llw teyrngarwch neu roi cadarnhad i Ei Fawrhydi y Brenin. Cyfeirir at hyn yn aml fel 'tyngu llw'.