Skip to main content

Cyfrifoldebau mewn perthynas â phlant

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant sy’n agored i niwed ac maent yn gallu darparu ystod eang o wasanaethau i blant a’u rhieni neu eu gofalwyr, gan amlaf o fewn amgylchedd eu cartrefi eu hunain ac wedi’u cyd-drefnu gan weithiwr cymdeithasol.

Mae’r gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn cefnogi teuluoedd ac yn diogelu plant a allai fod mewn perygl o niwed. Gall y lefel a’r math o gymorth a gynigir amrywio, yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos. Mae’r rhestr isod yn cynnwys enghreifftiau o’r mathau o amgylchiadau lle mae’n bosibl y bydd awdurdod lleol yn ymwneud â phlentyn neu deulu er mwyn darparu cefnogaeth a chymorth:

  • yn dilyn cais am gymorth gan berson (neu berson ar eu rhan) mewn cyfnod o straen neu i ofyn am gymorth neu gefnogaeth o fath nad yw ar gael oddi wrth ysgolion, meddygon teulu, gwasanaethau iechyd eraill, neu wasanaethau eraill yn y gymuned;
  • drwy ddarparu cymorth a chefnogaeth i blentyn sy’n anabl neu i oedolyn anabl sy’n gofalu am blentyn, neu berthynas neu ofalwr i berson o’r fath, gan gynnwys darparu gwasanaethau "seibiant byr";
  • yn dilyn dod yn ymwybodol o faterion diogelu plentyn mewn perthynas ag unrhyw blentyn, gan gynnwys achosion lle gallai trais rhwng oedolion arwain at niwed i blentyn;
  • yn dilyn cais i leoli plentyn mewn gofal maeth neu ofal preswyl dros dro, boed hynny o ganlyniad i argyfwng neu i ddarparu seibiant neu gyfres o seibiannau byr sydd wedi’u cynllunio;
  • lle mae plentyn yn cael ei roi mewn gofal yn dilyn ymyrraeth gan awdurdod lleol neu’r heddlu;
  • pan fo plentyn yn cael ei leoli i’w fabwysiadu, weithiau ar gais y rhiant, ond yn fwy aml yn dilyn gorchymyn llys
  • pan fydd y plentyn eisoes yng ngofal awdurdod lleol.

 

Plant sy'n derbyn gofal

Darperir llety gan awdurdod lleol i blant sy’n "derbyn gofal" i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd, naill ai ar gais y rhiant neu yn unol â "gorchymyn gofal" a wnaed o dan adran 31 o'r Deddf Plant 1989 (Deddf 1989).

Mewn rhai achosion, efallai bydd angen i’r awdurdod lleol roi llety i blentyn am nad oes neb sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto, neu mewn achosion lle mae’r plentyn ar goll, wedi ei adael neu mae ei amgylchiadau yn ei atal rhag derbyn gofal a llety gan riant neu berson â chyfrifoldeb rhiant. Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd o dan adran 76 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014) i ddarparu llety i blentyn o’r fath. Gellir sicrhau llety trwy gyfrwng lleoliad gyda rhiant maeth, mewn lleoliad preswyl, megis cartref plant neu drwy leoliad gyda pherthynas ("lleoliad carennydd").

Mae plentyn sydd wedi ei letya gan awdurdod lleol o dan adran 76 yn blentyn sy’n "derbyn gofal", ond nid yw’r awdurdod lleol yn cael cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

Mae adran 81(10) i (13) o Ddeddf 2014 yn darparu ar gyfer rhai amgylchiadau penodol lle mae awdurdod lleol yn fodlon I blentyn sy’n derbyn gofal gael ei leoli ar gyfer mabwysiadu, ac yn cynnig lleoli plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol. Mae'n nodi bod rhaid i'r awdurdod lleol leoli plentyn gyda’r darpar fabwysiadydd, onid yw’n ystyried ei fod yn fwy priodol i roi'r plentyn mewn mannau eraill hyd nes y gwneir gorchymyn lleoliad. Weithiau gelwir y trefniadau hyn yn 'maeth i fabwysiadu'. 

Gall llys roi gorchymyn gofal o dan adran 31(1)(a) o'r Deddf 1989 sy’n gosod plentyn yng ngofal awdurdod lleol dynodedig. Bydd cyfrifoldeb rhiant yn cael ei rannu rhwng rhieni’r plentyn a’r awdurdod lleol.

Mae adran 31(2) o Ddeddf 1989 yn darparu y bydd llys ond yn gwneud gorchymyn gofal os yw’n fodlon bod 

the harm, or likelihood of harm a child is suffering or likely to suffer, is attributable to…the care given, or likely to be given to the child …if the order were not made, not being what it would be reasonable to expect a parent to give…or the child being beyond parental control.

Ni ellir gwneud gorchymyn gofal mewn perthynas â phlentyn sydd wedi cyrraedd 17 oed (neu 16 yn achos plentyn sy’n briod).

Gwasanaethau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal

Mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ofalu am blentyn sicrhau bod yna gynllun gofal ar gyfer y plentyn yn unol â gofynion adran 83 o Ddeddf 2014 a rheoliadau a wnaed o dan adran 84 o'r Ddeddf-

gweler y Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015.

Cyfraniadau tuag at gynnal plant sy’n derbyn gofal

Mae Atodlen 1 i Ddeddf 2014 yn gofyn i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn ystyried a ddylai adennill cyfraniadau tuag at gost cynhaliaeth y plentyn oddi wrth oedolyn sydd a chyfrifoldeb rhiant y plentyn.

Caiff awdurdod lleol ond adennill cyfraniadau gan gyfrannwr os yw o’r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny ac nid oes hawl ganddo i geisio cyfraniad tuag at gostau cynnal y plentyn yn unrhyw un o’r achosion canlynol:

  • yn ystod cyfnod pan mae’r rhiant yn derbyn budd-dal a bennir mewn rheoliadau dan baragraff 1(4) o'r Atodlen;
  • os yw’r plentyn yn derbyn gofal ond yn cael ei leoli gyda’i rieni yn unol â trefniadau'r awdurdod lleol a wneir yn unol âg adran 81 o Ddeddf 2014;
  • os yw’r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol o dan adran 76 o Ddeddf 2014;
  • os yw’r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol o dan orchymyn gofal dros dro
  • pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol o dan adran 92 o'r Deddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000.

 

Gadael gofal a gwasanaethau ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal

Mae adrannau 105 i 115 o Ddeddf 2014 yn gosod dyletswyddau ar awdurdod lleol i ddarparu cymorth i blant a phobl ifanc y mae wedi bod yn gofalu amdanynt pan na fyddant yn derbyn gofal mwyach (y rhai sy’n gadael gofal). Bwriedir i’r cymorth  gyfateb i’r hyn y gallai plentyn sydd heb dderbyn gofal ei ddisgwyl yn rhesymol oddi wrth ei rieni.

Pwrpas y ddarpariaeth yw cynorthwyo pobl ifanc sydd wedi bod yn derbyn gofal i symud o dderbyn gofal i fyw’n annibynnol. Mae’r cyngor a’r cymorth y mae’r rhai sy’n gadael gofal yn ei dderbyn yn dibynnu ar eu hoedran a’u statws gadael gofal.

Er mwyn derbyn cymorth gan awdurdod lleol wrth adael gofal, rhaid i’r person ifanc fod wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol ar gyfer y cyfnod rhagnodedig o fewn yr ystod oedran penodedig (ar hyn o bryd mae’r meini prawf sydd wedi’u gosod yn Rheoliad 47 o'r Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 yn gofyn eu bod wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol am;

  • gyfnod o 13 wythnos rhwng (p'un a yw'n cael ei gymryd mewn un bloc neu peidio)
  • rhaid i'r cyfnod 13 wythnos sy'n cael ei gyfrif ddechrau ar ôl pen-blwydd yn 14 oed
  • rhaid iddo ddod i ben ar ôl y pen-blwydd yn 16 oed.

Nid oes gofyniad i'r cyfnod penodedig o gymwysterau fod wedi ei fodloni yn y cyfnod rhwng pen-blwydd y person yn 14 ac 16 oed. Bydd cyfnod sy'n dechrau ar ôl pen-blwydd person yn 16 oed yn cwrdd â'r gofyn yn yr un modd â chyfnod gan ddechrau'n syth ar ôl pen-blwydd yn 14 oed neu ar ôl pen-blwydd yn 15 oed.

Mae adran 104 o Ddeddf 2014 yn nodi’r categorïau gwahanol o bobl ifanc sy’n derbyn gofal, neu sydd wedi derbyn gofal, gan awdurdod lleol at ddibenion y Ddeddf. Mae gan bob categori hawl i dderbyn mathau neu lefelau gwahanol o gymorth. Mae adran 104(2) yn cynnwys disgrifiad o’r chwe chategori gwahanol.

Ystyr person ifanc categori 1 yw plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac sydd wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol (yng Nghymru neu yn Lloegr) am gyfnod (a bennir yn y rheoliadau) a ddechreuodd ar ôl i’r plentyn gyrraedd oedran a bennir yn y rheoliadau, ac a ddaeth i ben ar ôl i’r plentyn gyrraedd 16 oed. Mae’r diffiniad hwn yn ailddatgan diffiniad plentyn cymwys ym mharagraff 19B(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1989.

Ystyr person ifanc categori 2 yw person ifanc sy’n 16 neu’n 17 oed nad yw’n derbyn gofal bellach gan awdurdod lleol (yng Nghymru neu yn Lloegr) ond a oedd, yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben, yn berson ifanc categori 1. Mae diffiniad person ifanc categori 2 yn ailadrodd diffiniad plentyn perthnasol yn adran 23A o Ddeddf 1989.

Ystyr person ifanc categori 3 yw person ifanc sy’n 18 oed neu drosodd, sydd wedi bod yn berson ifanc categori 2 ac a fyddai’n parhau i fod felly pe bai o dan 18 oed; neu a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol pan gyrhaeddodd 18 oed, ac a oedd, yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben, yn berson ifanc categori 1. Mae diffiniad person ifanc categori 3 yn ailddatgan diffiniad plentyn perthnasol blaenorol yn adran 23C o Ddeddf 1989.

Ystyr person ifanc categori 4 yw person ifanc categori 3 o dan 25 oed (neu’n iau os yw’r rheoliadau’n nodi hynny) y mae’r dyletswyddau o dan adrannau 105, 106, 107(3) a (10) a 110 wedi peidio â bod yn gymwys iddo, ac sydd wedi hysbysu’r awdurdod lleol ei fod yn dilyn, neu ei fod yn dymuno dilyn, addysg neu hyfforddiant. Mae’r diffiniad o berson ifanc categori 4 yn cynnwys personau ifanc y gwneir darpariaeth ar eu cyfer o dan adran 23CA o Ddeddf 1989 (personau sy’n gymwys i dderbyn rhagor o gymorth i ddilyn addysg neu hyfforddiant). Bydd personau ifanc o’r fath yn gallu derbyn cyngor a chymorth drwy “ailgysylltu” ag awdurdod lleol at ddibenion ceisio dilyn addysg neu hyfforddiant.

Ystyr person ifanc categori 5 yw person ifanc sydd wedi cyrraedd 16 oed ond heb gyrraedd 21 oed eto y mae gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig mewn grym mewn cysylltiad ag ef (neu os yw’r person yn 18 oed neu’n hŷn, roedd gorchymyn mewn grym pan gyrhaeddodd 18 oed). Bydd gan berson ifanc categori 5 hawl i dderbyn yr un cymorth gan awdurdod lleol â’r hyn a ddarperir i berson sy’n gymwys i dderbyn cyngor a chymorth o dan adran 24A o'r Ddeddf Plant 1989 (ar y sail bod y person yn gymwys i dderbyn cyngor a chymorth ar sail adran 24(1A) o Ddeddf 1989).

Ystyr person ifanc categori 6 yw person ifanc nad yw wedi cyrraedd 21 oed eto; sy’n preswylio yng Nghymru; ac er nad yw’n derbyn gofal, ei letya neu ei faethu ar hyn o bryd, mae wedi derbyn gofal, ei letya neu ei faethu am gyfnod rhwng 16 a 18 oed. Nid yw’r diffiniad hwn yn cynnwys unrhyw un sy’n gallu cael ei gynnwys yn y diffiniad o berson ifanc categori 5. Bydd gan berson ifanc categori 6 hawl i dderbyn yr un cymorth gan awdurdod lleol â’r hyn a ddarperir i bersonau sy’n gymwys i dderbyn cyngor a chymorth o dan adran 24A ar sail adran 24(1B) o Ddeddf 1989.

“Pan Fydda i’n Barod” – trefniadau byw ôl-18

“Pan Fydda i’n Barod” yw cynllun sy’n galluogi awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswydd statudol i hwyluso trefniadau byw ôl-18. 

O dan adran 108 o Ddeddf 2014, mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau tuag at bobl ifanc mewn gofal maeth sy’n dymuno parhau i fyw gyda’u rhieni maeth ar ôl cyrraedd 18 oed.

Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol:

  • ganfod, wrth gynnal asesiadau llwybrau a llunio cynlluniau llwybrau ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed, a yw’r person ifanc a’i ofalwyr maeth yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18
  • darparu cyngor a chymorth arall i hwyluso trefniadau byw ôl-18 os yw’r person ifanc a’r gofalwyr maeth yn dymuno ymrwymo iddynt ac os yw’r awdurdod lleol yn fodlon nad yw hyn yn anghyson â llesiant y person ifanc. 

Dywed Rheoliad 50 o Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 i bwy y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu cyngor a gwybodaeth am drefniadau ôl-18 oed, a’r math o gyngor a gwybodaeth sydd i’w ddarparu.

Talu am gymorth i bobl sy’n gadael gofal

Yn unol ag adran 117 o Ddeddf 2014, mae awdurdod lleol yn gallu codi ffi am gymorth (ac eithrio cyngor) o dan adrannau 109 i 115 o'r Ddeddf (cymorth ar gyfer rhai sy’n gadael gofal). Dim ond ar bobl dros 18 oed y gellir codi ffioedd o dan adran 117, a dim ond costau’r awdurdod lleol wrth ddiwallu’r anghenion y mae’r ffi yn berthnasol iddynt y gellir codi ffi amdanynt.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
29 Tachwedd 2022