Skip to main content

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Prif ddibenion y Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (‘y Ddeddf’) yw i:

  • osod fframwaith lle bydd awdurdodau cyhoeddus penodol yng Nghymru yn ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu, heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain (yr egwyddor datblygu cynaliadwy),
  • osod nodau llesiant y bydd yr awdurdodau hynny yn ceisio eu cyflawni er mwyn gwella llesiant nawr ac yn y dyfodol,
  • nodi sut y bydd yr awdurdodau hynny yn dangos eu bod yn gweithio tuag at y nodau llesiant,
  • rhoi Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chynlluniau llesiant lleol ar sail statudol ac, wrth wneud hynny, symleiddio’r gofynion presennol o ran cynllunio cymunedol integredig, a
  • sefydlu Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i Gymru i fod yn eiriolwr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a fydd yn cynghori a chefnogi awdurdodau cyhoeddus Cymru wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan y Bil.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Dod i rym

Daeth adrannau 53 i 57 ac unrhyw ddarpariaethau angenrheidiol eraill i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf i rym ar 30 Ebrill 2015, sef y diwrnod ar ôl i'r Ddeddf gael Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 56(1).

Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a benodir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Mae’r gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Is-deddfwriaeth a waned o dan y Ddeddf:

EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 20212021 Rhif 1360 (Cy. 356)  1 Rhagfyr 2021    3 Rhagfyr 2021    Memorandwm Esboniadol
Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Asesiadau Llesiant Lleol) 20172017 Rhif 939 (Cy. 232)   19 Medi 2017    24 Hydref 2017    Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Darpariaethau Canlyniadol) 2015  2015 Rhif 1924 (Cy. 287)17 Tachwedd 2015  23 Tachwedd 2015    Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Buddiannau Cofrestradwy) 2015
 
2015 Rhif 1846 (Cy. 273)    29 Hydref 2015    23 Tachwedd 2015    Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth:

Cyflwynwyd y Bil ar 7 Gorffennaf 2014 gan Jeff Cuthbert AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. Yn dilyn newid i bortffolios gweinidogol ym mis Medi 2014, nododd y Prif Weinidog mai Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, fyddai’r aelod sy’n gyfrifol am y Bil o 11 Medi 2014 ymlaen. Cafodd y Ddeddf ei phasio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 17 Mawrth 2015.

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd a’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2). 

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2015.

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: yr hanfodion | LLYW.CYMRU
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
30 Ionawr 2024