Skip to main content

Deddf Seilwaith (Cymru) 2024

Mae Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (y Ddeddf) yn moderneiddio ac yn symleiddio’r broses ar gyfer datblygu prosiectau seilwaith arwyddocaol yng Nghymru drwy sefydlu proses gydsynio unigol ar gyfer rhai mathau o brosiectau seilwaith mawr. Bydd hyn yn cyflymu’r broses gydsynio ar gyfer prosiectau mawr ar y tir neu yn y môr tiriogaethol, gan greu mwy o gysondeb a sicrwydd o ran gallu Cymru i ddenu prosiectau seilwaith yn y dyfodol.

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn egluro pa bryd y mae datblygiad yn dod o fewn y diffiniad o “brosiect seilwaith arwyddocaol” ac yn rhoi arweiniad ynghylch pa bryd y mae prosiectau penodol, fel adeiladu neu newid cyfnewidfa nwyddau rheilffordd, cyfleuster harbwr neu faes awyr (gweler adrannau 9-11), yn dod o fewn y diffiniad hwnnw. Mae’r Ddeddf hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio Rhan 1 er mwyn ychwanegu mathau newydd o brosiectau at y diffiniad o brosiect seilwaith arwyddocaol, neu amrywio neu ddileu’r prosiectau seilwaith arwyddocaol sy’n cael eu diffinio yn y Ddeddf. 

Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn golygu bod rhaid i Weinidogion Cymru gydsynio ar gyfer datblygiad sy’n brosiect seilwaith arwyddocaol, neu’n rhan o un. Mae hyn yn cael ei alw’n “gydsyniad seilwaith”. Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio’r gofynion sydd ynghlwm wrth y cydsyniad hwn. 

Mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn disgrifio’r weithdrefn ar gyfer cael cydsyniad seilwaith; mae Rhan 4 yn dweud sut y bydd ceisiadau am gydsyniad seilwaith yn cael eu harchwilio; ac mae Rhan 5 yn dweud sut y bydd penderfyniadau ar geisiadau am gydsyniad seilwaith yn cael eu gwneud. 

Mae Rhan 6 yn esbonio’r hyn y gellir ei gynnwys mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith, a’r ffordd y gellir dirymu neu newid y gorchmynion hyn. Mae Rhan 7 yn ymdrin â gorfodi, er enghraifft, pan fo datblygiad yn cael ei wneud heb gydsyniad seilwaith, neu’n groes i delerau gorchymyn cydsyniad seilwaith. Mae’r Rhan hon hefyd yn egluro beth yw hysbysiadau datblygiad anawdurdodedig a hysbysiadau stop dros dro.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.

Dod i rym

Daeth Rhan 1, rhai darpariaethau penodol yn Rhannau 2 i 8, a Rhan 9 (ac eithrio adran 145) i rym ar 4 Mehefin 2024, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 147(1). Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu fwy o orchmynion. Nid oes unrhyw orchymyn o’r fath wedi ei wneud hyd yn hyn.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth 

Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 12 Mehefin 2023 gan Julie James AS, sef y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd. Cafodd ei basio gan y Senedd ar 16 Ebrill 2024, a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 3 Mehefin 2024.

Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o’i hynt y Bil drwy’r Senedd.

Mae’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru i gyd-fynd â’r Bil wedi ei ddiweddaru ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol. 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
21 Mehefin 2024