Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024
Mae Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (“y Ddeddf”) yn gwireddu’r rhan fwyaf o argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd. Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor: Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru ym mis Mai 2022 ac roedd yn cynnwys argymhellion i ddiwygio’r Senedd cyn etholiadau’r Senedd yn 2026.
Dyma mae’r Ddeddf yn ei wneud:
- cynyddu maint y Senedd o 60 i 96 o Aelodau drwy addasu nifer yr etholaethau a newid sawl sedd sydd ym mhob etholaeth;
- diwygiadau eraill cysylltiedig, gan gynnwys caniatáu i Lywodraeth Cymru gael mwy o Weinidogion a chaniatáu i’r Senedd ethol mwy o Ddirprwy Lywyddion;
- newid system etholiadol y Senedd fel bod pob Aelod yn cael ei ethol gan ddefnyddio rhestr gyfrannol gaeedig, a’r pleidleisiau yn cael eu trosi’n seddi gan ddefnyddio fformwla d’Hondt (gweler isod);
- ailenwi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, a’i addasu at ddibenion gwahanol drwy roi iddo’r swyddogaethau angenrheidiol i sefydlu a chynnal diwygiadau rheolaidd o ffiniau etholaethau’r Senedd;
- rhoi cyfarwyddiadau i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru eu dilyn wrth adolygu ffiniau. Yn ôl y cyfarwyddiadau hyn rhaid i’r adolygiad syml cychwynnol baru’r 32 o etholaethau Senedd y DU i ffurfio 16 o etholaethau newydd y Senedd, a hynny cyn etholiadau’r Senedd yn 2026;
- rhoi cyfarwyddiadau pellach ar gynnal adolygiad llawn o ffiniau cyn yr etholiad nesaf ar ôl 2026 a chynnal adolygiadau pellach o dro i dro;
- gostwng y cyfnod rhwng etholiadau cyffredinol arferol y Senedd o 5 mlynedd i 4 blynedd;
- datgan bod rhaid i ddarpar Aelodau o’r Senedd ac Aelodau’r Senedd fod wedi eu cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru (sy’n golygu bod rhaid iddynt breswylio yng Nghymru);
- caniatáu i’r Senedd sefydlu pwyllgor i adolygu’r modd y mae’r darpariaethau deddfwriaethol newydd yn gweithredu ar ôl etholiadau 2026; a
- caniatáu i’r Senedd sefydlu pwyllgor i adolygu hawl darpar Aelodau o’r Senedd ac Aelodau’r Senedd sy’n dal swyddi penodol i rannu swyddi, yn ogystal â dal swyddi penodol dros dro os yw rhywun i ffwrdd am gyfnod.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol.
Dod i rym
Daw’r Ddeddf i rym fel a ganlyn, yn unol ag adran 25:
- daw Rhan 3, adran 17, Rhan 5 (ar wahân i adran 20) ac Atodlen 2 i rym ar y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol (sef 25 Mehefin 2024);
- daw adrannau 1, 2, 6, 7, 18, 19, 21, Rhan 2 ac Atodlen 3 i rym ddau fis ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf yn cael y Cydsyniad Brenhinol (sef 24 Awst 2024);
- daw adran 3 i rym y diwrnod ar ôl y bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyntaf ar ôl 7 Tachwedd 2025;
- daw adrannau 4 a 5 i rym y diwrnod ar ôl y bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyntaf ar ôl 6 Ebrill 2026.
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 18 Medi 2023 gan Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar y pryd. Cafodd ei basio gan y Senedd ar 8 Mai 2024 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mehefin 2024.
Mae mwy o wybodaeth am y Ddeddf ar gael ar wefan y Senedd, gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd.
Mae’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru i gyd-fynd â’r Bil wedi ei ddiweddaru ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.
Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig
- Lluniwyd y Crynodeb hwn o’r Bil gan wasanaeth Ymchwil y Senedd i egluro’r cynigion ym Mil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).
- Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am gynlluniau Llywodraeth Cymru i greu Senedd fwy effeithiol a chynrychiadol: Diwygio’r Senedd | LLYW.CYMRU
- Mae mwy o wybodaeth gefndir ar gael yma hefyd: Diwygio’r Senedd: Beth mae’n ei olygu? (Ac unrhyw gwestiynau eraill!); Diwygio’r Senedd – y stori hyd yma
Fformiwla fathemategol yw dull d’Hondt sy’n cael ei ddefnyddio mewn gwahanol systemau etholiadol drwy’r byd, gan gynnwys ar gyfer seddi etholiadol yn y Senedd bresennol. Cafodd ei enwi ar ôl Victor d’Hondt, cyfreithiwr a mathemategydd o Wlad Belg, a ddatblygodd y system yn y 1880au mewn ymgais i roi gwell cynrychiolaeth i wahanol grwpiau ieithyddol a thraddodiadau gwleidyddol yn senedd Gwlad Belg.
Mae’r dull yn neilltuo seddi neu swyddi ar sail cyfran y pleidleisiau y mae pob plaid yn eu cael mewn etholiad. Mae’n gwneud hynny drwy gyfrifo cyniferydd ar gyfer pob plaid drosodd a throsodd a rhoi’r sedd neu’r swydd nesaf i’r blaid sydd â’r cyniferydd uchaf. Golyga hyn fod grym yn cael ei ddosbarthu ymysg y pleidiau yn ôl eu maint.
Yn ôl y fformiwla, caiff nifer y pleidleisiau ar gyfer pob plaid ei rannu â nifer y seddi y mae’r blaid eisoes wedi eu hennill, ac ychwanegu 1. Er enghraifft, os yw plaid wedi ennill 2 sedd, caiff nifer y pleidleisiau a gafwyd ei rannu â 3. Y blaid sydd â’r mwyaf o bleidleisiau ym mhob rownd sy’n ennill y sedd, a chaiff hyn ei ailadrodd nes bod pob sedd wedi ei llenwi.