Skip to main content

Gwella, arolygu ac archwilio awdurdodau tân ac achub

Mae awdurdodau tân ac achub yn “awdurdodau gwella” at ddibenion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (“Mesur 2009”). Fel awdurdodau gwella, rhaid iddynt wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus wrth arfer eu swyddogaethau. Rhaid iddynt osod amcanion hefyd ar gyfer gwella’r ffordd y maent yn arfer eu swyddogaethau a chyhoeddi gwybodaeth am eu gwelliant a’u perfformiad. Mae Mesur 2009 yn rhoi pwerau cydlafurio i awdurdodau gwella hefyd ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ystyried, o bryd i’w gilydd, a fyddai eu pwerau cydlafurio yn eu cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau gwella.

O dan adran 8 o Fesur 2009, mae gan Weinidogion Cymru bŵer i bennu dangosyddion perfformiad a safonau perfformiad, y bydd perfformiad awdurdod gwella yn cael ei fesur yn eu herbyn. Mae dangosyddion perfformiad wedi cael eu gosod (yn y Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2015). Maent yn cynnwys materion fel cyfanswm y tanau yr aed iddynt fesul 10,000 o’r boblogaeth, nifer y gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd yr aed iddynt fesul 10,000 o’r boblogaeth a chyfanswm y marwolaethau ac anafiadau sy’n deillio o danau fesul 100,000 o’r boblogaeth.

O dan Fesur 2009, rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliad blynyddol er mwyn penderfynu a yw awdurdod tân ac achub wedi cyflawni ei ddyletswyddau gwella ac wedi gweithredu yn unol ag unrhyw arweiniad perthnasol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru. Mae’n rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal asesiad hefyd er mwyn pennu a yw’r awdurdod yn debygol, yn ystod y flwyddyn ariannol dan sylw, o gydymffurfio â gofynion Mesur 2009 (yn bennaf y ddyletswydd i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus).

Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi adroddiad blynyddol (a elwir yn adroddiad gwella blynyddol) ynglŷn â’r archwiliadau a’r asesiadau a gynhaliwyd a gall gynnal arolygiadau arbennig dan rai amgylchiadau.
Mae’n ofynnol i awdurdodau tân ac achub gyhoeddi gwybodaeth am eu perfformiad o dan adran 15 o Fesur 2009. Wrth wneud hynny mae’n rhaid iddynt ddefnyddio’r wybodaeth am welliant maent yn ei chasglu i gymharu eu perfformiad gyda’u perfformiad mewn blynyddoedd blaenorol a, chyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, gydag awdurdodau tân ac achub eraill ac awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru sy’n cyflawni swyddogaethau tebyg.

Cyhoeddir canllawiau statudol ar gymhwyso Rhan 1 o Fesur 2009 i Awdurdodau Tân ac Achub gan Weinidogion Cymru.

O dan adran 28 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, gall Ei Fawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, benodi arolygwyr at ddiben cael gwybodaeth ynghylch y modd y mae awdurdodau tân ac achub yn cyflawni eu swyddogaethau a materion technegol sy’n ymwneud â’r swyddogaethau hynny. Mae yna un arolygydd ar gyfer Cymru sy’n cael ei adnabod fel Arolygydd a Chynghorydd Tân ac Achub Cymru (gweler Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Penodi Arolygwyr) (Cymru) 2018). Gall arolygwyr cynorthwyol gael eu penodi ar gyfer yr un diben gan Weinidogion Cymru. Gall Archwilydd Cyffredinol Cymru wneud argymhellion i arolygydd ynghylch sut y dylai gyflawni ei swyddogaethau.

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn gallu cynnal ymchwiliad i awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
12 Medi 2022