Skip to main content

Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig

Mae'n rhaid i bob landlord cymdeithasol (ac eithrio y landlordiaid hynny a ystyrir yn awdurdodau lleol) yng Nghymru fod yn gofrestredig â Gweinidogion Cymru. Gelwir y rhain yn gyffredin yn landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.  
 
Mae Rhan 1 o Ddeddf Tai 1996 yn darparu ar gyfer cofrestru landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cofrestru, mae'n rhaid i landlord cymdeithasol fod yn: 

  1. Elusen gofrestredig sydd yn gymdeithas dai; 
  2. Cymdeithas sydd wedi cofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 ac sy'n bodloni'r gofynion yn adran 2(2) o Ddeddf Tai 1996; neu 
  3. Gwmni sy'n bodloni amodau penodol fel yr amlinellir yn adran 2(2) o Ddeddf Tai 1996.

 Mae adran 2(1) o Ddeddf Tai 1996 yn darparu bod 'corff Cymreig' yn gymwys i gofrestru fel landlord cymdeithasol os yw'n: 

  • elusen gofrestredig sydd â chyfeiriad cofrestredig yng Nghymru; 
  • cymdeithas gofrestredig sydd â'i swyddfa gofrestredig yng Nghymru; neu 
  • gwmni sydd â'i swyddfa gofrestredig yng Nghymru. 

 
Yr amodau i gymdeithas gofrestredig neu gwmni yn adran 2(2) yw:

  • bod yn rhaid i'r corff ymwneud yn bennaf â thai yng Nghymru (h.y. yn berchen ar dai yng Nghymru yn unig neu’n bennaf, neu fod ei weithgareddau’n cael eu cyflawni’n bennaf mewn perthynas â Chymru)
  • bod yn rhaid i'r corff fod yn ddielw
  • bod yn rhaid i'r corff fod yn darparu neu reoli tai i gael eu cadw ar gael i'w gosod, tai ar gyfer eu meddiannu gan aelodau o'r corff, neu hostelau, a bod unrhyw ddibenion neu amcanion ychwanegol wedi eu nodi yn adran 2(4).   

Y dibenion neu’r amcanion eraill a ganiateir gan adran 2(4) yw:

  • darparu tir, amwynderau neu wasanaethau, neu ddarparu, neu wella adeiladau, ar gyfer ei breswylwyr;
  • caffael, neu gwella, neu addasu tai ar les neu gydberchnogaeth;
  • adeiladu tai ar gyfer cydberchnogaeth;
  • rheoli tai eraill a ddelir ar les neu flociau o fflatiau;
  • darparu gwasanaethau i berchnogion neu feddianwyr tai; 
  • darparu cyngor a gwasanaethau mewn perthynas â chymdeithasau tai. 

Hefyd, ceir nifer o Orchmynion, a wnaed o dan adran 2 o HA 1996, sy'n nodi dibenion neu amcanion ychwanegol a ganiateir, fel a ganlyn:

Mae adran 5 o HA 1996 yn darparu y dylai Gweinidogion Cymru osod (ac amrywio o bryd i'w gilydd) y meini prawf y dylai corff sy’n ymgeisio i gael ei gofrestru fel landlord cymdeithasol eu bodloni, ac wrth benderfynu a ddylid cofrestru’r corff mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ystyried a yw'r meini prawf hynny'n cael eu bodloni. Hefyd, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru bennu meini prawf ar gyfer diddymu cyrff oddi ar y gofrestr. Cyn gosod neu amrywio'r meini prawf mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â chyrff sy'n cynrychioli landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a chyrff sy'n cynrychioli awdurdodau lleol, fel y gwelant yn briodol. Mae'n rhaid i unrhyw feini prawf o'r fath gael eu cyhoeddi.

Cyllid

Gan y gall landlordiaid cymdeithasol cofrestredig fod yn elusennau, yn gwmnïau neu'n gymdeithasau cofrestredig (yn ystyr y Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014), bydd ffynonellau cyllid yn wahanol i wahanol sefydliadau, er enghraifft efallai y bydd elusennau yn derbyn rhoddion elusennol. Fodd bynnag, gall landlordiaid cymdeithasol cofrestredig dderbyn grant tai cymdeithasol hefyd mewn perthynas â’u gweithgareddau ym maes tai. Mae adran 18 o HA 1996 yn ymwneud â'r grantiau hyn a gall Gweinidogion Cymru atodi amodau at unrhyw grant tai cymdeithasol. Gall awdurdodau lleol hefyd roi cymorth i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig drwy grant (arall), drwy fenthyciad neu drwy warant (mewn amgylchiadau penodol) o dan adran 22(3) o HA 1996.

Cyffredinol 

Mae adran 7 o Ddeddf Tai 1996, ac Atodlen 1 i’r ddeddf honno, yn ymdrin â'r canlynol: 

  1. Gwneud taliadau neu roi buddion eraill i aelodau corff sy’n landlord cymdeithasol cofrestredig (Rhan 1 o Atodlen 1)
  2. Materion cyfansoddiadol (Rhan 2 o Atodlen 1)
  3. Arolygu (Rhan 3A o Atodlen 1)
  4. Cyfrifon ac archwilio (Rhan 4 o Atodlen 1)
  5. Pwerau cynnal ymchwiliad i faterion landlord cymdeithasol cofrestredig (Rhan 5 o Atodlen 1)

Yn ychwanegol, os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru y bu camymddwyn neu gamreoli ac mae ymchwiliad yn cael ei gynnal, gall hyn arwain at Weinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r landlord cymdeithasol cofrestredig drosglwyddo ei dir i landlord arall, pan fo hynny’n briodol (gweler paragraffau 20-24 a 27 o Ran 5 o Atodlen 1).  

Diwygiwyd Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1996 gan Ddeddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018, ac effaith hynny yw nad yw’n ofynnol bellach i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn gwneud newidiadau cyfansoddiadol, uno, ac unrhyw newidiadau strwythurol eraill, ac mae'n rhaid iddynt hysbysu Gweinidogion Cymru o newidiadau o'r fath yn lle. 
  
Mae effeithiau ychwanegol y diwygiadau a wnaed yn golygu pwerau gorfodi uwch i Weinidogion Cymru a llai o ddylanwad ar fyrddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gan yr awdurdodau lleol.

Safonau

Cyflwynodd Mesur Tai (Cymru) 2011 bŵer i Weinidogion Cymru osod safonau perfformiad ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gryfhau pwerau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â pherfformiad landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Diwygiodd y Mesur HA 1996 drwy fewnosod adrannau newydd.

  1. Mae adran 33A o HA 1996 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru osod safonau perfformiad ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Gall y safonau hyn ymwneud â swyddogaethau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mewn perthynas â darparu tai neu â llywodraethiant a rheolaeth ariannol landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Wrth osod safonau, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ystyried i ba raddau y maent yn dymuno rhoi rhyddid i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ddewis sut i ddarparu gwasanaethau a rhedeg busnes.
  2. Mae adran 33B o Ddeddf Tai 1996 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau mewn perthynas â mater y ceir safon ar ei gyfer. Cyhoeddwyd y Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai sydd wedi'u Cofrestru yng Nghymru gan Weinidogion Cymru ac mae’n nodi'r safonau hyn, a elwir yn 'ganlyniadau cyflawni', yn y canllawiau. 
  3. Mae adran 33B hefyd yn darparu y dylai Gweinidogion Cymru roi sylw i’r canllawiau wrth ystyried a yw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi bodloni’r safonau. Mae'n rhaid i Weinidogion Cymru wneud trefniadau ar gyfer dwyn y canllawiau i sylw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. 
  4. Mae adran 33C o Ddeddf Tai 1996 yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag un neu fwy o'r cyrff yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, un neu fwy o gyrff yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau tenantiaid, ac un neu fwy o gyrff yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau awdurdodau tai lleol cyn cyhoeddi canllawiau o dan adran 33B. 

Gorfodi

Mae adrannau 50A i 50V o HA 1996 yn nodi pwerau gorfodi Gweinidogion Cymru os na fydd safonau rheoli neu safonau ariannol wedi eu cyrraedd. Os nad yw'r safonau hynny wedi eu cyrraedd gall Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad gorfodi i landlord cymdeithasol cofrestredig yn gofyn iddo roi camau ar waith i unioni ei ddiffygion. Mae gan y landlord cymdeithasol cofrestredig hawl i apelio i'r Uchel Lys. Gall Gweinidogion Cymru gosbi'r landlord cymdeithasol cofrestredig os nad ydynt yn fodlon fod amodau penodol wedi eu bodloni, neu ofyn i'r landlord cymdeithasol cofrestredig dalu iawndal. Hefyd, mewn achosion o gamreoli difrifol mae gan Weinidogion Cymru bŵer i ofyn i landlord cymdeithasol cofrestredig drosglwyddo ei swyddogaethau rheoli (paragraffau 15B i 15G o Atodlen 1 HA 1996).

Ansolfedd

Mae gan Weinidogion Cymru swyddogaethau a phwerau penodol os yw landlord cymdeithasol cofrestredig yn wynebu ansolfedd. Mae adrannau 39 i 50 o HA 1996 yn berthnasol yn hyn o beth. Cyn rhoi camau penodol ar waith mewn perthynas ag ansolfedd mae'n rhaid i landlord cymdeithasol cofrestredig roi hysbysiad i Weinidogion Cymru o'r camau hynny. Yn ogystal, mae'n rhaid rhoi hysbysiad i Weinidogion Cymru mor fuan â phosib ar ôl rhoi camau penodol ar waith. Ar ôl rhoi camau penodol ar waith ceir moratoriwm rhag gwaredu tir gan y landlord cymdeithasol cofrestredig. Bydd y moratoriwm yn para 28 diwrnod o'r dyddiad y bydd Gweinidogion Cymru yn derbyn yr hysbysiad. Gellir ymestyn y moratoriwm drwy gytundeb yr holl gredydwyr sicredig. Gall Gweinidogion Cymru hefyd roi caniatâd mewn perthynas â gwaredu tir.

Gall Gweinidogion Cymru wneud cynigion ynglŷn â sut y caiff y landlord cymdeithasol cofrestredig ei reoli, a fydd, ar ôl sicrhau cytundeb y credydwyr sicredig, yn rhwymo Gweinidogion Cymru, y landlord, holl gredydwyr y landlord cymdeithasol cofrestredig ac unrhyw ddiddymwr neu weinyddwyr, neu rywun cyfatebol. Gall Gweinidogion Cymru benodi rheolwr interim, hyd nes y cytunir ar unrhyw gynigion, a phenodi rheolwr i gyflawni’r cyfryw gynigion ar ôl cytuno arnynt. Yn ogystal, gall Gweinidogion Cymru ddarparu cymorth ariannol fel y gwelant yn briodol.

Caniatâd i waredu tir 

Mae Deddf Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 ("Deddf 2018") yn darparu na fydd angen i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gael cydsyniad Gweinidogion Cymru ar gyfer gwaredu tir bellach. Bydd ond angen i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig hysbysu Gweinidogion Cymru mewn perthynas â gwaredu anheddau a gwaredu trwy brydlesau os ydynt yn dod o fewn diffiniad gwarediad perthnasol. 

O dan Ddeddf 2018, mae'r angen am gydsyniad Gweinidogion Cymru ar gyfer gwarediadau penodol o dan adran 171D o Ddeddf Tai 1985, adrannau 81 a 133 o Ddeddf Tai 1985, ac adran 9 o Ddeddf Tai 1996 wedi cael ei dynnu. 

Nid oes angen hysbysiadau ar gyfer eiddo amhreswyl ac ar gyfer tir oni bai ei fod yn atodol i annedd.

Bydd angen cydsyniad Gweinidogion Cymru o hyd ar warediadau a weithredwyd cyn 15 Awst 2018.

Heriau cyfraith gyhoeddus

Gall penderfyniadau cyrff cyhoeddus fod yn ddarostyngedig i heriau cyfraith gyhoeddus drwy adolygiadau barnwrol. Er bod awdurdodau lleol yn gyrff cyhoeddus a felly yn ddarostyngedig i adolygiadau barnwrol, nid yw statws landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yr un mor eglur.

Yn achos R (on the application of Weaver) v London & Quadrant Housing Trust [2009] EXCA Civ 587, ystyriodd y Llys Apêl a oedd penderfyniad landlord cymdeithasol cofrestredig i ddirwyn tenantiaeth i ben yn weithred gyhoeddus a fyddai'n golygu bod y landlord cymdeithasol cofrestredig yn awdurdod cyhoeddus ac, o'r herwydd, yn agored i adolygiad barnwrol. Addefwyd bod rhai o swyddogaethau'r landlord yn swyddogaethau cyhoeddus, a phenderfynwyd yn sgil hynny fod y weithred o ddirwyn y denantiaeth i ben o fewn cylch gorchwyl adran 6(5) o Ddeddf Hawliau Dynol 1998 ac felly roedd y penderfyniad yn agored i adolygiad barnwrol. 

Fodd bynnag, dylid nodi bod y llys wedi datgan na fyddai pob landlord cymdeithasol cofrestredig yn cael ei ystyried yn awdurdod cyhoeddus o reidrwydd – byddai'n dibynnu ar ffeithiau pob achos unigol.  

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystyried cwynion ynghylch awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
26 Ionawr 2022