Skip to main content

Swyddogaethau awdurdodau tân ac achub

Mae pwerau a dyletswyddau awdurdodau tân ac achub i’w gweld yn Rhan 2 o’r Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (FRSA 2004). Eu swyddogaethau craidd yw:

  • hyrwyddo diogelwch tân
  • ymladd tân
  • ymateb i ddamweiniau traffig ar y ffyrdd
  • ymdrin ag argyfyngau penodedig eraill.


Mae’n rhaid i awdurdodau tân ac achub wneud darpariaeth at ddiben hyrwyddo diogelwch tân yn eu hardaloedd, a rhaid, i’r graddau y maent yn ystyried yn rhesymol, wneud trefniadau ar gyfer darparu gwybodaeth, cyhoeddusrwydd ac anogaeth o ran y camau sydd i’w cymryd i atal tanau a marwolaeth neu anaf gan dân (adran 6 o FRSA 2004). Rhaid iddynt hefyd roi cyngor, ar gais, ynghylch sut i atal tanau a’u cyfyngu rhag lledaenu ac am y ffyrdd o ddianc os oes tân yn digwydd. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, addysg diogelwch tân, gosod larymau mwg a gwiriadau diogelwch tân ar gyfer deiliaid tai.

Mae’n rhaid i awdurdodau tân ac achub wneud darpariaeth ar gyfer diffodd tanau yn eu hardaloedd ac amddiffyn bywyd ac eiddo os oes tân yn digwydd. Dyma yw eu dyletswyddau ‘ymladd tân’ canolog (adran 7 o FRSA 2004). Mae’n rhaid i awdurdodau wneud darpariaeth hefyd ar gyfer achub pobl os oes damweiniau traffig ar y ffyrdd ac ar gyfer amddiffyn pobl rhag niwed difrifol os oes damweiniau o’r fath yn digwydd (adran 8 o FRSA 2004).

Mae adran 9 o FRSA 2004 yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi swyddogaethau i awdurdodau tân ac achub yn ymwneud ag argyfyngau eraill. Yn y cyd-destun hwn, “argyfwng” yw digwyddiad neu sefyllfa sy’n achosi, neu sy’n debygol o achosi, marwolaeth, anaf neu salwch difrifol neu niwed difrifol i’r amgylchedd, gan gynnwys bywyd ac iechyd planhigion ac anifeiliaid.

Mae Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) 2007, a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 9 FRSA 2004, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tân ac achub wneud darpariaeth ar gyfer symud halogyddion cemegol, biolegol neu ymbelydrol mewn achos o argyfwng ac ar gyfer cadw unrhyw ddŵr a ddefnyddir at y diben hwnnw. Mae’r gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i’r awdurdodau wneud darpariaeth er mwyn achub pobl sy’n cael eu dal yn dilyn cwymp adeilad neu adeiledd arall ac ar gyfer argyfyngau penodol yn ymwneud â thrên, tram neu awyren.

Mi wnaeth Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) (Diwygio) 2017 gyflwyno swyddogaeth newydd ar awdurdodau Tân ac Achub mewn cysylltiad a argyfyngau ymglymu a llifogydd a dŵr mewndirol.  Nid yw'n ofynnol i awdurdodau tân ac achub wneud darpariaeth ar gyfer ymdrin ag argyfyngau trafnidiaeth i’r graddau eu bod yn cynnwys cwymp twnnel neu gloddfa.

Wrth gyflawni eu swyddogaethau sy’n ymwneud ag ymladd tân, damweiniau traffig ar y ffyrdd ac argyfyngau eraill, rhaid i awdurdodau tân ac achub, yn benodol:–

  • sicrhau y darperir y personél, y gwasanaethau a’r offer angenrheidiol yn effeithlon i fodloni unrhyw ofynion arferol,
  • sicrhau y darperir hyfforddiant ar gyfer personél,
  • gwneud trefniadau ar gyfer ymdrin â galwadau am gymorth ac ar gyfer galw am gymorth,
  • gwneud trefniadau ar gyfer cael y wybodaeth sydd ei hangen er mwyn diffodd tanau yn ei ardal ac amddiffyn bywyd ac eiddo os oes tanau yn ei ardal,
  • gwneud trefniadau i sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i atal neu gyfyngu ar ddifrod i eiddo o ganlyniad i gamau a gymerwyd er mwyn diffodd tanau yn ei ardal ac amddiffyn bywyd ac eiddo os oes tanau yn ei ardal.

Wrth gyflawni eu swyddogaethau sy’n ymwneud ag ymladd tân a damweiniau traffig ar y ffyrdd, mae’n rhaid i awdurdodau tân ac achub geisio lliniaru’r difrod, neu’r difrod posibl, i eiddo. O ganlyniad, dylai’r camau y mae awdurdod tân ac achub yn eu cymryd wrth ymateb i ddigwyddiad a allai beri difrod i eiddo fod yn gymesur â’r digwyddiad a’r risg i fywyd. Mae gan awdurdodau tân ac achub ddyletswydd o dan adran 38 o FRSA 2004 i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y bydd cyflenwad dŵr digonol ar gael iddynt ei defnyddio os oes tân.
Caiff Gweinidogion Cymru, o dan adran 10 o FRSA 2004, gyfarwyddo awdurdod tân ac achub i ymateb i dân penodol neu argyfwng penodol. Gall y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i awdurdod weithredu y tu allan i’w ardal ddaearyddol ei hun. Byddai’r pŵer hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ymateb i ddigwyddiad anghyffredin, megis trychineb naturiol lle mae angen cydlynu canolog.

Yn ogystal â’u swyddogaethau craidd, gall awdurdodau tân ac achub ymateb i ddigwyddiadau eraill. O dan adran 11 o FRSA 2004, gallant gymryd unrhyw gamau y credant sy’n briodol mewn ymateb i ddigwyddiad neu sefyllfa sy’n debygol o achosi marwolaeth, anaf neu salwch neu niwed i’r amgylchedd.

Rhaid i awdurdod tân ac achub, cyn belled ag y bo’n ymarferol, ymrwymo i gynllun cymorth wrth gefn gydag awdurdodau tân ac achub eraill. Mae hwn yn gynllun i sicrhau cymorth rhwng awdurdodau tân ac achub, y naill i’r llall, er mwyn cyflawni eu swyddogaethau craidd o dan adrannau 7, 8 neu 9 o FRSA 2004. Mae gan yr awdurdodau sy’n cymryd rhan ddyletswydd i roi’r cynllun atgyfnerthu ar waith a rhaid iddo hysbysu’r Gweinidogion Cymru pan fo’n gwneud, amrywio neu ddirymu cynllun.

Rhoddwyd pwerau cyffredinol newydd i awdurdodau tân ac achub o dan y Ddeddf Lleoliaeth 2011. Mae Adran 5A o FRSA 2004 (a fewnosodwyd gan adran 9 o’r Ddeddf Lleoliaeth) yn rhoi pŵer i awdurdod tân ac achub cyfunol wneud –

  • unrhyw beth y cred sy’n briodol at ddibenion cyflawni unrhyw un o’i swyddogaethau (ei “ddibenion swyddogaethol”),
  • unrhyw beth y cred sy’n briodol at ddibenion sy’n atodol i’w ddibenion swyddogaethol,
  • unrhyw beth y cred sy’n briodol at ddibenion anuniongyrchol atodol i’w ddibenion swyddogaethol drwy unrhyw newid lleoliad faint bynnag o weithiau,
  • unrhyw beth y cred sy’n briodol i fod yn gysylltiedig ag (i) unrhyw un o’i swyddogaethau, neu (ii) unrhyw beth y gallai ei wneud o dan y materion uchod, ac
  • unrhyw beth at ddiben masnachol y gall ei wneud o dan unrhyw un o'r uchod ac eithrio at ddiben masnachol.

Mae awdurdodau tân ac achub yn awdurdodau gorfodi at ddibenion y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 sef y brif ddeddfwriaeth sy’n ymdrin â dyletswyddau diogelwch tân a’u gorfodi. Mae’r Gorchymyn yn berthnasol i’r rhan fwyaf o safleoedd annomestig ac yn gosod dyletswyddau ar y person sy’n gyfrifol am yr eiddo i gymryd camau penodol mewn perthynas â diogelwch tân. (Mae llawer o ddarpariaethau eraill yn ymwneud â diogelwch tân sy’n berthnasol mewn amgylchiadau penodol neu’n berthnasol i fathau penodol o gynhyrchion. Mae rheoliadau adeiladu’n cynnwys gofynion sy’n ymwneud â diogelwch tân hefyd.)

Mae awdurdodau tân ac achub yn ‘ymatebwyr categori 1’ hefyd at ddibenion y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004. Prif rôl ymatebwr categori 1 yw asesu’r risg o argyfyngau’n digwydd a llunio, cynnal a chyhoeddi cynlluniau priodol.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
23 Mehefin 2021