Skip to main content

Tair cangen llywodraeth

O dan athrawiaeth gwahanu pwerau, mae trefn lywodraethol gwladwriaeth wedi’i rhannu yn dair cangen fel arfer, pob un â’i phwerau a’i chyfrifoldebau gwahanol ac annibynnol: gweithrediaeth, deddfwrfa a barnwriaeth. Y bwriad wrth ddosbarthu pŵer fel hyn yw atal unrhyw un gangen neu unigolyn rhag bod yn ben a chyflwyno system ‘cadw cydbwysedd’ lle y gall un gangen gyfyngu ar un arall. Yn ôl dehongliad caeth o wahanu pwerau, ni all unrhyw un o’r tair cangen weithredu pŵer ei gilydd, ac ni ddylai unrhyw unigolyn fod yn aelod o fwy nag un gangen.

Yn ymarferol, fodd bynnag, nid oes llawer o wledydd yn ceisio gwahanu pwerau mor llym â hynny, gan ddewis cyfaddawd, gyda rhai swyddogaethau’n cael eu rhannu rhwng sefydliadau’r wladwriaeth. Dyma sy’n digwydd yn y Deyrnas Unedig.

Yn y DU gyfan, mae’r weithrediaeth yn cynnwys y Goron a Llywodraeth y DU, yn cynnwys y Prif Weinidog a Gweinidogion y Cabinet. Mae’r weithrediaeth yn ffurfio ac yn gweithredu polisi. Mae’r ddeddfwrfa, sef Senedd y DU, yn cynnwys y Goron, Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Mae’r farnwriaeth yn cynnwys y barnwyr a swyddogion eraill o lysoedd a thribiwnlysoedd tair awdurdodaeth gyfreithiol y DU, a oruchwylir gan y Goruchaf Lys. Y Goron sy’n penodi i swyddi barnwrol uwch.

Gwahanu’r weithrediaeth a’r ddeddfwrfa

Yn y DU, ac mewn awdurdodaethau cyfraith gyffredin eraill, mae yna berthynas agos rhwng y weithrediaeth a’r ddeddfwrfa. Mae’r Prif Weinidog a mwyafrif ei weinidogion yn Aelodau o Dŷ’r Cyffredin (fel rheol, y Prif Weinidog yw pennaeth cangen y weithrediaeth ac arweinydd y blaid fwyaf yn y ddeddfwrfa). Yn ogystal â hyn, gall y Senedd ddirprwyo pwerau llunio deddfau i’r Llywodraeth drwy bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth.

Er nad yw’r ddeddfwrfa a’r weithrediaeth yn cael eu cadw’n hollol ar wahân yn y DU/system gyfraith gyffredin, mae presenoldeb y weithrediaeth yn y ddeddfwrfa yn destun craffu gyda Gweinidogion yn ymddangos yn rheolaidd gerbron Aelodau Seneddol ac yn gorfod ateb eu cwestiynau.

Gwahanu’r ddeddfwrfa a’r farnwriaeth

Mewn achosion a gyflwynir gerbron y llysoedd mae gofyn i farnwyr ddehongli deddfwriaeth yn unol â bwriad y Senedd. Gall barnwyr fod yn ddylanwadol o ran y ffordd maent yn dehongli ac yn gweithredu deddfwriaeth ond ni allant herio dilysrwydd Deddf Seneddol oni bai ei bod yn torri cyfraith Ewrop. Gallant ddatgan bod Deddf Seneddol yn anghydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ond ni allant ei gwrthod am y rheswm hwn. Fodd bynnag, mae uwch farnwyr wedi awgrymu’n ddiweddar y gall fod terfynau i sofraniaeth y Senedd, ac na fydd gorfodaeth arnynt o bosibl i weithredu Deddf Seneddol sy’n torri egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol, fel y rheol gyfreithiol.

Er bod barnwyr yn gyfrifol am ddatblygu’r gyfraith gyffredin, gall y Senedd ddeddfu i wrthdroi neu newid y gyfraith gyffredin, gan fynd yn groes i’r ddeddf a wnaed gan y barnwyr.

Mae barnwyr yr uchaf lysoedd yn y swydd am oes, sy’n gwarchod eu hannibyniaeth. Mae angen penderfyniad dau Dŷ’r Senedd cyn y gellir symud barnwr Uchel Lys o’i swydd, a dim ond ar ôl achos disgyblu y gellir symud barnwyr ar lefelau is o’u swyddi. Mae barnwyr wedi’u gwahardd rhag sefyll mewn etholiad seneddol.

Mae Erthygl 9 o’r Deddf Hawliau 1689 yn sefydlu’r egwyddor o hawl Seneddol  sy’n rhoi’r rhyddid i Aelodau Seneddol lefaru a dadlau heb y bygythiad o orfod wynebu achos llys (er enghraifft, am enllib). Ar y llaw arall, mae yna gonfensiwn na fydd Aelodau Seneddol yn beirniadu penderfyniadau barnwrol, ac mae’r rheol ‘sub judice’ (o dan farn) yn gwahardd y Senedd rhag ymyrryd mewn achosion sydd gerbron y llysoedd ar hyn o bryd.

Gwahanu’r weithrediaeth a’r farnwriaeth

Mae’r farnwriaeth yn craffu ar waith y weithrediaeth drwy sicrhau bod y weithrediaeth yn gweithredu o fewn ei phwerau. Mae hyn yn golygu sicrhau bod y weithrediaeth ond yn gweithredu pan fydd ganddi’r pŵer i wneud hynny, a’i bod yn gweithredu ei phwerau yn unol â’r gyfraith. Mae’r craffu barnwrol hwn yn ymestyn i wirio bod unrhyw weithredoedd deddfwriaethol sy’n cael eu cyflawni gan y weithrediaeth (hynny yw, llunio is-ddeddfwriaeth) o fewn cwmpas y pwerau a ddirprwywyd gan y Senedd. Felly, gall y llysoedd gwestiynu cyfreithlondeb gweithredoedd cyrff cyhoeddus, yn cynnwys Gweinidogion y llywodraeth, ac mae hyn yn cael ei wneud drwy weithdrefn o’r enw adolygiad barnwrol. Mae’r rôl hon gan y farnwriaeth yn dangos pa mor bwysig yw hi i farnwyr fod yn annibynnol ar ddylanwad y weithrediaeth.

Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005

Cymerwyd camau pwysig yn 2005 i greu mwy o wahaniaeth rhwng y farnwriaeth, y weithrediaeth a’r ddeddfwrfa.

Cyn 2005, roedd swyddfa’r Arglwydd Ganghellor yn croesi sefydliadau’r Wladwriaeth, gyda rôl yn y farnwriaeth, y weithrediaeth a’r ddeddfwrfa. Yr Arglwydd Ganghellor oedd pennaeth y farnwriaeth gyda chyfrifoldeb am benodi barnwyr, roedd yn aelod o’r Cabinet ac yn Llefarydd Tŷ’r Arglwyddi. Ystyriwyd bod hyn yn broblem yng nghyd-destun athrawiaeth gwahanu pwerau.

Roedd hwn ymysg y pryderon a arweiniodd at y Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005. Cyflwynodd y Ddeddf newidiadau sylweddol i’r berthynas rhwng y farnwriaeth, y weithrediaeth a’r ddeddfwrfa, yn cynnwys:

  • dyletswydd ar Weinidogion y llywodraeth i gynnal annibyniaeth y farnwriaeth, gan eu hatal rhag ceisio dylanwadu ar benderfyniadau barnwrol drwy unrhyw gysylltiad arbennig â barnwyr;
  • diwygio swydd yr Arglwydd Ganghellor, trosglwyddo swyddogaethau barnwrol y swydd i Lywydd Llysoedd Cymru a Lloegr – teitl newydd a roddir i’r Arglwydd Brif Ustus sydd bellach yn gyfrifol am hyfforddi, cynghori a lleoli barnwyr a chynrychioli safbwyntiau barnwriaeth Cymru a Lloegr yn y Senedd ac i Weinidogion;
  • sefydlu Goruchaf Lys annibynnol, ar wahân i Dŷ’r Arglwyddi, gyda’i system benodi, staff, cyllideb a’i adeilad ei hun;
  • creu Comisiwn Penodiadau Barnwrol annibynnol sy’n gyfrifol am ddewis ymgeiswyr i’w hargymell am benodiad barnwrol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder. Mae’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn sicrhau mai haeddiant yw’r unig faen prawf o hyd ar gyfer penodi a bod y system benodi yn fodern, agored a thryloyw.

Ar yr un pryd, penderfynwyd hefyd na fyddai’r Arglwydd Ganghellor yn eistedd fel llefarydd yn Nhŷ’r Arglwyddi mwyach, ac felly mae Tŷ’r Arglwyddi nawr yn ethol ei lefarydd ei hun.

Canghennau’r llywodraeth yng Nghymru

Er bod y cyhoedd yn gyfarwydd â gweithrediaeth sydd â chysylltiad agos â deddfwrfa (Llywodraeth yn DU a Senedd y DU), roedd sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 fel un corff a oedd yn cyfuno gweithrediaeth a deddfwrfa (cyfyngedig) yn wahanol ac arweiniodd at gryn ddryswch. Ym mlynyddoedd cynnar datganoli, roedd llawer yn cael trafferth gwahaniaethu rhwng y rhai a oedd yn gweithredu pŵer (y cabinet o Weinidogion a benodwyd gan y Prif Weinidog fel arweinydd y brif blaid wleidyddol yn y Cynulliad Cenedlaethol) a’r Cynulliad Cenedlaethol ei hun fel sefydliad.

Er bod system o ddirprwyo pŵer o’r Cynulliad Cenedlaethol i’r Prif Weinidog ac o’r Prif Weinidog i Weinidogion a staff eraill wedi’i chyflwyno gan adlewyrchu rhaniad traddodiadol rhwng gweithrediaeth a deddfwrfa, yn ymarferol roedd y system hon yn anodd ei deall a’i gweithredu.

Roedd creu Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru (a elwir bellach yn Senedd Cymru) ar wahân drwy’r Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (GOWA 2006) yn cyflwyno system fwy confensiynol a chyfarwydd. Fel yn achos yr Alban a Gogledd Iwerddon (a llawer o wledydd eraill) mae yna ddwy ddeddfwrfa a dwy weithrediaeth yn llywodraethu Cymru. Er bod pŵer wedi’i ddatganoli, mae Senedd y DU yn parhau i allu deddfu ar unrhyw fater sy’n berthnasol i Gymru, tra bod cymhwysedd Senedd Cymru yn cael ei benderfynu gan adran 108A o GOWA 2006 ac Atodlenni 7A a 7B iddi. Fodd bynnag, ni fydd Senedd y DU yn llunio deddfwriaeth i Gymru ar faterion sydd o fewn cymhwysedd Senedd Cymru fel arfer oni bai bod yr Senedd wedi cytuno i hynny. Mae rhannu swyddogaethau gweithredol rhwng Gweinidogion y DU a Gweinidogion Cymru hefyd yn seiliedig ar gymhwysedd deddfwriaethol yr Senedd, ond nid yw'n cyfateb iddo bob amser.

Yng Nghymru (a’r Alban a Gogledd Iwerddon) mae’r berthynas rhwng y farnwriaeth a’r ddeddfwrfa yn wahanol i’r berthynas rhwng y farnwriaeth a Senedd y DU. Mae'r llysoedd (drwy rinwedd darpariaethau a wnaed gan y Senedd) yn gallu atal Deddfau’r Senedd os ydynt y tu allan i gymhwysedd datganoledig neu'n anghydnaws â Chyfraith Ewrop neu’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a nodwyd yn Neddf Hawliau Dynol 1998. Yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon, ac yn unigryw mae’n debyg, mae dwy ddeddfwrfa i Gymru sy'n creu gwahanol gyfreithiau o fewn yr un awdurdodaeth gyfreithiol (Cymru a Lloegr), felly dim ond un farnwriaeth. Mae’r farnwriaeth unigol hon, felly, yn dehongli a gweithredu’r ddeddfwriaeth y mae Senedd y DU a Senedd Cymru yn eu llunio ar gyfer Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
22 Mehefin 2021