Skip to main content

Tenantiaethau diogel

Cyflwynwyd tenantiaethau diogel yn gychwynnol o dan Rhan 1 o Ddeddf Tai 1980. Darperir ar eu cyfer bellach gan Ran 4 o Ddeddf Tai 1985. Dyma'r prif fath o denantiaeth sy'n cael ei roi gan awdurdodau lleol a rhai cyrff eraill yn y sector cyhoeddus. 

Nodir adran 79 o Ddeddf Tai 1985 fod "tenantiaeth y mae annedd yn cael ei gosod fel annedd ar wahân oddi tani yn denantiaeth ddiogel ar unrhyw adeg lle bodlonir yr amodau a ddisgrifir yn adrannau 80 ac 81 fel amodau'r landlord ac amodau'r tenant". Mae'n rhaid i landlord berthyn i un o nifer o awdurdodau neu gyrff a ddiffinnir. Mae'n rhaid i denant hefyd feddiannu'r annedd fel ei unig neu brif gartref. Mae'r cyfeiriad at "ar unrhyw adeg" yn adran 79 o Ddeddf Tai 1985 yn golygu na fydd y denantiaeth bellach yn denantiaeth ddiogel os na fodlonir 'amodau'r tenant' ac 'amodau'r landlord' ill dau. 

Er hynny, bydd tenantiaethau penodol sy'n bodloni amodau'r landlord a'r tenant ill dau yn cael eu heithrio rhag bod yn denantiaethau diogel o hyd yn unol ag Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1985. 

Mae gan y mwyafrif o denantiaid diogel, ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf perthnasol, y budd o sawl hawl, gan gynnwys diogelwch deiliadaeth, hawliau penodol o ran olyniaeth, a hawliau penodol i aseinio eu tenantiaethau drwy gyfnewid. 

Beth yw diogelwch deiliadaeth mewn perthynas â thenantiaethau diogel?

Mae gan denantiaid diogel ddiogelwch deiliadaeth. Golyga hyn na ellir dirwyn y denantiaeth i ben (a throi'r tenantiaid allan) ac eithrio mewn ffyrdd penodol (gweler adran 82 o HA 1985):

  • drwy orchymyn llys am feddiannaeth ar y tŷ
  • drwy orchymyn israddio; neu
  • os yw tenantiaeth am dymor pendant, drwy orchymyn yn pennu'r tymor pendant (serch hynny, hyd yn oed os caiff tymor pendant ei ddirwyn i ben, oni bai bod y llys yn gorchymyn i’r terfyniad a’r meddiant gael effaith ar yr un diwrnod, bydd tenantiaeth gyfnodol yn dilyn.)

Sut all tenant ddod â thenantiaeth ddiogel i ben? 

Gall tenant diogel ddod â thenantiaeth ddiogel i ben drwy roi hysbysiad ymadael drwy ildio'r denantiaeth yn wirfoddol. 

Beth yw'r seiliau i landlord ddod â thenantiaeth ddiogel i ben? 

Gall landlord adennill meddiant o eiddo a osodir o dan denantiaeth ddiogel drwy gael a gweithredu gorchymyn gan y llys i adennill meddiant (adran 82 o Ddeddf Tai 1985). Mae adrannau 84 ac 84A o Ddeddf 1985, ac Atodlenni 2 a 2A i'r ddeddf honno, yn cynnwys y seiliau ar gyfer adennill meddiant. Mae adran 84 yn darparu na chaiff llys wneud gorchymyn ildio meddiant ar un o’r seiliau a nodir yn Atodlen 2 oni bai eu bod yn fodlon fod hynny'n rhesymol, neu fod llety addas arall ar gael i'r tenant, yn dibynnu ar ba sail y gwneir y cais.

Mae adran 84A yn darparu bod yn rhaid i'r llys wneud gorchymyn os yw'n fodlon fod amodau’r sail honno, sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol, wedi eu bodloni. Er nad oes gan y llys ddisgresiwn i benderfynu ei bod yn rhesymol i wneud gorchymyn o'r fath, mae penderfyniad y llys yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael i'r tenant yn seiliedig ar ei hawliau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae gofyniad hefyd yn adran 85ZA fod yn rhaid i'r landlord gynnal adolygiad o'i benderfyniad i geisio meddiant ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol o dan adran 84A.

Mae gofyniad hefyd yn adran 85ZA fod yn rhaid i'r landlord gynnal adolygiad o'i benderfyniad i geisio meddiant ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol o dan adran 84A. Mae hyn yn adlewyrchu cyfraith achosion, yn benodol achos Manchester City Council v Pinnock [2010] UKSC 45, a ddaliodd fod gan denantiaid awdurdodau cyhoeddus hawl i ddefnyddio cymesuredd penderfyniad i droi allan yn amddiffyniad mewn achos cymryd meddiant.

Mae gofynion rhoi rhybudd a gweithdrefnau sydd angen i landlordiaid eu dilyn wrth geisio meddiant (gweler adrannau 83 ac 83ZA o HA 1985). Fodd bynnag, noder y goblygiadau ar gyfer cyfnodau rhybudd a gweithdrefnau a geir yn Neddf y Coronafeirws 2020 fel y’i diweddarwyd gan Ddeddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) 2021, O.S. 2021/708, a ddaeth i rym ar 30 Mehefin 2021, a hefyd Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Hysbysiadau) (Diwygio) (Cymru) 2005. 

A all tenant diogel golli ei hawl i ddiogelwch deiliadaeth? 

Gall tenant diogel golli'r hawl i ddiogelwch deiliadaeth mewn sawl sefyllfa y manylir arnynt drwy gydol Deddf Tai 1985. Er enghraifft, mewn achos lle nad yw'r landlord bellach yn bodloni amodau'r landlord neu nad yw'r tenant bellach yn meddiannu'r eiddo fel ei unig neu brif gartref. 

A yw'r hawl i brynu yn dal yn berthnasol yng Nghymru? 

Yn flaenorol, roedd gan denantiaid diogel landlordiaid yn y sector cyhoeddus yr Hawl i Brynu, yr Hawl i Brynu a Gadwyd, a'r Hawl i Gaffael eu heiddo tai cymdeithasol, gan ddibynnu ar y landlord yr oedd ganddynt gytundeb tenantiaeth â nhw a ph'un a fodlonwyd amodau penodol. Fodd bynnag, diddymwyd yr hawliau hyn gan Ddeddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018. Diddymwyd Hawl i Brynu tenant a'r Hawl i Gaffael eiddo tai cymdeithasol yng Nghymru ar 26 Ionawr 2019.
 

Pa effaith y caiff Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ar denantiaethau diogel? 

Mae'r gyfraith mewn perthynas â thenantiaethau ar fin newid unwaith y bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn dod i rym yn llawn. Gweler: Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
31 Ionawr 2023