Skip to main content

Tenantiaethau isradd

Beth yw tenantiaeth isradd?

Cyflwynwyd gorchmynion israddio gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003, a fewnosododd adran 82A i Ddeddf Tai 1985 ac adran 6A o Ddeddf Tai 1988. Effaith gorchymyn israddio yw bod tenantiaeth ddiogel neu denantiaeth sicr yn dod i ben ac yn cael ei ddisodli gan denantiaeth isradd. Yn achos tenantiaeth ddiogel flaenorol, caiff y denantiaeth ei hisraddio yn denantiaeth sydd â statws cyfwerth â thenantiaeth ragarweiniol. Yn achos tenantiaeth sicr flaenorol, caiff y denantiaeth ei hisraddio yn denantiaeth sydd â statws cyfwerth â thenantiaeth fyrddaliadol sicr.   

Pryd y gellir gorchymyn gorchymyn israddio? 

O dan adran 82A o Ddeddf Tai 1985 a 6A o Ddeddf Tai 1988 (y diwygiwyd y ddwy gan Atodlen 11 i Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014), gall llys sirol ond orchymyn gorchymyn israddio os yw'n fodlon bod y tenant, neu unigolyn sy'n byw yn yr eiddo neu'n ymweld ag ef, wedi gwneud y canlynol neu wedi bygwth gwneud y canlynol:

  • ymddwyn mewn ffordd sy'n gallu achosi niwsans neu anfodlonrwydd i rywun (nad oes angen i’r sawl hwnnw fod yn unigolyn penodol a nodwyd) ac sy'n ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â swyddogaethau rheoli tai’r landlord neu'n effeithio arnynt; neu
  • ymddwyn mewn ffordd sy'n cynnwys defnyddio llety tai dan berchnogaeth neu reolaeth y landlord at ddiben anghyfreithlon; ac
  • ei bod yn rhesymol gwneud y gorchymyn. 

Gellir gwneud cais am orchmynion israddio gan: 

  • awdurdod tai lleol
  • Ymddiriedolaeth Gweithredu ar Dai
  • darparwr cofrestredig preifat o dai cymdeithasol 
  • landlord cymdeithasol cofrestredig 

Mae'n rhaid i landlord gyflwyno hysbysiad i denant yn nodi ei fod yn bwriadu gwneud cais am orchymyn israddio. Os nad yw hyn wedi'i wneud, neu os yw'n anghywir, gall y llys ddewis hepgor y gofyniad hwn os bydd yn ystyried i fod yn deg a chyfiawn i wneud hynny. 

Gellir dod o hyd i'r darpariaethau gweithdrefnol sy'n ymwneud â thenantiaethau isradd yn Rhan V o Ddeddf Tai 1996. 

Beth yw effaith tenantiaeth isradd? 

Mae gorchymyn israddio yn dod â thenantiaeth i ben o'r dyddiad a nodir yn y gorchymyn israddio. Gall y tenant barhau mewn meddiant o'r annedd a daw unrhyw ôl-daliadau rhent sy'n daladwy ar derfyn y denantiaeth ddiogel yn daladwy o dan y denantiaeth isradd. Bydd tenantiaeth isradd yn para am flwyddyn yn gyffredinol, oni bai fod unrhyw un o'r amgylchiadau a gynhwysir yn adran 143(B) o Ddeddf Tai 1996 yn berthnasol. Ar ddiwedd y cyfnod 12 mis hwn, bydd y denantiaeth isradd yn dychwelyd i fod yn denantiaeth ddiogel oni bai fod darpariaethau adran 143B (1), (2) a (3) o Ddeddf Tai 1996 yn berthnasol. 

Ceir hawliau olyniaeth ac aseinio penodol mewn perthynas â thenantiaethau isradd; gweler adrannau 143H i 143K o Ddeddf Tai 1996.

Sut y gall landlord ddod â thenantiaeth isradd i ben? 

Gall y landlord ddod â thenantiaeth isradd i ben drwy gael a gweithredu gorchymyn llys ar gyfer adennill meddiant y tŷ – gweler adrannau 143D-143G o Ddeddf Tai 1996. 

Mae adran 143D o Ddeddf Tai 1996 yn darparu bod yn rhaid i'r llys roi gorchymyn adennill meddiant os bydd yn credu bod y gofynion gweithdrefnol perthnasol o dan adrannau 143E a 143F o Ddeddf Tai 1996 wedi cael eu dilyn. Serch hynny, gallai tenant herio hyn o ganlyniad i'w hawliau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. 

Pa effaith y caiff Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ar denantiaethau isradd? 

Mae'r gyfraith mewn perthynas â thenantiaethau ar fin newid unwaith y bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn dod i rym yn llawn.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
10 Ionawr 2022