Skip to main content

Trwydded i feddiannu

Mae trwydded i feddiannu yn gydsyniad gan berchennog eiddo (trwyddedwr) ar gyfer trydydd parti (trwyddedai) i feddiannu eiddo. Nid yw trwydded i feddiannu yn rhoi meddiant llwyr-gyfyngedig o eiddo, nac yn cyfrif fel buddiant mewn tir, ac mae'n bersonol i'r partïon. Nid oes bwriad rhwng y partïon i greu cydberthynas rhwng landlord a thenant, sy'n ei gwneud yn wahanol i fathau eraill o denantiaethau a phrydles. Nid yw'r diogelwch statudol arferol a roddir i denantiaid o dan denantiaethau preswyl a phrydlesi yn cwmpasu trwydded i feddiannu. 

Mae Deddf Gwarchodaeth Rhag Troi Allan 1977 yn enghraifft o ddeddfwriaeth a allai roi rhywfaint o ddiogelwch i drwyddedeion (gan ddibynnu ar yr amgylchiadau). Mae adran 2 o'r ddeddf hon yn nodi:

Os bydd unrhyw unigolyn yn amddifadu'r meddiannydd preswyl o unrhyw safle o'i feddiannaeth o'r safle neu unrhyw ran ohono, neu'n ceisio gwneud hynny, bydd yn euog o drosedd oni bai ei fod yn profi y credodd, ac yr oedd ganddo achos rhesymol i gredu, nad oedd y meddiannydd preswyl yn byw ar y safle bellach.”

Mae adran 1 yn diffinio ‘meddiannydd preswyl’ fel;

unigolyn sy'n meddiannu'r safle fel preswylfa, p'un ai o dan gontract neu drwy rinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol sy'n rhoi'r hawl iddo aros mewn meddiant neu sy’n cyfyngu ar hawl unrhyw unigolyn arall i adennill meddiant o'r safle”. 

Rhoddir trwydded i feddiannu am gyfnod byr o amser fel arfer, chwe mis fel arfer neu hyd at 12 mis. Gall fod am gyfnod penodol neu'n gyfnodol. 

Mae'r gallu i ddod â trwydded i feddiannu i ben yn ddibynnol ar y darpariaethau a gynhwysir yn y drwydded ei hun. 

Mae cyfraith achos yn arddangos, hyd yn oed os labelir dogfen yn "drwydded", pan fo'r cytundeb ac amgylchiadau gwirioneddol yn ei chylch yn awgrymu ei bod yn "denantiaeth" neu'n "brydles", yna mae llysoedd yn fodlon ei dehongli fel tenantiaeth neu brydles.
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
10 Ionawr 2022