Skip to main content

Y gyfraith eglwysig a'r Eglwys yng Nghymru

Ysgrifennwyd y trosolwg isod gan yr Athro Thomas Watkin.

Yn Lloegr, mae Eglwys Loegr wedi’i sefydlu trwy gyfraith. Mae hyn yn golygu bod ei chyfraith – ei chyfraith eglwysig – yn rhan o gyfraith gwlad, yn rhan o gyfraith awdurdodaeth Cymru a Lloegr. Mae cyfraith eglwysig Eglwys Loegr i’w gweld mewn amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys Deddfau’r Senedd, Mesurau Eglwysig ffurfiol a ddeddfwyd gan y Senedd, a Chanonau a wnaed gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr. Fe’i gweinyddir gan drefn o lysoedd eglwysig.

Tan 1920, roedd tiriogaeth Eglwys sefydledig Lloegr yn cynnwys Cymru, a’i chyfraith eglwysig felly yn gyfraith yng Nghymru. Yng Nghymru, ar y pryd, roedd Eglwys Loegr yn bedair esgobaeth diriogaethol, a phob un ag esgob esgobaethol. Ar 31 Mawrth 1920, datgysylltwyd Eglwys Loegr yng Nghymru yn sgil y Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru 1914. Aeth y pedair esgobaeth yng Nghymru ati eu hunain i ffurfio rhanbarth ymreolaethol o fewn y Cymundeb Anglicanaidd gan ethol Archesgob cyntaf Cymru. Yn fuan wedyn, crëwyd dwy esgobaeth arall trwy aildrefnu’r trefniadau tiriogaethol.

Ers datgysylltu, peidiodd cyfraith eglwysig Eglwys Loegr â bod yn gyfraith yng Nghymru, ac i’r diben hwnnw fe’i diffiniwyd yn ardal diriogaethol esgobaethau Cymru. Daeth terfyn ar unrhyw awdurdodaeth llysoedd eglwysig yng Nghymru. Peidiodd pob awdurdodaeth y gellid ei harfer hefyd gan unrhyw unigolyn eglwysig yng Nghymru, a diddymwyd corfforaethau cronnol eglwysig, megis cadeirlannau, ac unig gorfforaethau eglwysig, megis esgobion - hynny yw, nid oedd i’r cyfryw gyrff neu unigolion bellach hunaniaeth gorfforaethol fel personau cyfreithiol yng Nghymru.

Gadawyd yr Eglwys ddatgysylltiedig yng Nghymru i wneud ei threfniadau ei hun o ran llywodraethu a gweinyddu yn y dyfodol. O hyn ymlaen, byddai’n gymdeithas anghorfforedig syml o’i haelodau. Ni fyddai ganddi unrhyw freintiau cyfreithiol arbennig ond byddai’n debyg i enwadau crefyddol eraill megis y Methodistiaid a’r Pabyddion. Byddai telerau’r gyfraith eglwysig a oedd yn bodoli eisoes, ar ôl y datgysylltu, yn rhwymo’i haelodau fel petaent wedi cytuno i fod wedi’u rhwymo’n gytundebol iddynt, ac roeddent yn rhydd i newid y telerau hynny fel y gwelent yn dda. Mabwysiadodd yr aelodau - archesgob, esgobion, clerigion a lleygion yr Eglwys yng Nghymru - Gyfansoddiad yn pennu’r rheolau ar gyfer llywodraethu’r rhanbarth, ac mae’r cyfryw Gyfansoddiad yn rhwymo’r aelodau, mewn gwirionedd, i delerau cytundebol eu haelodaeth. Nid yw’n rhan o gyfraith gwlad, ond mae’n gyfraith fewnol yr Eglwys yng Nghymru. Er y cyfeirir ati fel cyfraith ganon yr Eglwys yng Nghymru, nid yw’n gyfraith eglwysig yn yr ystyr y defnyddir y term yn Lloegr.

Yn sgil diddymu corfforaethau eglwysig yng Nghymru, rhaid oedd cael trefniadau newydd ar gyfer perchnogaeth eiddo’r Eglwys, yn cynnwys adeiladau’r eglwys, mynwentydd, ficerdai ac ati a oedd yn perthyn i’r Eglwys ddatgysylltiedig. Roedd gan yr aelodau’r pŵer i benodi cynrychiolwyr i ddal eiddo at eu dibenion, ac ymgorfforwyd y cynrychiolwyr hyn gan Siarter Brenhinol yn Gorff y Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru, corfforaeth o ymddiriedolwyr elusennol y breinir eiddo a hawliau cytundebol yr Eglwys yng Nghymru iddo.

Mae’r Cyfansoddiad a fabwysiadwyd gan yr aelodau’n darparu ar gyfer Corff Llywodraethol, sy’n cynnwys yr esgobion a chynrychiolwyr o blith clerigion a’r bobl, sydd ag awdurdod i lywodraethu’r Eglwys yng Nghymru ac i basio canonau a rheolau a rheoliadau eraill ar gyfer llywodraethu’r Eglwys yn dda. Gwneir darpariaeth hefyd yn y Cyfansoddiad ar gyfer llywodraethu ar lefelau esgobaeth, deoniaeth a’r plwyf ac ar gyfer ethol archesgob ac esgobion, a gwneud penodiadau clerigol eraill. Bellach nid yw esgobion Cymru’n eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi. Mae’r Cyfansoddiad hefyd yn darparu ar gyfer system o lysoedd a thribiwnlysoedd er mwyn rhoi ei ddarpariaethau ar waith, ond nid yw’r rhain yn rhan o strwythur barnwrol y wladwriaeth fel y mae’r rhai sy’n perthyn i Eglwys Loegr. Felly, nid oes ganddynt awdurdodaeth orfodol dros aelodau nac awdurdodaeth o un math dros bobl nad ydynt yn aelodau. Ffynonellau’r gyfraith sy’n benodol berthnasol i’r Eglwys yng Nghymru

Ffynonellau’r gyfraith sy’n benodol berthnasol i’r Eglwys yng Nghymru

Cyfeirir at Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru 1914, Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru (Natur Tymhorol) 1919, a Deddf yr Eglwys yng Nghymru (Claddfeydd) 1945 gyda’i gilydd fel y Deddfau yr Eglwys yng Nghymru. Mae Ddeddf Priodas (Cymru a Sir Fynwy) 1962, Deddf Priodas (Cymru) 1986 a'r Deddf Priodas (Cymru) 2010 yn rhan o gyfres fwy o statudau yn ymwneud â chyfraith priodas yng Nghymru a Lloegr sef y Deddfau Priodas.

Olion sefydliad

Mae dau faes cyfraith yng Nghymru a Lloegr lle’r effeithir ar yr Eglwys yng Nghymru o hyd yn sgil iddi unwaith fod yn rhan o Eglwys sefydledig Lloegr. Maent yn ymwneud â phriodasau a chladdedigaethau.

Cyfraith priodas

Cyn y datgysylltu, roedd cyfraith Cymru a Lloegr yn ystyried bod dau fath o seremonïau priodasol: priodas a gynhelid yn unol â defodau Eglwys sefydledig Lloegr a oedd yn dilyn rhagbaratoadau eglwysig, a seremoni sifil yn dilyn rhagbaratoadau seciwlar. Ystyrid priodasau a gynhelid mewn addoldai a berthynai i enwadau nad oeddent yn perthyn i Eglwys Loegr yn seremonïau sifil.

Bwriadwyd y byddai Deddf yr Eglwys yng Nghymru 1914, a ddatgysylltodd yr Eglwys yng Nghymru, yn darparu ar ôl y datgysylltu y dylai priodasau a weinyddwyd yn yr Eglwys yng Nghymru fel rhai’r enwadau eraill gael eu cynnal ar ôl rhagbaratoadau seciwlar; byddai eglwysi’r Eglwys yng Nghrymu’n dod yn adeiladau cofrestredig a’r clerigion yn dod yn bobl awdurdodedig i gofrestru priodasau neu’n gorfod cynnal y seremoni ym mhresenoldeb cofrestrydd.

Diddymwyd darpariaethau'r Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru 1914 cyn iddynt ddod i rym. Yn lle hynny, darparodd Deddf yr Eglwys yng Nghymru (Natur Tymhorol) 1919 na ddylai datgysylltu effeithio ar y gyfraith yn ymwneud â phriodas yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod yr Eglwys ddatgysylltiedig yng Nghymru wedi parhau i weinyddu priodasau yn unol â deddf gwlad fel sy’n weithredol i Eglwys sefydledig Lloegr. Nid yw hyn wedi bod yn gyfan gwbl syml, gan fod Eglwys Loegr yn gallu diwygio’r gyfraith, ond na ellir gweithredu’r cyfryw ddiwygiadau yng Nghymru, tra bod yr Eglwys yng Nghymru’n methu â gwneud diwygiadau i’r gyfraith sy’n ymwneud â gweinyddu priodasau. O ganlyniad, o dro i dro, mae gwahaniaeth wedi bod rhwng cyfreithiau priodas yng Nghymru a’r rhai yn Lloegr. Yr unig ffordd y gall yr Eglwys yng Nghymru unioni’r gwahaniaethau hyn yw trwy gyflwyno bil preifat i senedd y Deyrnas Unedig. Biliau preifat oedd Deddf Priodas (Cymru a Sir Fynwy) 1962, Deddf Priodas (Cymru) 1986 a Deddf Priodas (Cymru) 2010 a gyflwynwyd yn y dull hwn.  Nid yw gweinyddu priodasau yn fater sydd wedi’i ddatganoli.

Mae’n werth nodi yn y cyd-destun hwn fod y rhannau hynny o gyfraith priodi sy’n berthnasol i Loegr ond nid i Gymru’n cael eu mynegi’n rheolaidd nad ydynt yn ymestyn i Gymru (not “extended” to Wales). Felly, ymddengys fod y gwahaniaeth dogmataidd rhwng extent ac application yn anghyson â Deddfau Priodi, sy’n rhan o gyfraith seciwlar Cymru a Lloegr.

Cyfraith claddu

Adeg y datgysylltu, yr arfer gadarn a ddilynwyd oedd bod hawl gan bobl a oedd fel rheol yn preswylio neu a fu farw mewn plwyf eglwysig i gael eu claddu ym mynwent neu gladdfa’r plwyf, waeth a oeddent yn ddilynwyr Eglwys Loegr ai peidio. Nid oedd yn fwriad i’r datgysylltu effeithio ar unrhyw hawl claddu o’r fath. Golygai hyn y byddai’n rhaid i’r Eglwys ddatgysylltiedig yng Nghymru barchu hawliau claddu cyhoeddus yn ei mynwentydd a’i chladdfeydd yn yr un modd ag y mae’n ofyniad ar Eglwys sefydledig Lloegr.

Darparodd Deddf yr Eglwys yng Nghymru 1914, pan fyddai periglor, hynny yw y rheithor neu’r ficer mewn plwyf yng Nghymru’n marw, yn ymddeol neu’n symud i blwyf arall, y dylai unrhyw fynwent neu gladdfa drosglwyddo’n awtomatig i berchnogaeth yr awdurdod lleol. Gohiriwyd y trosglwyddiad hwn hyd nes y byddai periglor yn newid oherwydd, o dan y gyfraith cyn y datgysylltu, breiniwyd rhyddfraint y fynwent i’r periglor. Ar ôl y trosglwyddiadau hyn, byddai plwyfolion yn awtomatig yn mwynhau hawliau tramwy drwy’r fynwent i fynychu’r eglwys, gyda hawddfreintiau i alluogi i’r eglwys gael ei hatgyweirio a’i chynnal a’i chadw. Trosglwyddwyd llawer o fynwentydd yng Nghymru i ddwylo awdurdodau lleol yn y degawdau ar ôl y datgysylltu.

Bu rhannu’r berchnogaeth yn sgil y trefniant hwn yn hynod o anghyfleus. O ganlyniad pasiwyd y Ddeddf Eglwys Cymru (Claddfeydd) 1945, a roes ddiwedd ar drosglwyddiadau awtomatig ac a roes gyfle i’r Eglwys hawlio mynwentydd yn ôl a oedd eisoes wedi’u trosglwyddo. Byddai’r mynwentydd a’r claddfeydd a ail-drosglwyddwyd yn cael eu dal ar ymddiriedolaeth gan Gorff y Cynrychiolwyr yr Eglwys (sy’n gyfrifol am ofalu am asedau’r eglwys), fel y byddai’r mynwentydd hynny a oedd wedi aros ym mherchnogaeth yr eglwys. Hawliwyd rhai yn ôl, ond nid pob un o’r mynwentydd a oedd wedi trosglwyddo i reolaeth yr awdurdod lleol.

O dan ddarpariaethau'r Ddeddf Eglwys Cymru (Claddfeydd) 1945, mae gan yr Eglwys yng Nghymru’r pŵer i wneud Rheolau (y Rheolau Deddf Eglwys Cymru (Claddfeydd)) yn ymwneud â hawliau claddu cyhoeddus a’r newidiadau a wnaed. Er mwyn sicrhau na wahaniaethir yn annheg yn erbyn aelodau o’r cyhoedd nad ydynt yn aelodau o’r Eglwys, roedd yn rhaid i’r Rheolau gael eu cymeradwyo i ddechrau gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ac wedyn ar ôl datganoli gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac yna gan Weinidogion Cymru. Mae’r Eglwys yn gwneud Rheoliadau hefyd ynghylch cynnal a chadw priodol ar ei mynwentydd a’i chladdfeydd a’r mathau o gerrig coffa y gellir eu defnyddio ynddynt.

Gall y darpariaethau hyn o Reolau a Rheoliadau fod yn wahanol i ddarpariaethau tebyg a wneir gan awdurdodau lleol ar gyfer eu mynwentydd a’u hamlosgfeydd trefol. Mae’r amrywiaethau yn aml yn peri dryswch i’r cyhoedd, yn enwedig o gofio bod rhai mynwentydd yn parhau yn nwylo awdurdodau lleol tra bod eraill yn eiddo i’r Eglwys yng Nghymru. Mae rhai enghreifftiau lle mae perchnogaeth  mynwentydd a chladdfeydd wedi’i rhannu ac felly dan reolaeth yr awdurdod lleol yn ogystal â bod yn eiddo i’r Eglwys yng Nghymru, ac yn cael eu rheoli’n rhannol ganddi.

Pan fo mynwent neu gladdfa’n llawn, fel na ellir claddu rhagor ynddi, mae gwahaniaeth rhwng y sefyllfa gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Yn Lloegr, gall yr Eglwys drosglwyddo mynwentydd a chladdfeydd sydd wedi cau i ddwylo’r awdurdod lleol i’w cynnal a’u cadw. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith mai hawl claddu cyhoeddus sy’n dueddol o achosi i fynwentydd fynd yn llawn gan beri iddynt gael eu cau. Mae hawl claddu cyhoeddus mewn mynwentydd yn ysgafnhau’r baich ar awdurdodau lleol o orfod darparu lle claddu, ac felly’n ei gwneud yn deg iddynt hwy ysgwyddo’r gofal am gladdfeydd sydd wedi cau. Yng Nghymru, fodd bynnag, er y datgysylltu, mae hawl claddu cyhoeddus yn parhau ac yn achosi sefyllfa debyg, ond nid oes gan yr Eglwys yng Nghymru hawl i orfodi awdurdod lleol i ysgwyddo cyfrifoldeb am ofal a chynnal a chadw’r mynwentydd hynny sydd wedi cau.

Mae claddu ac amlosgi yn faterion datganoledig o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Gweithdrefn hawleb

Ganrifoedd cyn i lywodraethau seciwlar gyflwyno gweithdrefnau cynllunio a rheolau i warchod yr amgylchedd adeiledig, rhaid oedd i’r Eglwys gael cymeradwyaeth esgob y ddeoniaeth ar gyfer unrhyw newid i ffabrig neu ddodrefn ei hadeiladau eglwysig. Caniatawyd yr hawleb ar ôl gwrandawiad ger bron y Canghellor, sef y barnwr yn llys yr esgob. Yr enw a roddwyd ar y broses o gael hawleb gan y Canghellor oedd gweithdrefn hawleb, ac roedd y rheolau ar gyfer y weithdrefn hawleb yn nodi’r amgylchiadau pan oedd yn ofynnol cael hawleb, yn nodi amgylchiadau pan oedd achos brys i wneud gwaith atgyweirio lle gallai’r gwaith gychwyn cyn caniatáu’r hawleb, ac yn nodi pa fân newidiadau nad oedd angen hawleb ar eu cyfer o gwbl.

Yn sgil bodolaeth y weithdrefn hawleb ddatblygedig, pan gyflwynwyd gweithdrefnau cynllunio seciwlar, cafodd adeiladau eglwysig eu heithrio, gan gynnwys eithriad eglwysig o reolaethau adeiladu a deddfwriaeth henebion. Er gwaethaf y datgysylltu, mae’r Eglwys yng Nghymru’n parhau i fanteisio ar yr eithriad eglwysig, ac mae ei Rheolau Hawleb i’w cael yng Nghyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru.

Mae Cynllunio Gwlad a Thref, adeiladau rhestredig, henebion ac adeiladau a lleoedd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol i gyd yn bynciau datganoledig.

Deddfwriaeth y gyfraith eglwysig allweddol
Rhestr o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth allweddol
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
06 Hydref 2021